Cynulliad Cenedlaethol Cymru
The National Assembly for Wales

 


Cofnod y Trafodion

The Record of Proceedings

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mercher, 16 Tachwedd 2011

Wednesday, 16 November 2011


Cynnwys
Contents

 

           

3......... Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Questions to the Minister for Education and Skills

 

27....... Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Questions to the Counsel General

 

35....... Cynnig i Ddiwygio’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y Refferendwm ar Bwerau’r Cynulliad
Motion to Amend Standing Orders following the Assembly Powers Referendum

 

36....... Cynnig i Gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012-13
Motion to Approve the Assembly Commission’s Budget 2012-13

 

40....... Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr Economi
Welsh Conservatives Debate: The Economy

 

72....... Dadl Plaid Cymru: Newid yn yr Hinsawdd
Plaid Cymru Debate: Climate Change

 

100..... Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

 

102..... Dadl Fer Tynnu’r Plwg—Effaith Torri’r Tariff Cyflenwi Trydan yng Nghymru
Short Debate: Pulling the Plug—The Impact in Wales of Slashing the Feed-In Tariff..

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn y golofn dde, cynhwyswyd cyfieithiad.

 

In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In the right-hand column, a translation has been included.


Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at 1.30 p.m. with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair

 

The Presiding Officer: Good afternoon. The National Assembly for Wales is now in session.

 

Y Llywydd: Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Questions to the Minister for Education and Skills

 

Addysg Uwch

 

Higher Education

 

1. Gwyn R. Price: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at Addysg Uwch yng Nghymru. OAQ(4)0068(ESK)

 

1. Gwyn R. Price: Will the Minister make a statement on access to Higher Education in Wales. OAQ(4)0068(ESK)

 

The Minister for Education and Skills (Leighton Andrews): The Welsh Government believes that access to higher education should be based on the ability to learn rather than the ability to pay. Our student support package and requirements for tuition fee plans are designed to remove financial barriers and to encourage applications to higher education from disadvantaged groups.

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Leighton Andrews): Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai mynediad at addysg uwch fod ar sail y gallu i ddysgu yn hytrach na’r gallu i dalu. Cafodd ein pecyn cymorth i fyfyrwyr a’n gofynion ar gyfer cynlluniau ffioedd dysgu eu cynllunio er mwyn cael gwared â rhwystrau ariannol ac annog grwpiau difreintiedig i wneud ceisiadau ar gyfer addysg uwch.

 

Gwyn R. Price: Minister, recent media reports have highlighted the fact that the university admissions service, UCAS, admitted that some of its processes favour public school pupils. What steps can you take to ensure that this inequality stops?

 

Gwyn R. Price: Weinidog, mae adroddiadau diweddar yn y cyfryngau wedi tynnu sylw at y ffaith bod y gwasanaeth derbyniadau prifysgolion, UCAS, wedi cyfaddef bod rhai o’i brosesau yn ffafrio disgyblion ysgolion bonedd. Pa gamau a allwch eu cymryd i sicrhau bod yr anghydraddoldeb hwn yn dod i ben?

 

Leighton Andrews: The Member raises a very good question. We have to ensure that we do what we can in Wales to stimulate applications to higher education. That is why we have continued to invest in education maintenance allowances, which support many young people from lower income groups to carry on in 16-18 education. That is why we have also put in place the most generous system of student support in the United Kingdom to support our students going on to higher education. It is also important that we ensure that our own higher education institutions are going out to state schools and demonstrating the opportunities offered by higher education, as I saw with Cardiff University and Fitzalan school in Cardiff on Monday. Their step-up scheme is taking the advantages of higher education to state school pupils and demonstrating how important it is.

 

Leighton Andrews: Mae’r Aelod yn codi cwestiwn da iawn. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y gallwn yng Nghymru i ysgogi ceisiadau ar gyfer addysg uwch. Dyna pam yr ydym wedi parhau i fuddsoddi mewn lwfansau cynhaliaeth addysg, sy’n cefnogi llawer o bobl ifanc o grwpiau incwm is i barhau mewn addysg 16-18. Dyna pam yr ydym hefyd wedi rhoi ar waith y system mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig o ran cymorth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo wrth iddynt gamu ymlaen at addysg uwch. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn sicrhau bod ein sefydliadau addysg uwch ni yn mynd allan i ysgolion gwladol ac arddangos y cyfleoedd y mae addysg uwch yn eu cynnig, fel y gwelais gyda Phrifysgol Caerdydd ac ysgol Fitzalan yng Nghaerdydd ddydd Llun. Mae eu cynllun cam i fyny yn cymryd manteision addysg uwch at ddisgyblion mewn ysgolion gwladol a dangos pa mor bwysig ydyw.

 

Janet Finch-Saunders: Minister, it is a sad fact of life that only 1 per cent of children who go through the care system in Wales go on to higher education. This compares with 45 per cent of the general population of young people and equates, by your estimate, to only 12 to 18 care leavers in Wales. What are you doing to address this serious issue?

 

Janet Finch-Saunders: Weinidog, mae’n ffaith annifyr a thrist mai dim ond 1 y cant o blant sy’n mynd drwy’r system gofal yng Nghymru sy’n camu ymlaen at addysg uwch. Mae hyn yn cymharu â 45 y cant o’r boblogaeth gyffredinol o bobl ifanc ac yn cyfateb, yn ôl eich amcangyfrif, i ddim ond 12 i 18 o bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru. Beth ydych chi’n ei wneud i fynd i’r afael â’r mater difrifol hwn?

 

Leighton Andrews: You are right to raise the issue of the low numbers of looked-after children who go on to higher education, but I am pleased that all Welsh higher education institutions have obtained the relevant benchmark that recognises that, through their admissions procedures, they are doing what they can to encourage young people who are in looked-after settings to apply to get into higher education. It is a tribute to the higher education sector in Wales that all institutions have achieved that benchmark.

 

Leighton Andrews: Yr ydych yn iawn i godi’r mater o’r niferoedd isel o blant sy’n derbyn gofal sy’n mynd ymlaen i addysg uwch, ond yr wyf yn falch bod holl sefydliadau addysg uwch Cymru wedi cael y meincnod perthnasol sy’n cydnabod eu bod, drwy eu gweithdrefnau derbyn, yn gwneud yr hyn a allant i annog pobl ifanc sydd mewn lleoliadau lle maent yn derbyn gofal i wneud cais am addysg uwch. Mae’n deyrnged i’r sector addysg uwch yng Nghymru bod pob sefydliad wedi cyflawni’r meincnod hwnnw.

 

Simon Thomas: Minister, on a day when we have seen record levels of youth unemployment—although we have not seen the figures for Wales, we expect bad figures next month—it is vital that we protect the £3.6 billion that you have identified for supporting Welsh students as much as possible. Last week, I talked with EU officials about the possibility that EU students may be receiving money from the Welsh funding regime. They told me that that should not be the case, but only in the case of EU students who are ordinarily resident in Wales. Is that the advice that you have also received, and have you had any discussions with the European Commission to ensure that that is, in fact, the basis on which you can proceed with support for Welsh students?

 

Simon Thomas: Weinidog, a ninnau heddiw wedi gweld y lefelau uchaf erioed o bobl ifanc di-waith—er nad ydym wedi gweld y ffigurau ar gyfer Cymru, yr ydym yn disgwyl ffigurau drwg fis nesaf—mae’n hanfodol ein bod yn amddiffyn y £3.6 biliwn a nodwyd gennych ar gyfer cefnogi myfyrwyr Cymru gymaint â phosibl. Yr wythnos diwethaf, siaredais â swyddogion yr Undeb Ewropeaidd am y posibilrwydd y gall myfyrwyr o’r UE fod yn derbyn arian oddi wrth drefn ariannu Cymru. Dywedant wrthyf na ddylai hynny fod yn wir, ond dim ond yn achos myfyrwyr yr UE sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru. Ai dyna’r cyngor yr ydych chi hefyd wedi ei dderbyn, ac a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda’r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau mai hynny, mewn gwirionedd, yw’r sail y gallwch fwrw ymlaen arno yn cynorthwyo myfyrwyr Cymru?

 

Leighton Andrews: I am absolutely confident of the policy that I announced nearly a year ago in this Chamber, and I would welcome the support of the Member in ensuring that opposition parties do not misrepresent that policy or the legal position.

 

Leighton Andrews: Yr wyf yn gwbl hyderus am y polisi a gyhoeddais bron i flwyddyn yn ôl yn y Siambr hon, a byddwn yn croesawu cefnogaeth yr Aelod o ran sicrhau nad yw gwrthbleidiau yn camliwio’r polisi neu’r sefyllfa gyfreithiol.

 

Simon Thomas: Thank you for that reply, Minister. I am certainly not going to join in any misrepresentation, which is why I asked EU officials directly for their analysis of this position. Turning to more positive things that might be emerging from the EU, there are proposals from the Commission for a support scheme called Erasmus Masters, which will enable the European Investment Bank to underpin loans for European students, including students from Wales, to undertake further education outside their home countries. That step may be opposed by the UK Government, which does not want to see the EU extend its competence into this area. However, is that something that you would support, and would you use your good offices, and the Welsh Government’s good offices, to support the Commission’s proposals in this regard so that Welsh students have the same benefits in further education as students in Latvia or Austria, for example?

 

Simon Thomas: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn sicr nid wyf yn mynd i ymuno mewn unrhyw gamliwio, a dyna pam yr holais swyddogion yr Undeb Ewropeaidd yn uniongyrchol am eu dadansoddiad o’r sefyllfa hon. Gan droi at bethau mwy cadarnhaol a allai fod yn dod allan o’r UE, mae cynigion gan y Comisiwn am gynllun cymorth o’r enw Erasmus Masters, a fydd yn galluogi Banc Buddsoddi Ewrop i ategu benthyciadau i fyfyrwyr Ewropeaidd, gan gynnwys myfyrwyr o Gymru, i ymgymryd ag addysg bellach y tu allan i’w gwledydd cartref. Efallai bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthwynebu’r cam hwnnw, gan nad yw eisiau gweld yr UE yn ymestyn ei gymhwysedd i’r maes hwn. Fodd bynnag, a fyddech chi’n cefnogi hynny, ac a fyddech yn gyfryngwr, ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn gyfryngwr, i gefnogi cynigion y Comisiwn yn hyn o beth fel y gall myfyrwyr Cymru gael yr un manteision o ran addysg bellach â myfyrwyr yn Latfia neu Awstria, er enghraifft?

 

Leighton Andrews: We are already engaged in the Erasmus programme through a number of institutions in Wales. We have young people travelling to Wales to pursue courses through Erasmus, and we also have young people from Wales benefiting from the scheme. Clearly, we welcome all programmes that help to promote international co-operation, and we would view any extension of Erasmus in that light.

 

Leighton Andrews: Yr ydym eisoes yn cymryd rhan yn rhaglen Erasmus drwy nifer o sefydliadau yng Nghymru. Mae pobl ifanc sy’n teithio i Gymru i ddilyn cyrsiau drwy Erasmus, ac mae hefyd pobl ifanc o Gymru sy’n elwa o’r cynllun. Wrth gwrs, yr ydym yn croesawu pob rhaglen sy’n helpu hyrwyddo cydweithrediad rhyngwladol, a dyna sut y byddem yn ystyried unrhyw estyniad ar Erasmus.

 

Cyfleoedd Profiad Gwaith

 

Work Experience Opportunities

 

2. Christine Chapman: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wella’r cyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc yng Nghymru. OAQ(4)0065(ESK)

 

2. Christine Chapman: Will the Minister provide an update on improving work experience opportunities for young people in Wales. OAQ(4)0065(ESK)

 

The Deputy Minister for Skills (Jeff Cuthbert): I thank the Member for Cynon Valley for that question. We are currently undertaking the Real Conversation, which aims to identify some of the barriers and misconceptions around the skills required for employment and inspect the delivery of the ‘Careers and the world of work’ framework to determine best practice for schools, young people and employers.

 

Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau (Jeff Cuthbert): Diolch i’r Aelod dros Gwm Cynon am y cwestiwn hwnnw. Yr ydym wrthi’n cynnal y Sgwrs Go Iawn, sy’n anelu at nodi rhai o’r rhwystrau a’r camdybiaethau am y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth ac yn arolygu darpariaeth y fframwaith ‘Gyrfaoedd a’r byd gwaith’ i benderfynu ar yr arfer gorau ar gyfer ysgolion, pobl ifanc a chyflogwyr.

 

Christine Chapman: I am pleased to hear that, and I welcome the answer. I know that many of our young people benefit from good work experience placements. However, as the Minister has said previously, a lack of credible work experience can be a barrier to employment. Work experience can also play a role in improving aspiration, challenging gender stereotyping and improving social mobility. Particularly today, given the terrible youth unemployment figures, what is the Welsh Government doing further to meet these challenges and to better promote work experience with employers?

 

Christine Chapman: Yr wyf yn falch o glywed hynny, a chroesawaf yr ateb. Gwn fod llawer o’n pobl ifanc yn elwa ar leoliadau profiad gwaith da. Fodd bynnag, fel y mae’r Gweinidog wedi ei ddweud o’r blaen, gall diffyg profiad gwaith credadwy fod yn rhwystr i gyflogaeth. Gall profiad gwaith hefyd chwarae rhan mewn gwella dyhead, herio ystrydebu ar sail rhyw a gwella symudedd cymdeithasol. Yn enwedig heddiw, o ystyried y ffigurau diweithdra ofnadwy ymhlith pobl ifanc, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ymhellach i ateb yr heriau hyn a hyrwyddo profiad gwaith yn well ymhlith cyflogwyr?

 

Jeff Cuthbert: Thank you for that supplementary question. It is opportune given the horrendous figure for youth unemployment, which now stands at 1 million. Estyn is currently undertaking a thematic inspection to assess schools’ effectiveness in delivering learners’ entitlement, including the issue of work experience. You are right: if we equip young people with the right understanding and experiences of the world of work, it will definitely help them towards their ultimate goal of employment. That must apply to all young people regardless of social background, and we need to ensure that that is the case.

 

Jeff Cuthbert: Diolch i chi am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae’n amserol o ystyried y ffigur erchyll ar ddiweithdra ymhlith pobl ifanc, sydd erbyn hyn yn 1 filiwn. Ar hyn o bryd mae Estyn yn cynnal arolygiad thematig i asesu effeithiolrwydd ysgolion yn darparu hawl dysgwyr, gan gynnwys profiad gwaith. Yr ydych yn iawn: os arfogwn pobl ifanc gyda’r ddealltwriaeth a’r profiadau iawn o’r byd gwaith, bydd yn bendant yn eu helpu tuag at eu nod terfynol o gyflogaeth. Mae’n rhaid i hynny fod yn berthnasol i bob person ifanc, beth bynnag fo’u cefndir cymdeithasol, ac mae angen i ni sicrhau bod hynny’n digwydd.

 

Mohammad Asghar: Deputy Minister, alongside work experience opportunities, young people also require high-quality career advice. It is one year to the day since you published a written statement on the ‘Future ambitions. Developing careers services in Wales’ report. Will you provide an update on what the Welsh Government has undertaken to ensure that school pupils have access to appropriate advice, ensuring that they make well-informed decisions when seeking good-quality, relevant work experience for their future career path?

 

Mohammad Asghar: Ddirprwy Weinidog, ochr yn ochr â chyfleoedd profiad gwaith, mae ar bobl ifanc hefyd angen cyngor gyrfaol o ansawdd uchel. Mae’n union flwyddyn ers i chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar yr adroddiad ‘Uchelgeisiau i’r Dyfodol: Datblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru’. A wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i sicrhau bod gan ddisgyblion ysgol fynediad at gyngor priodol, gan sicrhau eu bod yn gwneud penderfyniadau gwybodus wrth geisio cael profiad gwaith o ansawdd da a pherthnasol ar gyfer eu llwybr gyrfa yn y dyfodol?

 

Jeff Cuthbert: I have to correct the Member on one point. I did not make any announcement a year ago; I was not in post. However, you are quite right that an announcement was made by the Welsh Assembly Government at that time. The position with the careers service is quite clear: we are close to being able to make a decision with regard to its structure and role. There are important legal and financial issues that we must get right, but I am confident that officials are close to achieving that. However, I must say that good careers advice is still being given to young people, but the real purpose of the Real Conversation is to ensure that there is a proper understanding between employers and young people about what can be offered and to break down the misconceptions. The careers service will continue. We trust that it will be an enhanced service and, with the other schemes that I have mentioned, there will be good careers advice for all school pupils.

 

Jeff Cuthbert: Mae’n rhaid i mi gywiro’r Aelod ar un pwynt. Ni wneuthum unrhyw gyhoeddiad flwyddyn yn ôl; nid oeddwn i yn y swydd hon. Fodd bynnag, yr ydych yn llygad eich lle y gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddiad ar y pryd. Mae’r sefyllfa gyda’r gwasanaeth gyrfaoedd yn eithaf clir: yr ydym ar fin gallu gwneud penderfyniad o ran ei strwythur a’i swyddogaeth. Mae materion cyfreithiol ac ariannol pwysig y mae’n rhaid i ni eu cael yn iawn, ond hyderaf fod swyddogion ar fin cyflawni hynny. Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi ddweud bod cyngor gyrfaoedd da yn dal i gael ei roi i bobl ifanc, ond gwir bwrpas y Sgwrs Go Iawn yw sicrhau bod yna ddealltwriaeth briodol rhwng cyflogwyr a phobl ifanc am yr hyn y gellir ei gynnig a chwalu’r camdybiaethau. Bydd y gwasanaeth gyrfaoedd yn parhau. Hyderwn y bydd yn wasanaeth gwell a, gyda’r cynlluniau eraill yr wyf wedi’u crybwyll, bydd cyngor gyrfaoedd da ar gyfer pob disgybl ysgol.

 

Sefydliadau Addysg Uwch

 

Higher Education Institutions

 

3. Mark Isherwood: A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynllun ar gyfer cyllido Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru. OAQ(4)0055(ESK)

 

3. Mark Isherwood: Will the Minister outline his plan for the funding of HE Institutions in Wales. OAQ(4)0055(ESK)

 

Leighton Andrews: The support of higher education in Wales has been, and continues to be, a priority for the Welsh Government, and in 2011-12 nearly £400 million will be made available to Welsh universities via the Higher Education Funding Council for Wales.

 

Leighton Andrews: Mae cefnogi addysg uwch yng Nghymru wedi bod, ac yn parhau i fod, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac yn 2011-12 bydd bron i £400 miliwn ar gael i brifysgolion Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

 

Mark Isherwood: You said that taking the level of institutional funding and student finance together in Wales, spending on higher education institutions is on a par with levels in England. However, as you know, the Learned Society of Wales—a group of Wales’s most eminent academics—stated that the policy of the Welsh Government over the last decade is to underfund Welsh universities. In fact, it added that the situation was unsustainable. Given this apparent lack of a meeting of minds, what dialogue have you had with these eminent academics concerning this issue and evidence that swift progression to merger and reconfiguration is not always more efficient and cost-effective?

 

Mark Isherwood: Yr ydych yn dweud, o gymryd lefel cyllid y sefydliadau a chyllid myfyrwyr ei gilydd yng Nghymru, bod gwariant ar sefydliadau addysg uwch yn gyfartal â lefelau yn Lloegr. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, dywedodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru—grŵp o academyddion mwyaf blaenllaw Cymru—mai polisi Llywodraeth Cymru dros y ddegawd ddiwethaf yw tanariannu prifysgolion Cymru. Yn wir, ychwanegodd fod y sefyllfa yn anghynaladwy. O ystyried hyn, sy’n ymddangos fel diffyg cydgyfarfod meddyliau, pa drafodaethau a ydych wedi’u cael gyda’r academyddion blaenllaw hyn ar y mater hwn a thystiolaeth nad yw symud yn gyflym i uno ac ad-drefnu bob tro yn fwy effeithlon a chost-effeithiol?

 

Leighton Andrews: Well, my last meeting this morning was with Higher Education Wales, representing the vice-chancellors in Wales. We discussed a number of issues, including the future of the sector. It is very clear from the answers I have given to the Assembly committees in discussion of the draft budget that, over the next few years, income to higher education institutions will rise. We are committed to supporting our higher education institutions and I hope that, once we have resolved questions of reconfiguration that the sector still faces, we can move on to engage more carefully with issues of higher education quality.

 

Leighton Andrews: Wel, yr oedd fy nghyfarfod diwethaf y bore yma gydag Addysg Uwch Cymru, yn cynrychioli’r is-gangellorion yng Nghymru. Cawsom drafodaeth eang, gan gynnwys dyfodol y sector. Mae’n glir iawn yn yr atebion a roddais i bwyllgorau’r Cynulliad wrth drafod y gyllideb ddrafft y bydd, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, incwm sefydliadau addysg uwch yn codi. Yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi ein sefydliadau addysg uwch a gobeithiaf, unwaith y byddwn wedi datrys y cwestiynau ar ad-drefnu y mae’r sector o hyd yn eu hwynebu, y gallwn symud ymlaen i ymdrin yn fwy gofalus â materion ynghylch ansawdd addysg uwch.

 

David Rees: Minister, before the summer recess, you reported that the Government would be providing financial support to part-time students in higher education as well as to full-time students. We all understand that part-time students are vulnerable students who therefore need much more support. Without that, they will not have the opportunities to gain higher education. Does the figure released on Monday of £3.6 billion include funding for part-time students? If not, can you confirm that, in fact, you are satisfied that you can afford that figure?

 

David Rees: Weinidog, cyn toriad yr haf, adroddasoch chi y byddai’r Llywodraeth yn darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr rhan amser mewn addysg uwch yn ogystal ag i fyfyrwyr llawn amser. Yr ydym i gyd yn deall bod myfyrwyr rhan amser yn fyfyrwyr bregus sydd felly angen llawer mwy o gymorth. Hebddo, ni fydd ganddynt y cyfleoedd i ennill addysg uwch. A ydyw’r ffigur a ryddhawyd ddydd Llun o £3.6 biliwn yn cynnwys cyllid ar gyfer myfyrwyr rhan amser? Os nad ydyw, a allwch gadarnhau eich bod, mewn gwirionedd, yn fodlon y gallwch fforddio’r ffigur hwnnw?

 

Leighton Andrews: The figures I announced on Monday do not include the cost of providing support to part-time students. As you will be aware, I recently announced a delay in the implementation of our revised part-time students system until 2013-14, following consultation with stakeholders. As the figures for the revised system have yet to be included in the draft budget, I did not include them in the summary of the costs released on Monday.

 

Leighton Andrews: Nid yw’r ffigurau a gyhoeddais ddydd Llun yn cynnwys y gost o ddarparu cymorth i fyfyrwyr rhan amser. Fel y gwyddoch, yn ddiweddar cyhoeddais oedi ar weithredu ein system myfyrwyr rhan amser diwygiedig tan 2013-14, ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid. Gan fod y ffigurau ar gyfer y system ddiwygiedig eto i gael eu cynnwys yn y gyllideb ddrafft, ni wneuthum eu cynnwys yn y grynodeb o gostau a ryddhawyd ddydd Llun.

 

Llyr Huws Gruffydd: Wrth gyllido sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn y dyfodol, yr ydych wedi dweud eich bod am weld sefydliadau a fydd ag o leiaf 75 y cant o gyfartaledd trosiant ariannol colegau’r Deyrnas Unedig. A fyddwch chi’n ystyried cyrhaeddiad academaidd yn ogystal ag ystyriaethau cyllidol wrth ystyried dyfodol sefydliadau addysg uwch Cymru?

 

Llyr Huws Gruffydd: In funding higher education institutions in Wales for the future, you have said that you want to see institutions that have at least 75 per cent of the average turnover of UK universities. Will you take into account academic achievement as well as financial considerations in considering the future of HE institutions in Wales?

 

Leighton Andrews: Obviously, it is essential that we have a world-class higher education system in Wales, and we are continuing to invest in teaching and research in the higher education system in Wales. Of course, the UK Government has cut the teaching grants to higher education institutions in England by some 80 per cent and is no longer funding arts and humanities subjects. Our funding system will be there to support higher education institutions across the range of subjects they teach. We want to see greater collaboration between institutions, because we believe that that will result in them additionally winning more support from the UK research councils, which was the subject of a meeting I had in the past week with the research councils to see how we can drive up that support.

 

Leighton Andrews: Mae’n amlwg ei bod yn hanfodol bod gennym system addysg uwch o’r radd flaenaf yng Nghymru, ac yr ydym yn parhau i fuddsoddi mewn addysgu ac ymchwil yn y system addysg uwch yng Nghymru. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi torri grantiau addysgu i sefydliadau addysg uwch yn Lloegr drwy ryw 80 y cant ac nid yw bellach yn ariannu pynciau’r celfyddydau a’r dyniaethau. Bydd ein system ariannu yno i gefnogi sefydliadau addysg uwch ar draws ystod y pynciau y maent yn eu dysgu. Yr ydym am weld mwy o gydweithio rhwng sefydliadau, gan ein bod yn credu y bydd yn arwain atynt hwy yn ennill mwy o gefnogaeth gan gynghorau ymchwil y Deyrnas Unedig, a oedd yn destun cyfarfod a gefais yr wythnos ddiwethaf gyda’r cynghorau ymchwil i weld sut y gallwn wella’r cymorth hwnnw.

 

Peter Black: Minister, the merger of the University of Wales Trinity St David and Swansea Metropolitan University has the potential to be a crucial economic driver in South Wales West. Therefore, can you give us an update on that merger and how your Government is supporting it?

 

Peter Black: Weinidog, mae uno Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe â’r potensial i fod yn sbardun economaidd allweddol yng Ngorllewin De Cymru. Felly, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr uno a sut mae’ch Llywodraeth yn ei gefnogi?

 

Leighton Andrews: I hope to make a further statement on higher education reconfiguration before Christmas.

 

Leighton Andrews: Yr wyf yn gobeithio gwneud datganiad pellach ar ad-drefnu addysg uwch cyn y Nadolig.

 

Her Gyfreithiol

 

Legal Challenge

 

4. Eluned Parrott: A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i rannu unrhyw gyngor cyfreithiol y mae wedi’i gael ag Aelodau’r Cynulliad ar y posibilrwydd o her gyfreithiol oherwydd nad yw Cymru yn cyllido myfyrwyr yr UE yn Lloegr. OAQ(4)0061(ESK)

 

4. Eluned Parrott: Does the Minister have any plans to make available to Assembly Members any legal advice he has received on the potential for legal challenge regarding Wales not funding EU students in England. OAQ(4)0061(ESK)

 

Leighton Andrews: No.

 

Leighton Andrews: Nac oes.

 

Eluned Parrott: Thank you for the brevity and clarity of that answer, Minister. This situation has, of course, arisen before, in 2006-07, as you will be aware. The Minister and the First Minister at the time chose to build a consensus and draw a line under this sort of question by sharing advice in confidence with the party leaders. I understand that legal action is currently being proposed against the Scottish Government, the challenge being based on a claim of a breach of article 14 of the European convention on human rights and discrimination on the grounds of nationality under the Equality Act 2010. I am sure that the Scottish Government will put together a very robust defence on that. However, given the seriousness of the situation—

 

Eluned Parrott: Diolch am fyrdra ac eglurder yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae’r sefyllfa hon wedi codi o’r blaen, wrth gwrs, yn 2006-07, fel y gwyddoch. Dewisodd y Gweinidog a’r Prif Weinidog ar y pryd adeiladu consensws a thynnu llinell o dan y math hwn o gwestiwn drwy rannu cyngor yn gyfrinachol ag arweinwyr y pleidiau. Rwy’n deall bod camau cyfreithiol yn cael eu cynnig ar hyn o bryd yn erbyn Llywodraeth yr Alban, gyda’r her yn seiliedig ar honiad o dorri erthygl 14 y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol a gwahaniaethu ar sail cenedligrwydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n siŵr gennyf y bydd Llywodraeth yr Alban yn llunio amddiffyniad cadarn iawn ar hynny. Fodd bynnag, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa—

 

The Presiding Officer: Order. Are you coming to the question soon?

 

Y Llywydd: Trefn. A ydych chi ar fin dod at y cwestiwn?

 

Eluned Parrott: Of course. Given the seriousness of the situation and the level of concern felt across the Chamber, will you follow the precedent set by your predecessors by sharing that legal advice in confidence with our leaders?

 

Eluned Parrott: Wrth gwrs. O ystyried difrifoldeb y sefyllfa a lefel y pryder a deimlir ar draws y Siambr, a wnewch chi ddilyn y cynsail a osodwyd gan eich rhagflaenwyr drwy rannu’r cyngor cyfreithiol hwnnw yn gyfrinachol â’n harweinwyr?

 

Leighton Andrews: No I will not. May I say to the Member that the Scottish system is, of course, different to the system we operate in Wales? They have an entirely different approach to their tuition fee system. The policy that I announced this time last year was, of course, the policy of the One Wales Government. We were confident in the advice we had at the time, and we remain confident in that advice now.

 

Leighton Andrews: Na wnaf. A gaf ddweud wrth yr Aelod bod system yr Alban, wrth gwrs, yn wahanol i’r system yr ydym yn ei weithredu yng Nghymru? Mae ganddynt hwy ymagwedd cwbl wahanol i’w system ffioedd dysgu hwy. Y polisi a gyhoeddais yr adeg hon y llynedd oedd polisi Llywodraeth Cymru’n Un, wrth gwrs. Yr oedd ffydd gennym yn y cyngor a gawsom ar y pryd, ac yr ydym yn parhau i fod â ffydd yn y cyngor hwnnw yn awr.

 

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): Minister, support for students in higher education, and your policy in particular, is predicated on English students coming to Wales to access higher education. The preliminary figures indicate that there has been a significant decline in applications from students based in England. Does this cause you concern? How will that impact on the policy you have announced, if it actually comes into fruition next summer and is applied in subsequent years?

 

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Weinidog, mae cefnogaeth i fyfyrwyr mewn addysg uwch, a’ch polisi chi yn enwedig, yn seiliedig ar fyfyrwyr o Loegr yn dod i Gymru i gael mynediad at addysg uwch. Mae’r ffigurau cychwynnol yn dangos y bu gostyngiad arwyddocaol yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr yn Lloegr. A ydyw hyn yn peri pryder ichi? Sut y bydd hynny’n effeithio ar y polisi yr ydych wedi ei gyhoeddi, os ydyw i ddwyn ffrwyth yr haf nesaf ac yn cael ei weithredu yn y blynyddoedd dilynol?

 

Leighton Andrews: There has certainly been a decline in the number of applicants across the board, but that does not necessarily mean a decline in recruits at the end of the day. We are clear that we have a policy that will support Welsh students wherever they study. We are confident of that. We made it an election pledge and we are committed to that policy. Your party does not support that policy; you would force Welsh students to pay higher fees.

 

Leighton Andrews: Yn sicr, bu gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr yn gyffredinol, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu gostyngiad mewn recriwtiaid yn y pen draw. Yr ydym yn glir bod gennym bolisi a fydd yn cefnogi myfyrwyr o Gymru ble bynnag y byddant yn astudio. Yr ydym yn ffyddiog o hynny. Yr oedd hynny yn un o’n haddewidion adeg yr etholiad ac yr ydym wedi ymrwymo i’r polisi hwnnw. Nid yw eich plaid chi yn cefnogi’r polisi hwnnw; byddech chi’n gorfodi myfyrwyr Cymru i dalu ffioedd uwch.

 

Rhodri Glyn Thomas: A fyddech yn cytuno â mi y byddai’r ddwy blaid yn y fan hon sy’n cael eu cynrychioli yn y glymblaid yn San Steffan o reidrwydd yn teimlo cywilydd oherwydd y ffordd y mae’r glymblaid wedi ymdrin â myfyrwyr yn Lloegr, ei methiant i gefnogi addysg uwch a’i methiant i fuddsoddi mewn pobl ifanc sy’n mynd i mewn i addysg uwch? Felly, o reidrwydd byddant yn codi bwganod ynglŷn â’r polisi a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth flaenorol, Llywodraeth Cymru’n Un, a gan y Llywodraeth bresennol, i fuddsoddi yn ein pobl ifanc, i fuddsoddi yn addysg uwch ac i sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw o fudd i’r economi yng Nghymru.

 

Rhodri Glyn Thomas: Would you agree with me that the two parties here who are represented in the coalition in Westminster would of necessity feel shame regarding the way in which the coalition has treated students in England, its failure to support higher education and its failure to invest in young people who are entering higher education? Therefore, they will of course be scaremongering about the policy adopted by the previous Government, the One Wales Government, and by the current Government, to invest in our young people, to invest in higher education and to ensure that that investment benefits the economy of Wales.

 

Leighton Andrews: I completely agree with you. I am glad that you are still willing to take ownership of the policy that I announced last year. We are committed to that policy. The parties that are represented in the UK coalition Government have a lot to answer for in terms of the policies they signed up to before the last election and then implemented when in office.

 

Leighton Andrews: Yr wyf yn cytuno’n llwyr â chi. Yr wyf yn falch eich bod yn dal yn barod i gymryd perchnogaeth o’r polisi y cyhoeddais y llynedd. Yr ydym wedi ymrwymo i’r polisi hwnnw. Mae gan y pleidiau sy’n cael eu cynrychioli yn Llywodraeth glymblaid y Deyrnas Unedig lawer i fod yn atebol yn ei gylch o ran y polisïau y cytunwyd iddynt cyn yr etholiad diwethaf ac yna eu rhoi ar waith mewn llywodraeth.

 

Gwybodaeth am Ddisgyblion ac Ysgolion

 

School and Pupil Information

 

5. Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rheoliadau newydd ar gyfer cofnodi gwybodaeth am ddisgyblion ac ysgolion. OAQ(4)0060(ESK)

 

5. Nick Ramsay: Will the Minister make a statement on the new regulations for reporting school and pupil information. OAQ(4)0060(ESK)

 

Leighton Andrews: The amended regulations cover reporting data, the content of prospectuses and target setting. The regulations aim to simplify and clarify the use of information. There will be wider use of existing sources, reducing the need to collect other data. In summary, the statistics will be fewer and better targeted.

 

Leighton Andrews: Mae’r rheoliadau diwygiedig yn ymdrin â chofnodi data, cynnwys prosbectysau a gosod targedau. Nod y rheoliadau yw symleiddio ac egluro’r defnydd o wybodaeth. Bydd defnydd ehangach o ffynonellau sydd eisoes yn bodoli, gan leihau’r angen i gasglu data eraill. I grynhoi, bydd yr ystadegau yn llai ac yn cael eu targedu’n well.

 

Nick Ramsay: You may be aware that many teachers are concerned that there is a serious amount of bureaucracy being placed on them as a result of red tape associated with reporting school and pupil information as part of the guidance that has been issued. Some teachers have expressed a view to me that the constant pressure to report data is holding them back from the job of teaching, which they want to get on with doing. In light of these concerns, will you revisit the regulations, evaluate what is happening as a result of them, and examine what can be done to reduce the workload in schools, so that teachers are better supported in delivering the high-quality education that we would all like to see?

 

Nick Ramsay: Efallai eich bod yn ymwybodol bod llawer o athrawon yn pryderu bod yna swm difrifol o fiwrocratiaeth yn cael ei roi arnynt o ganlyniad i fiwrocratiaeth sy’n gysylltiedig ag adrodd gwybodaeth yr ysgol a disgyblion fel rhan o’r canllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi. Mae rhai athrawon wedi mynegi barn imi bod y pwysau cyson i gofnodi data yn eu rhwystro rhag y gwaith o addysgu—rhywbeth y maent eisiau bwrw ymlaen ag ef. Yng ngoleuni’r pryderon hyn, a wnewch chi edrych eto ar y rheoliadau, gwerthuso’r hyn sy’n digwydd o ganlyniad iddynt, ac ystyried beth y gellir ei wneud i leihau’r baich gwaith mewn ysgolion, er mwyn i athrawon gael cefnogaeth well wrth gyflwyno’r addysg o ansawdd uchel yr ydym i gyd eisiau ei weld?

 

Leighton Andrews: We have been reducing the workload over the last 10 years and we remain committed to rooting out bureaucracy and making it simpler for headteachers and teachers to communicate information. We want a common set of information to be used across local authorities, which will help us in that process. We have sought to simplify and clarify the data that we require. That is important to us, but at the end of the day, if you want a school system that is accountable, you need data to rely on in terms of performance. That is why we have ensured that we are gathering appropriate data when young people join school in the foundation phase. We need that baseline data and we will ensure that that data is available to parents through the governing bodies of schools.

 

Leighton Andrews: Yr ydym wedi bod yn lleihau’r llwyth gwaith dros y 10 mlynedd diwethaf, ac yr ydym yn parhau i ymrwymo i gael gwared ar fiwrocratiaeth a’i gwneud yn symlach i benaethiaid ac athrawon gyfleu gwybodaeth. Yr ydym eisiau set cyffredin o wybodaeth i’w ddefnyddio ar draws awdurdodau lleol, a fydd yn ein helpu yn y broses honno. Yr ydym wedi ceisio symleiddio ac egluro’r data y mae arnom eu hangen. Mae hynny’n bwysig inni, ond ar ddiwedd y dydd, os ydych am gael system ysgol sy’n atebol, mae angen data i ddibynnu arnynt o ran perfformiad. Dyna pam yr ydym wedi sicrhau ein bod yn casglu data priodol pan fo pobl ifanc yn ymuno ag ysgol yn y cyfnod sylfaen. Mae arnom angen y data sylfaenol hynny a byddwn yn sicrhau bod y data hynny ar gael i rieni drwy gyrff llywodraethu ysgolion.

 

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): Minister, I agree with your contention that we need to have a transparent system and that the data that are required should be accurate and appropriate. My understanding is that, for those data to be accurate and appropriate, we have to deal with cohorts of at least 15 pupils. In my constituency, in small rural schools, a cohort can be four pupils, which can potentially skew the data and not make it statistically significant. What steps can you put in place to ensure that we have a system that reflects fairly on those schools with small cohorts?

 

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Weinidog, yr wyf yn cytuno â’ch haeriad bod angen inni gael system dryloyw ac y dylai’r data angenrheidiol fod yn gywir ac yn briodol. Fy nealltwriaeth i yw, er mwyn i’r data hynny fod yn gywir ac yn briodol, mae’n rhaid inni ymdrin â charfannau o 15 disgybl o leiaf. Yn fy etholaeth i, mewn ysgolion gwledig bach, gall carfan fod yn bedwar o ddisgyblion, a all o bosibl ystumio’r data a pheri iddynt beidio â bod yn arwyddocaol yn ystadegol. Pa gamau y gallwch eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod gennym system sy’n adlewyrchu’n deg ar yr ysgolion hynny sydd â charfannau bach?

 

Leighton Andrews: It is clear that data are more complicated to analyse when the age cohort is as small as the number that you have suggested. It is not routinely the case that we have schools with cohorts as small as that. What we have to do, and this is one of the things that we are looking at in the context of trying to provide banding information for primary schools, for example, is to consider how we can assess those data across a number of schools. However, I am sure that she would accept that it is not a simple exercise.

 

Leighton Andrews: Mae’n amlwg bod data yn fwy cymhleth i’w dadansoddi pan fo’r garfan oedran gyn lleied â’r nifer yr ydych chi wedi ei awgrymu. Nid yw’n arferol i gael ysgolion â charfannau mor fach â hynny. Yr hyn y mae’n rhaid inni ei wneud, a dyma un o’r pethau yr ydym yn edrych arno yng nghyd-destun ceisio darparu gwybodaeth fandio ar gyfer ysgolion cynradd, er enghraifft, yw ystyried sut y gallwn asesu’r data hynny ar draws nifer o ysgolion. Fodd bynnag, mae’n siŵr gennyf y byddai’n derbyn nad mater syml mo hynny.

 

Myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd

 

European Union Students

 

6. Eluned Parrott: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer myfyrwyr yr UE sy’n mynychu Prifysgolion yng Nghymru. OAQ(4)0069(ESK)

 

6. Eluned Parrott: Will the Minister make a statement on the number of EU students attending Welsh Universities. OAQ(4)0069(ESK)

 

Leighton Andrews: The latest available data show that the total number of full-time or part-time non-UK, EU students attending Welsh universities in the academic year 2009-10 was 6,845.

 

Leighton Andrews: Mae’r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos mai cyfanswm y myfyrwyr llawn-amser a rhan-amser o’r Undeb Ewropeaidd, nad ydynt o’r Deyrnas Unedig, sy’n mynychu prifysgolion Cymru yn y flwyddyn academaidd 2009-10 oedd 6,845.

 

Eluned Parrott: I will turn again to the example of Scotland, I am afraid, where the cost of supporting EU students rose from £20 million in 2000-01 to more than £75 million in 2009-10, following a 500 per cent increase in EU student numbers, which may be due in part, perhaps, to the preferential fee arrangements. Has the Minister and his team undertaken scenario analyses that include the potential for increases in numbers of this order?

 

Eluned Parrott: Trof eto at enghraifft yr Alban, mae arnaf ofn, lle cododd y gost o gynorthwyo myfyrwyr yr UE o £20 miliwn yn 2000-01 i fwy na £75 miliwn yn 2009-10, yn dilyn cynnydd o 500 y cant yn nifer myfyrwyr yr UE, a allai fod yn rhannol oherwydd, efallai, y trefniadau ffioedd ffafriol. A ydyw’r Gweinidog a’i dîm wedi cynnal dadansoddiadau senario sy’n cynnwys y potensial ar gyfer cynnydd yn niferoedd o’r raddfa hon?

 

Leighton Andrews: Llywydd, I am not responsible for the support given to EU students in Scotland.

 

Leighton Andrews: Lywydd, nid wyf yn gyfrifol am y cymorth a roddir i fyfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd yn yr Alban.

 

Angela Burns: My question is on the same subject. I do not expect this now, Minister, but will you produce a statement that explains why the tuition fee system in Scotland is so different from that in Wales that this issue would not affect us? The advice that I have received suggests that there are enough similarities so that the question of having to support EU students would affect us as much as it does Scotland. Perhaps you could provide us with that information.

 

Angela Burns: Mae fy nghwestiwn innau ar yr un pwnc. Nid wyf yn disgwyl hyn yn awr, Weinidog, ond a wnewch chi lunio datganiad yn esbonio pam y mae’r system ffioedd dysgu yn yr Alban mor wahanol i’r hyn sydd yng Nghymru fel na fyddai’r mater hwn yn effeithio arnom ni? Mae’r cyngor a gefais yn awgrymu bod digon o debygrwydd fel y byddai’r cwestiwn o orfod cynorthwyo myfyrwyr yr UE yn effeithio arnom ni gymaint ag y mae’n effeithio ar yr Alban. Efallai y gallech roi’r gwybodaeth honno inni.

 

Leighton Andrews: Llywydd, I am not here to do the Member’s research for her. [Assembly Members: ‘Oh.’]

 

Leighton Andrews: Lywydd, nid wyf yma i wneud gwaith ymchwil yr Aelod ar ei chyfer. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’].

 

Angela Burns: That is a great shame, because it is not just research for me, but a matter of national interest, especially when you talk about a £3.6 billion subsidy for everything to do with supporting Welsh and EU students on tuition fees. This is an enormous amount of money and your press release had a health warning at the bottom, which said that it was subject to change and was a demand-led budget, and that you could not be utterly predictable on it. There seems to be real confusion over this issue. This is really simple; you could put this matter to rest once and for all. Let us know so that we can understand clearly what the difference is so that we will not find ourselves having to be responsible for what could be a never-ending sum of money.

 

Angela Burns: Mae hynny’n drueni mawr, oherwydd nid ymchwil yn unig ydyw i mi, ond mater o ddiddordeb cenedlaethol, yn enwedig pan fyddwch yn siarad am gymhorthdal o £3.6 biliwn ar gyfer popeth sy’n ymwneud â chynorthwyo myfyrwyr o Gymru a’r Undeb Ewropeaidd gyda ffioedd dysgu. Mae hwn yn swm enfawr o arian ac yn eich datganiad i’r wasg, roedd yna rybudd iechyd ar y gwaelod yn dweud y gallai newid a’i bod yn gyllideb a arweinir gan y galw, ac na allech fod yn hollol ragfynegadwy arni. Ymddengys bod dryswch gwirioneddol dros y mater hwn. Mae hyn yn syml iawn; gallech roi’r mater hwn i’w orffwys unwaith ac am byth. Rhowch wybod inni, fel y gallwn ddeall yn glir beth yw’r gwahaniaeth fel na fyddwn yn gorfod bod yn gyfrifol am yr hyn a allai fod yn swm diddiwedd o arian.

 

Leighton Andrews: There is no confusion. The only confusion exists in the minds of the parties that support the UK coalition Government, that are embarrassed by the policy that has been adopted by their Government at a UK level, or that support the policy of making Welsh students pay higher fees wherever they study. They are engaged in constructing a smokescreen that is designed to distract attention from their policy by trying to sow doubt about ours. We are confident about our policy. Nothing has changed since we announced that policy last year.

 

Leighton Andrews: Nid oes unrhyw ddryswch. Yr unig ddryswch yw’r un sy’n bodoli ym meddyliau’r pleidiau sy’n cefnogi Llywodraeth glymblaid y Deyrnas Unedig, sydd yn teimlo embaras gan y polisi sydd wedi cael ei fabwysiadu gan eu Llywodraeth ar lefel y Deyrnas Unedig, neu sy’n cefnogi’r polisi o wneud i fyfyrwyr Cymru dalu ffioedd uwch lle bynnag y maent yn astudio. Maent yn cymryd rhan mewn adeiladu llen fwg sydd wedi ei chynllunio i dynnu sylw oddi wrth eu polisi hwy drwy geisio hau amheuaeth am ein polisi ni. Yr ydym yn ffyddiog o’n polisi. Nid oes unrhyw beth wedi newid ers inni gyhoeddi’r polisi hwnnw y llynedd.

 

Alun Ffred Jones: Er bod y niferoedd o fyfyrwyr o dir mawr Ewrop ym mhrifysgolion Cymru yn uwch nag yr oeddem yn ei ddisgwyl, ar drywydd gwahanol, a wnewch ymuno â mi i longyfarch Prifysgol Bangor ar ei llwyddiant yn denu myfyrwyr o’r dwyrain pell, yn arbennig o Tsieina, i astudio ym Mangor, sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r brifysgol honno?

 

Alun Ffred Jones: Although the number of students from the European continent in Wales’s universities is higher than we expected, on a different tack, will you join me in congratulating Bangor University on its success in attracting students from the far east, especially China, to study in Bangor, who make a significant contribution to that university?

 

Leighton Andrews: Indeed. I met the vice-chancellor of Bangor University this morning and I believe that he is off to China again tomorrow. I wish him every success in that trip.

 

Leighton Andrews: Yn wir. Cyfarfûm ag is-ganghellor Prifysgol Bangor y bore yma ac yr wyf yn credu ei fod yn mynd i Tsieina eto yfory. Dymunaf bob llwyddiant iddo ar y daith.

 

Gwariant Cyfalaf

 

Capital Expenditure

 

7. Simon Thomas: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gydag awdurdodau addysg lleol ynglŷn â gwariant cyfalaf. OAQ(4)0053(ESK)

 

7. Simon Thomas: What discussions has the Minister had with local education authorities about capital expenditure. OAQ(4)0053(ESK)

 

Leighton Andrews: I have not yet undertaken any discussions with local authorities in relation to their capital programmes. My officials are currently engaging with local authorities regarding the resubmission of their outline programme of investment in schools. I will make an announcement on the outcome of this submission in December.

 

Leighton Andrews: Nid wyf wedi cynnal unrhyw drafodaethau eto gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â’u rhaglenni cyfalaf. Mae fy swyddogion yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar hyn o bryd ynghylch ailgyflwyno eu rhaglen amlinellol o fuddsoddiad mewn ysgolion. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad am ganlyniad y cyflwyniad hwn ym mis Rhagfyr.

 

Simon Thomas: Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ffrwyth y trafodaethau hynny rhwng ei swyddogion ac awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae cynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ganolog i sawl peth: addysg well, addysg Gymraeg o Ddinbych i Gaerffili, a buddsoddiad yn ein system addysg. Er bod y Gweinidog yn wynebu sefyllfa dynn o ran arian cyfalaf, a wnaiff fanteisio ar y cyfle i gefnogi rhywun fel George Osborne, hyd yn oed, a gwrthod defnyddio menter cyllid preifat traddodiadol ac, yn lle hynny, chwilio am ddulliau amgen o ddefnyddio’r sector preifat a’r sector cyhoeddus, gyda’i gilydd, i wella ein hysgolion?

 

Simon Thomas: I would like to thank the Minister for that response. I look forward to hearing the outcome of those negotiations between his officials and local authorities. However, the twenty-first century schools programme is central to several things: better education, Welsh-medium education from Denbigh to Caerphilly, and investment in our education system. Although the Minister is facing a tight situation in terms of the capital budget, will he take this opportunity to support someone like George Osborne, even, and refuse to use traditional private finance initiatives and, instead, search for alternative methods of using the private sector and the public sector together to improve our schools?

 

Leighton Andrews: We will clearly seek additional capital where possible. The Member will be well aware that our capital budget has been cut by 40 per cent by the UK Government over the period of the next comprehensive spending review. That is why we are having to engage with local authorities in respect of the funding that we can make available to them, in order to maximise the number of capital programmes that can go forward. Local authorities can borrow and we want to ensure that they use their prudential borrowing powers properly to maximise the resources that are available.

 

Leighton Andrews: Byddwn yn ceisio am gyfalaf ychwanegol lle bo modd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn bod ein cyllideb gyfalaf wedi cael ei thorri 40 y cant gan Lywodraeth y DU dros gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr nesaf o wariant. Dyna pam y mae’n rhaid inni ymgysylltu ag awdurdodau lleol o safbwynt yr arian y gallwn ei wneud ar gael iddynt, er mwyn cynyddu nifer y rhaglenni cyfalaf a all fynd yn eu blaen. Gall awdurdodau lleol fenthyca ac yr ydym am sicrhau eu bod yn defnyddio eu pwerau benthyca darbodus yn iawn i wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael.

 

The Presiding Officer: I remind Members to try to keep their questions short, as we are running out of time. I now call on Vaughan Gething.

 

Y Llywydd: Atgoffaf yr Aelodau i geisio cadw eu cwestiynau yn fyr, gan ein bod yn rhedeg allan o amser. Galwaf yn awr ar Vaughan Gething.

 

Vaughan Gething: Minister, within the context of the discussions that you have had with each local authority, have you had a chance to have a discussion with Cardiff Council about the continuing impact of its failure to place itself within a regional education consortium?

 

Vaughan Gething: Weinidog, yng nghyd-destun y trafodaethau yr ydych wedi’u cynnal gyda phob awdurdod lleol, a ydych wedi cael cyfle i gael trafodaeth gyda Chyngor Caerdydd am effaith barhaus ei fethiant i osod ei hun o fewn consortiwm addysg rhanbarthol?

 

Leighton Andrews: Earlier this year, when I was outlining the steps that we want to take to drive up school performance in Wales, I made it very clear that we expected local authorities to work on a regional consortia basis, and that any local authority that failed to engage in a regional consortium would not be a recipient of the school effectiveness grant. I hope that all local authorities, including Cardiff Council, will ensure that they join a consortium and are therefore eligible for the school effectiveness grant. I believe that Cardiff Council is the only authority that is yet to make such a decision.

 

Leighton Andrews: Yn gynharach eleni, pan oeddwn yn amlinellu’r camau yr ydym am eu cymryd i wella perfformiad ysgolion yng Nghymru, fe’i gwneuthum yn glir iawn ein bod yn disgwyl i awdurdodau lleol weithio ar sail consortia rhanbarthol, ac na fyddai unrhyw awdurdod lleol a fyddai’n methu ag ymgysylltu mewn consortiwm rhanbarthol yn derbyn y grant effeithiolrwydd ysgolion. Yr wyf yn gobeithio y bydd pob awdurdod lleol, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, yn sicrhau eu bod yn ymuno â chonsortiwm ac felly yn gymwys i gael y grant effeithiolrwydd ysgolion. Credaf mai Cyngor Caerdydd yw’r unig awdurdod sydd heb wneud penderfyniad o’r fath eto.

 

Paul Davies: Following on from the point made by the Member for Mid and West Wales, your colleague the Minister for Finance has confirmed that the Welsh Government will pursue public-private partnerships to raise capital. Minister, will you therefore tell us what types of public-private partnerships that you and your officials are considering?

 

Paul Davies: Yn dilyn y pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mae eich cydweithwraig y Gweinidog dros Gyllid wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd partneriaethau cyhoeddus-preifat i godi cyfalaf. Weinidog, a wnewch chi felly ddweud wrthym ba fath o bartneriaethau cyhoeddus-preifat yr ydych chi a’ch swyddogion yn eu hystyried?

 

Leighton Andrews: In the context of the twenty-first century schools programme, I have asked my officials to explore what may be the most effective ways of raising alternative capital. It is not necessarily a straightforward process, and this is something that we would probably wish to carry out in co-operation with colleagues in other departments. However, we are certainly open to exploring alternative sources of capital for the delivery of our twenty-first century schools programme.

 

Leighton Andrews: Yng nghyd-destun rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yr wyf wedi gofyn i’m swyddogion ymchwilio’r ffyrdd mwyaf effeithiol o godi cyfalaf amgen. Nid yw o reidrwydd yn broses syml, a dyma rywbeth y byddem, fwy na thebyg, yn dymuno ei gynnal mewn cydweithrediad â chydweithwyr mewn adrannau eraill. Fodd bynnag, yr ydym yn sicr yn agored i archwilio ffynonellau eraill o gyfalaf ar gyfer cyflwyno ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

 

Aled Roberts: Minister, in the guidance issued to local authorities on the twenty-first century schools programme, as far as assessment is concerned, references are made to two criteria: the poor condition of the estate and surplus capacity. Are those now the only two criteria that will be adopted in the scoring mechanism?

 

Aled Roberts: Weinidog, yn y canllawiau a gyhoeddwyd i awdurdodau lleol ar raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, o safbwynt asesiad cyfeirir at ddau faen prawf: cyflwr gwael yr ystâd a lleoedd dros ben. Ai rheiny bellach yw’r unig ddau faen prawf a fydd yn cael eu mabwysiadu yn y dull sgorio?

 

Leighton Andrews: Obviously, those are important criteria. We want to see local authorities engaging with the issue of surplus places in their local communities. Also, where some school buildings are at the end of their useful lives, that is also a major factor for us. However, one other thing that we will be looking at is the ability of local authorities to progress schemes rapidly. That will be very important to us as we look to roll out the programme over the next few years.

 

Leighton Andrews: Wrth gwrs, mae’r rheiny yn feini prawf pwysig. Yr ydym am weld awdurdodau lleol yn ymgysylltu â’r mater o leoedd dros ben yn eu cymunedau lleol. Hefyd, lle mae rhai adeiladau ysgol ar ddiwedd eu hoes ddefnyddiol, mae hynny yn ffactor o bwys inni hefyd. Fodd bynnag, un peth arall y byddwn yn edrych arno yw gallu awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau yn gyflym. Bydd hynny’n bwysig iawn inni wrth inni edrych i gyflwyno’r rhaglen yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

Aled Roberts: Minister, the only difficulty with the assessment mechanism is that in north-east Wales, in Denbighshire and Wrexham in particular, demand for Welsh-medium education means that there are proposals being put forward that might not satisfy either of those criteria. In your July statement, reference was made to the special needs of additional learning needs and Welsh-medium education, and to the fact that there would be scope for consideration of those items. Is that still the case?

 

Aled Roberts: Weinidog, yr unig anhawster gyda’r dull asesu yw bod y galw, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn Sir Ddinbych a Wrecsam yn enwedig, am addysg Gymraeg yn golygu bod cynigion yn cael eu cyflwyno na allai, o bosib, fodloni’r meini prawf hynny. Yn eich datganiad ym mis Gorffennaf, cyfeiriwyd at anghenion arbennig anghenion dysgu ychwanegol ac addysg Gymraeg, a’r ffaith y byddai lle i ystyried yr eitemau hynny. A ydyw hynny’n dal yn wir?

 

Leighton Andrews: Clearly, it is the case. However, in a sense, as local authorities bring forward those proposals, I want to be satisfied that they are addressing the issue of surplus places at the same time. In most local authorities, there are still problems with surplus places. Some of them might be down to a failure by local authorities to assess the demand for Welsh-medium education properly. That is something that we look to them to do.

 

Leighton Andrews: Wrth gwrs, mae hynny’n wir. Fodd bynnag, mewn un ystyr, wrth i awdurdodau lleol gyflwyno’r cynigion hynny, yr wyf am fod yn fodlon eu bod yn mynd i’r afael â’r mater o leoedd dros ben ar yr un pryd. Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, mae yna broblemau o hyd gyda lleoedd dros ben. Efallai y bydd rhai ohonynt yn deillio o fethiant awdurdodau lleol i asesu’r galw am addysg Gymraeg yn iawn. Dyna rywbeth yr ydym yn disgwyl iddynt hwy i’w wneud.

 

Cyrhaeddiad Pobl Ifanc

 

Educational Attainment of Young People

 

8. David Melding: A yw Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r ymchwil diweddaraf sy’n awgrymu bod dylanwad negyddol ar gyrhaeddiad pobl ifanc os cawsant eu geni yn ystod misoedd yr haf. OAQ(4)0066(ESK)

 

8. David Melding: Has the Welsh Government reviewed the latest research indicating that a summer birth month may negatively influence the educational attainment of young people. OAQ(4)0066(ESK)

 

Leighton Andrews: I am aware of research undertaken in England by the Institute of Fiscal Studies. The research found evidence for an August ‘birth penalty’ for all outcomes and at every age. Like you, David, I was an August baby myself. [Laughter.]

 

Leighton Andrews: Yr wyf yn ymwybodol o ymchwil a wnaed yn Lloegr gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Canfu’r ymchwil dystiolaeth ar gyfer ‘cosb geni’ ym mis Awst ar gyfer pob canlyniad ac ar bob oedran. Fel chi, David, yr oeddwn yn fabi Awst fy hun. [Chwerthin.]

 

2.00 p.m.

 

David Melding: I was going to declare an interest, given that I was born on 28 August. Minister, I first raised this issue in the previous Chamber, in 2005, and evidence has been available for some time now. The report that you referred to by the Institute for Fiscal Studies showed that children born in summer are three times more likely to be regarded by their teachers as below average in reading, writing and mathematics, and that is sustained into early adulthood in terms of reduced achievement. We need to look at the structure of the school, particularly at when children are admitted at the age of five into full-time education, along with more effective staggered entry.

 

David Melding: Yr oeddwn yn mynd i ddatgan buddiant, gan i mi gael fy ngeni ar 28 Awst. Weinidog, codais y mater hwn y tro cyntaf yn y Siambr flaenorol, yn 2005, a bu tystiolaeth ar gael ers peth amser bellach. Dangosodd yr adroddiad y cyfeiriasoch ato gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod plant a aned yn yr haf deirgwaith yn fwy tebygol o gael eu hystyried gan eu hathrawon yn is na’r cyfartaledd o ran darllen, ysgrifennu a mathemateg, a bod hynny’n parhau yn oedolaeth gynnar o ran llai o gyflawniad. Mae angen i ni edrych ar strwythur yr ysgol, yn enwedig ar pan fydd plant yn cael eu derbyn yn bum mlwydd oed i addysg amser llawn, ynghyd â mynediad darwahanedig mwy effeithiol.

 

Leighton Andrews: David, some people may take the view that the fact that you and I have ended up here is an example of the problems that people born in August experience. [Laughter.] You raise a serious issue, however, and the research is quite new. I am very willing for my officials to explore that.

 

Leighton Andrews: David, gallai rhai pobl fod o’r farn bod y ffaith eich bod chi a fi wedi diweddu yma yn enghraifft o’r problemau y mae pobl a anwyd ym mis Awst yn eu cael. [Chwerthin.] Yr ydych yn codi mater difrifol, fodd bynnag, ac mae’r ymchwil yn eithaf newydd. Yr wyf yn barod iawn i’m swyddogion edrych ar hynny.

Asesiadau Ystafell Ddosbarth

Classroom Assessments

 

9. Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am asesiadau yn yr ystafell ddosbarth yng Nghymru. OAQ(4)0056(ESK)

9. Russell George: Will the Minister make a statement on classroom assessments in Wales. OAQ(4)0056(ESK)

 

Leighton Andrews: Teacher assessment of pupil attainment against national curriculum level descriptions remains our principal means of assessment of learners. However, as part of the national literacy and numeracy programmes, we are introducing tests of literacy and numeracy skills from 2012-13.

Leighton Andrews: Asesiadau gan athrawon o gyrhaeddiad disgyblion yn erbyn disgrifiadau lefel y cwricwlwm cenedlaethol yw ein prif ddull o asesu dysgwyr o hyd. Fodd bynnag, fel rhan o’r rhaglenni llythrennedd a rhifedd cenedlaethol, yr ydym yn cyflwyno profion sgiliau llythrennedd a rhifedd yn 2012-13.

 

Russell George: Teachers have raised concerns with me about the impact that the child development assessment profiles have on their workload. In some cases, it appears that the classroom assessment is creating a situation in which teachers are unable to get on with teaching, because they are spending all their time on the bureaucracy of the process. Minister, do you share my concern that this initiative is having a serious impact on teachers’ ability to do their jobs?

Russell George: Mae athrawon wedi codi pryderon gyda mi am effaith proffiliau asesu datblygiad plant ar eu llwyth gwaith. Mewn rhai achosion, mae’n ymddangos bod yr asesiad dosbarth yn creu sefyllfa lle mae athrawon yn methu bwrw ymlaen ag addysgu, oherwydd eu bod yn treulio eu holl amser ar fiwrocratiaeth y broses. Weinidog, a ydych yn rhannu fy mhryder bod y fenter hon yn cael effaith ddifrifol ar allu athrawon i wneud eu gwaith?

 

Leighton Andrews: I take the view that, if you have young people entering school and the foundation phase, you need a baseline assessment of their ability at entry level. That is the whole purpose of the assessment profile in the foundation phase. If there are ways in which we can make that less onerous in future years, I would certainly be happy to look at them.

 

Leighton Andrews: Os oes gennych bobl ifanc sy’n dechrau’r ysgol a’r cyfnod sylfaen, fy marn i yw bod angen asesiad gwaelodlin o’u gallu ar lefel mynediad. Dyna yw holl bwrpas y proffil asesu yn y cyfnod sylfaen. Os oes ffyrdd y gallwn wneud hynny yn llai beichus yn y dyfodol, byddwn yn sicr yn fodlon edrych arnynt.

 

.

Bethan Jenkins: Minister, as you know, children can reach level 5 in core subjects while still at primary school but, in some instances, may not officially progress beyond that level until year 9, when they are at secondary school, even though they will have in reality progressed according to the criteria. This sometimes confuses parents when they enquire about their children’s progress at parent evenings, and it affects student morale as, on paper, they appear not to have made progress. Minister, do you have plans to deal with this ambiguity and make progression clearer for pupils and parents, or to look for alternatives to the system?

 

Bethan Jenkins: Weinidog, fel y gwyddoch, gall plant gyrraedd lefel 5 yn y pynciau craidd tra’u bod dal yn yr ysgol gynradd, ond, mewn rhai achosion, ni allant symud ymlaen y tu hwnt i’r lefel honno yn swyddogol tan blwyddyn 9, pan fyddant yn yr ysgol uwchradd, er y byddant wedi symud ymlaen mewn gwirionedd yn ôl y meini prawf. Mae hyn weithiau yn drysu rhieni pan fyddant yn holi am gynnydd eu plant mewn nosweithiau rhieni, ac mae’n digalonni myfyrwyr am nad ydyw, ar bapur, yn ymddangos fel eu bod wedi gwneud cynnydd. Weinidog, a oes gennych gynlluniau i ddelio â’r amwysedd hwn a gwneud cynnydd yn eglurach i ddisgyblion a rhieni, neu chwilio am ddewisiadau amgen i’r system?

 

Leighton Andrews: I think that we have to be very careful about the outcomes that are measured at the end of key stage 2 through teacher assessments. I have said before in the Chamber that I am not convinced that the quality of those assessments overall across Wales has been consistent, which has implications, of course, for young people who may have been assessed as being above the level that they are actually found to be at when assessed again at secondary school, and it may have implications for young people of ability who are not sufficiently challenged subsequently. We have to become better at the assessments at the end of key stage 2; that is one of the things that we have tasked local authorities with as a result of the work of the school standards unit. I hope to see improvements in that process in future years.

 

Leighton Andrews: Yr wyf yn meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn am y canlyniadau sy’n cael eu mesur ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 drwy asesiadau athrawon. Dywedais o’r blaen yn y Siambr nad wyf yn argyhoeddedig bod ansawdd yr asesiadau hynny at ei gilydd ledled Cymru wedi bod yn gyson, sydd â goblygiadau, wrth gwrs, i bobl ifanc a allai fod wedi cael eu hasesu i fod yn uwch na’r lefel y canfyddir eu bod arni mewn gwirionedd pan gânt eu hasesu eto yn yr ysgol uwchradd, a gall fod â goblygiadau i bobl ifanc galluog na chânt eu herio’n ddigonol ar ôl hynny. Mae’n rhaid i ni wella’r asesu ar ddiwedd cyfnod allweddol 2; dyna un o’r pethau yr ydym wedi gofyn i awdurdodau lleol eu gwneud o ganlyniad i waith yr uned safonau ysgolion. Gobeithio y byddaf yn gweld gwelliannau yn y broses honno yn y dyfodol.

 

Llywodraethwyr Ysgol

School Governors

 

10. Ann Jones: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog rhieni i fod yn llywodraethwyr ysgol. OAQ(4)0058(ESK)

10. Ann Jones: What is Welsh Government doing to encourage parents to become school governors. OAQ(4)0058(ESK)

 

Leighton Andrews: Responsibility for filling parent governor vacancies rests with local authorities and governing bodies. The Welsh Government’s expectation is that schools actively take steps to engage and share information with parents. Parents with a better understanding of the way that schools operate have more confidence in becoming members of the governing body.

 

Leighton Andrews: Cyfrifoldeb awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yw llenwi swyddi gwag rhiant-lywodraethwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion fynd ati i gymryd camau i ymgysylltu a rhannu gwybodaeth gyda rhieni. Mae gan rieni sydd â dealltwriaeth well o’r ffordd y mae ysgolion yn gweithredu fwy o hyder mewn dod yn aelodau o’r corff llywodraethu.

 

Ann Jones: I think that we are all agreed that a good governing body can be an asset to a school, and to the community, too. For that to happen, there has to be a good socioeconomic mix of governors on school governing bodies. It was quite worrying that PricewaterhouseCoopers and the Joseph Rowntree Foundation found that, in England, the structures are not suitable and that headteachers have found governors’ meetings to be ineffective. They felt that they were not getting the best from them. Could the Welsh Government do anything here to encourage more parents from lower income families and those parents who are not from a professional background to put themselves forward to sit on school governing bodies, which would then give their children an opportunity to play a full role in the community and in the life of the school?

 

Ann Jones: Yr wyf yn meddwl ein bod i gyd yn cytuno y gall corff llywodraethu da fod yn gaffaeliad i ysgol, ac i’r gymuned hefyd. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae’n rhaid cael cymysgedd economaidd-gymdeithasol dda o lywodraethwyr ar gyrff llywodraethu ysgolion. Yr oedd yn eithaf pryderus bod PricewaterhouseCoopers a Sefydliad Joseph Rowntree wedi darganfod, yn Lloegr, nad yw’r strwythurau yn addas a bod penaethiaid wedi canfod bod cyfarfodydd llywodraethwyr yn aneffeithiol. Yr oeddent yn teimlo nad oeddent yn cael y gorau ohonynt. A allai Llywodraeth Cymru wneud unrhyw beth yma i annog mwy o rieni o deuluoedd incwm isel a’r rhieni hynny nad ydynt o gefndir proffesiynol i gynnig eu hunain i fod ar gyrff llywodraethu ysgolion, a fyddai wedyn yn rhoi cyfle i’w plant chwarae rhan lawn yn y gymuned ac ym mywyd yr ysgol?

 

Leighton Andrews: You make an important point. That is why we want to see local authorities engaging with parents to ensure a wide representation of parent governors. It is also why we are putting in place induction training for all governors, so that no-one needs to feel afraid that they do not have the skills to undertake the role of governor. As a result of the Education (Wales) Measure 2011 that we passed before the election, we have also put in place training for chairs and for the effective clerking of school governing bodies. I have not received representations from local authorities or school governing bodies raising concerns that filling parent governor vacancies is particularly difficult, but I am certain that local authorities can do more to encourage a wider range of applicants.

 

Leighton Andrews: Yr ydych yn gwneud pwynt pwysig. Dyna pam yr ydym am weld awdurdodau lleol yn ymgysylltu â rhieni er mwyn sicrhau cynrychiolaeth eang ymhlith rhiant-lywodraethwyr. Dyna hefyd pam yr ydym yn sefydlu hyfforddiant cynefino ar gyfer pob llywodraethwr, fel nad oes angen i unrhyw un deimlo’n ofnus nad oes ganddynt y sgiliau i ymgymryd â rôl llywodraethwr. O ganlyniad i’r Mesur Addysg (Cymru) 2011 a basiwyd gennym cyn yr etholiad, yr ydym hefyd wedi sefydlu hyfforddiant ar gyfer cadeiryddion ac ar gyfer clercio cyrff llywodraethu ysgolion yn effeithiol. Nid wyf wedi cael sylwadau gan awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion sy’n codi pryderon bod llenwi swyddi gwag rhiant-lywodraethwyr yn arbennig o anodd, ond yr wyf yn sicr y gall awdurdodau lleol wneud mwy i annog ystod ehangach o ymgeiswyr.

 

Mohammad Asghar: Minister, school governors make a hugely important contribution to education and to the policy direction of schools. It is crucial that schools have a diverse governance structure in place. What steps is the Welsh Government taking to encourage diverse governance by, for example, encouraging more disabled people or those from an ethnic minority background to become governors?

 

Mohammad Asghar: Weinidog, mae llywodraethwyr ysgol yn gwneud cyfraniad hynod o bwysig i addysg ac i gyfeiriad polisi ysgolion. Mae’n hanfodol bod gan ysgolion strwythur llywodraethu amrywiol mewn lle. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog llywodraethu amrywiol drwy, er enghraifft, annog mwy o bobl anabl neu bobl o gefndir lleiafrifoedd ethnig i fod yn llywodraethwyr?

 

Leighton Andrews: We are working with Governors Wales to promote the role of being a school governor, and I will be speaking at an event organised by Governors Wales in the next few days. We want to ensure a wide representation of governors from all backgrounds in Wales. It is important to us that we have balanced governing bodies, and that is something that we seek to secure through the wider engagement of schools with their governing bodies and communities. That is something that we would ask Assembly Members to encourage at a local level as well.  

 

Leighton Andrews: Yr ydym yn gweithio gyda Llywodraethwyr Cymru i hyrwyddo rôl bod yn llywodraethwr ysgol, a byddaf yn siarad mewn digwyddiad a drefnwyd gan Lywodraethwyr Cymru yn ystod y dyddiau nesaf. Yr ydym am sicrhau cynrychiolaeth eang o lywodraethwyr o bob cefndir yng Nghymru. Mae’n bwysig i ni bod gennym gyrff llywodraethu cytbwys, ac yr ydym yn ceisio sicrhau hynny drwy ymgysylltu ehangach gan ysgolion â’u cyrff llywodraethu a chymunedau. Byddem yn gofyn i Aelodau’r Cynulliad annog hynny ar lefel leol yn ogystal. 

Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

 

School Funding Regulations (Wales) 2010

 

11. Aled Roberts: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â pha gynghorau sir sy’n gweithredu Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010. OAQ(4)0064(ESK)

 

11. Aled Roberts: Will the Minister make a statement about which county councils implement the School Funding Regulations (Wales) 2010. OAQ(4)0064(ESK)

 

Leighton Andrews: Mae gofyn i bob awdurdod lleol lynu at y darpariaethau a bennwyd yn Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010. Y rheoliadau sy’n pennu’r fframwaith cyfreithiol a gaiff ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol yng Nghymru i ddiffinio’r berthynas ariannol gyda’u hysgolion.

 

Leighton Andrews: All local authorities in Wales are required to adhere to the provisions set out in the School Funding (Wales) Regulations 2010. The regulations set the legal framework within which local authorities in Wales define the financial relationship with their schools.

 

Aled Roberts: Minister, there is huge variation in the amount of reserves held by particular authorities. Are you convinced that authorities are robustly applying the new regulations in all cases?

 

Aled Roberts: Weinidog, mae amrywiaeth enfawr yn symiau’r cronfeydd wrth gefn mae awdurdodau penodol yn eu cadw. A ydych yn argyhoeddedig bod yr awdurdodau yn gweithredu’r rheoliadau newydd yn gadarn ym mhob achos?

 

Leighton Andrews: No.

 

Leighton Andrews: Nac wyf.

Nick Ramsay: I am sure that some authorities are applying the regulations better than others, Minister. What guidance are you giving to local authorities to ensure that best practice from an authority that is doing well is transferred within the region or on a national basis to other authorities that might be experiencing problems in delivering at this difficult time?

 

Nick Ramsay: Yr wyf yn siŵr bod rhai awdurdodau yn gweithredu’r rheoliadau yn well nag eraill, Weinidog. Pa ganllawiau ydych yn eu rhoi i awdurdodau lleol i sicrhau bod arfer gorau mewn awdurdod sy’n gwneud yn dda yn cael ei drosglwyddo o fewn y rhanbarth neu’n genedlaethol i awdurdodau eraill a allai fod yn cael problemau cyflawni ar yr adeg anodd hwn?

 

Leighton Andrews: We passed regulations last year to address the issue of budget surpluses in schools in many authorities. What we are trying to do through the regional consortia is to ensure that best practice is shared between authorities across the piece in Wales. There are many examples of good practice, but there are also many examples where we fail to see that good practice being transferred. For example, on the basis of research that has been done for us, we know that we can be more efficient in the delivery of school improvement services and the delivery of better services, while, at the same time, releasing more money for the front line. Progress has been made in some parts of Wales, and I hope to see more.

 

Leighton Andrews: Y llynedd, pasiwyd rheoliadau gennym i fynd i’r afael â gwargedion cyllideb mewn ysgolion mewn llawer o awdurdodau. Drwy’r consortia rhanbarthol yr ydym yn ceisio sicrhau y caiff arfer gorau ei rannu rhwng awdurdodau yng Nghymru benbaladr. Mae llawer o enghreifftiau o arfer da, ond mae yna hefyd lawer o enghreifftiau lle y methwn weld yr arfer da hwnnw yn cael ei drosglwyddo. Er enghraifft, ar sail ymchwil sydd wedi cael ei wneud drosom, gwyddom y gallwn fod yn fwy effeithlon o ran darparu gwasanaethau gwella ysgolion a chyflwyno gwasanaethau gwell, ac, ar yr un pryd, ryddhau mwy o arian i’r rheng flaen. Mae cynnydd wedi cael ei wneud mewn rhai rhannau o Gymru, a gobeithiaf weld mwy.

 

Safonau Addysg

Education Standards

 

12. Julie James: A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i wella safonau addysg yn y de orllewin. OAQ(4)0063(ESK)

12. Julie James: Will the Minister outline his plans to improve education standards in South West Wales. OAQ(4)0063(ESK)

 

Leighton Andrews: My priorities are to raise standards across all education sectors, strengthen the use of the Welsh language in everyday life, raise skill levels and tackle youth unemployment.

 

Leighton Andrews: Fy mlaenoriaethau yw codi safonau ar draws pob sector addysg, cryfhau defnydd yr iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd, codi lefelau sgiliau a mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc.

 

Julie James: I recently visited a wonderful school in my constituency called Seaview Community Primary School, which is in one of the most deprived wards in Wales. A significant number of its pupils have benefited greatly from pre-school support. Will the Minister outline his plans for continuing and developing that type of pre-school support in schemes such as Flying Start?

 

Julie James: Yn ddiweddar, ymwelais ag ysgol wych yn fy etholaeth o’r enw Ysgol Gynradd Gymunedol Seaview, sydd yn un o’r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae nifer sylweddol o’i disgyblion wedi elwa’n fawr o gymorth cyn ysgol. A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer parhau a datblygu’r math hwnnw o gefnogaeth cyn ysgol mewn cynlluniau fel Dechrau’n Deg?

 

Leighton Andrews: As the Member for Swansea West will be aware, extending the reach of Flying Start was one of our manifesto commitments. We know that Flying Start is making a real difference to the lives of children in our most disadvantaged areas. The evaluation that we have undertaken of Flying Start shows that the young people who have been through the programme are often more attentive, better behaved and so on. Responsibility for the Flying Start programme now lies with my colleague the Deputy Minister for Children and Social Services, who is taking that programme forward.

 

Leighton Andrews: Fel y bydd yr Aelod dros Orllewin Abertawe yn gwybod, yr oedd ymestyn cyrhaeddiad Dechrau’n Deg yn un o’n hymrwymiadau maniffesto. Gwyddom fod Dechrau’n Deg yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae’r gwerthusiad yr ydym wedi ei ymgymryd o Dechrau’n Deg yn dangos bod y bobl ifanc sydd wedi bod drwy’r rhaglen yn aml yn fwy sylwgar, yn ymddwyn yn well ac yn y blaen. Cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, yw’r rhaglen Dechrau’n Deg yn awr, ac mae’n cymryd y rhaglen yn ei blaen.

 

Byron Davies: Minister, yesterday, it gave me great pleasure to welcome pupils and staff from Gowerton Comprehensive School to the Senedd. Sixth formers and staff were keen to engage in a discussion on higher education in Wales, and it quickly became apparent that a serious issue has arisen within the Universities and Colleges Admissions Service system. The problem concerns the issue of deferred entrance. Many pupils want to take a gap year prior to entering higher education. Will you clarify your Government’s policy on deferred entrance into Welsh universities, and investigate why a number of universities no longer allow deferred entrance?

Byron Davies: Weinidog, ddoe, cefais bleser mawr yn croesawu disgyblion a staff o Ysgol Gyfun Tre-gŵyr i’r Senedd. Yr oedd disgyblion chweched dosbarth a staff yn awyddus i gymryd rhan mewn trafodaeth ar addysg uwch yng Nghymru, a daeth yn amlwg yn gyflym bod mater difrifol wedi codi o fewn system Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau. Mae’r broblem yn ymwneud â mynediad wedi’i ohirio. Mae llawer o ddisgyblion yn awyddus i gymryd blwyddyn fwlch cyn dechrau ar addysg uwch. A wnewch egluro polisi eich Llywodraeth ar fynediad wedi’i ohirio i brifysgolion Cymru, ac ymchwilio pam nad yw nifer o brifysgolion bellach yn caniatáu mynediad wedi’i ohirio?

 

Leighton Andrews: Over the last 12 months, quite a number of young people have decided not to take a deferred year because of the impact of increased fee levels, although that is not a problem for Welsh domiciled students. If the Member wishes to write to me with specific examples, I would be happy to pursue that.

 

Leighton Andrews: Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae cryn dipyn o bobl ifanc wedi penderfynu peidio â chymryd blwyddyn wedi’i gohirio oherwydd effaith y cynnydd mewn lefelau ffioedd, er nad yw hynny’n broblem i fyfyrwyr o Gymru. Os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gydag enghreifftiau penodol, byddwn yn falch i fynd ar ôl hynny.

 

Bethan Jenkins: Minister, when I last asked you about the provision of engineering at A-level, you answered that students were able to study mathematics and physics at that level, which leads on to engineering at university. Perhaps you were unaware that the First Minister had previously commented to me in the Siambr that there have been difficulties with attracting students to those subjects. Have you or your officials spoken with the City and County of Swansea and Neath Port Talbot County Borough Council—the only two local education authorities in Wales that provide engineering at A-level—about their experiences? Do you have plans to get other LEAs across South Wales West and the rest of Wales to offer this particular subject at A-level?

 

Bethan Jenkins: Weinidog, pan ofynnais i chi ddiwethaf am ddarpariaeth peirianneg mewn Safon Uwch, ateboch fod myfyrwyr yn gallu astudio mathemateg a ffiseg ar y lefel honno, sy’n arwain at beirianneg yn y brifysgol. Efallai nad oeddech yn gwybod bod y Prif Weinidog wedi dweud wrthyf o’r blaen yn y Siambr y bu anawsterau o ran denu myfyrwyr at y pynciau hynny. A ydych chi neu eich swyddogion wedi siarad â Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot—yr unig ddau awdurdod addysg lleol yng Nghymru sy’n darparu peirianneg Safon Uwch—am eu profiadau? A oes gennych gynlluniau i gael awdurdodau eraill ar draws Gorllewin De Cymru a gweddill Cymru i gynnig y pwnc penodol hwn ar gyfer Safon Uwch?

 

Leighton Andrews: We are currently conducting a qualifications review, which is the responsibility of my colleague the Deputy Minister for Skills. That qualifications review will look at the relevance of qualifications for progression into work and into further and higher learning. In terms of courses leading to higher education degrees in engineering, my view remains the same. Qualifying subjects are, very often, mathematics and physics and, in the case of chemical engineering, chemistry. I am not persuaded that we should be doing any more to promote engineering at A-level.

 

Leighton Andreas: Ar hyn o bryd yr ydym yn cynnal adolygiad o gymwysterau, sy’n gyfrifoldeb i fy nghyd-Aelod y Dirprwy Weinidog Sgiliau. Bydd yr adolygiad hwnnw o gymwysterau yn edrych ar berthnasedd cymwysterau ar gyfer symud ymlaen i waith ac i ddysgu pellach ac uwch. O ran cyrsiau sy’n arwain at raddau addysg uwch mewn peirianneg, mae fy marn yn parhau yr un fath. Yn aml iawn, mae mathemateg a ffiseg yn bynciau cymhwysol, ac yn achos peirianneg gemegol, cemeg. Nid wyf wedi fy argyhoeddi y dylem fod yn gwneud rhagor i hyrwyddo peirianneg ar gyfer Safon Uwch.

 

Perfformiad Ysgolion

School Performance

 

13. Leanne Wood: A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae’n bwriadu sicrhau bod perfformiad ysgolion yn cael ei fonitro yng Nghymru. OAQ(4)0054(ESK)

13. Leanne Wood: Will the Minister outline how he plans to ensure that school performance is monitored in Wales. OAQ(4)0054(ESK)

 

Leighton Andrews: I set up the school standards unit earlier this year to undertake the specific task of monitoring school performance, using approaches such as termly stocktakes with local authority consortia, and capacity and priority reviews. Banding of schools according to the level of support that they need is key to this process.

 

Leighton Andrews: Sefydlais uned safonau ysgolion yn gynharach eleni i ymgymryd â'r dasg benodol o fonitro perfformiad ysgolion, gan ddefnyddio dulliau fel archwiliadau tymhorol gyda chonsortia awdurdodau lleol, ac adolygiadau capasiti a blaenoriaeth. Mae bandio ysgolion yn ôl y lefel o gymorth sydd ei angen arnynt yn allweddol i’r broses hon.

 

Leanne Wood: Minister, recent media reports have highlighted the staunch opposition of teachers to your school banding proposals. Many are left wondering what the difference is between what you are proposing and a school league table. Even if, technically, there are differences, it appears that teachers do not have faith that the end result will be any different. Schools that find themselves at the bottom of a band will fall into a cycle of decline, because of the stigma attached to that ranking. What steps have you taken to address these concerns among teachers?

 

Leanne Wood: Weinidog, mae adroddiadau diweddar yn y cyfryngau wedi tynnu sylw at wrthwynebiad brwd gan athrawon i’ch cynigion i fandio ysgolion. Mae llawer yn pendroni tybed beth yw’r gwahaniaeth rhwng yr hyn yr ydych yn ei gynnig a thabl cynghrair ysgolion. Hyd yn oed os oes gwahaniaethau yn dechnegol, mae’n ymddangos nad oes gan athrawon ffydd y bydd y canlyniad terfynol yn wahanol. Bydd ysgolion sydd ar waelod y band yn disgyn i gylch o ddirywiad, oherwydd y stigma a fydd yn gysylltiedig â’r safle hwnnw. Pa gamau ydych wedi eu cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon hyn gan athrawon?

 

Leighton Andrews: We published the provisional banding for secondary schools a few months ago and we will publish the final banding before Christmas. Banding was a manifesto commitment made by my party. The original banding approach was announced when I was a Minister in the One Wales Government, as part of its programme to turn around school performance. We remain committed to banding; it is different to league tables. In the age of the Freedom of Information Act 2000, you cannot uninvent the media’s right to demand data. The danger, if we do not provide banding information in a proper context—which looks at issues such as value added, what schools are doing to improve performance, and high intakes of pupils receiving free school meals—is that the media will rank all schools in a league table, as The Sunday Times did for schools in England last weekend.

Leighton Andrews: Cyhoeddasom y bandio dros dro ar gyfer ysgolion uwchradd ychydig fisoedd yn ôl a byddwn yn cyhoeddi’r bandio terfynol cyn y Nadolig. Yr oedd bandio yn ymrwymiad maniffesto a wnaeth fy mhlaid. Cyhoeddwyd y dull bandio gwreiddiol pan oeddwn yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru’n Un, fel rhan o’i rhaglen i wyrdroi perfformiad ysgolion. Yr ydym yn parhau’n ymrwymedig i fandio; mae’n wahanol i dablau cynghrair. Yn oes y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ni allwch ddad-ddyfeisio hawl y cyfryngau i fynnu data. Y perygl yw, os nad ydym yn darparu gwybodaeth fandio mewn cyd-destun priodol—sy’n edrych ar faterion fel gwerth ychwanegol, beth mae ysgolion yn ei wneud i wella perfformiad, a chymeriant uchel o ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim—y bydd y cyfryngau yn gosod pob ysgol mewn tabl cynghrair, fel y gwnaeth The Sunday Times gydag ysgolion yn Lloegr y penwythnos diwethaf.

 

2.15 p.m.

 

David Rees: Minister, next month, your department will be issuing bandings for secondary schools across Wales. In my constituency, as I am sure is the case in the constituencies of colleagues across Wales, several schools have special units attached to them with the aim of increasing inclusivity for the pupils within those units. Will you ask your officials to look at the data so that the excellent work that is done by both the staff and pupils within those units is recognised for banding purposes?

David Rees: Weinidog, fis nesaf, bydd eich adran yn cyhoeddi bandio ar gyfer ysgolion uwchradd ledled Cymru. Yn fy etholaeth i, fel yr wyf yn siŵr sy’n wir yn etholaethau cyd-Aelodau ar draws Cymru, mae gan nifer o ysgolion unedau arbennig gyda’r nod o gynyddu cynwysoldeb ar gyfer disgyblion yr unedau hynny. A wnewch chi ofyn i’ch swyddogion edrych ar y data fel bod y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan y staff a’r disgyblion o fewn yr unedau hynny yn cael ei gydnabod at ddibenion fandio?

  

Leighton Andrews: You raise an important point. There will be schools that are working hard to address those issues of inclusivity and will have within them special educational needs units. If we believed that all schools were getting near to their maximum possible performance, that might be a significant factor to be weighed in the banding system, but I think that the majority of schools still have considerable scope to improve performance, and the progress measures that we have put down are a very important part of the banding calculation. Therefore, I am not convinced that this will make a significant difference to the relative banding of a particular school, but I am always open to looking at that issue.

Leighton Andrews: Yr ydych yn codi pwynt pwysig. Bydd yna ysgolion sy’n gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r materion hynny o gynwysoldeb a bydd ganddynt unedau anghenion addysgol arbennig ynddynt. Pe baem yn credu bod pob ysgol yn agosáu at ei pherfformiad gorau posibl, gallai fod yn ffactor sylweddol i’w bwyso yn y system bandio, ond credaf fod dal gan y mwyafrif o ysgolion gryn le i wella eu perfformiad, ac mae’r mesurau cynnydd yr ydym wedi eu gosod yn rhan bwysig iawn o’r cyfrifiad bandio. Felly, nid wyf wedi fy argyhoeddi y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fandio cymharol ysgol benodol, ond yr wyf bob amser yn agored i edrych ar y mater hwnnw.

 

Mark Isherwood: I have been advised that Welsh Government officials informed the north-east Wales headteachers’ conference that funding would be reduced to schools in bands 1 and 2 to support schools in bands 4 and 5, irrespective of levels of disadvantage. As headteachers confirmed to me this week, as far as they understand it, that remains the situation. How, therefore, do you respond to the concern expressed by the headteacher of a high-performing school in band 1 that also has a high proportion of pupils receiving free school meals who feels that his school will be penalised for doing well and that this would force it backwards and that funding should instead be based upon the child?

Mark Isherwood: Yr wyf wedi cael gwybod bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth gynhadledd penaethiaid gogledd-ddwyrain Cymru y byddai arian yn cael ei leihau i ysgolion ym mandiau 1 a 2 i gefnogi ysgolion ym mandiau 4 a 5, gan ddiystyru lefelau amddifadedd. Fel y cadarnhaodd penaethiaid i mi’r wythnos hon, cyhyd ag y maent yn ei deall, dyna yw’r sefyllfa o hyd. Sut, felly, ydych yn ymateb i’r pryder a fynegwyd gan bennaeth ysgol ym mand 1 sy’n perfformio’n dda ac sydd hefyd â chyfran uchel o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim sy’n teimlo y bydd ei ysgol yn cael ei chosbi am wneud yn dda ac y byddai hyn yn ei llusgo yn ôl ac y dylai arian yn hytrach fod yn seiliedig ar y plentyn?

 

Leighton Andrews: We clearly need to improve the performance of all schools and to ensure that all schools are putting systems in place to drive up their performance. There will be a need for additional support for schools that are in bands 4 and 5 and we are currently working through how to give that additional support, which might be, for example, through the allocation to them of system leaders. However, these are issues that need to be established at a regional level with the regional school improvement services that are now being developed. We would expect those regional school improvement services to have systems in place that not only deal with the challenges faced by schools in bands 4 and 5, but provide appropriate support to schools in the upper bands to continue their performance.

Leighton Andrews: Yn amlwg, mae angen i ni wella perfformiad pob ysgol a sicrhau bod pob ysgol yn rhoi systemau ar waith i wella eu perfformiad. Bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar ysgolion sydd ym mandiau 4 a 5 ac ar hyn o bryd yr ydym yn ystyried sut i roi’r cymorth ychwanegol hwnnw. Gellid ei roi, er enghraifft, trwy ddyrannu arweinwyr systemau iddynt. Fodd bynnag, mae’r rhain yn faterion y mae angen penderfynu arnynt ar lefel ranbarthol gyda’r gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol sydd yn cael eu datblygu yn awr. Byddem yn disgwyl i’r gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol hynny feddu ar systemau sydd nid yn unig yn delio â’r heriau sy’n wynebu ysgolion ym mandiau 4 a 5, ond yn rhoi cymorth priodol i ysgolion yn y bandiau uchaf i barhau â’u perfformiad.

                                           

William Powell: Minister, as you will be aware, the cost of public examination entries has been steadily increasing. For instance, the Welsh Joint Education Committee examination board currently charges a minimum of £26.88 per pupil per examination this academic year. Crunching the numbers on that, the figures suggest that the cost for Welsh GCSEs as a whole would be in the order of £10 million a year, before we even consider the cost of AS and A2 examinations. Given the difficult financial climate that our schools face, what steps is the Welsh Government able to take to ensure that this continues to represent good value for money?

William Powell: Weinidog, fel y gwyddoch, mae cost cofrestru ar gyfer arholiadau cyhoeddus wedi bod yn cynyddu’n gyson. Er enghraifft, mae bwrdd arholi Cyd-bwyllgor Addysg Cymru ar hyn o bryd yn codi isafswm o £26.88 y disgybl fesul arholiad yn y flwyddyn academaidd hon. A chrensio’r rhifau ar hynny, mae’r ffigurau yn awgrymu y byddai’r gost ar gyfer TGAU yng Nghymru yn gyffredinol oddeutu £10 miliwn y flwyddyn, cyn i ni hyd yn oed ystyried cost arholiadau UG ac U2. O ystyried yr hinsawdd ariannol anodd mae ein hysgolion yn ei wynebu, pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod hyn yn parhau i gynrychioli gwerth da am arian?

 

Leighton Andrews: You are right to raise the question of the cost of the examining boards, and that is a cost not only for schools but for further education colleges and for us. That is one of the things that I hope will be considered in the context of the qualifications review that is being conducted by the Deputy Minister for Skills.

Leighton Andrews: Yr ydych yn gywir i godi’r cwestiwn am gost y byrddau arholi, ac nid yw hi’n gost i ysgolion yn unig ond hefyd i golegau addysg bellach a ni. Dyna un o’r pethau yr wyf yn gobeithio a fydd yn cael eu hystyried yng nghyd-destun yr adolygiad cymwysterau sy’n cael ei gynnal gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau.

 

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Questions to the Counsel General

 

Cyfiawnder Ieuenctid

Youth Justice

 

1. Jenny Rathbone: A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi ymateb i unrhyw ymgynghoriad ar ran Llywodraeth Cymru yn ymwneud â materion cyfreithiol cyfiawnder ieuenctid. OAQ(4)0017(CGE)

1. Jenny Rathbone: Has the Counsel General responded to any consultations on behalf of the Welsh Government relating to legal matters for youth justice. OAQ(4)0017(CGE)

 

The Counsel General (Theodore Huckle): I have not responded to any consultations in respect of that particular matter.

 

Y Cwnsler Cyffredinol (Theodore Huckle): Nid wyf wedi ymateb i unrhyw ymgynghoriadau ynghylch y mater penodol hwnnw.

 

Jenny Rathbone: What further contact do you propose to have with Law Officers about how changes in youth justice legislation in the UK will impact on the strategy in Wales? I know that many people working in this very important youth justice field are quite concerned about the way in which it could shift the emphasis of their work.

 

Jenny Rathbone: Pa gyswllt pellach ydych yn bwriadu ei gael gyda Swyddogion y Gyfraith am sut y bydd newidiadau mewn deddfwriaeth cyfiawnder ieuenctid yn y DU yn effeithio ar y strategaeth yng Nghymru? Gwn fod llawer o bobl sy’n gweithio ym maes pwysig iawn cyfiawnder ieuenctid yn  pryderu tipyn am y modd y gallai newid pwyslais eu gwaith.

 

Theodore Huckle: It depends on what you mean. There are no immediate plans for me to meet anyone to discuss youth justice, although, as I hope that Members will understand, it is one of the matters upon which I am keeping a careful eye in relation to it being identified as a possible discrete area of devolution of criminal justice, for example. The Member for Cardiff Central will know—because she spoke at this event, which I just attended—of the Institute of Welsh Affairs conference ‘Children First, Offenders Second’ in October, when there was much discussion about that topic. I have met subsequently Mr Kennedy, who currently is head of Wales for the Youth Justice Board for England and Wales, and I am to meet the Director of Public Prosecutions in due course. However, this is all scoping, if I may use that word, because, as Members will know, the First Minister has announced a potential Green Paper and a national discussion, conversation or debate—call it what you will—on which areas it would be appropriate to consider for the devolution of criminal justice.

 

Theodore Huckle: Mae’n dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei olygu. Nid oes unrhyw gynlluniau ar y funud i mi gyfarfod ag unrhyw un i drafod cyfiawnder ieuenctid, er, fel yr wyf yn gobeithio y bydd Aelodau’n ddeall, mae’n un o’r materion yr wyf yn cadw llygad gofalus arno gan iddo gael ei nodi fel maes datganoli ar wahân posibl mewn cyfiawnder troseddol, er enghraifft. Bydd yr Aelod dros Ganol Caerdydd yn gwybod—gan iddi siarad yn y digwyddiad hwn, yr wyf newydd ei fynychu—am gynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig ‘Plant yn Gyntaf, Troseddwyr yn Ail’ ym mis Hydref, pan fu llawer o drafod ar y pwnc hwnnw. Ers hynny yr wyf wedi cwrdd â Mr Kennedy, sydd ar hyn o bryd yn bennaeth Cymru ar gyfer Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, ac yr wyf i fod i gwrdd â’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn y man. Fodd bynnag, cwmpasu yw hyn oll, os caf  i ddefnyddio’r gair hwnnw, oherwydd, fel bydd Aelodau yn gwybod, mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd posibl a thrafodaeth genedlaethol, sgwrs neu ddadl—galwch ef beth a fynnwch—ar y meysydd y byddai’n briodol i’w hystyried ar gyfer datganoli cyfiawnder troseddol.

 

Antoinette Sandbach: If you do respond to the Ministry of Justice consultations on behalf of the Welsh Government, will you adhere to the principles outlined in the 2004 all-Wales youth offending strategy, that young Welsh people held in the secure estate in Wales and England should have their distinct educational needs addressed, in particular with regard to the Welsh language? Can you confirm whether you have had discussions with Ministers with regard to the drafting of the Welsh Labour Government’s response concerning the way in which the effectiveness of the rehabilitation services, which are fully devolved, can be improved, and the unacceptably high rate of reoffending reduced as a matter of urgency?

 

Antoinette Sandbach: Os ydych yn ymateb i ymgynghoriadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ran Llywodraeth Cymru, a fyddwch yn cadw at yr egwyddorion a amlinellir yn y strategaeth troseddwyr ifanc Cymru gyfan, a gyhoeddwyd yn  2004, y dylid mynd i’r afael ag anghenion addysg penodol pobl ifanc Cymru a ddelir ar yr ystâd ddiogel yng Nghymru a Lloegr, yn arbennig o ran yr iaith Gymraeg? A allwch gadarnhau a ydych wedi cael trafodaethau gyda Gweinidogion mewn perthynas â drafftio ymateb Llywodraeth Llafur Cymru ynglŷn â’r ffordd y gellir gwella effeithiolrwydd y gwasanaethau adsefydlu, sydd wedi eu datganoli’n llawn, a lleihau’r gyfradd annerbyniol o uchel o aildroseddu, a hynny ar fyrder?

 

Theodore Huckle: You identify an important distinction. A lot of these matters fall within policy areas for portfolio Ministers, and, in so far as they do, they will be dealt with within those departments. It is only if specific legal aspects arise that I would expect to be asked to comment or advise. There are slightly different considerations in relation to the coming discussion about the devolution of criminal justice matters, potentially, or the devolution of other areas of justice, because, although I will not strictly lead on that, I am likely to be involved very much from a Government point of view in relation to developing that debate, if I can put it that way. Therefore, I may have more to say on the legal aspects of suggestions of that kind. In relation to the specific matters that you raise, essentially they fall within policy areas. It is a feature of youth justice. One of the things that arose in the conference that I have just referred to is that, as I understand it, it is thought that a lot of good work has already been done through the various agencies without devolving youth justice as such. Therefore, the question becomes to what extent Wales should seek to have that area devolved.

Theodore Huckle: Yr ydych yn nodi gwahaniaeth pwysig. Mae llawer o’r materion hyn yn perthyn i feysydd polisi Gweinidogion portffolio, ac, i’r graddau y maent yn gwneud hynny, byddant yn cael eu trin o fewn yr adrannau hynny. Dim ond os oes agweddau cyfreithiol penodol yn codi y byddwn i’n disgwyl cael gwahoddiad i roi sylwadau neu gyngor. Mae ystyriaethau ychydig yn wahanol o ran y drafodaeth sy’n dod am ddatganoli materion cyfiawnder troseddol, o bosibl, neu ddatganoli meysydd eraill o gyfiawnder, oherwydd, er na fyddaf yn arwain ar hynny a bod yn fanwl gywir, yr wyf yn debygol o chwarae rhan flaenllaw o safbwynt y Llywodraeth mewn perthynas â datblygu’r ddadl honno, os gallaf ei ddisgrifio felly. O’r herwydd, efallai y bydd gennyf fwy i’w ddweud am yr agweddau cyfreithiol ar awgrymiadau o’r math hwnnw. O ran y materion penodol yr ydych yn eu codi, yn y bôn, maent yn dod o fewn meysydd polisi. Mae’n nodwedd o gyfiawnder ieuenctid. Un o’r pethau a gododd yn y gynhadledd yr wyf newydd gyfeirio ati yw’r gred, fel y deallaf, fod llawer o waith da wedi ei wneud eisoes drwy’r gwahanol asiantaethau a hynny heb ddatganoli cyfiawnder ieuenctid fel y cyfryw. Felly, y cwestiwn wedyn yw i ba raddau y dylai Cymru fynnu datganoli’r ardal honno.

 

Ymgynghori â Thywysog Cymru

Consultation with the Prince of Wales

 

2. Bethan Jenkins: A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Swyddogion y Gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch y gofynion i ymgynghori â Thywysog Cymru ar ddeddfwriaeth Cymru. OAQ(4)0019(CGE)

 

2. Bethan Jenkins: Has the Counsel General had any discussions with Law officers in the UK Government regarding requirements to consult the Prince of Wales over Welsh legislation. OAQ(4)0019(CGE)

 

Theodore Huckle: I will give you the straight answer first. It is not my intention to make statements about discussions that I have had with UK Law Officers or to disclose the content of any such discussions. However, I am not aware that the consent of the Duke of Cornwall has been required in relation to past Assembly Measures, and I am so far not aware of any future requirements.

 

Theodore Huckle: Rhoddaf yr ateb plaen i chi yn gyntaf. Nid wyf yn bwriadu gwneud datganiadau am y trafodaethau yr wyf wedi’u cael gyda Swyddogion y Gyfraith y DU na datgelu cynnwys unrhyw drafodaethau o’r fath. Fodd bynnag, nid wyf yn ymwybodol bod caniatâd Dug Cernyw wedi bod yn ofynnol mewn perthynas â Mesurau Cynulliad y gorffennol, ac nid wyf yn ymwybodol hyd yn hyn o unrhyw ofynion yn y dyfodol.

 

Bethan Jenkins: Thank you for that answer. In answer to a previous question, the Minister for Finance told my colleague, Leanne Wood, that the Prince of Wales had no influence over Welsh laws, as you have just clarified. While that is welcome news, it remains the case that he is consulted and has a veto over laws made in Westminster on matters affecting his interests in Wales. That, clearly, has the potential to impact on policies made in this place. What representations can you make to your counterparts in Westminster, therefore, to rectify this absurd situation?

 

Bethan Jenkins: Diolch am yr ateb hwnnw. Mewn ateb i gwestiwn blaenorol, dywedodd y Gweinidog Cyllid wrth fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, nad oedd gan Dywysog Cymru unrhyw ddylanwad dros gyfreithiau Cymreig, fel yr ydych newydd egluro. Er bod hynny’n newyddion da, mae’n dal yn wir yr ymgynghorir ag ef a bod ganddo feto dros ddeddfau a wneir yn San Steffan ar faterion sy’n effeithio ar ei fuddiannau yng Nghymru. Mae gan hynny, yn amlwg, botensial i gael effaith ar bolisïau a wneir yn y lle hwn. Pa sylwadau a allwch eu gwneud i’ch cymheiriaid yn San Steffan, felly, i unioni’r sefyllfa hurt hon?

 

Nick Ramsay: Answer that. [Laughter.]

 

Nick Ramsay: Atebwch hynny. [Chwerthin.]

Theodore Huckle: I am going to. The danger in inviting a lawyer into this sort of environment, as you already know from others in the Chamber, is that they can go on for hours about interesting, geeky lawyer things.

 

Theodore Huckle: Fe wnaf. Perygl  gwahodd cyfreithiwr i’r math hwn o amgylchedd, fel yr ydych eisoes yn gwybod oddi wrth bobl eraill yn y Siambr, yw y gallant draethu am oriau am fanylion sy’n ddiddorol i gyfreithwyr.

 

The Presiding Officer: Order. I hope that you are not going to try. [Laughter.]

 

Y Llywydd: Trefn. Gobeithiaf nad ydych yn mynd i roi cynnig arni. [Chwerthin.]

 

Theodore Huckle: I will not do that, no. However, I will identify two specific points that arise. First, we are not a sovereign state in Wales, and everything that we do is under the powers of the Government of Wales Act 2006, and related powers. We fought recently, with some success, to establish the principle that the legislation that Members pass here—and I choose my words carefully, I hope—is on a par with primary legislation emanating from Westminster. However, it is difficult for us to contend, as things stand, that we should be in a better position, in relation to the validity or extension of our legislation, than the Westminster Parliament. That is the first point. I notice that the Presiding Officer wants me to hurry up, so I will make the second point very quickly.

 

Theodore Huckle: Ni wnaf hynny, na. Fodd bynnag, fe wnaf nodi dau bwynt penodol sy’n codi. Yn gyntaf, nid ydym yn wladwriaeth sofran yng Nghymru, ac mae popeth yr ydym yn ei wneud yn disgyn o dan bwerau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a phwerau cysylltiedig. Yn ddiweddar, gyda rhywfaint o lwyddiant, gwnaethom ymladd dros sefydlu’r egwyddor bod y ddeddfwriaeth mae Aelodau yn ei phasio yma—ac yr wyf yn dewis fy ngeiriau’n ofalus, gobeithio—yn gyfartal â deddfwriaeth sylfaenol sy’n deillio o San Steffan. Fodd bynnag, mae’n anodd i ni ddadlau, fel ag y mae pethau, y dylem fod mewn sefyllfa well, o ran dilysrwydd neu estyniad ein deddfwriaeth, na Senedd San Steffan. Dyna’r pwynt cyntaf. Sylwaf fod y Llywydd am i mi frysio, felly gwnaf yr ail bwynt yn gyflym iawn.

 

Under section 114 of the Government of Wales Act 2006 and Standing Order No. 26.67, it is the Duke of Cornwall’s consent that must, in appropriate cases, be sought. That is because the Duke of Cornwall is the heir to the throne, and if there is no Duke of Cornwall—for example, if Prince Charles were to predecease the Queen—the rights of the Duchy of Cornwall would revert to the monarch. Therefore, what we are really talking about is the derived entitlement of the monarch to have a need for consent in relation to legislation that engages her interest. Therefore, it is not Prince Charles as Prince Charles, but the Duke of Cornwall. [Interruption.] I could say more, but I will stop at that point.

 

O dan adran 114 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog Rhif 26.67, mae’n rhaid ceisio caniatâd Dug Cernyw, mewn achosion priodol. Mae hynny oherwydd mai Dug Cernyw yw’r etifedd i’r orsedd, ac os nad oes Dug Cernyw—er enghraifft, pe bai’r Tywysog Charles yn marw cyn y Frenhines—byddai hawliau Dugaeth Cernyw yn dychwelyd i’r teyrn. Felly, yr hyn yr ydym yn wirioneddol yn siarad amdano yw hawl deilliedig y teyrn i fod angen caniatáu deddfwriaeth sy’n ymgysylltu â’i buddiannau. Felly, nid y Tywysog Charles fel y Tywysog Charles sydd yma, ond Dug Cernyw. [Torri ar draws.] Gallwn ddweud rhagor, ond gorffennaf ar y pwynt hwnnw.

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Duties and Responsibilities

 

3. Mick Antoniw: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad yn amlinellu ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau. OAQ(4)0018(CGE)

 

3. Mick Antoniw: Will the Counsel General make a statement outlining his duties and responsibilities. OAQ(4)0018(CGE)

Theodore Huckle: I am a creature of statute, under section 49 of the Government of Wales Act 2006. I am legal adviser to the Welsh Government, but also have certain independent statutory functions. I may take the lead for the Welsh Government on particular matters, as appropriate and if asked, and also meet with other Law Officers, the judiciary, members of the legal profession and others involved in the administration of justice.

 

Theodore Huckle: Creadur statud wyf, o dan adran 49 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Yr wyf yn gynghorydd cyfreithiol i Lywodraeth Cymru, ond mae hefyd gennyf rai swyddogaethau statudol annibynnol. Efallai y byddaf yn arwain ar ran Llywodraeth Cymru ar faterion penodol, fel y bo’n briodol ac os gofynnir imi, ac hefyd yn cyfarfod â Swyddogion y Gyfraith eraill, y farnwriaeth, aelodau o’r proffesiwn cyfreithiol a phobl eraill sy’n ymwneud â gweinyddu cyfiawnder.

 

Mick Antoniw: I will try to ask this as diplomatically as possible. There are concerns over precisely what your functions are and how we hold you, as a member of Government, to account and scrutinise the work of Government. Will you agree to a more substantive and detailed explanation for Members of the Assembly, outlining precisely the sorts of things that you do and the areas where you think we can scrutinise and hold you to account, so that it is clear in our minds at least. You will be aware that there have been questions that have been felt not to have been answered satisfactorily, or which could not be tabled, because there appears to be this uncertainty about precisely what your function is and how that interlinks with our obligation to hold you to account and to scrutinise your work as part of the Government.

 

Mick Antoniw: Byddaf yn ceisio gofyn hyn mor ddiplomyddol ag y bo modd. Mae pryderon dros beth yn union yw eich swyddogaethau a sut yr ydym yn eich dal chi, fel aelod o’r Llywodraeth, i gyfrif a chraffu ar waith y Llywodraeth. A wnewch gytuno i roi esboniad mwy sylweddol a manwl i Aelodau’r Cynulliad, yn amlinellu’n union y math o bethau yr ydych yn eu gwneud a’r meysydd lle’r ydych yn meddwl y gallwn ni graffu arnoch a’ch dal i gyfrif, fel ei bod yn glir yn ein meddyliau ni o leiaf. Byddwch yn ymwybodol y bu cwestiynau lle bu teimlad na chawsant eu hateb yn foddhaol, neu na fu modd eu cyflwyno, oherwydd ymddengys fod yna yr ansicrwydd hwn ynghylch beth yn union yw eich swyddogaeth a sut mae honno’n cydgysylltu â’n rhwymedigaeth i’ch dal chi i gyfrif ac i graffu ar eich gwaith fel rhan o’r Llywodraeth.

 

Theodore Huckle: I am grateful for your question. In principle, I have no difficulty with this idea, and I assure Members that steps are in hand to clarify the position for the benefit of all. Perhaps I should say that, with regard to accountability, I am always keen to qualify that expression, because I will not be accountable in any sense in the same way that Ministers are, but I am accountable under the ministerial code to the Assembly in respect of the functions directly conferred upon me. I understand that to be what I call the ‘independent hat’ functions, under section 62, to make representations, section 67, to act in the courts, section 112, to refer Assembly Bills to the Supreme Court if there is a question as to competence, and possibly also section 149 and Schedule 9, dealing in the courts with devolution issues.

Theodore Huckle: Yr wyf yn ddiolchgar am eich cwestiwn. Mewn egwyddor, nid oes gennyf unrhyw anhawster gyda’r syniad hwn, ac yr wyf yn sicrhau’r Aelodau bod camau ar y gweill i egluro’r sefyllfa er budd pawb. Efallai y dylwn ddweud, o ran atebolrwydd, y mod bob amser yn awyddus i gymhwyso’r ymadrodd hwnnw, oherwydd ni fyddaf yn atebol mewn unrhyw ystyr yn yr un modd â Gweinidogion, ond yr wyf yn atebol o dan y cod gweinidogol i’r Cynulliad mewn perthynas â’r swyddogaethau a roddwyd yn uniongyrchol imi. Deallaf eu bod yr hyn a alwaf yn swyddogaethau’r ‘het annibynnol’, o dan adran 62, i wneud sylwadau, adran 67, i weithredu yn y llysoedd, adran 112, i gyfeirio Biliau’r Cynulliad i’r Goruchaf Lys os oes cwestiwn ynghylch cymhwysedd, ac o bosibl hefyd adran 149 ac Atodlen 9, delio yn y llysoedd â materion datganoli.

 

As I have said before, the distinction is between that side of the role, which is a public-facing and, to that extent, publicly-accountable role, and my role as legal adviser to the Welsh Government, in which respect I am subject to the ordinary constraints of legal professional privilege. There is a third point, which is about meetings with the Law Officers. Again, by the convention that is adopted in all devolved bodies, legislatures and Governments, and like the position of the Attorney-General himself, discussions among Law Officers are not ordinarily disclosable.

 

Fel y dywedais o’r blaen, mae’r gwahaniaeth rhwng yr ochr honno i’r rôl, sydd yn wynebu’r cyhoedd ac, i’r graddau hynny, yn rôl sy’n atebol yn gyhoeddus, a’m rôl fel cynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, lle o ran hynny yr wyf yn ddarostyngedig i gyfyngiadau arferol braint broffesiynol gyfreithiol. Mae trydydd pwynt, sydd ynglŷn â chyfarfodydd gyda Swyddogion Cyfraith. Unwaith eto, yn ôl y confensiwn sy’n cael ei fabwysiadu ym mhob corff datganoledig, deddfwrfeydd a Llywodraethau, ac fel sefyllfa’r Twrnai Cyffredinol ei hun, nid yw trafodaethau ymysg Swyddogion y Gyfraith fel arfer yn cael eu datgelu.

 

William Graham: Could you indicate how many non-devolved legal matters you have responded upon?

William Graham: A allech nodi faint o faterion cyfreithiol heb eu datganoli yr ydych wedi ymateb iddynt?

 

2.30 p.m.

 

Theodore Huckle: The only one so far—there is another question about this in due course, so I do not want to shoot foxes, if I can put it that way—[Laughter.] My mistake; I will move on. It is only an expression. The only one so far is the Commission on a Bill of Rights. It has come to speak to us and has consulted with us—not only with me, but I was included in that process.

 

Theodore Huckle: Yr unig un hyd yn hyn—ac mae cwestiwn arall am hyn maes o law, felly nid wyf eisiau saethu llwynogod, os caf ei roi felly—[Chwerthin.] Fy nghamgymeriad i; symudaf ymlaen. Dim ond ffordd o siarad ydyw. Yr unig un hyd yn hyn yw’r Comisiwn ar Fil Hawliau. Fe ddaeth i siarad ac ymgynghori gyda ni ni—nid yn unig gyda mi, er fy mod i wedi cymryd rhan yn y broses honno.

 

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

Legislative Consent Motion

 

4. Peter Black: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei swyddogaeth o ran rhoi cyngor ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. OAQ(4)0016(CGE)

 

4. Peter Black: Will the Counsel General outline his role in advising on a Legislative Consent Motion. OAQ(4)0016(CGE)

 

Theodore Huckle: Welsh Ministers may seek my advice when a question as to the need for a legislative consent motion in respect of the provisions of a particular Bill arises. My role in advising on LCMs is no different to my role in relation to any other issue on which my advice is sought by Government.

 

Theodore Huckle: Caiff Gweinidogion Cymru ofyn am fy nghyngor pan mae cwestiwn yn codi ynghylch yr angen am gynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â darpariaethau Bil penodol.  Nid yw fy rôl yn cynghori ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn wahanol i fy rôl mewn perthynas ag unrhyw fater arall lle mae’r Llywodraeth yn gofyn am fy nghyngor.

 

Peter Black: There has been some concern about the time that Assembly committees have to scrutinise legislative consent motions, largely due to Westminster timetables and amendments put down to UK Acts of Parliament. Is any part of that delay down to the legal process that you oversee in terms of considering the relevance and the mechanisms by which we need to pass those consent motions and, if it is, can that be speeded up in any way?

 

Peter Black: Bu rhywfaint o bryder ynghylch yr amser sydd gan bwyllgorau’r Cynulliad i graffu ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol, yn bennaf oherwydd amserlenni San Steffan a gwelliannau sydd wedi’u cyflwyno i Ddeddfau Seneddol y DU. A yw unrhyw ran o’r oedi hynny o achos y broses gyfreithiol yr ydych yn ei goruchwylio o ran ystyried y perthnasedd a’r dulliau sydd eu hangen i basio’r cynigion cydsyniad hynny, ac, os hynny, a oes modd cyflymu hynny mewn unrhyw ffordd?

 

Theodore Huckle: The answer is ‘no’.

 

Theodore Huckle: Yr ateb yw ‘nac oes’.

 

Suzy Davies: The ability to scrutinise LCMs, especially at short notice, as happened recently, is inevitably a challenge for Members. Have you had discussions with the Solicitor General for Scotland regarding best practice on ensuring Government transparency in bringing forward LCMs here?

 

Suzy Davies: Mae’r gallu i graffu ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol, yn enwedig ar fyr rybudd, fel y digwyddodd yn ddiweddar, yn anochel yn her i Aelodau. A ydych chi wedi cael trafodaethau gyda Chyfreithiwr Cyffredinol yr Alban ynghylch arfer gorau ar sicrhau tryloywder Llywodraeth wrth gyflwyno’r cynigion cydsyniad deddfwriaethol yma?

 

Theodore Huckle: Again, I am afraid that the question falls foul of the convention to which I have already referred. I am afraid I cannot give either a ‘yes’ or ‘no’ answer. 

 

Theodore Huckle: Unwaith eto, mae arnaf ofn fod y cwestiwn yn tramgwyddo’r confensiwn yr wyf eisoes wedi cyfeirio ato. Yr wyf yn ofni nad wyf yn gallu dweud ‘ydwyf’ neu ‘nac ydwyf’ yn ateb.

 

Bil Hawliau ar gyfer y DU

UK Bill of Rights

 

5. Aled Roberts: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gyfarfod diweddar â’r Comisiwn ar Fil Hawliau Dynol ynglyn â chreu Bil Hawliau ar gyfer y DU. OAQ(4)0020(CGE)

 

5. Aled Roberts: Will the Counsel General provide an update on his recent meeting with the Commission on a Bill of Human Rights regarding the creation of a UK Bill of rights. OAQ(4)0020(CGE)

 

Theodore Huckle: This was an introductory and exploratory meeting in Cardiff on 31 October this year at the commission’s request. The commissioners explained their remit, and I was pleased to note that they stressed the importance that they attach to consulting the devolved administrations and legislatures. I hope that there will be an opportunity for further discussions with them as their ideas take shape. They currently have no proposals upon which our representations are sought.

 

Theodore Huckle: Roedd hwn yn gyfarfod rhagarweiniol ac archwiliadol yng Nghaerdydd ar 31 Hydref eleni ar gais y comisiwn. Eglurodd y comisiynwyr eu cylch gwaith, ac yr wyf yn falch o nodi eu bod yn pwysleisio’r pwysigrwydd y maent yn ei roi ar ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig a deddfwrfeydd.  Yr wyf yn gobeithio y bydd cyfle i gael trafodaethau pellach gyda hwy wrth i’w syniadau gymryd siâp. Ar hyn o bryd nid oes ganddynt unrhyw gynigion lle mae gofyn am ein sylwadau.

 

Aled Roberts: Do you have any concerns regarding the mechanism adopted by the commission with regard to consultation?

 

Aled Roberts: A oes gennych unrhyw bryderon am y fecanwaith a fabwysiadwyd gan y comisiwn o ran ymgynghori?

 

Theodore Huckle: No, I do not express any concern. I think that they, as they put it, are in the early stages of taking soundings and trying to formulate what proposals, if any, they will make.

 

Theodore Huckle: Na, nid oes gennyf unrhyw bryder. Yr wyf yn meddwl eu bod nhw, fel y maent yn ei roi, yn gynnar yn y broses o wrando ar safbwyntiau a cheisio llunio pa gynigion, os o gwbl, y byddant yn eu gwneud.

 

Mark Isherwood: I was with the group of Assembly Members from the Communities, Equality and Local Government committee, along with the chair, Ann Jones, who met the commissioners at the Assembly. They told us that, if there is a UK Bill of rights, it is likely to be different in application across different devolved UK nations. They were interested in asking us about the Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure and Welsh-language legislation from this place. What is your consideration of the impact of these matters and of the dialogue that will be developing to address the matters that they raised with us?

 

Mark Isherwood: Yr oeddwn gyda’r grŵp o Aelodau Cynulliad o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, ynghyd â’r cadeirydd, Ann Jones, a gyfarfu â’r comisiynwyr yn y Cynulliad.  Dywedasant wrthym, os oes Deddf Hawliau Dynol Brydeinig, mae’n debygol o fod yn wahanol yn ei gweithrediad ar draws gwahanol wledydd datganoledig y DU. Yr oedd ganddynt ddiddordeb gofyn inni am Fesur Plant a Phobl Ifanc (Cymru) a deddfwriaeth iaith Gymraeg o’r lle hwn. Beth yw eich ystyriaeth o effaith y materion hyn ac o’r ddeialog a fydd yn datblygu i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gyda ni?

 

Theodore Huckle: I am sure that there is little, if any, difference between us in relation to these matters. It is crucial that the commission takes into account the very particular context of Wales, Welsh culture and the Welsh people in coming to a view as to what proposals it should formulate. I note that its terms of reference are, specifically, to consider proposals to build upon rights afforded under the European convention on human rights. I am happy to have the opportunity to say that publicly, because I am not sure how many members of the general public think that that is its remit.

 

Theodore Huckle: Yr wyf yn siŵr nad oes llawer o wahaniaeth, os o gwbl, rhyngom ni o ran y materion hyn. Mae’n hanfodol bod y comisiwn yn ystyried cyd-destun Cymru yn benodol iawn, diwylliant Cymreig a phobl Cymru wrth ddod i farn ynghylch pa gynigion y dylai eu gwneud.  Nodaf mai ei gylch gorchwyl, yn benodol, yw ystyried cynigion i adeiladu ar hawliau a roddir o dan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Yr wyf yn hapus i gael y cyfle i ddweud hynny yn gyhoeddus, oherwydd nid wyf yn siŵr faint o aelodau o’r cyhoedd sy’n meddwl mai dyna yw ei gylch gorchwyl.

Deddfwriaeth Cymru

 

Welsh Legislation

6. Eluned Parrott: Sut y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod deddfwriaeth Cymru yn gyson â rheolaeth cyfraith. OAQ(4)0014(CGE)

 

6. Eluned Parrott: How will the Counsel General ensure that Welsh legislation is consistent with the rule of law. OAQ(4)0014(CGE)

Theodore Huckle: By Welsh legislation, I assume that you mean legislation from this Assembly. The Government of Wales Act 2006 lays down the Assembly’s legislative competence, including safeguards against Assembly Acts being incompatible with human rights—and with European law, for that matter. I may be asked for advice on a Bill being developed, and I can, as I have already mentioned, refer a Bill to the Supreme Court if I have concerns that it may be outside competence.

 

Theodore Huckle: Yr wyf yn cymryd bod ‘deddfwriaeth Cymru’ yn golygu deddfwriaeth o’r Cynulliad hwn. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn pennu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, gan gynnwys mesurau diogelu i sicrhau nad yw Deddfau’r Cynulliad yn anghydnaws â hawliau dynol—ac â chyfraith Ewrop, o ran hynny. Efallai y gofynnir i mi am gyngor ar Fil sy’n cael ei ddatblygu, a gallaf, fel yr wyf wedi ei grybwyll eisoes, gyfeirio Bil i’r Goruchaf Lys os oes gennyf bryderon y gallai fod tu allan i gymhwysedd.

 

Eluned Parrott: Given the fact that, within the doctrine, ignorance of the law is no defence, access to reliable information on legislation that applies to Wales is obviously vital to the people of Wales. Will you give us an update on progress towards developing a Welsh statute book as announced previously?

 

Eluned Parrott: O ystyried y ffaith nad yw anwybodaeth o’r gyfraith yn amddiffyniad o fewn yr athrawiaeth, mae mynediad at wybodaeth ddibynadwy am ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru yn amlwg yn hanfodol i bobl Cymru. A wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at ddatblygu llyfr statud i Gymru fel y cyhoeddwyd yn flaenorol inni?

 

Theodore Huckle: As I outlined in my statement to the Assembly last month, we are seeking to develop concrete proposals to ensure that there is free and easy access to the legislative provisions and more in relation to the law affecting the citizens of Wales on the part of all the citizens of Wales, including, but not necessarily, for the benefit of the lawyers.

 

Theodore Huckle: Fel yr amlinellais yn fy natganiad i’r Cynulliad y mis diwethaf, yr ydym yn ceisio datblygu cynigion pendant i sicrhau bod mynediad am ddim a hawdd i’r darpariaethau deddfwriaethol a mwy mewn perthynas â’r gyfraith sy’n effeithio ar ddinasyddion Cymru ar ran holl ddinasyddion Cymru, gan gynnwys, ond nid o reidrwydd, er budd y cyfreithwyr.

 

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor

Orders in Council

 

7. Peter Black: Beth yw swyddogaeth y Cwnsler Cyffredinol wrth roi cyngor ar Orchmynion a wnaed yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. OAQ(4)0015(CGE)

 

7. Peter Black: What is the Counsel General’s role in advising on Orders in Council made under section 109 of the Government of Wales Act 2006. OAQ(4)0015(CGE)

Theodore Huckle: These Orders in Council are made by Her Majesty in council, and there is no formal statutory role for me in the making of them. I will, if asked to do so, advise the Welsh Government on proposals to seek an Order.

 

Theodore Huckle: Mae’r Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor hyn yn cael eu gwneud gan Ei Mawrhydi yn y cyngor, ac nid oes rôl statudol ffurfiol i mi wrth eu gwneud.  Byddaf, os gofynnir imi wneud hyn, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar gynigion i ofyn am Orchymyn.

 

Peter Black: Thank you for that answer. You will know that the Government has issued a consultation on presumed consent and that questions have been raised in relation to whether it impinges on non-devolved powers, such as whether the collection of organs comes under Schedule 7 to the Government of Wales Act 2006, and the role of the NHS Blood and Transplant and the Human Tissue Authority, which are non-devolved bodies. Do you anticipate that the Government will have to apply for an Order under section 109 to be able to carry this legislation through?

 

Peter Black: Diolch am yr ateb hwnnw. Byddwch yn gwybod bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ganiatâd tybiedig, a bod cwestiynau wedi cael eu codi mewn perthynas ag pa un a yw’n amharu ar bwerau sydd heb eu datganoli, megis a yw’r casgliad o organau yn dod o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a rôl Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG a’r Awdurdod Meinweoedd Dynol, sy’n gyrff nad ydynt wedi’u datganoli. A ydych yn rhagweld y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth wneud cais am Orchymyn o dan adran 109 i allu cario’r ddeddfwriaeth hon drwyddo?

 

Theodore Huckle: No, not at present.

 

Theodore Huckle: Nac ydw, nid ar hyn o bryd.

 

Cynnig i Ddiwygio’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y Refferendwm ar Bwerau’r Cynulliad
Motion to Amend Standing Orders following the Assembly Powers Referendum

 

Cynnig NDM4849 Rosemary Butler

 

Motion NDM4849 Rosemary Butler

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad—Gorchmynion adran 109’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2011;

 

1. Considers the Report of the Business Committee ‘Proposed amendments to Standing Orders following the Assembly powers referendum – Section 109 Orders’ laid in the Table Office on 9 November 2011;

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B o Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

2. Approves the proposal to revise the Standing Orders, as set out in Annex B of the Report of the Business Committee.

Peter Black: I move the motion.

Peter Black: Cynigiaf y cynnig.

 

The Presiding Officer: The proposal is to agree the motion. Are there any objections? I see that there are not. The motion is agreed, in accordance with Standing Order 12.36.

 

Y Llywydd: Y cynnig yw derbyn y cynnig.  A oes unrhyw wrthwynebiad?  Gwelaf nad oes.  Mae’r cynnig wedi’i dderbyn, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Derbyniwyd y cynnig.

Motion agreed.

 

Cynnig i Gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012-13
Motion to Approve the Assembly Commission’s Budget 2012-13

 

Cynnig NDM4851 Angela Burns

 

Motion NDM4851 Angela Burns

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

 

To propose that the National Assembly for Wales in accordance with Standing Order 20.16:

 

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012-13, fel y pennir yn Nhabl 5 o’r ddogfen ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cynigion Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2012-13’, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2011 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

 

Agrees the budget of the Assembly Commission for 2012-13, as specified in Table 5 of the ‘National Assembly for Wales Assembly Commission Budget Proposals 2012-13’, laid before the Assembly on 9 November 2011 and that it be incorporated in the Annual Budget Motion under Standing Order 20.26 (ii).

Angela Burns: I move the motion.

 

Angela Burns: Cynigiaf y cynnig.

 

I welcome the opportunity to move the motion on the Assembly Commission’s budget for 2012-13 and ask for it to be incorporated in the annual budget motion. The Commission proposes a net resource budget of £46.9 million.

 

Yr wyf yn croesawu’r cyfle i gynnig y cynnig ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012-13 ac yn gofyn iddi gael ei hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol. Mae’r Comisiwn yn cynnig cyllideb adnoddau net o £46.9 miliwn.  

 

As Assembly Members, we are all concerned with outcomes. We want to ensure that delivery is achieved in the most efficient and cost-effective manner. The same rings true for the Commission. We have a number of goals: to provide outstanding parliamentary support; to engage with the people of Wales; to promote Wales; and to use our resources wisely. They all lead to one overriding outcome for the Assembly, which is that, by the end of this fourth Assembly, this parliamentary body will be cemented into the hearts and minds of the people of Wales. No longer will there be confusion between our role and that of Westminster. We will have demonstrated the strength of our democratic model.

 

Fel Aelodau o’r Cynulliad, yr ydym i gyd yn ymwneud â chanlyniadau. Yr ydym eisiau sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gyflawni yn y dull mwyaf effeithlon a chost-effeithiol. Mae’r un peth yn wir am y Comisiwn. Mae gennym nifer o nodau: i ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf; i ymgysylltu â phobl Cymru; i hyrwyddo Cymru; ac i ddefnyddio ein hadnoddau yn ddoeth. Maent i gyd yn arwain at un canlyniad hollbwysig am y Cynulliad, sef, erbyn diwedd y pedwerydd Cynulliad, y bydd hwn yn gorff seneddol yn ddwfn yng nghalonnau a meddyliau pobl Cymru. Ni fydd dryswch mwyach rhwng ein rôl ni a gwaith San Steffan. Byddwn wedi dangos cryfder ein model democrataidd.

 

As Assembly Members, we have additional powers and responsibilities for huge sums of money. We impact on the lives of the people of Wales in personal ways, through health, education and jobs, and we are absolutely accountable to them. It is the task of the Commission to ensure that you, the elected Members who constitute this parliamentary body, have the outstanding support that you need to deliver on this accountability. It is more important than ever that Assembly Members have the tools at their disposal to hold the Government and other public bodies to account. It is equally important for individual Assembly Members to be able to access the support they need to put forward their own legislation and to perform their constituency tasks.

 

Fel Aelodau o’r Cynulliad, mae gennym bwerau a chyfrifoldebau ychwanegol am symiau enfawr o arian. Yr ydym yn effeithio ar fywydau pobl Cymru mewn ffyrdd personol, drwy iechyd, addysg a swyddi, ac yr ydym yn gwbl atebol iddynt. Tasg y Comisiwn yw sicrhau eich bod chi, Aelodau etholedig sy’n ffurfio’r corff seneddol hwn, yn meddu ar y cymorth rhagorol sydd ei angen arnoch i gyflawni’r atebolrwydd hwn. Mae’n bwysicach nag erioed bod gan Aelodau’r Cynulliad yr offer ar gael iddynt i ddal y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill i gyfrif. Mae’r un mor bwysig i Aelodau Cynulliad unigol allu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen i gyflwyno eu deddfwriaeth eu hunain ac i gyflawni eu tasgau etholaeth.

 

It is also our task, as a Commission, to not only provide that outstanding parliamentary support, but to engage with the people of Wales and the wider national and international community while using all of our resources as wisely and effectively as possible. We intend to invest in Members and their staff, in Assembly staff and in the Assembly estate to ensure that we achieve those goals and our primary outcome. However, we are extremely mindful of the economic landscape that we are in, and we believe that we have constructed a budget for this Assembly that will enable us to do that.

 

Mae hefyd yn dasg i ni, fel Comisiwn, nid yn unig i ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf, ond i ymgysylltu â phobl Cymru a’r gymuned genedlaethol a rhyngwladol ehangach wrth ddefnyddio pob un o’n hadnoddau mor ddoeth ac effeithiol â phosibl. Yr ydym yn bwriadu buddsoddi mewn Aelodau a’u staff, yn staff y Cynulliad ac yn ystâd y Cynulliad er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r nodau hynny a’n prif ganlyniad. Fodd bynnag, yr ydym yn hynod o ymwybodol o’r tirlun economaidd yr ydym ynddo, ac yr ydym yn credu ein bod wedi adeiladu cyllideb ar gyfer y Cynulliad hwn a fydd yn ein galluogi i wneud hynny.

 

The Chair of the Finance Committee will be speaking next with regard to the committee’s report on our draft budget, and the Commission welcomes the support of the committee for the overall proposals we have set out. We accept fully the committee’s recommendation to introduce those proposals on a phased basis, and, accordingly, we have changed our final budget in response to that recommendation. Specifically, we have reduced the level of budget increase planned for next year by 1.3 per cent. New investments next year will be funded through savings and reprioritisation of existing resources. We will also accelerate the efficiency savings.

 

Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn siarad nesaf am adroddiad y pwyllgor ar ein cyllideb ddrafft, ac mae'r Comisiwn yn croesawu cefnogaeth y pwyllgor am y cynigion cyffredinol yr ydym wedi eu nodi. Rydym yn derbyn yn llwyr argymhelliad y pwyllgor i gyflwyno’r cynigion hynny yn raddol, ac, yn unol â hynny, yr ydym wedi newid ein cyllideb derfynol mewn ymateb i’r argymhelliad hwnnw. Yn benodol, yr ydym wedi lleihau lefel y cynnydd yn y gyllideb a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf o 1.3 y cant. Bydd buddsoddiadau newydd yn y flwyddyn nesaf yn cael eu hariannu drwy arbedion ac ail-flaenoriaethu adnoddau presennol. Byddwn hefyd yn cyflymu arbedion effeithlonrwydd.

 

Next year’s budget does increase, but only to meet fixed and unavoidable costs of £2.3 million. The total amount of public expenditure controlled by the National Assembly is around £15 billion. Almost all of this funds the delivery of public services in Wales in the light of the decisions of the Welsh Government. Just 0.3 per cent of the Welsh block grant is used to fund the cost of running this Assembly, and this Assembly will still cost less to run next year than it did three years ago. As a Commission, we looked at funding the fixed and unavoidable further increases by additional cost savings. However, we believe that to do so, in addition to the saving of 6 per cent made by the Commission last year, would have a direct impact on the ability of Members to fulfil their roles as elected representatives. Therefore, I ask Members to support this motion. Thank you.

 

Mae cyllideb y flwyddyn nesaf yn cynyddu, ond dim ond i gwrdd â chostau sefydlog ac anorfod o £2.3 miliwn. Cyfanswm y gwariant cyhoeddus a reolir gan y Cynulliad Cenedlaethol yw tua £15 biliwn. Mae bron pob punt yn ariannu darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yng ngoleuni penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Dim ond 0.3 y cant o grant bloc Cymru sy’n cael ei ddefnyddio i ariannu costau rhedeg y Cynulliad hwn, a bydd y Cynulliad hwn yn dal yn costio llai i’w redeg y flwyddyn nesaf nag yr oedd dair blynedd yn ôl. Fel Comisiwn, buom yn edrych ar ariannu’r cynnydd pellach sefydlog ac na ellir ei osgoi drwy arbedion cost ychwanegol. Fodd bynnag, credwn y byddai gwneud hynny, yn ychwanegol at arbedion o 6 y cant a wnaed gan y Comisiwn y llynedd, yn cael effaith uniongyrchol ar allu’r Aelodau i gyflawni eu rolau fel cynrychiolwyr etholedig. Felly, gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r cynnig hwn.  Diolch.

 

Paul Davies: Yr wyf yn traddodi’r araith hon ar ran Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Yn anffodus, nid yw’r Cadeirydd yn gallu bod yma oherwydd profedigaeth yn y teulu. Yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau am ymuno â mi i anfon ein cydymdeimlad ati.

Paul Davies: I make this speech on behalf of the Chair of the Finance Committee. Unfortunately, she cannot be present today due to a bereavement in the family. I am sure that Members will join me in sending condolences to her.

 

Yr wyf am gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r clerc a’i staff am y gefnogaeth y maent yn ei darparu i ni fel aelodau o’r Pwyllgor Cyllid. Mae’n briodol inni ddechrau drwy gydnabod y rhan hanfodol y mae Comisiwn y Cynulliad yn ei chwarae wrth ein helpu ni, fel Aelodau’r Cynulliad, i gyflawni ein dyletswyddau, i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, i wneud deddfau i Gymru ac i wasanaethu pobl Cymru.

 

I wish to take the opportunity to thank the clerk and her staff for the support they give to us as a Finance Committee. It is appropriate for us to begin by recognising the vital role the Assembly Commission performs in helping us, as Assembly Members, in undertaking our duties, holding the Welsh Government to account, making laws and serving the people of Wales.

 

Wedi dweud hynny, yr oedd y Pwyllgor Cyllid yn pryderu bod cynigion cyllideb ddrafft wreiddiol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012-13, mewn cyfnod o gynildeb economaidd, yn gwneud cais am gynnydd cyffredinol o 6.4 y cant ar gyllideb 2011-12. Yr oeddem yn cydymdeimlo â barn Comisiwn y Cynulliad fod cyllideb 2011-12 wedi cael ei thorri’n ormodol. Ond, ar ôl ystyried yn ddwys, daethom i’r casgliad y byddai’n fwy priodol i gyllideb Comisiwn y Cynulliad gael ei chodi fesul cam dros gyfnod o ddwy neu dair blynedd. Yr ydym yn ddiolchgar bod y Comisiwn wedi derbyn ein hargymhelliad, ac yn nodi’r ymdrechion a wnaed i fynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd yn ein hadroddiad. Yn benodol, sylwaf fod y cynnydd arfaethedig yng nghyfanswm yr amcangyfrif ar gyfer 2012-13 wedi’i ostwng i 5.1 y cant.

 

Having said that, the Finance Committee was concerned about the original draft budget proposals for 2012-13, which, during a period of economic austerity, requested an overall increase of 6.4 per cent on its 2011-12 budget. We were sympathetic to the Assembly Commission’s view that its 2011-12 budget had been cut too deeply. However, after much deliberation, we considered that it would be more appropriate for the Assembly Commission’s budget to be increased on a phased basis over two to three years. We are grateful that the Commission has accepted our recommendations, and we note the efforts that have been made to address the concerns raised in our report. Specifically, I noticed that the proposed increase in the total estimate for 2012-13 has been reduced to 5.1 per cent.

 

Mae’r gostyngiad hwn wedi cael ei hwyluso yn rhannol gan gynnydd Comisiwn y Cynulliad yn ei dargedau effeithlonrwydd i sicrhau arbedion pellach o £100,000. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Comisiwn ddarparu rhagor o fanylion am sut y mae’n disgwyl sicrhau’r arbedion pellach hyn. Yr wyf hefyd yn croesawu gwaredu llinell yn y gyllideb ddrafft wreiddiol o £500,000 ar gyfer cronfa ailstrwythuro. Disodlwyd hyn gan linell o £162,000 ar gyfer gwella capasiti proffesiynol, sy’n arbediad o £338,000. Disgrifiwyd y gronfa ailstrwythuro wreiddiol i ni fel un a fyddai’n darparu arian ar gyfer cynllun diswyddo gwirfoddol posibl. Yr oedd ein hadroddiad yn cynghori’r Comisiwn nad oedd defnyddio arian i redeg cynllun diswyddo gwirfoddol arall yn ymddangos fel pe bai’n gweddu i’r amcan a nodwyd, sef darparu mwy o wasanaethau a chyngor arbenigol i Gynulliad sydd â mwy o bwerau deddfu. Yn hytrach na diswyddo staff, awgrymwyd gennym y dylai’r Comisiwn geisio adleoli ac ailhyfforddi staff mewn meysydd lle mae eu hangen. Yr wyf yn falch ei bod yn ymddangos fel pe bai’r Comisiwn wedi ystyried ein sylwadau wrth ddiwygio’r gyllideb.

 

This reduction has been partly facilitated by the Assembly Commission increasing its efficiency targets to secure further savings of £100,000. I would be grateful if the Commission could provide further detail on how it expects to secure these additional savings. I also welcome the removal of a line in the original draft budget of £500,000 for a restructuring fund. This has been replaced with a line of £162,000 for improving professional capacity, representing a saving of £338,000. The original restructuring fund was described to us as one that would provide funds for a potential voluntary severance scheme inter alia. In our report, we advised the Commission that using funds to run another voluntary severance scheme did not appear compatible with its stated objective of providing greater specialist advice and services to an Assembly with greater law-making powers. We suggested that, rather than make staff redundant, the Commission should seek to redeploy and retrain them in areas of need. I am pleased that the Commission appears to have taken our recommendations on board in revising its budget.

 

I gloi, edrychaf ymlaen at wella eto ar y safonau uchel a osodwyd gan y Comisiwn yn sgîl buddsoddi mewn adnoddau ychwanegol dros y ddwy neu dair blynedd nesaf. Byddwn, fodd bynnag, yn parhau i fonitro’r buddsoddiadau hyn ac yn adolygu’r cynigion cyllidebol a ddarperir gan y Comisiwn yn y dyfodol.

 

To conclude, I look forward to the high standards set by the Commission only improving with the investment of additional resources over the next two to three years. However, we will continue to monitor these investments and will review the budgetary proposals provided by the Commission in future.

2.45 p.m.

 

Angela Burns: I thank the Finance Committee for its careful consideration of the Commission’s budget and for its support for our overall proposals. I also welcome the input from Members over the past few weeks on the budget that has been circulated. We will, of course, be more than happy to provide details of further savings and I will be keeping the Assembly informed on a regular basis. We believe that this budget is one of investment in the fourth Assembly, for the benefit of Wales and her people. I commend it to Members.

 

Angela Burns: Diolch i’r Pwyllgor Cyllid am ei ystyriaeth ofalus o gyllideb y Comisiwn ac am ei gefnogaeth i’n cynigion cyffredinol. Yr wyf hefyd yn croesawu mewnbwn Aelodau yn ystod yr wythnosau diwethaf ar y gyllideb sydd wedi’i chylchredeg. Byddwn ni, wrth gwrs, yn fwy na pharod i roi manylion arbedion pellach a byddaf yn parhau i roi gwybodaeth i’r Cynulliad yn rheolaidd. Yr ydym yn credu bod y gyllideb hon yn un sy’n buddsoddi yn y pedwerydd Cynulliad, er lles Cymru a’i phobl. Fe’i cymeradwyaf i’r Aelodau.

The Presiding Officer: The proposal is that the motion be agreed. Is there any objection? I see that there is not. In accordance with Standing Order No. 12.36, I therefore declare the motion agreed.

 

Y Llywydd: Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei gytuno. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf nad oes. Yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36, yr wyf felly’n datgan bod y cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig.

Motion agreed.

 

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair am 2.46 p.m.
The Deputy Presiding Officer took the Chair at 2.46 p.m.

 

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Welsh Conservatives Debate

 

Yr Economi
The Economy

 

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Peter Black a gwelliant 2 yn enw Jocelyn Davies.

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendment 1 in the name of Peter Black and amendment 2 in the name of Jocelyn Davies.

 

Cynnig NDM4852 William Graham

 

Motion NDM4852 William Graham

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

To propose that the National Assembly for Wales:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu’r sector preifat yng Nghymru i dyfu;

 

1. Calls on the Welsh Government to assist the private sector in Wales to grow;

 

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i wella’r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru drwy:

 

2. Urges the Welsh Government to improve the conditions for economic growth in Wales by:

 

a. gwella seilwaith a sgiliau;

 

a. improving infrastructure and skills;

 

b. darparu eglurder ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r economi;

 

b. providing clarity on Welsh Government support for the economy;

 

c. hybu mewnfuddsoddiad i Gymru a chefnogi allforion Cymru; a

 

c. encouraging inward investment into Wales and supporting Welsh exports; and

 

3. Yn nodi y bydd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys i gael arian Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd am y trydydd tro.

3. Notes that West Wales & the Valleys is set to qualify for European Structural Funds for a third time.

 

Nick Ramsay: I move the motion.

 

Nick Ramsay: Cynigiaf y cynnig.

I am pleased to move this motion that is focused on the issue of economic growth. We have tabled this debate today because we believe that economic growth should be fundamental to everything we do and to every policy that the Welsh Government puts in place. Let us face it; if we cannot make money as a country, we cannot spend money, unless we create huge borrowing problems, which we have had nationally in the past and currently. We cannot spend it on the public sector, on public services or on those areas that would assist the private sector to grow. Therefore, it is important that we use resources at this moment in time to support the private sector and economic growth in Wales.

 

Yr wyf yn falch o gynnig y cynnig hwn, sy’n canolbwyntio ar dwf economaidd. Yr ydym wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw oherwydd ein bod yn credu y dylai twf economaidd fod yn sylfaenol i bopeth a wnawn ac i bob polisi y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith. Gadewch i ni ei hwynebu hi; os na allwn wneud arian fel gwlad, ni allwn wario arian, oni bai ein bod yn creu problemau benthyca enfawr, fel yr ydym wedi’u cael yn genedlaethol yn y gorffennol ac sydd gennym ar hyn o bryd. Ni allwn ei wario ar y sector cyhoeddus, ar wasanaethau cyhoeddus nac ar y meysydd hynny a fyddai’n cynorthwyo’r sector preifat i dyfu. Felly, mae’n bwysig ein bod yn defnyddio adnoddau ar hyn o bryd i gefnogi’r sector preifat a thwf economaidd yng Nghymru.

 

Sadly—and I wish it was not the case—we do not have a great track record of this in Wales. If you look at successive Welsh Governments over the last 10 years, you will see that there has been a failure overall to lift Wales up from the bottom of the UK economic league. Sadly, that has not been for want of investment. We all know that, over that period of time, billions of pounds have been spent, but the sort of economic gains we would like to have seen have not been realised. I am not saying that there is not a move now towards evaluating outcomes: in all committees that Members sit on, there is now a big move towards recognising the importance of evaluating spending and ensuring that, at a time when the economic situation is difficult, the maximum amount of benefit is gained from each pound that is spent.

 

Yn anffodus—a byddai’n dda gennyf pe bai pethau’n wahanol—nid oes gennym record wych ar hyn yng Nghymru. Os ydych yn edrych ar Lywodraethau Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf, gwelwch y bu methiant cyffredinol i godi Cymru i fyny o waelod cynghrair economaidd y DU. Yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd oherwydd diffyg buddsoddi. Yr ydym i gyd yn gwybod, yn ystod y cyfnod hwnnw, y cafodd biliynau o bunnoedd eu gwario, ond ni wireddwyd y math o enillion economaidd y byddem wedi hoffi eu gweld. Nid wyf yn dweud nad oes symudiad yn awr tuag at asesu canlyniadau: ym mhob pwyllgor mae’r Aelodau yn eistedd arno, mae yna bellach symudiad mawr tuag at gydnabod pwysigrwydd gwerthuso gwariant a sicrhau, ar adeg pan fo’r sefyllfa economaidd yn anodd, fod y budd mwyaf posibl yn dod o bob punt sy’n cael ei gwario.

 

Let us get to the point. We need to support, promote and nurture business. That will be key to increasing our economic growth rate. I have had a number of useful discussions with the Minister about this since she took up her role. There are certain areas that we agree on, but other areas where we would like to have seen more action earlier. However, there is definitely a need to nurture business. I often talk about promoting business, but I think that ‘nurture’ is a better word. I think that it really goes to the heart of what we need to do in Wales, because, by virtue of longstanding history, Wales traditionally has not been as good a place to do business as other parts of the UK. Therefore, businesses here need support, particularly in the early days. Smaller businesses need particular support to ensure that they are fit for purpose to meet the challenges of the modern world.

 

Gadewch i ni gyrraedd y pwynt. Mae angen i ni gefnogi, hyrwyddo a meithrin busnes. Bydd hynny’n allweddol er mwyn cynyddu cyfradd ein twf economaidd. Yr wyf wedi cael nifer o drafodaethau defnyddiol gyda’r Gweinidog am hyn ers iddi ddechrau ei swydd. Mae yna rai meysydd yr ydym yn cytuno arnynt, ond mae meysydd eraill lle y byddem wedi hoffi gweld mwy o weithredu yn gynharach. Fodd bynnag, yn bendant, mae angen meithrin busnes. Byddaf yn aml yn siarad am hybu busnes, ond yr wyf yn credu bod ‘meithrin’ yn air gwell. Credaf ei bod yn wir yn mynd at wraidd yr hyn sydd angen i ni ei wneud yng Nghymru, oherwydd, o ystyried ein hanes, nid yw Cymru yn draddodiadol wedi bod cystal lle i wneud busnes â rhannau eraill o’r DU. Felly, mae’r busnesau sydd yma angen cefnogaeth, yn enwedig yn y dyddiau cynnar. Mae angen cymorth penodol ar fusnesau llai i sicrhau eu bod yn gallu cwrdd â heriau’r byd modern.

 

We are having this debate today in the Assembly Chamber in Cardiff, in an area that, let us not forget, not that long ago, was in need of massive regeneration. It would have been hard to imagine just 30 or 40 years ago—20 years, even—that we would be in this place and that the Cardiff bay development would have happened. Around £2 billion of public money has been spent on Cardiff bay since the mid-1980s and, aside from certain criticisms, there has been recognition of broad success here in terms of the regeneration agenda. I am pleased to see that the Minister with responsibility for regeneration is here with us. Money has to be targeted and this is more important than ever at a time when resources are limited overall. This means that the Government must prioritise. Yesterday, we had the initial debate on the budget, during which a number of concerns were expressed, because the opposition parties do not believe that that prioritisation has happened in a way that will support business today or in the future.

 

Yr ydym yn cael y ddadl hon heddiw yn Siambr y Cynulliad yng Nghaerdydd, mewn ardal, gadewch inni beidio ag anghofio, heb fod mor bell â hynny yn ôl, a oedd angen tipyn o adfywio. Byddai wedi bod yn anodd dychmygu dim ond 30 neu 40 mlynedd yn ôl—20 mlynedd, hyd yn oed—y byddem yn y lle hwn ac y byddai datblygiad bae Caerdydd wedi digwydd. Mae tua £2 biliwn o arian cyhoeddus wedi cael ei wario ar fae Caerdydd ers canol y 1980au ac, ar wahân i ambell feirniadaeth, cafwyd cydnabyddiaeth y bu llwyddiant eang yma o ran yr agenda adfywio. Yr wyf yn falch o weld bod y Gweinidog sy’n gyfrifol am adfywio yma gyda ni. Mae’n rhaid targedu arian ac mae hyn yn bwysicach nag erioed ar adeg pan fo adnoddau’n gyfyngedig yn gyffredinol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r Llywodraeth flaenoriaethu. Ddoe, cawsom y drafodaeth gychwynnol ar y gyllideb, pan gafodd nifer o bryderon eu mynegi, gan nad yw’r gwrthbleidiau yn credu bod y blaenoriaethu hwnnw wedi digwydd mewn ffordd a fydd yn cefnogi busnes heddiw neu yn y dyfodol.

 

We also have to get rid of hostility and any perceived hostility to private enterprise. Members might say that that hostility does not exist—[Interruption.] I had a recent meeting with entrepreneurs and I have also met the Minister, who knows full well that the perception is that there is hostility, and there has been hostility towards the private sector in Wales over a long period of time. [Interruption.] I am not making a purely party-political point; do not worry, Alun. I am talking about an issue that has been around for a long time and that we need to address, although I will admit that it has grown worse over your tenure.

 

Rhaid i ni hefyd gael gwared â gelyniaeth ac unrhyw elyniaeth dybiedig i fenter breifat. Gallai Aelodau ddweud nad yw’r elyniaeth honno yn bodoli—[Torri ar draws.] Cefais gyfarfod yn ddiweddar gydag entrepreneuriaid ac yr wyf hefyd wedi cwrdd â’r Gweinidog, sy’n gwybod yn iawn mai’r canfyddiad yw bod gelyniaeth, a bu gelyniaeth tuag at y sector preifat yng Nghymru dros gyfnod hir o amser. [Torri ar draws.] Nid wyf yn gwneud pwynt pleidiol yn unig; peidiwch â phoeni, Alun. Yr wyf yn sôn am fater sydd wedi bod o gwmpas ers amser hir ac sydd angen i ni roi sylw iddo, er fy mod yn cyfaddef ei fod wedi gwaethygu yn ystod eich cyfnod chi mewn Llywodraeth.

 

I know that the Minister was pleased to attend the meeting with entrepreneurs that I attended recently, at which a number of problems were raised. We have to face the fact that there were some areas on which their views were prejudiced, but the Minister combatted some of those prejudices in that meeting. However, there are other long-seated concerns about improving that interface between business and the Welsh Government. In the modern world and in light of the difficult economic situation, we have to accept that the Government has to be very fast-moving. When businesses want support, the Government has to be able to move very quickly, within the blink of an eye, to provide that support. Sadly, when the Welsh Development Agency was got rid of and that work was brought in-house, that was lost and that nimbleness went. We have to ensure that, in the gap that has been created, there is a mechanism in place so that businesses feel that they can access the Welsh Government and that they can access funding and, when they cannot get funding, they are made aware of the decision straight away so that they do not have to waste their time and can look elsewhere.

 

Gwn yr oedd y Gweinidog yn falch o fynychu’r cyfarfod gydag entrepreneuriaid a fynychais yn ddiweddar, lle codwyd sawl problem. Mae’n rhaid i ni wynebu’r ffaith yr oedd rhai meysydd lle’r oedd eu barn yn rhagfarnllyd, ond llwyddodd y Gweinidog i wrthsefyll rhai o’r rhagfarnau hynny yn y cyfarfod hwnnw. Fodd bynnag, mae pryderon hirsefydlog eraill ynghylch gwella’r rhyngwyneb rhwng busnes a Llywodraeth Cymru. Yn y byd modern ac yn wyneb y sefyllfa economaidd anodd, mae’n rhaid i ni dderbyn bod yn rhaid i’r Llywodraeth symud yn chwim iawn. Pan fydd busnesau angen cymorth, rhaid i’r Llywodraeth allu symud yn chwim iawn, mewn amrantiad, i ddarparu’r gefnogaeth honno. Yn anffodus, pan gafwyd gwared ar Awdurdod Datblygu Cymru a throsglwyddwyd y gwaith yn fewnol, fe gollwyd hynny ac aeth yr ystwythder. Mae’n rhaid i ni sicrhau, yn y bwlch sydd wedi ei greu, fod yna fecanwaith yn bodoli fel bod busnesau yn teimlo y gallant gael gafael ar Lywodraeth Cymru ac y gallant gael gafael ar gyllid a phan na allant gael arian eu bod yn cael gwybod am y penderfyniad yn syth fel nad oes rhaid iddynt wastraffu eu hamser a gallant edrych mewn mannau eraill.

 

I know that, as soon as I sit down—or before I sit down, judging by shrieks from Members on the opposite side of the Chamber—there will be criticism and questions will be asked regarding what positive suggestions we have to make—I can see the Minister agreeing that that was going to be in her speech. Let us consider the positive things that can be done. We have talked about clarity, which is necessary. All of the opposition parties spoke yesterday about the need for clarity in the budget negotiations and in the enterprise and business portfolio in particular. While the Enterprise and Business Committee welcomed certain moves, such as the enterprise zones and the additional sectors such as construction and tourism that have been included, there was a lack of clarity in terms of the specific budget allocations, because it seemed to be a moveable feast and a work in progress. We look to the Minister to provide that clarity, because businesses need clarity more than any other area of Welsh life. They need to know very quickly if what they want to do is viable. They need that advice and they need to know that the Government’s budget will support the sort of infrastructure they need if they are to get where they want to be.

 

Gwn, cyn gynted ag yr wyf yn eistedd i lawr—neu cyn i mi eistedd i lawr, a barnu wrth sgrechian Aelodau ar ochr arall y Siambr—y bydd beirniadaeth a gofynnir cwestiynau ynghylch pa awgrymiadau cadarnhaol sydd gennym—gallaf weld y Gweinidog yn cytuno yr oedd hynny yn mynd i fod yn rhan o’i haraith. Gadewch i ni ystyried y pethau cadarnhaol y gellir eu gwneud. Yr ydym wedi siarad am eglurder, sy’n angenrheidiol. Siaradodd pob un o’r gwrthbleidiau ddoe am yr angen am eglurder yn y trafodaethau ar y gyllideb ac yn y portffolio menter a busnes yn benodol. Tra bod y Pwyllgor Menter a Busnes wedi croesawu rhai camau, fel yr ardaloedd menter a’r sectorau ychwanegol fel adeiladu a thwristiaeth sydd wedi cael eu cynnwys, yr oedd diffyg eglurder o ran y dyraniadau penodol yn y gyllideb, oherwydd ei bod yn ymddangos fel gwledd symudol a gwaith sy’n mynd rhagddo. Disgwyliwn i’r Gweinidog ddarparu’r eglurder hwnnw, oherwydd mae busnesau angen eglurder yn fwy nag unrhyw faes arall o fywyd Cymru. Mae angen iddynt wybod yn gyflym iawn os yw’r hyn y maent am ei wneud yn hyfyw. Mae arnynt angen y cyngor hwnnw ac mae angen iddynt wybod y bydd cyllideb y Llywodraeth yn cefnogi’r math o seilwaith sydd ei angen arnynt os ydynt i gyrchu at eu nod.

 

I would like to mention the £55 million investment that was announced on the radio this morning. I was disappointed about that, Minister, as I do not know why this cannot be the forum where large announcements on investment are made. It seems that, too often, Governments pander to the media. I accept that this Chamber might not get the same viewing figures as Strictly Come Dancing, but you cannot have everything in life—and I am not inviting the Minister to dance in her response. It is very sad that, less and less often, the Chamber is seen as the forum for such announcements. I hope that we will hear an explanation as to why the Minister made that announcement in the way that she did.

 

Hoffwn sôn am y buddsoddiad o £55 miliwn a gyhoeddwyd ar y radio’r bore yma. Yr oeddwn yn siomedig ynglŷn â hynny, Weinidog, gan nad wyf yn gwybod pam nad y fan hon yw’r fforwm lle gall y cyhoeddiadau mawr ar fuddsoddiad gael eu gwneud. Mae’n ymddangos bod Llywodraethau, yn rhy aml, yn boddio’r cyfryngau. Derbyniaf na fydd y Siambr hon yn cael yr un ffigurau gwylio â Strictly Come Dancing, ond ni allwch gael popeth mewn bywyd—ac nid wyf yn gwahodd y Gweinidog i ddawnsio yn ei hymateb. Mae’n drist iawn mai yn llai a llai aml y mae’r Siambr yn cael ei gweld fel y fforwm ar gyfer cyhoeddiadau o’r fath. Yr wyf yn gobeithio y byddwn yn clywed esboniad ynghylch pam gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad hwnnw yn y fath fodd.

 

Investment is welcome, as are enterprise zones, but there are other ways in which business could be directly supported, which would result in economic growth. As a party, we have said that we would implement much more direct support for businesses in the form of a reduction in business rates. We have made that case repeatedly. I welcome the fact that the Minister has announced a review of business rates. I know that she has taken on board many solid Welsh Conservative ideas over the last few months and I am more than happy to meet her to discuss a few more solid ideas. We have a very good working relationship and I am more than happy to provide a few more ideas to help to get Wales out of the hole that it has found itself in during the last couple of years.

 

Mae buddsoddi i’w groesawu, fel y mae ardaloedd menter, ond mae ffyrdd eraill o gefnogi busnes yn uniongyrchol, a fyddai’n arwain at dwf economaidd. Fel plaid, yr ydym wedi dweud y byddem yn gweithredu llawer mwy o gefnogaeth uniongyrchol i fusnesau ar ffurf gostyngiad mewn trethi busnes. Yr ydym wedi gwneud yr achos dros hynny dro ar ôl tro. Croesawaf y ffaith fod y Gweinidog wedi cyhoeddi adolygiad o ardrethi busnes. Gwn ei bod wedi derbyn llawer o syniadau sylweddol y Ceidwadwyr Cymreig dros y misoedd diwethaf, ac yr wyf yn fwy na pharod i gwrdd â hi i drafod ychydig mwy o syniadau sylweddol. Mae gennym berthynas waith dda iawn ac yr wyf yn fwy na pharod i roi ychydig mwy o syniadau i helpu i gael Cymru allan o’r twll y mae wedi cael ei hun ynddo yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

 

This debate is all-important because, without economic growth as a basis, all of the other issues that we raise here are pie in the sky. If a Government cannot make money, then it cannot spend money. This is a truth that some Members in the Chamber—and I am not looking at anyone in particular—often seem not to prioritise. However, this is essential if we are going to move on as a country. I give way to Ken Skates.

 

Mae’r ddadl hon yn hollbwysig oherwydd, heb dwf economaidd fel sail, breuddwyd gwrach yw’r holl faterion eraill yr ydym yn eu codi yma. Os na all y Llywodraeth wneud arian, yna ni all wario arian. Mae hwn yn wirionedd y mae rhai Aelodau yn y Siambr—ac nid wyf yn edrych ar neb yn benodol—yn aml yn ymddangos i beidio â blaenoriaethu. Fodd bynnag, mae hyn yn hanfodol os ydym yn mynd i symud ymlaen fel gwlad. Ildiaf i Ken Skates.

 

Kenneth Skates: I thank the Member for allowing me to speak. In terms of the global economy and economic development, would he agree that it is essential that we have a top-level domain for Wales that can help us brand the country to the world?

 

Kenneth Skates: Diolch i’r Aelod am ganiatáu i mi siarad. O ran yr economi fyd-eang a datblygiad economaidd, a fyddai ef yn cytuno ei bod yn hanfodol bod gennym barth lefel uchaf i Gymru a all ein helpu i frandio’r wlad i’r byd?

Nick Ramsay: That is a very good point, Ken. I agree with it, and I think that I know the company to which you refer, which has been more successful than some others in making bids. You are exactly right: we have to be present in cyberspace. We have to work for Wales to compete in the modern world. We have to be there at the cutting edge. Your point is spot on, and I accept what you say.

  

Nick Ramsay: Mae hwnnw’n bwynt da iawn, Ken. Yr wyf yn cytuno ag ef, ac yr wyf yn meddwl fy mod yn gwybod pa gwmni y cyfeiriwch ato, sydd wedi bod yn fwy llwyddiannus na rhai eraill wrth wneud ceisiadau. Yr ydych yn hollol gywir: mae’n rhaid i ni fod yn bresennol yn y seiberofod. Mae’n rhaid i ni weithio fel bod Cymru yn cystadlu yn y byd modern. Mae’n rhaid i ni fod yno ar flaen y gad. Mae eich pwynt yn hollol gywir a derbyniaf yr hyn a ddywedwch.

 

Minister, in conclusion, I look forward to hearing what you have to say later on how you intend to support economic growth and business. I would like it if you could give us assurances that, in future, major announcements on investment decisions will be made to this Chamber. It is the democratic forum for Wales and it is necessary that Assembly Members are given a chance to provide input and scrutiny.

 

Weinidog, i gloi, edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud yn nes ymlaen ar sut yr ydych yn bwriadu cefnogi twf economaidd a busnes. Hoffwn pe gallech roi sicrwydd y caiff, yn y dyfodol, gyhoeddiadau pwysig ar benderfyniadau buddsoddi eu gwneud i’r Siambr hon. Dyma fforwm democrataidd Cymru ac mae’n angenrheidiol bod Aelodau’r Cynulliad yn cael cyfle i roi mewnbwn a chraffu.

 

Gwelliant 1 Peter Black

Amendment 1 Peter Black

 

Dileu is-bwyntiau 2a, 2b a 2c a rhoi yn eu lle:

 

Delete sub-points 2a, 2b and 2c and replace with:

 

a) gwella seilwaith a sgiliau drwy sefydlu rhaglen arloesi i ddatblygu’r seilwaith modern a’r sgiliau lefel uchaf y mae eu hangen ar gyfer economi fodern;

 

a) improving infrastructure and skills through establishing an innovation programme to develop the modern infrastructure and top-level skills required for a modern economy;

 

b) rhoi eglurder ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r economi drwy leihau cyfanswm nifer y rheoliadau sydd ar fusnesau Cymru, gan gynnwys defnyddio cymalau machlud, dull un i mewn un allan, i reoliadau newydd;

 

b) providing clarity on Welsh Government support for the economy by reducing the total number of regulations on Welsh businesses, including the use of sunset clauses a one-in-one-out approach to new regulations;

 

c) cydnabod y bydd sector preifat llwyddiannus yn dibynnu ar fewnfuddsoddiad a busnesau sydd wedi’u creu yng Nghymru; a

 

c) acknowledging that a successful private sector will rely on both inward investment and home-grown businesses; and

 

d) darparu rhaglen gymorth well i fusnesau newydd Cymru, gan gynnwys undeb credyd busnesau a Chyfnewidfa Stoc Cymru.

 

d) providing a better programme of support for new Welsh businesses, including a business credit union and a Welsh Stock Exchange.

 

Eluned Parrott: I move amendment 1 in the name of Peter Black.

 

Eluned Parrott: Cynigiaf welliant 1 yn enw Peter Black.

Clearly, the economy is the biggest issue of the moment. However, I am starting to get a sense of déjà vu, so I would like to thank the Member for Monmouth for his injection of humour into proceedings, whether intentional or not. I clearly recall describing a previous Tory business motion as a skinny dog, and here I am feeding the proverbial chicken soup to the poor beast through our amendments. It is all well and good to call on the Government to do something, but while the Conservatives have given us the ‘what’, we are still missing the ‘how’.

 

Yn amlwg, yr economi yw’r mater mwyaf ar hyn o bryd. Fodd bynnag, yr wyf yn dechrau cael ymdeimlad o déjà vu, felly hoffwn ddiolch i’r Aelod dros Fynwy am ei chwistrelliad o hiwmor i drafodion, boed yn fwriadol ai peidio. Gallaf gofio yn glir y bu imi ddisgrifio cynnig busnes blaenorol gan y Torïaid fel ci tenau, a dyma fi’n bwydo’r cawl cyw iâr diarhebol i’r bwystfil druan drwy ein gwelliannau. Mae’n ddigon hawdd i alw ar y Llywodraeth i wneud rhywbeth, ond tra bod y Ceidwadwyr wedi dweud ‘beth’ wrthym, mae’r ‘sut’ dal ar goll.

 

Nick Ramsay: I can assure the Member that she is just as funny as me in her own particular way.

 

Nick Ramsay: Gallaf sicrhau’r Aelod ei bod hi’r un mor ysmala â mi yn ei ffordd arbennig ei hun.

 

Eluned Parrott: Thank you very much, Nick. I will not inquire as to whether you mean ‘funny ha-ha’ or ‘funny peculiar’; it is probably best not to go there.

 

Eluned Parrott: Diolch yn fawr iawn, Nick. Ni holaf a ydych yn golygu ‘doniol’ ynteu ‘od’ wrth ddweud ‘ysmala’; mae’n debyg ei bod yn well gadael y mater.

 

As I said, I move amendment 1 to put flesh on the bones—if you will forgive me for labouring this particularly sad metaphor—of the motion that is in front of us. In point (a) of our amendment, we suggest the creation of an innovation programme. Many bemoan the loss of business to economies where labour is cheap. However, we are really missing out at the other end. Truly successful economies build on innovation and their ability to translate those good ideas into good businesses. In establishing an innovation programme, we would seek to achieve several things to keep the best minds here in Wales, in order to develop new ideas and patents for existing businesses and to help us create new businesses and spin-out companies. Those are important things that we can aim for. In 2010, Wales had a ratio of approximately 44,000 people for every patent application. A ratio of 44,000:1 is not great when you compare it to a ratio of 23,000:1 in England and a ratio of 31,000:1 in Scotland.  We need to build on this if we are to grow a high-skill innovative economy for the future.

 

Fel y dywedais, cynigiaf welliant 1 i roi cnawd ar esgyrn—maddeuwch imi am orddefnyddio’r trosiad arbennig o drist hwn—y cynnig sydd ger ein bron. Ym mhwynt (a) ein gwelliant, yr ydym yn awgrymu creu rhaglen arloesi. Mae llawer yn cwyno am golli busnes i economïau lle mae llafur yn rhad. Fodd bynnag, yr ydym yn wir yn colli allan ar y pen arall. Mae economïau gwirioneddol lwyddiannus yn adeiladu ar arloesedd a’u gallu i drosi’r syniadau da hynny yn fusnesau da. Wrth sefydlu rhaglen arloesi, byddem yn ceisio cyflawni nifer o bethau i gadw’r meddyliau gorau yma yng Nghymru, er mwyn datblygu syniadau a phatentau newydd i fusnesau sy’n bodoli eisoes ac i’n helpu i greu busnesau newydd a chwmnïau deilliedig. Mae’r rheini’n bethau pwysig y gallwn anelu atynt. Yn 2010, yr oedd gan Gymru gymhareb o tua 44,000 o bobl ar gyfer pob cais am batent. Nid yw cymhareb o 44,000:1 yn wych pan fyddwch yn ei chymharu â chymhareb o 23,000:1 yn Lloegr a chymhareb o 31,000:1 yn yr Alban.  Mae angen i ni adeiladu ar hyn os ydym i dyfu economi arloesol â sgiliau lefel uwch ar gyfer y dyfodol.

 

In point (b) of our amendment, we turn to the idea of business regulations. Of course, we hear about the issue of red tape a lot from small businesses. This affects small businesses disproportionately because they do not necessarily have the administrative support to help them navigate the relevant processes and procedures. An example of this is the recent plastic bag levy. While we applaud the purpose and success of the legislation in terms of reducing carrier bag use, it is true that a number of small businesses have been in contact to say that they worry about the management of additional red tape. We must ensure that any new regulation that we add is not the straw that breaks the camel’s back. As you know, the UK Government has introduced an unprecedented moratorium on new domestic regulation for microbusinesses and start-ups for the next three years. I would welcome a similar approach here in these very difficult times.

 

Ym mhwynt (b) ein gwelliant, trown at y syniad o reoliadau busnes. Wrth gwrs, clywn llawer am fiwrocratiaeth gan fusnesau bach. Mae hyn yn effeithio ar fusnesau bach yn anghymesur gan nad ydynt o reidrwydd yn cael y gefnogaeth weinyddol i’w helpu i lywio drwy’r prosesau a’r gweithdrefnau perthnasol. Un enghraifft o hyn yw’r ardoll bagiau plastig diweddar. Er ein bod yn canmol pwrpas a llwyddiant y ddeddfwriaeth o ran lleihau’r defnydd o fagiau siopa, mae’n wir bod nifer o fusnesau bach wedi bod mewn cysylltiad i ddweud eu bod yn poeni am reoli biwrocratiaeth ychwanegol. Rhaid i ni sicrhau nad yw unrhyw reoliad newydd yr ydym yn ei ychwanegu yn bennog gyda phwn sy’n torri asgwrn cefn ceffyl. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno moratoriwm digynsail ar reoleiddio domestig newydd ar gyfer microfusnesau a busnesau newydd dros y tair blynedd nesaf. Byddwn yn croesawu dull tebyg yma yn y cyfnod anodd iawn hwn.

 

In terms of inward investment, I think that we would do well to remember the words of Admiral’s chief operating officer, who spoke about it being better to bring 25 Admirals to Wales than one LG. Time and again we have seen that companies that are mobile enough to follow a trail of breadcrumbs to Wales are mobile enough to leave again when those crumbs dry up. We therefore end up in a situation where we have to continue to grant support to these companies in order to keep those jobs in Wales. Home-grown businesses can provide extra and more sustainable jobs that are based in and come from our communities. Increasing patents and innovation fuels that as well but, surely, the best approach for Wales is to look at a more balanced approach to inward investment and home-grown businesses.

O ran mewnfuddsoddi, yr wyf yn meddwl y byddai’n dda i ni ddwyn i gof eiriau prif swyddog gweithredol Admiral, a ddywedodd ei bod yn well i ddod â 25 o Admirals i Gymru nag un LG. Dro ar ôl tro yr ydym wedi gweld bod cwmnïau sy’n ddigon ystwyth i ddilyn llwybr o friwsion bara i Gymru yn ddigon ystwyth i adael eto pan fydd y briwsion hynny yn dod i ben. Byddwn felly mewn sefyllfa o orfod parhau i gynorthwyo’r cwmnïau hyn er mwyn cadw’r swyddi hynny yng Nghymru. Gall busnesau cynhenid ​​ddarparu swyddi ychwanegol a mwy cynaliadwy sy’n cael eu lleoli yn ein cymunedau ac sy’n dod o’r mannau hynny. Mae cynyddu patentau ac arloesedd yn hybu hynny yn ogystal, ond mae’n rhaid taw’r dull gorau i Gymru fyddai edrych ar agwedd fwy cytbwys tuag at fewnfuddsoddi a busnesau cynhenid.

 

3.00 p.m.

 

Finally, we must recognise that, while banks are not lending to small businesses, we in Wales need a not-for-profit business credit union to get things moving. We can at least help business start-ups to become the medium-sized and large businesses of the future in this way. I note the Minister’s announcement this morning of funding for small businesses, which I welcome. You will be pleased to know, I am sure, that I have already cascaded that information to some of the small businesses that I am in touch with. I would welcome seeing further details in due course so that we can continue to help those businesses in that way. I would also say that the private sector does not necessarily want to feel dependent on the public sector for funding, so the establishment of an arm’s-length organisation, such as a credit union, may benefit them in that regard, as might the idea of establishing a Welsh stock exchange for slightly more developed businesses.

 

Yn olaf, mae’n rhaid i ni gydnabod, pan nad yw banciau yn benthyca i fusnesau bach, mae angen undeb credyd dielw ar gyfer busnes arnom ni yng Nghymru i gael pethau i symud. Gallwn o leiaf helpu busnesau newydd i ddod yn fusnesau canolig eu maint a busnesau mawr y dyfodol yn y ffordd hon. Nodaf gyhoeddiad y Gweinidog y bore yma o gyllid ar gyfer busnesau bach, a chroesawaf hynny. Byddwch yn falch o wybod, yr wyf yn sicr, fy mod eisoes wedi rhannu’r wybodaeth honno â rhai o’r busnesau bach yr wyf mewn cysylltiad â nhw. Byddwn i’n falch o weld rhagor o fanylion maes o law fel y gallwn ni barhau i helpu’r busnesau hynny yn y ffordd honno. Byddwn i hefyd yn dweud nad yw’r sector preifat o reidrwydd eisiau teimlo yn ddibynnol ar y sector cyhoeddus am arian, felly byddai sefydlu corff hyd braich, fel undeb credyd, efallai o fudd yn hynny o beth, yn yr un modd â’r syniad o sefydlu cyfnewidfa stoc Gymreig ar gyfer busnesau wedi datblygu ychydig yn fwy.

 

A vibrant, modern economy is what we all seek to build for Wales, and I bring these suggestions to the Chamber in the hope that some of them may be of assistance in getting us there.

 

Yr ydym i gyd yn ceisio adeiladu economi fodern fywiog ar gyfer Cymru, ac yr wyf yn dod â’r awgrymiadau hyn i’r Siambr gan obeithio y bydd rhai ohonynt o gymorth i ni gyrraedd y fan honno.

Gwelliant 2 Jocelyn Davies

Amendment 2 Jocelyn Davies

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen buddsoddi cyfalaf gynhwysfawr ledled Cymru.

Calls on the Welsh Government to bring forward a comprehensive pan Wales capital investment programme.

 

Alun Ffred Jones: Cynigiaf welliant 2 yn enw Jocelyn Davies.

 

Alun Ffred Jones: I move amendment 2 in the name of Jocelyn Davies.

 

Ni ddaw’r gwelliant hwn yn sioc i neb, gan ein bod wedi sôn am hyn yn gyson yn y misoedd diwethaf. Y cefndir i hyn yw’r lefelau diweithdra uchel iawn a gyhoeddwyd ar draws Prydain ac yng Nghymru yn benodol, lle mae’r ffigur erbyn hyn cynddrwg ag yr oedd yn ystod chwalfa’r marchnadoedd rai blynyddoedd yn ôl. Mae’r ffigurau diweddaraf yn ein dychryn, ac mae’r ffigurau ar gyfer pobl ifanc hefyd yn frawychus, gan ddangos bod angen gweithredu ar fyrder o fewn galluoedd y Llywodraeth hon.

 

This amendment will come as no surprise to anyone, as we have mentioned this consistently over the past few months. The background to this is the very high unemployment levels announced across Britain and specifically in Wales, where the figure is now as bad as it was when the markets collapsed a few years ago. The most up to date figures are frightening for us, and the figures for youth unemployment are also shocking, and show that action needs to be taken as a matter of urgency within the powers of the Government here.

 

Cyfeiriwn yn benodol at gael rhaglen buddsoddi cyfalaf i Gymru. Credaf fod angen cyhoeddiad am hyn cyn gynted ag y bo modd, gan fod y diwydiant adeiladu wedi dweud wrthym ar fwy nag un achlysur ei bod yn bwysig iddo weld beth yn union yw graddfa rhaglen y Llywodraeth a pha gynlluniau sydd ganddi dan sylw, fel y gall cwmnïau ddysgu pa fath o gytundebau y byddent yn cynnig amdanynt. Nid oes sicrwydd y byddent yn ennill, wrth gwrs, ond o leiaf byddent yn gwybod beth sydd ar gael. Mae hynny’n eithriadol o bwysig i gwmnïau canolig eu maint drwy Gymru. Yr wyf yn ymwybodol iawn o gwmnïau o’r fath yn fy ardal i sy’n byw o’r llaw i’r genau y dyddiau hyn.

 

We refer specifically to a capital investment programme for Wales. I think that we need an announcement to that end as soon as possible, because the construction industry has told us on more than one occasion that it is extremely important for it to see the exact scale of the Government programme and what schemes it has in mind, so that companies can work out what sorts of contracts to tender for. There is no guarantee that they will be successful, of course, but they would at least know what is likely to be available. That is extremely important for medium-sized enterprises across Wales. I am very aware of such companies in my own area that are living hand to mouth in the current climate.

Mae’r oedi wrth gyhoeddi’r rhaglen yn ddychryn o gofio ein bod chwe mis i mewn i gyfnod y Llywodraeth. Pa gyhoeddiad bynnag a wneir yr wythnos nesaf—yr wyf yn croesawu hynny’n fawr—yn anffodus, oherwydd bod adolygiad yn mynd rhagddo, oherwydd y gohirio mewn adrannau eraill a thra bo’r Gweinidog addysg yn disgwyl ceisiadau newydd ar gyfer ysgolion yr ugeinfed ganrif ar hugain, ofnaf na fydd y cyhoeddiad yn bodloni’r diwydiant yn llwyr. Serch hynny, yr ydym yn y lle yr ydym, a derbyniaf hynny. Fel y dywedais, mae’n bwysig bod gennym gynllun cynhwysfawr a fydd yn golygu bod gwaith yn digwydd ar hyd a lled Cymru.

 

The delay in announcing such a programme is shocking, bearing in mind that we are six months into this Government. Whatever announcement is made next week—I very much welcome that—unfortunately, because of the ongoing review and the delays in other departments, and while the Minister for education awaits new bids for twenty-first century schools, I fear that the announcement will not satisfy the industry as a whole. However, we are where we are, and I accept that. As I said, it is important that we have a comprehensive programme that will mean that work takes place across Wales.

Trof at fater perthnasol arall, sef cyfalaf, sy’n gyfyngedig erbyn hyn ac sy’n lleihau o flwyddyn i flwyddyn oherwydd toriadau Llywodraeth Llundain. Dyna pam y dywedodd Plaid Cymru yn ystod yr etholiad y byddem am sefydlu cwmni hyd braich Adeiladu dros Gymru a fyddai’n denu arian o’r marchnadoedd i ychwanegu at gronfeydd y Llywodraeth, gyda’r pwrpas o ddatblygu ein hisadeiledd a’n strwythur er budd uniongyrchol i’r economi ac i fywyd cyhoeddus yn y tymor hir. Mae’n ddiddorol bod mwy a mwy o gyrff ac unigolion yn pregethu erbyn hyn fod angen y math hwnnw o gorff neu gwmni hyd braich er mwyn gwneud iawn am y diffyg gwario gan y Llywodraeth. Yn ddiddorol, yr oeddwn yn sylwi bod hyd yn oed Llywodraeth Llundain erbyn hyn yn sôn am greu cronfa o’r fath er mwyn denu arian o’r farchnad i gyflawni gwaith cyhoeddus, o gofio bod PFI wedi bod yn gymaint o drychineb, yn enwedig o dan Lywodraeth Lafur Prydain ar ôl iddi wrthwynebu’r holl gynllun i ddechrau, gan ei fod mor gostus. Yr wyf yn falch ein bod wedi bod yn rhan o atal hynny rhag digwydd yng Nghymru.

 

I now turn to another relevant issue, namely capital, which is now limited and which is shrinking year on year because of cuts imposed by the Government in London. That is why Plaid Cymru said during the election campaign that we would be in favour of the establishment of an arm’s-length company, Build for Wales, which would bring funds in from the markets to bolster the Government’s own funds, with the aim of developing our infrastructure for the direct benefit of the economy and public life in the long term. It is interesting that more and more organisations and individuals are saying that we need that sort of arm’s-length company in order to compensate for the absence of Government spending. Interestingly, I notice that even the Government in London is now talking of the creation of such a fund in order to attract money from the markets to undertake public works, bearing in mind that PFI has been such a disaster, particularly under the UK Labour Government, after it had opposed the scheme in the first place because of the high costs involved. I am pleased that we played our part in preventing that here in Wales.

Mae’n rhaid inni hefyd edrych yn ofalus ar yr holl broses pwrcasu a thendro. Nid oes atebion hawdd yn y maes hwn, ond yr ydym yn credu bod angen codi’r ffigur o tua 50 y cant o’r cytundebau presennol yn mynd i gwmnïau o Gymru, a hynny heb dramgwyddo rheolau Ewropeaidd. Mae’r cynlluniau fframwaith presennol yn faen tramgwydd i gwmnïau canolig eu maint. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn clymu cytundebau cyhoeddus yn y broses dendro gyda hyfforddiant a chreu prentisiaethau. Mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd mewn rhai lleoedd; yn sicr, mae wedi digwydd yn Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn fy rhan i o’r byd, ac mae hynny’n bwysig. 

 

We must also look carefully at the whole tendering and procurement process. There are no easy answers in this area, but we must raise the level of tenders going to Welsh companies from its current 50 per cent, without falling foul of European rules. The current framework structures are a barrier to medium-sized enterprises in Wales. It is also important that we tie public contracts in the tender process with training and apprenticeships. That already happens in some places; it has certainly happened with Cartrefi Cymunedol Gwynedd in my part of the world, and it is important.

Byron Davies: It gives me great pleasure to support this motion in the name of my colleague William Graham. However, it gives me no great pleasure to look at the record of the Labour Welsh Government in securing investment into our economy or, indeed, its handling of our economy. The verdict on this Government’s handling of our economy is damning; successive Welsh Labour-led Governments have failed to lift Wales from the bottom of the UK economic league table, despite spending billions.

 

Byron Davies: Mae’n bleser mawr gennyf gefnogi’r cynnig hwn yn enw fy nghyd-Aelod William Graham. Fodd bynnag, nid wyf yn cael pleser mawr o edrych ar record Llywodraeth Lafur Cymru yn sicrhau buddsoddiad yn ein heconomi neu, yn wir, sut mae wedi rheoli ein heconomi ni. Mae’r dyfarniad ar sut mae’r Llywodraeth hon wedi rheoli ein heconomi yn ddamniol; mae Llywodraethau olynol dan arweiniad Llafur Cymru wedi methu â chodi Cymru o waelod tabl cynghrair economaidd y DU, er iddynt wario biliynau.

 

You have completely failed to improve the conditions for business—just ask the Federation of Small Businesses in Wales. You need to deal with your hostility to wealth creators in the private sector; after all, they are the entrepreneurs who create long-term sustainable employment, and they need your support. Wales’s infrastructure, skills, regulation and planning systems are flawed, and further progress needs to be made on them.

 

Yr ydych wedi methu yn llwyr i wella amodau ar gyfer busnes—holwch y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru. Mae angen i chi fynd i’r afael â’ch gelyniaeth tuag at y rheini sy’n creu cyfoeth yn y sector preifat; wedi’r cyfan, nhw yw’r entrepreneuriaid sy’n creu cyflogaeth gynaliadwy yn yr hirdymor, ac mae angen eich cefnogaeth arnynt. Mae systemau seilwaith, sgiliau, rheoleiddio a chynllunio Cymru yn ddiffygiol, ac mae angen gwneud cynnydd pellach arnynt.

 

It is a matter of great shame to our nation that successive Labour Governments have left west Wales and the Valleys in such poverty, and that these areas are set to qualify for a third round of European funds. When will you wake up and use the funds available to grow the Welsh economy and genuinely help people across these areas, instead of providing window dressing?

Mae’n fater o gywilydd mawr i’n cenedl bod Llywodraethau Llafur olynol wedi gadael gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn y fath dlodi a bod yr ardaloedd hyn yn mynd i fod yn gymwys ar gyfer trydedd rownd o gronfeydd Ewropeaidd. Pryd fyddwch yn deffro a defnyddio’r cyllid sydd ar gael i dyfu economi Cymru ac i wir helpu pobl ledled yr ardaloedd hyn, yn lle gwneud sioe?

 

We had a typical socialist outburst in the Chamber yesterday from Mark Drakeford in response to constructive contributions from these benches. In response to calls from our side for more investment for economic growth, he proclaimed that we were being disingenuous and accused us of the politics of posturing.

 

Cawsom ffrwydrad sosialaidd nodweddiadol yn y Siambr ddoe gan Mark Drakeford mewn ymateb i gyfraniadau adeiladol o’r meinciau hyn. Mewn ymateb i alwadau gan ein hochr ni am fwy o fuddsoddi ar gyfer twf economaidd, cyhoeddodd ein bod yn bod yn annidwyll a’n cyhuddo ni o wleidyddiaeth ymhongar. 

 

Mark Drakeford: Will you give way?

 

Mark Drakeford: A wnewch chi ildio?

 

Byron Davies: No, I have too much to say at the moment. [Assembly Members: ‘Oh.’] This is from a member of a Government that has taken the people of west Wales and the Valleys for a 12-year ride down a garden path of shame and sham. Frankly, I think that posturing belongs firmly on that side of the Chamber. 

Byron Davies: Na, mae gennyf ormod i’w ddweud ar hyn o bryd. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]. Dywedwyd hyn gan aelod o’r Llywodraeth sydd wedi camarwain pobl gorllewin Cymru a’r Cymoedd drwy 12 mlynedd o gywilydd a ffugio. A dweud y gwir, credaf mai’r ochr honno i’r Siambr sy’n bod yn ymhongar. 

 

I realise that, being an opposition politician, some may shrug these statements off as a natural line of attack for the official opposition. However, evidence shows that spending by Labour-led Welsh Governments on economic development more than doubled between 2000 and 2006, from £224 million to £516 million, with little to show for it. Again, it paints a picture of complete incompetence rather than a lack of funding—a common theme in Wales. An independent analysis by the Confederation of British Industry estimates that £5 billion of public money was spent on economic development between 2001 and 2010. We have little to show in measurable outcomes for this.

Sylweddolaf, a minnau’n wleidydd yn yr wrthblaid, efallai y bydd rhai yn diystyru’r datganiadau hyn fel ymosodiad naturiol oddi wrth yr wrthblaid swyddogol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod gwariant Llywodraethau Cymru dan arweiniad Llafur ar ddatblygu economaidd wedi mwy na dyblu rhwng 2000 a 2006, o £224 miliwn i £516 miliwn, heb fawr i’w ddangos am hynny. Unwaith eto, mae’n darlunio diffyg gallu llwyr yn hytrach na diffyg arian—thema gyffredin yng Nghymru. Mae dadansoddiad annibynnol gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yn amcangyfrif y gwariwyd £5 biliwn o arian cyhoeddus ar ddatblygu economaidd rhwng 2001 a 2010. Mae gennym fawr ddim i’w ddangos amdano o ran canlyniadau mesuradwy.

 

I repeat what Ieuan Wyn Jones said of his time in Government. He said that one of the things that he understood as a Minister in the last Government was that Wales spent more money on economic development than other parts of the United Kingdom, but that he was not quite sure that we always derived value out of that. The present holder of the post, the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science, is someone who clearly knows how to fight the corner for business at the Cabinet table. She is someone who clearly knows how to attract fellow capitalists to Wales, to create employment for our young people, to pay taxes to fund our public services, and to create a land of opportunity, not dogma. The Minister’s unwelcome comments on 9 November could not have been clearer to the business sector, both in Wales and outside. In life, we all regret many things, and I am sure that those comments will cause much regret within the Minister’s department and will be viewed with dismay among potential investors. It speaks volumes about the approach and mindset of this Welsh Labour Government.

Ailadroddaf yr hyn a ddywedodd Ieuan Wyn Jones am ei amser yn y Llywodraeth. Dywedodd mai un o’r pethau yr oedd yn deall fel Gweinidog yn y Llywodraeth ddiwethaf oedd bod Cymru yn gwario mwy o arian ar ddatblygu economaidd na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ond nad oedd yn hollol siŵr ein bod bob amser yn cael gwerth allan o hynny. Mae deiliad presennol y swydd, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, yn rhywun sy’n amlwg yn gwybod sut i frwydro dros fusnes ar fwrdd y Cabinet. Mae hi’n rhywun sy’n amlwg yn gwybod sut i ddenu ei chyd-gyfalafwyr i Gymru, i greu cyflogaeth ar gyfer ein pobl ifanc, i dalu trethi i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus, ac i greu gwlad y cyfleon, nid dogma. Ni allai sylwadau digroeso’r Gweinidog ar 9 Tachwedd fod wedi bod yn gliriach i’r sector busnes, yng Nghymru a thu hwnt. Mewn bywyd, yr ydym i gyd yn gresynu llawer o bethau, ac yr wyf yn siŵr y bydd y sylwadau hynny yn achosi llawer o resynu yn adran y Gweinidog ac yn peri siom ymhlith buddsoddwyr posibl. Mae’n dweud cyfrolau am ddull a meddylfryd y Llywodraeth Lafur Cymru hon.

 

Despite this backdrop from your Government, I am pleased to say that we have seen some excellent companies investing in Wales, such as Tata Steel. I had the pleasure of visiting Tata Steel and touring its site earlier this month with our leader, Andrew R.T. Davies. It is investing hugely in the Neath Port Talbot area. It is a socially responsible company with a great business ethic that wants to see Wales thrive as much as we want to see Tata Steel thrive. That proves that Wales can cater for big business; we just need the drive and the right people at the helm. In some way, I hope that the Chamber endorses this motion. On a positive note, I call on the Government to assist the private sector in Wales to grow within our capitalist system. I urge the Welsh Government to improve the conditions for economic growth in Wales by improving infrastructure and skills, providing clarity on the Welsh Government’s support for the economy, encouraging inward investment into Wales and supporting Welsh exports.

Er gwaethaf y cefndir hwn o eiddo eich Llywodraeth, yr wyf yn falch o ddweud ein bod wedi gweld rhai cwmnïau rhagorol yn buddsoddi yng Nghymru, fel Tata Steel. Cefais y pleser o ymweld â Tata Steel a theithio o amgylch ei safle yn gynharach y mis hwn gyda’n harweinydd, Andrew R.T, Davies. Mae’n buddsoddi’n aruthrol yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Mae’n gwmni cymdeithasol cyfrifol gydag ethig fusnes gwych sydd am weld Cymru yn ffynnu cymaint ag yr ydym eisiau gweld Tata Steel yn ffynnu. Mae hynny’n profi bod Cymru’n gallu darparu ar gyfer busnesau mawr; yr ydym ond angen yr egni a’r bobl iawn wrth y llyw. Mewn rhyw ffordd, yr wyf yn gobeithio y bydd y Siambr yn cefnogi’r cynnig hwn. Ar nodyn cadarnhaol, galwaf ar y Llywodraeth i helpu’r sector preifat yng Nghymru i dyfu o fewn ein system gyfalafol. Anogaf Lywodraeth Cymru i wella’r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru drwy wella seilwaith a sgiliau, gan wneud cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r economi yn glir i bawb, a gan annog mewnfuddsoddiad i Gymru a chefnogi allforion Cymru.

 

Sandy Mewies: I will not be speaking with levity on this debate, as previous speakers have done, because I do not think that there is anything funny about what is happening. Headlines note that UK unemployment has increased to 2.62 million, and that the jobless total for 16 to 24-year-olds has hit a record high. In Wales, unemployment is up to 137,000 people—that is not funny. The First Minister mentioned this matter yesterday, and I have been amazed by the total disconnect between the parties in coalition Government in London and what is happening here. It is not clear red water, or clear blue water; Wales might as well be an island as far as they are concerned. Clearly, the UK Government’s initiatives, if it has any to combat rising unemployment, are failing.

Sandy Mewies: Ni fyddaf yn siarad ag ysgafnder yn y ddadl hon, fel y mae siaradwyr blaenorol wedi gwneud, gan nad wyf yn credu bod yna unrhyw beth doniol am yr hyn sy’n digwydd. Yn ôl y penawdau, mae diweithdra yn y DU wedi cynyddu i 2.62 miliwn, ac mae cyfanswm y bobl 16 i 24 mlwydd oed sy’n ddi-waith wedi cyrraedd y nifer uchaf erioed. Yng Nghymru, mae diweithdra wedi codi i  137,000 o bobl—nid yw hynny’n ddoniol. Soniodd y Prif Weinidog am y mater hwn ddoe, ac yr wyf wedi cael fy syfrdanu gan y diffyg cysylltiad llwyr rhwng y pleidiau yn y Llywodraeth glymblaid yn Llundain â’r hyn sy’n digwydd yma. Nid yw’n ddŵr coch clir nac yn ddŵr glas clir; gallai Cymru fod yn ynys cyn belled ag y maent yn y cwestiwn. Yn amlwg, mae mentrau Llywodraeth y DU, os oes ganddi unrhyw fentrau i fynd i’r afael â diweithdra sy’n codi, yn methu.

 

Where are all those private sector jobs that it was using as the main plank to replace public sector jobs that were lost? Jobs were promised just a few months ago by Cameron and Osborne, but they are now blaming Europe. Last winter, they blamed the weather for the economic downturn and the crisis on our high streets. According to the Minister for Employment, Chris Grayling, the figures show just how much our economy has been affected by the eurozone. He has said that over the last quarter we have seen the real impact of the crisis in the eurozone, but, according to the unions, the number of young people out of work is higher in the UK than in other parts of Europe, and it is three times higher than in Germany.

Ble mae’r holl swyddi sector preifat hynny yr oedd hi’n eu defnyddio fel y brif elfen i gymryd lle’r swyddi sector cyhoeddus a gollwyd? Addawodd Cameron ac Osborne swyddi ychydig fisoedd yn ôl, ond maent yn beio Ewrop erbyn hyn. Y gaeaf diwethaf, beio’r tywydd am y dirywiad economaidd a’r argyfwng ar ein strydoedd mawr yr oeddynt. Yn ôl y Gweinidog dros Gyflogaeth, Chris Grayling, mae’r ffigurau’n dangos faint yn union mae ardal yr ewro wedi effeithio ar ein heconomi. Mae wedi dweud ein bod wedi gweld gwir effaith yr argyfwng yn ardal yr ewro dros y chwarter diwethaf, ond, yn ôl yr undebau, mae nifer y bobl ifanc sy’n ddi-waith yn uwch yn y DU nag mewn rhannau eraill o Ewrop, ac mae deirgwaith yn uwch nag yn yr Almaen.

 

Antoinette Sandbach: Will the Welsh Labour Government explain why it turned down a bid from a renewable energy company that promised 400 manufacturing jobs on a manufacturing site in south Wales? As I understand it, it was turned down on the basis that it would rather have the income than the jobs.

Antoinette Sandbach: A wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru esbonio pam na dderbyniodd gais gan gwmni ynni adnewyddadwy a addawodd 400 o swyddi gweithgynhyrchu ar safle gweithgynhyrchu yn ne Cymru? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, gwrthododd ar y sail y byddai’n well ganddo’r incwm na’r swyddi.

 

Sandy Mewies: If you want to talk about renewables and green energy, perhaps you should keep listening to what I have to say. Leading economist John Philpott, from the Chartered Institute of Personnel and Development, said that unemployment has not yet been greatly affected by the eurozone crisis. It may have had a minimal effect, with people not hiring because of uncertainty, but, if there is going to be a significant impact, we have not seen it yet. However, there is a link between what happens and what the coalition Government does, and the Europe-wide effect—

 

Sandy Mewies: Os ydych chi eisiau siarad am ynni adnewyddadwy ac ynni gwyrdd, efallai y dylech barhau i wrando ar yr hyn sydd gennyf i’w ddweud. Dywedodd yr economegydd blaenllaw John Philpott, o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, nad  yw’r argyfwng yn ardal yr ewro wedi effeithio’n fawr ar ddiweithdra eto. Efallai ei fod wedi cael effaith fach iawn, gydag ansicrwydd yn atal pobl rhag cyflogi, ond, os oes effaith sylweddol yn mynd i fod, nid ydym wedi ei gweld eto. Fodd bynnag, mae cysylltiad rhwng yr hyn sy’n digwydd a’r hyn y mae’r Llywodraeth glymblaid yn ei wneud, ag effaith ar draws Ewrop—

 

Antoinette Sandbach rose

 

Antoinette Sandbach a gododd—

 

Sandy Mewies: Please let me finish my point. The BBC reported that an official from the electronics giant Sharp has today denied suggestions that it could close its Wrexham solar panel factory. Andrew Lee, the European head of sales for Sharp solar, confirmed that the company is reviewing its position on further expansion at the Llai plant. That follows the UK Government’s decision to cut subsidies for household solar electricity from next month.

 

Sandy Mewies: Gadewch i mi orffen fy mhwynt. Dywedodd y BBC fod swyddog o’r cwmni electroneg enfawr Sharp heddiw wedi gwadu awgrymiadau y gallai gau ei ffatri paneli solar yn Wrecsam. Cadarnhaodd Andrew Lee, pennaeth gwerthiant Ewropeaidd Sharp solar, fod y cwmni yn adolygu ei safbwynt ar ehangu pellach yn ffatri Llai. Mae hynny’n dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri cymorthdaliadau ar gyfer trydan solar cartrefi o fis nesaf.

 

The Tories have nothing to teach us about job creation and economic growth. We are investing money in infrastructure, despite Westminster cuts in our capital budget. That will help the construction industry and improve public services. We are investing in skills, particularly for our young people, in apprenticeships and Jobs Growth Wales, which aims to deliver 4,000 jobs for young people in the first year and help to fill the void created by the UK Government’s decision to scrap the Future Jobs fund. There have also been more announcements aimed at supporting small and medium-sized businesses. For example, today we had the announcement from Edwina Hart about the two new major funding packages, totalling £55 million, to stimulate our economy and to support jobs. That cannot be welcomed by the opposition parties, of course, because they do not want to admit that anything that is going on here is good—

Nid oes gan y Torïaid ddim i’w ddysgu i ni am greu swyddi a thwf economaidd. Yr ydym yn buddsoddi arian mewn seilwaith, er gwaethaf toriadau San Steffan i’n cyllideb gyfalaf. Bydd hynny yn helpu’r diwydiant adeiladu a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Yr ydym yn buddsoddi mewn sgiliau, yn enwedig ar gyfer ein pobl ifanc, mewn prentisiaethau a Twf Swyddi Cymru, sy’n anelu at ddarparu 4,000 o swyddi i bobl ifanc yn y flwyddyn gyntaf ac yn helpu i lenwi’r bwlch a grëwyd gan benderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu cronfa Swyddi’r Dyfodol. Bu hefyd fwy o gyhoeddiadau â’r bwriad o gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint. Er enghraifft, heddiw cawsom gyhoeddiad Edwina Hart am y ddau becyn ariannu mawr newydd, gyda chyfanswm o £55 miliwn, i ysgogi ein heconomi a chefnogi swyddi. Ni all y gwrthbleidiau groesawu hynny, wrth gwrs, gan nad ydynt am gyfaddef bod unrhyw beth da yn digwydd yma—

 

3.15 p.m.

 

Andrew R.T. Davies: Will you take an intervention?

 

Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

 

Sandy Mewies: I will not, if you do not mind; I do not have time. Only a few months ago, the Tories wanted to cut 30 per cent from the economy department’s budget and cut education spending by 20 per cent. They keep denying it, but that is what their leader at the time said. How devastating would that 20 per cent cut have been for young people and for future skills?

 

Sandy Mewies: Na wnaf, os yw hynny’n iawn; nid oes amser gennyf. Dim ond ychydig fisoedd yn ôl, yr oedd y Torïaid yn awyddus i dorri 30 y cant o gyllideb yr adran economi a thorri gwariant ar addysg drwy 20 y cant. Maent yn cadw gwadu hynny, ond dyna a ddywedodd eu harweinydd ar y pryd. Pa mor ddifrodus fyddai’r toriad 20 y cant hwnnw wedi bod i bobl ifanc ac i sgiliau yn y dyfodol?

 

The Tories are keen to tell us what they say that businesses want. The Forum of Private Business has this to say:

 

Mae’r Torïaid yn awyddus i ddweud wrthym beth, yn eu tyb nhw, y mae busnesau yn ei ddymuno. Dywed y Fforwm Busnesau Preifat y canlynol:

 

‘Our members have seen a continued rise in the cost of doing business over the last year’.

 

Mae ein haelodau wedi gweld cynnydd parhaus yn y gost o wneud busnes yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Overall, 94 per cent of businesses saw an increase in energy costs, 92 per cent in transport costs and 82 per cent in the cost of raw materials and stock. The main reasons for increases in prices are predominantly down to the value added tax increase and rising energy prices, as well as the weakness of sterling for importers. Who put VAT up? The Tories and their Lib Dem partners. In short, Welsh Labour has a plan for growth and jobs, in contrast with the Tories and their coalition partners, whose only plan, whether A, B or C, is to find someone else to blame.

 

Ar y cyfan, mae 94 y cant o fusnesau yn gweld cynnydd mewn costau ynni, 92 y cant mewn costau cludiant ac 82 y cant yng nghostau deunyddiau crai a stoc. Y prif resymau am y cynnydd mewn prisiau yw, yn bennaf, y cynnydd mewn treth ar werth a phrisiau ynni sy’n codi, yn ogystal â gwendid y bunt ar gyfer mewnforwyr. Pwy a gynyddodd treth ar werth? Y Torïaid a’u partneriaid yn y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn fyr, mae gan Lafur Cymru gynllun ar gyfer twf a swyddi, yn wahanol i’r Torïaid a’u partneriaid clymbleidiol; yr unig gynllun sydd ganddynt, boed yn A, B neu C, yw dod o hyd i rywun arall i’w feio.

 

Mohammad Asghar: Only last week, we learned that the Welsh Government’s Minister for Business, Enterprise, Technology and Science regrets the capitalist system. Already, I have heard from businessmen with links to South Wales East who have, understandably, expressed outright alarm at the Minister’s comments. Sadly, the Minister’s regret of capitalism does nothing to suggest that this administration will properly assist the growth of Wales’s private sector or create a framework for sustainable economic growth. The Welsh Government may highlight the money that has been spent on economic development, but funds have clearly not been invested wisely, as Wales continues to be at the bottom end of UK economic league tables.

 

Mohammad Asghar: Ddim ond yr wythnos ddiwethaf, dysgasom fod Gweinidog Llywodraeth Cymru dros fusnes, menter, technoleg a gwyddoniaeth yn gresynu at y system cyfalafol. Eisoes, yr wyf wedi clywed gan ddynion busnes â chysylltiadau â Dwyrain De Cymru sydd wedi, yn ddealladwy, mynegi braw llwyr o glywed sylwadau’r Gweinidog. Yn anffodus, nid yw edifarhad y Gweinidog o safbwynt cyfalafiaeth yn gwneud unrhyw beth i awgrymu y bydd y weinyddiaeth hon yn cynorthwyo twf sector preifat Cymru yn iawn neu’n creu fframwaith ar gyfer twf economaidd cynaliadwy. Efallai y gwnaiff Llywodraeth Cymru dynnu sylw at yr arian a wariwyd ar ddatblygu economaidd, ond mae’n amlwg nad yw arian wedi ei fuddsoddi yn ddoeth, gan fod Cymru yn parhau i fod ar waelod tablau cynghrair economaidd y Deyrnas Unedig.

 

Sir Roger Jones, former head of the Welsh Development Agency, says that investment has ‘produced next to nothing’ in terms of outcomes, and west Wales and the Valleys looks set to qualify for European funds once again. At present, conditions for growth simply do not exist.

 

Meddai Syr Roger Jones, cyn bennaeth Awdurdod Datblygu Cymru, bod y buddsoddiad hwnnw wedi cynhyrchu bron dim byd o ran canlyniadau, a bydd gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys unwaith eto, mae’n debyg, ar gyfer cyllid Ewropeaidd. Ar hyn o bryd, yn syml iawn, nid yw amodau ar gyfer twf yn bodoli.

 

RICS Wales, the Royal Institution of Chartered Surveyors, has said that our road and rail infrastructure are obstacles to our competitiveness, while numerous stakeholders have highlighted weaknesses concerning Cardiff Airport. The former Rural Development Sub-committee expressed great concern that Welsh Government’s timetable for its broadband plans would put Wales

 

Mae RICS Cymru, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, wedi dweud bod ein seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd yn rhwystrau i’n gallu cystadleuol, tra bod nifer o randdeiliaid wedi tynnu sylw at wendidau yn ymwneud â Maes Awyr Caerdydd. Mynegodd y cyn Is-bwyllgor Datblygu Gwledig bryder mawr y byddai amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer ei gynlluniau band eang yn rhoi Cymru

 

‘at least two years behind Cornwall’.

 

o leiaf ddwy flynedd y tu ôl i Gernyw.

 

Stakeholders feel that the Welsh Government has failed to create a more business-friendly planning system, while the Institute of Directors feels that the regulation that exists in Wales is in excess of that anywhere else in the United Kingdom.

 

Mae rhanddeiliaid yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chreu system cynllunio mwy cyfeillgar i fusnes, tra bod Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn teimlo bod y rheoliadau sy’n bodoli yng Nghymru yn fwy na’r hyn a geir yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.

 

Of course, skills are also essential. This administration must unleash the full potential of our workforce; however, as it stands, we know that Wales too often lags behind neighbouring nations in educational attainment.

 

Wrth gwrs, mae sgiliau hefyd yn hanfodol. Mae’n rhaid i’r weinyddiaeth ryddhau potensial llawn ein gweithlu; fodd bynnag, fel y mae, gwyddom fod Cymru yn rhy aml yn llusgo y tu ôl i wledydd cyfagos o ran cyrhaeddiad addysgol.

 

Given the suspicion in the way that the private sector in Wales has been dealt with by Welsh Labour Ministers for a long period, perhaps the Minister’s Marxist-leaning comments should not come as a surprise. Only hours before the Minister’s admission last week, I quoted former Welsh Labour MEP Eluned Morgan, who has said that many in the private sector sense animosity from Labour and are therefore ‘reluctant to engage’. Those are not my words, Minister, but the words of your former MEP.

 

O ystyried yr amheuaeth yn y ffordd y mae’r sector preifat yng Nghymru wedi cael ei drin gan Weinidogion Llafur Cymru am gyfnod hir, efallai na ddylai sylwadau’r Gweinidog hwn, sy’n tueddu at Farcsiaeth, fod yn syndod. Ddim ond oriau cyn cyfaddefiad y Gweinidog yr wythnos diwethaf, dyfynnais y cyn-Aelod Llafur Cymru o Senedd Ewrop Eluned Morgan, sydd wedi dweud bod llawer yn y sector preifat yn synhwyro gelyniaeth gan Lafur ac felly’n amharod i gymryd rhan. Nid fy ngeiriau i yw’r rheiny, Weinidog, ond geiriau eich cyn-ASE.

 

Presently, there is a desperate need for Wales to increase its engagement with global markets. Sadly, a survey done by the Institute of Chartered Accountants found that Welsh business is less ‘globally engaged’ than other UK regions. This is staggering, and bad news for Wales, and is the result of bad management by Labour over the years. It is about time that we got something right. Recent statistics suggest only 2.1 per cent of Welsh companies engage in exporting—a figure well below the UK average.

 

Ar hyn o bryd, mae angen dybryd i Gymru gynyddu ei hymgysylltiad â marchnadoedd byd-eang. Yn anffodus, canfu arolwg a wnaed gan Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig fod busnesau Cymru yn cymryd rhan yn llai yn fyd-eang o gymharu â rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn syfrdanol, yn newyddion drwg i Gymru, ac yn ganlyniad i reolaeth wael gan Lafur dros y blynyddoedd. Mae’n hen bryd inni gael rhywbeth yn iawn. Mae ystadegau diweddar yn awgrymu mai dim ond 2.1 y cant o gwmnïau Cymru sy’n cymryd rhan mewn allforio—ffigwr dipyn yn is na chyfartaledd y DU.

 

Julie Morgan: The Member talks about the alleged hostility of Labour to private business. Is he aware that Admiral Insurance, which is generally regarded as a success, only chose to come to Cardiff because of the welcome and the nurturing of the Labour-controlled council of the time? The company chose Wales over several other places in the UK.

 

Julie Morgan: Mae’r Aelod yn siarad am elyniaeth honedig Llafur tuag at fusnes preifat. A ydyw’n ymwybodol bod Admiral Insurance, sy’n cael ei ystyried yn gyffredinol fel llwyddiant, wedi dewis dod i Gaerdydd dim ond oherwydd croeso a meithriniad y cyngor, a reolwyd gan Lafur ar y pryd? Dewisodd y cwmni Gymru dros nifer o fannau eraill yn y DU.

 

Mohammad Asghar: Cardiff is not Wales. I am talking about the whole of Wales here. We need development in the north, west, east and south. Your records show that we are still below levels of economic growth elsewhere in the United Kingdom. Your Government has done nothing for the Welsh economy over the years.

 

Mohammad Asghar: Nid Cymru yw Caerdydd. Yr wyf yn sôn am Gymru gyfan yma. Mae arnom angen ddatblygiad yn y gogledd, y gorllewin, y dwyrain a’r de. Mae eich cofnodion yn dangos ein bod yn dal yn is na lefelau twf economaidd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Nid yw eich Llywodraeth wedi gwneud unrhyw beth i economi Cymru dros y blynyddoedd.

 

Adequate international business support for both SMEs and large firms is desperately needed if we are to make progress. You need to understand that, Julie. I am sure your husband did a wonderful job, but only for Cardiff, not for the whole of Wales. I will say it again: Cardiff is not Wales. There can be no doubt that a renewed focus is required that will properly assist the growth of the private sector in Wales. Both the First Minister and Peter Hain admit that the private sector is too small—so why is the Welsh Government not utilising its powers?

 

Mae gwir angen cymorth busnes rhyngwladol digonol ar gyfer busnesau bach a chanolig a chwmnïau mawr os ydym i wneud cynnydd. Mae angen ichi ddeall hynny, Julie. Mae’n siŵr y gwnaeth eich gŵr waith ardderchog, ond dim ond ar gyfer Caerdydd, nid ar gyfer Cymru gyfan. Fe’i dywedaf eto: nid Cymru yw Caerdydd. Ni all fod unrhyw amheuaeth bod angen canolbwyntio o’r newydd, a fydd yn cynorthwyo yn iawn dwf y sector preifat yng Nghymru. Mae’r Prif Weinidog a Peter Hain yn cyfaddef bod y sector preifat yn rhy fach—felly pam nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau?

 

Kenneth Skates: I am grateful for the opportunity to speak in this debate today. The previous speaker mentioned Eluned Morgan’s report, which I endorse. It makes for interesting and enlightening reading. It is an excellent report, but should be read in full, as I did last night in the bath.

 

Kenneth Skates: Yr wyf yn ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Soniodd y siaradwr blaenorol am adroddiad Eluned Morgan, ac yr wyf yn cefnogi hwnnw. Mae’n ddiddorol ac yn oleuedig i’w ddarllen. Mae’n adroddiad ardderchog, ond dylid ei ddarllen yn llawn, fel y gwneuthum neithiwr yn y bath.

 

In looking to cultivate economic growth, not only must we look to the areas where our natural strengths lie and seek to build on them, but we must also look at those sectors where new opportunities for growth exist in the world economy. In terms of growing the Welsh economy, a renewed focus on encouraging our own indigenous creative industries would reap significant dividends for the future. That is because our national creative industries present an extraordinary opportunity for growth. The UK is one of the top five countries worldwide for creative industries, and Wales plays a very important part in that, with a fine tradition of independent television production and exports of music being of some of the best quality in the world.

 

Wrth edrych i feithrin twf economaidd, nid yn unig y mae’n rhaid inni edrych at y meysydd lle y mae ein cryfderau naturiol a cheisio adeiladu arnynt, ond mae’n rhaid inni hefyd edrych ar y sectorau lle mae cyfleoedd newydd ar gyfer twf yn bodoli yn economi’r byd. O ran tyfu economi Cymru, byddai canolbwyntio o’r newydd ar annog ein diwydiannau creadigol cynhenid yn talu ar ei ganfed yn sylweddol ar gyfer y dyfodol. Mae hynny am fod ein diwydiannau creadigol cenedlaethol yn darparu cyfle anhygoel ar gyfer twf. Mae’r DU yn un o’r pum gwlad uchaf ledled y byd ar gyfer y diwydiannau creadigol, ac mae Cymru yn chwarae rhan bwysig iawn yn hynny, gyda thraddodiad gwych o gynhyrchu teledu annibynnol ac allforion o gerddoriaeth ymhlith yr ansawdd gorau yn y byd.

 

The broadcasting advisory group’s report in 2008 said that, while individuals were exploring opportunities for new media enthusiastically and in increasing numbers, Wales had yet to harness their potential for society as a whole. Many of our own broadcasters, such as the BBC and S4C, have been accused of being too slow to recognise how they can turn their institutional ships around and re-engineer their roles in encouraging the growth potential in the Welsh creative sector.

 

Dywedodd adroddiad y grŵp cynghori ar ddarlledu yn 2008, er bod unigolion yn archwilio cyfleoedd ar gyfer y cyfryngau newydd yn frwdfrydig ac mewn niferoedd cynyddol, nad yw Cymru eto wedi harneisio eu potensial ar gyfer y gymdeithas yn gyffredinol. Mae llawer o’n darlledwyr eu hunain, megis y BBC a S4C, wedi cael eu cyhuddo o fod yn rhy araf i gydnabod sut y gallant droi eu llongau sefydliadol o gwmpas ac ail-lunio eu rolau wrth annog y potensial o ran twf yn y sector creadigol yng Nghymru.

 

The recent Hargreaves report identified many of the systemic problems preventing Wales from taking advantage of digital opportunities—namely, the lack of motivation within companies, the lack of support from broadcasters and the lack of expert business and infrastructure support. That last part is crucial. The Welsh Government has a vital role in seeing the full potential of digital media opportunities, putting in place the education and training architecture, as well as the financial incentives and investment arrangements to engineer growth. What has often held back the Welsh Government in this area is a reluctance to get directly involved in an area of media development traditionally screened by an arm’s-length approach to policy making.

 

Nodwyd yn adroddiad Hargreaves yn ddiweddar bod llawer o’r problemau systemig sy’n rhwystro Cymru rhag manteisio ar gyfleoedd digidol—sef y diffyg cymhelliant o fewn cwmnïau, y diffyg cefnogaeth gan ddarlledwyr a’r diffyg cymorth busnes a seilwaith arbenigol. Mae’r rhan olaf hwnnw yn hanfodol. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl hanfodol yn gweld y potensial llawn o gyfleoedd cyfryngau digidol, gan roi ar waith y bensaernïaeth addysg a hyfforddiant, yn ogystal â’r cymhellion ariannol a threfniadau buddsoddi i saernïo twf. Yr hyn sydd yn aml wedi dal Llywodraeth Cymru yn ei hôl yn y maes hwn yw amharodrwydd i gymryd rhan yn uniongyrchol mewn ardal o ddatblygu cyfryngau sy’n cael eu sgrinio yn draddodiadol gan ymagwedd hyd braich i lunio polisi.

 

However the support funding made available to Golwg360, as well as the positive comments made last week about the thought being given in the Welsh Government to the introduction of a high-level internet domain name for Wales, highlight the clever and helpful role the Welsh Government should be playing in upgrading and updating technological skills in Wales.

 

Fodd bynnag, mae’r cymorth ariannol a oedd ar gael i Golwg360, yn ogystal â’r sylwadau cadarnhaol a wnaed yr wythnos diwethaf am yr ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gyflwyno enw parth rhyngrwyd lefel uchel ar gyfer Cymru, yn tynnu sylw at y rôl glyfar a chynorthwyol y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei chwarae yn uwchraddio a diweddaru sgiliau technolegol yng Nghymru.

 

One area where I feel that the Welsh Government could make an important start is in helping to build a positive dialogue with investors about the business risks of investing in the creative industries. What I do not want to see is good Welsh economic propositions turned down because of prejudicial presumptions by lenders or investors.

 

Un maes lle teimlaf y gallai Llywodraeth Cymru wneud cychwyn pwysig yw helpu i adeiladu deialog gadarnhaol gyda buddsoddwyr ynghylch y risgiau busnes o fuddsoddi yn y diwydiannau creadigol. Yr hyn nad wyf am ei weld yw cynigion economaidd da o Gymru yn cael eu gwrthod oherwydd rhagdybiaethau rhagfarnllyd gan fenthycwyr neu fuddsoddwyr.

 

Janet Finch-Saunders: You are aware, are you not, that Professor Ian Hargreaves has been quite unrestrained in his criticism of the Welsh Government in the report that he did on broadcasting. Do you agree that it is time that the Welsh Government considered that report and that we debate it here?

 

Janet Finch-Saunders: Yr ydych yn ymwybodol, onid ydych, bod yr Athro Ian Hargreaves wedi bod yn eithaf di-flewyn-ar-dafod yn ei feirniadaeth o Lywodraeth Cymru yn ei adroddiad ar ddarlledu. A ydych yn cytuno ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru ystyried yr adroddiad hwnnw, ac inni drafod yr adroddiad yma?

 

Kenneth Skates: With reference to the Assembly task and finish group, it is important that we do not make any presumptuous judgments about the outcome of that inquiry. It would be best to wait until the inquiry has been completed before we make recommendations.

 

Kenneth Skates: Gan gyfeirio at grŵp gorchwyl a gorffen y Cynulliad, mae’n bwysig nad ydym yn gwneud unrhyw feirniadaethau rhyfygus am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw. Byddai’n well aros nes bod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau cyn inni wneud argymhellion.

 

As I said, it is important that we do not allow prospects within the creative industries to be lost because of prejudicial presumptions by lenders or investors. The Welsh Government could certainly help with this. For example, the Welsh Government is currently examining the potential of a second round of enterprise zones in Wales. I have said previously that I would like to see Wrexham involved in such a scheme, and I feel that a media or creative industry hub, using Glyndŵr University as the engine, could be a beacon for future growth in the creative industries in north Wales.

 

Fel y dywedais, mae’n bwysig nad ydym yn caniatáu i ragolygon o fewn y diwydiannau creadigol gael eu colli oherwydd rhagdybiaethau rhagfarnllyd gan fenthycwyr neu fuddsoddwyr. Gallai Llywodraeth Cymru yn sicr helpu gyda hyn. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar y potensial o gael ail rownd o ardaloedd menter yng Nghymru. Yr wyf wedi dweud o’r blaen yr hoffwn weld Wrecsam yn cymryd rhan mewn cynllun o’r fath, a theimlaf y gallai canolfan ar gyfer y cyfryngau neu’r diwydiannau creadigol, gan ddefnyddio Prifysgol Glyndŵr fel y peiriant, fod yn esiampl ar gyfer twf yn y diwydiannau creadigol yng ngogledd Cymru yn y dyfodol.

 

To make that a success, there is an immediate need to better understand how risk really operates in sectors identified for growth and support by the Welsh Government, such as the creative industries. Taking small steps to inform, enable and incentivise lenders, the Welsh Government could have a key role to play in shaping the dialogue between investors and creative businesses and help them work together to ensure that the full potential of our creative sector is realised. Indeed, in 2009, NESTA suggested that, in the medium term, creative industries were capable of growing at double the rate of the economy as a whole over the next few years.

 

Er mwyn gwneud hynny yn llwyddiant, mae angen brys i ddeall yn well sut mae risg wirioneddol yn gweithredu mewn sectorau a nodwyd ar gyfer twf a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, megis y diwydiannau creadigol. Wrth gymryd camau bach i hysbysu, galluogi a chymell benthycwyr, gallai fod gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol i’w chwarae wrth lunio’r deialog rhwng buddsoddwyr a busnesau creadigol a’u helpu i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod potensial llawn ein sector creadigol yn cael ei wireddu. Yn wir, yn 2009, awgrymodd NESTA fod, yn y tymor canolig, diwydiannau creadigol yn gallu tyfu ddwywaith mor gyflym â’r economi yn ei gyfanrwydd yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

I welcome today’s announcement made by the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science about two major funding packages, totalling £55 million, to stimulate the Welsh economy and support business growth across Wales. I hope that the £40 million Wales small and medium-sized enterprise investment fund and the £15 million Wales economic growth fund outlined by the Minister will help support creative industries in Wales and help provide the support, access to capital funding and investment to expand the sector.

 

Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth am ddau becyn cyllido mawr, sef cyfanswm o £55 miliwn, i ysgogi economi Cymru a chefnogi twf busnesau ledled Cymru. Yr wyf yn gobeithio y bydd y gronfa £40 miliwn ar gyfer buddsoddi ym mentrau bach a chanolig yng Nghymru a chronfa twf economaidd Cymru o £15 miliwn a amlinellwyd gan y Gweinidog yn helpu i gefnogi diwydiannau creadigol yng Nghymru ac yn helpu darparu’r cymorth, mynediad i gyllid cyfalaf a buddsoddiad i ehangu’r sector.

 

The Welsh Government will need to be creative in how it supports the creative industries, as there is good evidence to suggest that traditional modes of business funding assistance are less suited to providing the financial and investment support needed by the creative business community. I would very much like to see the Government work with the Welsh creative sector to improve the visibility and appreciation of our creative industries among investors, creditors and senior players in the field.

 

Bydd angen i Lywodraeth Cymru fod yn greadigol yn y ffordd y mae’n cefnogi’r diwydiannau creadigol, gan fod tystiolaeth dda i awgrymu bod dulliau traddodiadol o gymorth cyllid busnes yn llai addas i ddarparu’r cymorth ariannol a’r buddsoddi y mae eu hangen ar y gymuned fusnes greadigol. Hoffwn weld y Llywodraeth yn gweithio gyda’r sector creadigol yng Nghymru i wella gwelededd a gwerthfawrogiad o’n diwydiannau creadigol ymhlith buddsoddwyr, credydwyr ac uwch chwaraewyr yn y maes.

 

Mark Isherwood: The UK’s AAA credit rating was put on negative watch when Labour was in office, but, by 2011, all three credit rating agencies had revised the UK’s AAA credit rating from ‘negative’ to ‘stable’. However, last week, the shadow Chancellor, Ed Balls, called on the UK Government to change course and increase the deficit, despite UK bond yields reaching a record low, as investors are reassured that the UK Government’s deficit reduction plan will protect its AAA credit rating. Clearly two Eds are not always better than one.

 

Mark Isherwood: Bu statws credyd AAA y Deyrnas Unedig yn ddarostyngedig i wyliadwriaeth negyddol pan oedd Llafur mewn grym, ond erbyn 2011 yr oedd pob un o’r tair asiantaeth statws credyd wedi adolygu statws credyd AAA y Deyrnas Unedig o ‘negyddol’ i ‘sefydlog’. Fodd bynnag, yr wythnos diwethaf, galwodd Canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, ar Lywodraeth y DU i newid cwrs a chynyddu’r diffyg, er gwaethaf arenillion bondiau’r DU yn cyrraedd y lefel isaf erioed, gan fod buddsoddwyr yn cael sicrwydd bod cynllun lleihau diffyg ariannol Llywodraeth y DU yn amddiffyn ei statws credyd AAA. Mae’n amlwg nad yw dau Ed bob amser yn well nag un.

 

The CBI states that the UK Government

 

Mae’r CBI yn nodi bod yn rhaid i Lywodraeth y DU

 

‘must stick to its plans to bring down the deficit to maintain confidence in the UK’s public finances and keep the cost of borrowing down’.

 

gadw at ei chynlluniau i leihau’r diffyg er mwyn cynnal hyder mewn cyllid cyhoeddus y Deyrnas Unedig a chadw cost benthyca i lawr.

 

Fiscal credibility is not an abstract concept—it saves jobs, helps businesses and has cut homeowners’ mortgage bills. Labour’s dangerous addiction to borrowing and debt would destroy our hard-won safe-haven status and put the UK back in the financial markets’ firing line.

 

Nid cysyniad haniaethol yw hygrededd cyllidol—mae’n arbed swyddi, helpu busnesau, ac y mae wedi torri biliau morgais perchnogion tai. Byddai dibyniaeth peryglus Llafur ar fenthyca a dyled yn dinistrio ein statws anodd ei gael fel hafan ddiogel ac yn rhoi’r Deyrnas Unedig yn ôl yn rheng flaen y marchnadoedd ariannol.

 

Of course, the global financial crisis was not created in Downing Street, but Labour did give us a bigger budget deficit than Greece and the largest of any major economy. We have gone from boom, Blair, Brown and bust at home, to an economic ‘PIGS Eire’ in the eurozone, with Portugal, Italy, Greece, Spain and Ireland having swingeing cuts imposed on them because they failed to put credible fiscal consolidation and deficit reduction plans in place themselves. However, the Welsh Government’s announcements on deficit reduction and sovereign debt make these nations look positively prudent, and portray Carwyn Jones as the Berlusconi of Wales, but without the wit.

 

Wrth gwrs, ni chafodd yr argyfwng ariannol byd-eang ei greu yn Stryd Downing, ond mae Llafur wedi ein gadael gyda diffyg yn y gyllideb yn fwy na Gwlad Groeg—y mwyaf o unrhyw economi fawr. Yr ydym wedi mynd o ffyniant, Blair, Brown a methiant gartref i ‘PIGS Eire’ economaidd yn ardal yr ewro, gyda Phortiwgal, yr Eidal, Gwlad Groeg, Sbaen ac Iwerddon yn cael toriadau llym a orfodir arnynt gan eu bod wedi methu â rhoi cydgyfnerthiad cyllidol credadwy a chynlluniau lleihau diffyg yn eu lle eu hunain. Fodd bynnag, mae cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar leihau diffyg ariannol a dyled sofran yn gwneud i’r cenhedloedd hyn edrych yn gadarnhaol ddoeth, ac yn portreadu Carwyn Jones fel Berlusconi Cymru, ond heb y ffraethineb.

 

3.30 p.m.

 

Wales will soon qualify for yet another round of EU funding reserved for the community’s poorest areas. Worse still, the areas that qualify, usually referred to as ‘west Wales and the Valleys’ have, despite two rounds of such funding, become relatively poorer and are among the poorest in Europe. Wales has had the lowest level of economic activity and wealth creation per head of all the devolved countries and English regions since 1998, and the gap has continued to widen. Anglesey has the lowest level in the whole of the UK, and Flintshire and Wrexham saw the largest fall of all areas of Wales. With the level in Gwynedd being only two thirds of that of the UK, and Conwy and Denbighshire’s figures being below 60 per cent, the benefits of the Deeside enterprise zone must spread westwards and the benefits of the Anglesey enterprise zone must spread eastwards.

 

Bydd Cymru yn fuan yn gymwys ar gyfer cylch arall o gyllid yr UE ar gyfer ardaloedd tlotaf y gymuned. Yn waeth byth, mae’r ardaloedd sy’n gymwys, sydd fel arfer yn cael eu galw’n ‘gorllewin Cymru a’r Cymoedd’ er gwaethaf dwy gylch o gyllid o’r fath, wedi mynd yn gymharol dlotach ac ymhlith y tlotaf yn Ewrop. Mae Cymru wedi cael y lefel isaf o weithgarwch economaidd a chreu cyfoeth y pen o’r holl wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr ers 1998, ac mae’r bwlch wedi parhau i ehangu. Ynys Môn sydd â’r lefel isaf yn y DU gyfan, ac yr oedd gostyngiad mwyaf o bob rhan o Gymru yn sir y Fflint a Wrecsam. Gyda’r lefel yng Ngwynedd ddwy ran o dair yn unig o lefel y DU, a ffigurau Conwy a Sir Ddinbych yn is na 60 y cant, mae’n rhaid i fanteision ardal fenter Glannau Dyfrdwy ledaenu i’r gorllewin ac mae’n rhaid i fanteision ardal fenter Ynys Môn ledaenu tua’r dwyrain.

 

Although recent UK economic growth, manufacturing output and retail sales figures are higher than forecast, the economic problems in the eurozone are hitting growth and jobs in the UK. I am sure that the usual suspects will hark back to the 1980s and blame the Conservative Governments for the decline of Welsh manufacturing. However, it was during the 1980s and early 1990s that the manufacturing industry, supported by the Welsh Development Agency, encouraged a range of successful inward investments and the establishment of a strong indigenous supply chain to become the envy of other UK nations and regions. In fact, under the last Conservative Government, the Welsh manufacturing sector grew by 31 per cent between 1989 and 1997. When the Conservatives left office in 1997, the UK was second only to the US in terms of inward investment and, relative to its size, Wales during the 1980s and early 1990s was the most successful nation or region in attracting inward investment. It is now near the bottom.

 

Er bod ffigurau twf economaidd, allbwn gweithgynhyrchu a gwerthiannau manwerthu diweddar y DU yn uwch nag a ragwelwyd, mae’r problemau economaidd yn ardal yr ewro yn effeithio ar dwf a swyddi yn y DU. Mae’n siŵr gennyf y bydd y rhai arferol yn dychwel at y 1980au ac yn rhoi’r bai ar y Llywodraethau Ceidwadol am ddirywiad gweithgynhyrchu yng Nghymru. Fodd bynnag, yn ystod y 1980au a’r 1990au cynnar yr oedd y diwydiant gweithgynhyrchu, a gefnogwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru, yn annog amrywiaeth o fewnfuddsoddiadau llwyddiannus a sefydlu cadwyn gyflenwi frodorol gref a ddeuai’n destun eiddigedd cenhedloedd a rhanbarthau eraill y DU. Yn wir, o dan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, tyfodd y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru 31 y cant rhwng 1989 a 1997. Pan adawodd y Ceidwadwyr ym 1997, yr oedd y DU ond yn ail i’r Unol Daleithiau o ran mewnfuddsoddi ac, mewn perthynas â’i maint, yn ystod y 1980au a’r 1990au cynnar Cymru oedd y wlad neu’r rhanbarth fwyaf llwyddiannus yn denu buddsoddiad o’r tu allan. Mae bellach yn agos at y gwaelod.

 

ConstructionSkills Wales recently stated that current procurement policy prevents many indigenous Welsh companies from winning contracts and is a real threat to Welsh jobs in the industry and to the survival of some long-established construction companies. Only yesterday, home building industry leaders told me that they could invest millions in the Welsh economy and jobs, but expressed concern at the Welsh Government’s rejection of their repeated attempts to establish a dialogue.

 

Dywedodd ConstructionSkills Cymru yn ddiweddar fod y polisi caffael presennol yn atal llawer o gwmnïau Cymreig cynhenid rhag ennill contractau ac yn fygythiad gwirioneddol i swyddi yng Nghymru yn y diwydiant ac i oroesiad rhai cwmnïau adeiladu hirsefydlog. Dim ond ddoe, dywedodd arweinwyr y diwydiant adeiladu cartrefi wrthyf y gallent fuddsoddi miliynau yn economi Cymru a swyddi, ond mynegasant bryder am wrthodiad Llywodraeth Cymru o’u hymgeision niferus i ddechrau deialog.

 

Tourism accounts for 13 per cent of Welsh GDP and employment, but Visit Wales was not among the representatives of 189 countries and regions exhibiting at the leading global event for the travel industry, the World Travel Market, in London last week. The Welsh Food and Drinks Skills Project found that 53 per cent of businesses were confident that business will grow next year, but that to increase productivity, we need to increase skills at all levels. Therefore, instead of the Minister telling us that we should learn from a discredited nineteenth century anti-business ideology, she must ask business, enterprise, investors and entrepreneurs what needs to be done.

 

Mae twristiaeth yn cyfrif am 13 y cant o gynnyrch domestig gros a chyflogaeth yng Nghymru, ond nid oedd Croeso Cymru ymhlith cynrychiolwyr 189 o wledydd a rhanbarthau a oedd yn arddangos yn y digwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer y diwydiant teithio, y World Travel Market, yn Llundain yr wythnos diwethaf. Canfu Prosiect Sgiliau Bwyd a Diodydd Cymru fod 53 y cant o fusnesau yn hyderus y bydd busnes yn tyfu y flwyddyn nesaf, ond er mwyn cynyddu cynhyrchiant, mae angen i ni gynyddu sgiliau ar bob lefel. Felly, yn hytrach na bod y Gweinidog yn dweud wrthym y dylem ddysgu oddi wrth ideoleg gwrth-fusnes o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wedi ennill anfri, mae’n rhaid iddi ofyn i fusnes, menter, buddsoddwyr ac entrepreneuriaid beth y mae angen ei wneud.

 

Julie Morgan: Thank you for calling me to speak in this important debate. I was pleased to hear the Minister’s announcement of the grants and loans to SMEs. I notice that the Wales SME investment fund will be managed by Finance Wales. I wanted to point out how important it is that Finance Wales does exist. Finance Wales has been of great advantage to private businesses in my constituency. It is also important because the private sector merchant banks and the venture capital houses are not represented in Wales, and do not seem to be keen in investing in places too far from the M25 and central Scotland. Finance Wales is a great initiative of the Welsh Government. However, it is only a small player compared with the big four high street banks.

 

Julie Morgan: Diolch i chi am fy ngalw i siarad yn y ddadl bwysig hon. Yr oeddwn yn falch o glywed cyhoeddiad y Gweinidog am y grantiau a’r benthyciadau i fusnesau bach a chanolig. Sylwaf y bydd cronfa fuddsoddi BBaCh Cymru yn cael ei rheoli gan Cyllid Cymru. Yr oeddwn eisiau tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi bod Cyllid Cymru yn bodoli. Mae Cyllid Cymru wedi bod o fantais fawr i fusnesau preifat yn fy etholaeth. Mae hefyd yn bwysig oherwydd nad yw’r banciau masnachol yn y sector preifat a’r tai cyfalaf menter yn cael eu cynrychioli yng Nghymru, ac nid ydynt yn ymddangos yn awyddus i fuddsoddi yn rhy bell oddi wrth yr M25 a chanolbarth yr Alban. Mae Cyllid Cymru yn fenter wych gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dim ond chwaraewr bach ydyw o’i gymharu â phedwar banc mawr y stryd fawr.

 

Overall responsibility for macro-economic policy is not devolved to Wales, but remains with Westminster and the Bank of England. We all know that demand levels in the economy are low at the moment and that there are very few levers in the hands of the Welsh Government to increase demand levels. Although I said at the outset that I welcome the grants and loans that have been announced by the Minister for business today, it is not going to achieve a huge amount unless the Westminster Government at the other end of the M4 does its bit to stimulate demand levels. That is the key issue. The levers that we have here are small when compared with what the Westminster coalition Government could do if it were to really try to re-stimulate the economy. However, where there are companies that can buck the trend and invest, we have to do all that we possibly can to back them.

 

Nid yw’r cyfrifoldeb cyffredinol am bolisi macro-economaidd wedi cael ei ddatganoli i Gymru, gan aros gyda San Steffan a Banc Lloegr. Yr ydym i gyd yn gwybod bod lefelau galw yn yr economi yn isel ar hyn o bryd ac mai ychydig iawn o drosolion sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu lefelau galw. Er y dywedais ar y dechrau fy mod yn croesawu’r grantiau a benthyciadau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog busnes heddiw, nid ydynt yn mynd i gyflawni llawer iawn oni bai bod Llywodraeth San Steffan ar ben arall yr M4 yn gwneud ei rhan i ysgogi lefel galw. Dyna’r mater allweddol. Mae’r dulliau sydd gennym yma yn fach o’u cymharu â’r hyn y gallai’r Llywodraeth glymblaid yn San Steffan ei wneud pe bai’n wir yn ceisio ail-ysgogi’r economi. Fodd bynnag, lle mae cwmnïau sy’n gallu mynd yn groes i’r duedd a buddsoddi, mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi.

 

It is good news that British Airways Maintenance Cardiff appears to be giving serious consideration to investing in St Athan, to allow expansion of the Rhoose maintenance base in the constituency of the Minister for finance. GE Healthcare, in my constituency of Cardiff North, is also transferring very skilled work into Wales, including growing heart valves from stem cells. It is also good news that Renishaw, which bought the huge Bosch complex in Miskin, is also coming to Wales. I know that Members, especially the Minister for finance, have fought very hard and made huge efforts to try to keep Bosch in Wales. One of the recompenses now is that this huge strategic site situated on the M4 will be taken over by Renishaw, which is good news.

 

Mae’n newyddion da yr ymddengys fod British Airways Maintenance Cardiff yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i fuddsoddi yn Sain Tathan, i ganiatáu ehangu canolfan cynnal a chadw Rhws yn etholaeth y Gweinidog dros gyllid. Mae GE Healthcare, yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd, hefyd yn trosglwyddo gwaith medrus iawn i Gymru, gan gynnwys tyfu falfiau’r galon o bôn-gelloedd. Mae hefyd yn newyddion da bod Renishaw, a brynodd gyfadeilad enfawr Bosch ym Meisgyn, hefyd yn dod i Gymru. Gwn fod Aelodau, yn enwedig y Gweinidog dros gyllid, wedi brwydro’n galed iawn a gwneud ymdrech enfawr i geisio cadw Bosch yng Nghymru. Un o’r taledigaethau yn awr yw y caiff y safle strategol enfawr wedi ei leoli ar yr M4 ei gymryd drosodd gan Renishaw, sy’n newyddion da.

 

It is important to recognise that good initiatives are happening in Wales. The Welsh Government is friendly to businesses and private enterprise, and we have many examples of that. We can only do a limited amount from here, therefore the Westminster Government has to make an effort and change its policy to stimulate growth.

 

Mae’n bwysig cydnabod bod mentrau da yn digwydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfeillgar â busnesau a mentrau preifat, ac mae gennym lawer o enghreifftiau o hynny. Gallwn ond wneud hyn a hyn yn y fan hon, felly mae’n rhaid i Lywodraeth San Steffan wneud ymdrech a newid ei pholisi i ysgogi twf.

 

Nick Ramsay: On that point, it is not only about the Westminster Government; the Minister here has levers. Although I hear what you say about some companies, I have been approached by a number of businesses that feel that they have not always had the best interaction with Finance Wales or the Welsh Government in the past. Do you agree that we have to put that right?

 

Nick Ramsay: Ar y pwynt hwnnw, nid yw’n ymwneud yn unig â Llywodraeth San Steffan; mae gan y Gweinidog yma drosolion. Er fy mod yn derbyn yr hyn yr ydych yn ei ddweud am rai cwmnïau, yr wyf wedi cysylltu â nifer o fusnesau sy’n teimlo nad ydynt wedi cael y rhyngweithio gorau bob tro gyda Cyllid Cymru neu Lywodraeth Cymru yn y gorffennol. A ydych yn cytuno bod yn rhaid i ni unioni hynny?

 

Julie Morgan: All I can say is that my experience of Finance Wales has been extremely good. The fact that the Welsh Government has had that facility has been a huge advantage. It is important to put that on the record.

 

Julie Morgan: Y cyfan y gallaf ei ddweud yw bod fy mhrofiad o Cyllid Cymru wedi bod yn eithriadol o dda. Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cael y cyfleuster hwnnw wedi bod yn fantais enfawr. Mae’n bwysig cofnodi hynny.

 

I do not think that grant availability is the most important element in attracting companies such as BAMC and Renishaw to Wales. It does not compare with skills levels, for example. We are working hard to try to improve skills levels. Infrastructure quality is also tremendously important, including broadband. Another issue is the quality of life. We have such a unique selling point in the quality of life, and it is that element that really attracts people to Wales. I am thinking of facilities such as the Millennium Centre and the Millennium Stadium, and the wonderful environment of the Brecon Beacons National Park and the Gower coast. What we can do is limited, but we have some great attractions to help bring private enterprise to Wales.

 

Nid wyf yn credu mai argaeledd grant yw’r elfen bwysicaf mewn denu cwmnïau fel BAMC a Renishaw i Gymru. Nid yw’n cymharu â lefelau sgiliau, er enghraifft. Yr ydym yn gweithio’n galed i geisio gwella lefelau sgiliau. Mae ansawdd seilwaith hefyd yn hynod bwysig, gan gynnwys band eang. Mater arall yw ansawdd bywyd. Mae gennym y fath bwynt gwerthu unigryw o ran ansawdd bywyd, a’r elfen honno sydd wir yn denu pobl i Gymru. Yr wyf yn meddwl am gyfleusterau fel Canolfan y Mileniwm a Stadiwm y Mileniwm, ac amgylchedd hyfryd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac arfordir Gwyr. Mae’r hyn y gallwn ei wneud yn gyfyngedig, ond mae gennym rai atyniadau gwych i helpu dod â menter breifat i Gymru.

 

The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science (Edwina Hart): I am pleased to participate in my weekly debate on the economy and listen to the normal exchanges between the Conservatives and Liberal Democrats about the quality of the resolution and whether good amendments need to be added.

 

Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (Edwina Hart): Yr wyf yn falch o gymryd rhan yn fy nadl wythnosol ar yr economi a gwrando ar y cyfnewidiadau arferol rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol am ansawdd y cynnig ac a oes angen ychwanegu gwelliannau da.

 

This debate allows a vehicle for discussion in the Chamber, which is quite important. There are different views across the Chamber, but we can all go away with the fundamental agreement that we require more jobs and investment in Wales. It is important for all of us, as political parties across the piece, to hang on to that. The debate is particularly timely as it takes place during Global Entrepreneurship Week. I know that Nick Ramsay is interested in the entrepreneurship agenda, so I assume that that is something to do with the timing.

 

Mae’r ddadl hon yn caniatáu trafodaeth yn y Siambr, sy’n eithaf pwysig. Ceir sawl barn wahanol ar draws y Siambr, ond gallwn ni i gyd ymadael gyda chytundeb sylfaenol bod arnom angen fwy o swyddi a buddsoddiad yng Nghymru. Mae’n bwysig i bob un ohonom, fel pleidiau gwleidyddol yn gyffredinol, ddal gafael ar hynny. Mae’r ddadl yn arbennig o amserol gan ei bod yn digwydd yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. Gwn fod gan Nick Ramsay ddiddordeb yn yr agenda entrepreneuriaeth, felly yr wyf yn cymryd yn ganiataol bod gan hynny rywbeth i’w wneud â’r amseru.

 

I had the pleasure of launching the Global Entrepreneurship Week in Cardiff on Monday. The aim of the week is to promote entrepreneurship, encourage people of all ages to pursue their business ideas and raise awareness of the help and support available for start-up businesses in Wales. This is an issue that is high on our agenda and on the agenda of businesses. They want to take advantage of the range of support and advice available from the Welsh Government to help them turn their ideas into new businesses. I was discussing with a company only this morning the importance of the quality of that initial advice. Sometimes, you have to advise people that their business idea is not good and tell them not to start down that road. You have got to be professional enough to deal with some of those wider issues and the type of advice given.

 

Cefais y pleser o lansio’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang yng Nghaerdydd ddydd Llun. Nod yr wythnos yw hyrwyddo entrepreneuriaeth, gan annog pobl o bob oed i ddilyn eu syniadau busnes a chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau newydd yng Nghymru. Mae hwn yn uchel ar ein hagenda ac ar agenda busnesau. Maent yn awyddus i fanteisio ar yr amrywiaeth o gefnogaeth a chyngor sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i helpu troi eu syniadau yn fusnesau newydd. Dim ond y bore yma y bûm yn trafod pwysigrwydd ansawdd y cyngor cychwynnol hwnnw gyda chwmni. Weithiau, mae’n rhaid i chi gynghori pobl nad yw eu syniad busnes yn dda a dweud wrthynt am beidio â dechrau ar y trywydd hwnnw. Mae’n rhaid i chi fod yn ddigon proffesiynol i ymdrin â rhai o’r materion ehangach hynny a’r math o gyngor a roddir.

 

Last week, I had the pleasure of meeting the six business entrepreneurship champions whom I have appointed to promote entrepreneurship and provide guidance and entrepreneurship policy. That is why I refute the idea that I do not take on board what business tells me. When I was speaking to the entrepreneurs, they were quite happy to be involved because they had taken the step to become entrepreneurs and want to help in any way they can. We are very committed to assisting them, and we want them to develop the policy agenda for us rather than our doing it from inside glass towers in Cathays park. It is being done by people who have been on the ground.

 

Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o gwrdd â’r chwech hyrwyddwr entrepreneuriaeth busnes yr wyf wedi eu penodi i hyrwyddo entrepreneuriaeth a rhoi arweiniad a pholisi entrepreneuriaeth. Dyna pam yr wyf yn gwrthod y syniad nad wyf yn derbyn yr hyn y mae busnes yn ei ddweud wrthyf. Pan oeddwn yn siarad â’r entrepreneuriaid, yr oeddent yn eithaf hapus i gymryd rhan oherwydd eu bod wedi cymryd y cam i fod yn entrepreneuriaid ac yn awyddus i helpu mewn unrhyw ffordd y gallent. Yr ydym yn ymrwymedig iawn i’w cynorthwyo, ac yr ydym am iddynt ddatblygu’r agenda bolisi drosom yn hytrach na’n bod ni’n ei wneud o’r tu mewn i dyrau gwydr ym mharc Cathays. Pobl sydd wedi bod ar lawr gwlad sydd yn ei wneud.

 

We are also building strong links with our anchor companies and supporting high performing quality companies in all those parts of the economy that can create employment, wealth and a sustainable Wales. I am very pleased that Byron Davies and Andrew R.T. Davies had a good visit to Tata. We have excellent relations with Tata as a company. It is a good company, and we have given it good support. I am sure that if it had said anything to the contrary during your visit, you would have expressed that opinion in the Chamber today.

 

Yr ydym hefyd yn adeiladu cysylltiadau cryf gyda’n cwmnïau angori ac yn cefnogi cwmnïau o ansawdd sy’n perfformio’n uchel ym mhob rhan o’r economi a all greu cyflogaeth, cyfoeth a Chymru gynaliadwy. Rwy’n falch iawn y cafodd Byron Davies ac Andrew R.T. Davies ymweliad da gyda Tata. Mae gennym gysylltiadau ardderchog gyda Tata fel cwmni. Mae’n gwmni da, ac yr ydym wedi rhoi cymorth da iddo. Yr wyf yn sicr pe bai wedi dweud unrhyw beth i’r gwrthwyneb yn ystod eich ymweliad, byddech wedi mynegi’r farn honno yn y Siambr heddiw.

 

Since May, I have made it a priority to develop a constructive dialogue with representatives of the business community to benefit from their experience and expertise. I have not been shy in asking them to undertake work for us and to give us advice. We will see what type of advice will come when the microbusiness review reports. I have also taken advice on the establishment of the new sector panels. I have been particularly delighted that David Rosser, the director of CBI Wales, has been seconded to work for the Welsh Government to further encourage innovation and support for the role of the anchor companies in Wales. I think that that indicates that there is a good relationship there, and we will be building on the relationships we have with business.

 

Ers mis Mai, yr wyf wedi blaenoriaethu datblygu deialog adeiladol gyda chynrychiolwyr y gymuned fusnes i elwa o’u profiad a’u harbenigedd. Nid wyf wedi ymatal rhag gofyn iddynt ymgymryd â gwaith drosom ac i roi cyngor i ni. Byddwn yn gweld pa fath o gyngor a gawn pan ddaw adroddiad yr adolygiad o ficrofusnesau. Yr wyf hefyd wedi cael cyngor ar sefydlu’r paneli sector newydd. Yr wyf wedi bod yn arbennig o falch bod David Rosser, cyfarwyddwr CBI Cymru, wedi cael mynd ar secondiad i weithio yn Llywodraeth Cymru er mwyn annog mwy o arloesi a chefnogaeth ar gyfer rôl y cwmnïau angori yng Nghymru. Credaf fod hynny’n dangos bod yna berthynas dda yno, a byddwn yn adeiladu ar y berthynas sydd gennym â busnes.

 

Members will also be aware that, today, I announced a significant boost for financing private sector business in Wales totalling £35 million. I note the points made by Nick Ramsay about the announcement. It is something I will consider in future. This money will stimulate the Welsh economy and support business growth across Wales. The important thing is that it is across Wales. On the £40 million Wales SME investment fund, I acknowledge the points made by Julie Morgan particularly on Finance Wales as well as the contrary points made, because there is a mixed report about Finance Wales that I will have to deal with as Minister. It is very important. It will be providing a dual package, which I hope will be a catalyst for growth, enabling business to invest in capital projects, safeguarding jobs and creating new jobs.

 

Bydd Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod heddiw wedi cyhoeddi hwb sylweddol ar gyfer ariannu busnesau sector preifat yng Nghymru—cyfanswm o £35 miliwn. Yr wyf yn nodi’r pwyntiau a wnaeth Nick Ramsay am y cyhoeddiad. Mae’n rhywbeth y byddaf yn ei ystyried yn y dyfodol. Bydd yr arian hwn yn ysgogi economi Cymru a chefnogi twf busnesau ledled Cymru. Y peth pwysig yw ei bod ledled Cymru. Ar y gronfa fuddsoddi BBaCh Cymru gwerth £40 miliwn, yr wyf yn cydnabod y pwyntiau a wnaeth Julie Morgan yn arbennig ar Cyllid Cymru, yn ogystal â’r pwyntiau a wnaed i’r gwrthwyneb, oherwydd ceir adroddiad cymysg am Cyllid Cymru a byddaf yn gorfod ymdrin ag ef fel Gweinidog. Mae’n bwysig iawn. Bydd yn darparu pecyn deuol, a gobeithiaf y bydd yn gatalydd ar gyfer twf, gan alluogi busnesau i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf, diogelu swyddi a chreu swyddi newydd.

 

The motion also refers to the need to improve infrastructure and skills. Alun Ffred referred to some of the infrastructure issues. Capital investment in major infrastructure underpins the Welsh Government’s commitment to boost growth in the economy, support the hard-pressed construction industry, and provide the conditions necessary to allow the private sector to grow and create jobs. Mohammad Asghar referred to the construction sector and individuals. We have an excellent relationship with representatives of the construction sector. I was with them yesterday discussing issues. They are delighted by my decision to have a construction sector panel to look at the issues concerned. We also have very good relationships with housebuilders, and we continue to talk with them about innovative solutions to some of the housing issues. Sometimes, I am not quite sure who some of the parties in the Chamber actually talk to out there.

 

Mae’r cynnig hefyd yn cyfeirio at yr angen i wella seilwaith a sgiliau. Cyfeiriodd Alun Ffred at rai o’r materion seilwaith. Mae buddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith o bwys yn ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hybu twf yn yr economi, cefnogi’r diwydiant adeiladu sydd dan bwysau, a darparu’r amodau angenrheidiol i ganiatáu i’r sector preifat i dyfu a chreu swyddi. Cyfeiriodd Mohammad Asghar at y sector adeiladu ac unigolion. Mae gennym berthynas ardderchog gyda chynrychiolwyr y sector adeiladu. Yr oeddwn gyda hwy ddoe yn trafod materion. Maent wrth eu bodd am fy mhenderfyniad i gael panel sector adeiladu i edrych ar y materion dan sylw. Mae gennym hefyd berthynas dda iawn gyda’r adeiladwyr tai, ac yr ydym yn parhau i siarad â hwy am atebion arloesol i rai o’r materion yn ymwneud â thai. Weithiau, nid wyf yn hollol siŵr gyda phwy y mae rhai o’r pleidiau yn y Siambr mewn gwirionedd yn siarad allan yno.

 

The Welsh Government will invest more than £1.3 billion in new hospitals, schools and major infrastructure projects across Wales this financial year. We also continue to support company growth through investment in skills. I have to say that the skills agenda is one of those that I get the most compliments on from industry with regard to the fact that we are able to deal with skills, provide bespoke skills and training if needed and the fact that we are always open to suggestions on what more industry requires in the department led by Leighton Andrews and my colleague Jeff Cuthbert. The Skills Growth Wales programme is so closely linked to Jobs Growth Wales that we are really growing skills and jobs in Wales. It is very important for us to recognise that.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £1.3 biliwn mewn ysbytai, ysgolion a phrosiectau seilwaith mawr newydd ledled Cymru y flwyddyn ariannol hon. Yr ydym hefyd yn parhau i gefnogi twf cwmnïau drwy fuddsoddi mewn sgiliau. Mae’n rhaid i mi ddweud bod yr agenda sgiliau yn un o’r rhai yr wyf yn cael y ganmoliaeth fwyaf amdanynt gan fyd diwydiant o ran y ffaith ein bod yn gallu ymdrin â sgiliau, darparu sgiliau a hyfforddiant pwrpasol os oes angen a’r ffaith ein bod bob amser yn agored i awgrymiadau ar beth arall y mae ei angen ar fyd diwydiant yn yr adran o dan arweiniad Leighton Andrews a’m cydweithiwr Jeff Cuthbert. Mae’r rhaglen Sgiliau Twf Cymru wedi cael ei gysylltu mor agos â Twf Swyddi Cymru fel ein bod yn wir yn tyfu sgiliau a swyddi yng Nghymru. Mae’n bwysig iawn i ni gydnabod hynny.

 

Turning to some of the amendments, I wish that the Welsh Liberal Democrats had drafted their amendment differently, because it contains a couple of good points, but there are a couple of points I cannot agree with. Therefore, I will have to oppose the amendment. Most regulation is UK or EU-based. Therefore, it is not within my control to reduce the burden on business. We are committed to reducing regulation of business within our control, and we will carry out a regular impact assessment of Welsh Government legislation and seek to streamline, simplify and codify existing Welsh Government legislation, including measuring the cumulative impact of Government policies on the Welsh economy.

 

Gan droi at rai o’r gwelliannau, yr wyf yn dymuno y byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi drafftio eu gwelliant mewn ffordd wahanol, oherwydd mae’n cynnwys un neu ddau o bwyntiau da, ond mae yna un neu ddau o bwyntiau na allaf gytuno â hwy. Felly, bydd yn rhaid imi wrthwynebu’r gwelliant. Mae’r rhan fwyaf o reoleiddio yn seiliedig yn y Deyrnas Unedig neu’r Undeb Ewropeaidd. Felly, nid yw lleihau’r baich ar fusnesau o fewn fy rheolaeth. Yr ydym wedi ymrwymo i leihau’r rheoleiddio busnes sydd o fewn ein rheolaeth, a byddwn yn cynnal asesiad effaith rheolaidd o ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru a cheisio symleiddio a chyfundrefnu deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys mesur effaith gronnol polisïau’r Llywodraeth ar economi Cymru.

 

3.45 p.m.

 

The other issue is the Welsh stock exchange. The financial and professional service sector panel—I think that we all agree that its members are experts as they were all appointed through the public appointments system—discussed the idea of a Welsh stock exchange at its June meeting. It did not support the creation of a Welsh stock exchange by the Welsh Government at this time and stated that any attempt to establish a Welsh stock exchange would be viable only if it was driven by the private sector. We would have to have clear evidence of demand and interest from businesses. If you look at some of the other regional stock exchanges, you will see that they have struggled. The Birmingham exchange has only seen three companies listed after being established in 2007. So, I think that we need to be mindful of the reality of the situation.

 

Y mater arall yw cyfnewidfa stoc Gymreig. Gwnaeth panel y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol—yr wyf yn credu ein bod i gyd yn cytuno bod ei aelodau yn arbenigwyr gan iddynt i gyd gael eu penodi drwy’r system penodiadau cyhoeddus—drafod y syniad o gyfnewidfa stoc Gymreig yn ei gyfarfod ym mis Mehefin. Nid oedd yn cefnogi’r syniad bod Llywodraeth Cymru yn creu cyfnewidfa stoc Gymreig ar hyn o bryd a dywedodd y byddai unrhyw ymgais i sefydlu cyfnewidfa stoc Gymreig ond yn hyfyw os mai’r sector preifat oedd yn ei yrru. Byddai’n rhaid i ni gael tystiolaeth glir o’r galw a’r diddordeb gan fusnesau. Os edrychwch ar rai o’r cyfnewidfeydd stoc rhanbarthol eraill, gwelwch eu bod wedi cael trafferth. Dim ond tri chwmni sydd wedi rhestru yng nghyfnewidfa Birmingham ar ôl iddi gael ei sefydlu yn 2007. Felly, credaf fod angen i ni ystyried realiti’r sefyllfa.

 

We support the amendment tabled by Plaid Cymru. As regards capital investment, the internal consultation on the scope and reach of the Wales infrastructure investment plan is well under way and levering in more funding to the public sector infrastructure over the next few years is crucial to that overall picture. I also very much support Alun Ffred’s comments about the use of PFI. The Minister for Finance and Leader of the House is working closely with local government on an initiative that will see local authorities borrow to invest in shared infrastructure priorities. The fact that we are having these discussions is a sign of good joint working in Wales. The Minister for Finance and Leader of the House will announce further details on these issues in the next few weeks.

 

Yr ydym yn cefnogi’r gwelliant a gyflwynodd Plaid Cymru. O ran buddsoddiad cyfalaf, mae’r ymgynghoriad mewnol ar gwmpas a chyrhaeddiad y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru ar y gweill ac mae denu mwy o gyllid i seilwaith y sector cyhoeddus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn hanfodol i’r darlun cyffredinol hwnnw. Yr wyf hefyd yn cefnogi’n fawr iawn sylwadau Alun Ffred am y defnydd o fenter cyllid preifat. Mae’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ yn gweithio’n agos gyda llywodraeth leol ar fenter lle bydd awdurdodau lleol yn benthyca i fuddsoddi mewn blaenoriaethau seilwaith sy’n cael eu rhannu. Mae’r ffaith ein bod yn cael y trafodaethau hyn yn arwydd o gydweithio da yng Nghymru. Bydd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ yn cyhoeddi manylion pellach ar y materion hyn yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

There have been some exceptionally interesting contributions to this debate. Ken Skates makes an excellent point about the creative industries. We work hard with the sector panel chair and members to identify opportunities around how we can assist that sector. It has been important for us to have this dialogue today. We will be supporting the motion. We will be opposing the Liberal Democrat amendment and supporting the Plaid Cymru amendment.

 

Cafwyd rhai cyfraniadau eithriadol o ddiddorol yn y ddadl hon. Gwnaeth Ken Skates bwynt ardderchog am y diwydiannau creadigol. Yr ydym yn gweithio’n galed gyda chadeirydd ac aelodau’r panel sector i nodi cyfleoedd o ran sut y gallwn gynorthwyo’r sector. Mae wedi bod yn bwysig i ni gael y deialog hwn heddiw. Byddwn yn cefnogi’r cynnig. Byddwn yn gwrthwynebu gwelliant y Democratiaid Rhyddfrydol a chefnogi gwelliant Plaid Cymru.

 

Angela Burns: Minister, I thank you for replying to the debate in the spirit in which we intended to launch it. Some positive things have come out of this debate and I would like to touch upon them.

 

Angela Burns: Weinidog, diolch i chi am ymateb i’r ddadl yn yr un ysbryd y cafodd ei lansio ynddo. Mae rhai pethau cadarnhaol wedi dod allan o’r ddadl hon a hoffwn gyffwrdd arnynt.

 

Before I do that, however, I wish to put two things to bed. The first is the endless wrangling between what happens here and in Westminster. Wales did not feature an awful lot in some of the contributions today. I will read the Governor of the Bank of England’s opening remarks in his report on inflation today. He says:

 

Cyn imi wneud hynny, fodd bynnag, yr wyf yn dymuno rhoi taw ar ddau beth. Y cyntaf yw’r ffraeo diddiwedd am yr hyn sy’n digwydd yma ac yn San Steffan. Ni chafodd Cymru ei chynnwys rhyw lawer yn rhai o’r cyfraniadau heddiw. Darllenaf sylwadau agoriadol Llywodraethwr Banc Lloegr yn ei adroddiad ar chwyddiant heddiw. Mae’n dweud:

 

Real take-home pay should gradually begin to recover after a period in which prices have grown faster than wages. It would be wrong, though, to think that monetary policy was the reason for the sharp squeeze in real take-home pay. Instead the squeeze was an unavoidable consequence of movements in world energy and other commodity prices, the need to rebalance the UK economy, and the cost of the financial crisis in terms of lower productivity.’

 

Dylai cyflog mynd adref real ddechrau adfer yn raddol wedi cyfnod lle mae prisiau wedi tyfu’n gyflymach na chyflogau. Byddai’n anghywir, fodd bynnag, i feddwl mai polisi ariannol oedd y rheswm dros y wasgfa sydyn ar gyflog mynd adref real. Yn hytrach, yr oedd y wasgfa yn ganlyniad anochel i symudiadau mewn prisiau’r byd ar gyfer ynni a nwyddau eraill, yr angen i ail-gydbwyso economi’r DU, a chost yr argyfwng ariannol yn nhermau cynhyrchiant is.

 

Those who raise those issues should consider that. We need to consider that, because the coalition Government has created some 0.5 million private sector jobs throughout the UK. In Wales, we have lost 35,000 private sector jobs and we need to reflect upon that.

 

Dylai’r sawl sy’n codi’r materion hynny ystyried hynny. Mae angen i ni ystyried hynny, oherwydd mae’r Llywodraeth glymblaid wedi creu oddeutu 0.5 miliwn o swyddi yn y sector preifat ar draws y DU. Yng Nghymru, yr ydym wedi colli 35,000 o swyddi yn y sector preifat ac mae angen i ni ystyried hynny.

 

I would also just like to touch quickly on the Liberal Democrat amendment. We want to provoke debate; we do not want to shut it down. Although you have some good detail and a lot of blue-sky thinking, it is about the bottom-line reality of how this translates. We want to take the Government and the Assembly with us to a point where we can all talk about what we can do together in a positive way, without being so prescriptive that everything just gets voted down.

 

Hoffwn hefyd gyffwrdd yn gyflym ar welliant y Democratiaid Rhyddfrydol. Yr ydym yn awyddus i ysgogi trafodaeth; nid ydym am ei gau i lawr. Er bod gennych rywfaint o fanylder da a llawer o feddwl heb orwelion, mae’n ymwneud â realiti’r llinell waelod a sut mae hyn yn trosi. Yr ydym yn awyddus i gymryd y Llywodraeth a’r Cynulliad gyda ni at bwynt lle y gallwn i gyd siarad am yr hyn y gallwn ei wneud gyda’n gilydd mewn modd cadarnhaol, heb fod mor rhagnodol bod popeth ddim ond yn cael ei wrthod.

 

Given the time that I have, I am not going to be able to mention everybody and everything that was said. However, I want to bring to your attention the two young people who were on the television this morning. They had been out of work for about 18 months, they had left university and they had not been able to get jobs. Many of you will probably have seen that news piece. One person was still at home with her mum and was still looking in the conventional way. The second person had come out of university and had gone into his mum and dad’s garage and had invented a product called Green Oil for oiling the chains that go around bikes. It is all wonderful and green and made of vegetables and other things. Now, 18 months down the line, he is in a little unit on an industrial estate somewhere with an employee working for him and orders coming in. His product is in many bike shops in the UK and he is starting to export internationally. I have been pondering about those two people all day, and thinking about what it was that made one person able to do that but not the other. Was it because that individual had a special skill or knew something about engineering, oils or combining chemicals? I have no idea. It is important that, when looking at skills training, we also look at the intangible bit of skills training, which is the way in which you inspire someone to get up and be creative, and encourage bravery so that if someone fails, they see it as just a failure and understand that life will carry on and they will try again.

 

O ystyried yr amser sydd gennyf, nid wyf yn mynd i allu sôn am bawb na phopeth a ddywedwyd. Fodd bynnag, hoffwn dynnu eich sylw at y ddau berson ifanc a oedd ar y teledu y bore yma. Yr oeddent wedi bod yn ddi-waith ers tua 18 mis, yr oeddent wedi gadael y brifysgol ac nid oeddent wedi gallu cael swyddi. Bydd llawer ohonoch, yn fwy na thebyg, wedi gweld y darn newyddion hwnnw. Yr oedd un person yn dal i fod gartref gyda’i mam ac yn dal i chwilio yn y ffordd gonfensiynol. Yr oedd yr ail berson wedi gadael y brifysgol ac wedi mynd i mewn i garej ei fam a’i dad a dyfeisio cynnyrch o’r enw Green Oil er mwyn rhoi olew ar y cadwyni sy’n mynd o gwmpas beiciau. Mae’n wych drwyddi draw, yn wyrdd a’i gynhwysion yw llysiau a phethau eraill. Yn awr, 18 mis yn ddiweddarach, mae ef mewn uned fach ar ystâd ddiwydiannol yn rhywle gyda gweithiwr yn gweithio drosto ac archebion yn dod i mewn. Mae ei gynnyrch mewn llawer o siopau beiciau yn y Deyrnas Unedig ac mae’n dechrau allforio yn rhyngwladol. Yr wyf wedi bod yn meddwl am y ddau ohonynt drwy’r dydd, ac yn meddwl am yr hyn a alluogodd un person i wneud hynny, ond nid y llall. Ai oherwydd bod gan yr unigolyn hwnnw sgil arbennig neu wybodaeth am beirianneg, olewau neu gyfuno cemegau? Ni wn i. Mae’n bwysig, wrth edrych ar hyfforddiant sgiliau, ein bod hefyd yn edrych ar y darn anghyffwrdd o hyfforddiant sgiliau, sef y ffordd yr ydych yn ysbrydoli rhywun i godi a bod yn greadigol, ac yn annog dewrder fel os bydd rhywun yn methu, maent yn ei weld fel dim ond methiant ac yn deall y bydd bywyd yn parhau a byddant yn ceisio eto.

 

David Rees: Thank you for taking an intervention. On that point, will you also praise the Welsh Government, because the person said in the story that the product is now being manufactured in Wales? Therefore, it is clear that the investment is being made in Wales because of the way in which the system has been set up by the Government.

 

David Rees: Diolch am dderbyn ymyriad. Ar y pwynt hwnnw, a wnewch chi hefyd ganmol Llywodraeth Cymru, oherwydd dywedodd y person yn y stori bod y cynnyrch yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru? Felly, mae’n amlwg bod y buddsoddiad yn cael ei wneud yng Nghymru oherwydd y ffordd y mae’r system wedi cael ei sefydlu gan y Llywodraeth.

 

Angela Burns: I absolutely welcome that; it was very good. I know that the Minister will eventually produce the manufacturing strategy that we were not able to get before. You are absolutely right that the product is being produced in Wales and it is very good. However, that individual has a spark inside him that led him to go out to start a business. Therefore, Minister, when we look at skills training, we also need to look at that other aspect, namely how we create the entrepreneurial bug inside someone.

 

Angela Burns: Yr wyf yn croesawu hynny’n llwyr; yr oedd yn dda iawn. Gwn y bydd y Gweinidog yn y pen draw yn cynhyrchu’r strategaeth gweithgynhyrchu nad oeddem yn gallu ei chael o’r blaen. Yr ydych yn llygad eich lle bod y cynnyrch yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, ac mae’n dda iawn. Fodd bynnag, mae gwreichionen y tu fewn i’r unigolyn hwnnw a’i harweiniodd i fynd allan a chychwyn busnes. Felly, Weinidog, pan fyddwn yn edrych ar hyfforddiant sgiliau, mae angen i ni hefyd edrych ar yr agwedd arall, sef sut yr ydym yn creu’r chwilen entrepreneuraidd y tu mewn i rywun.

 

Ken raised some very good points about the top-level domain name and the creative industries. The Minister has been very supportive in terms of the Atlantic Array, and I thank her for that because that is the particular drum that I have been beating and which could be a game-changer for Wales. Investment is always very welcome and the £55 million is very welcome. However, we are concerned that if businesses cannot access it until 2012, it might be too late.

 

Cododd Ken rai pwyntiau da iawn am yr enw parth lefel uchaf a’r diwydiannau creadigol. Mae’r Gweinidog wedi bod yn gefnogol iawn o ran yr Atlantic Array, ac yr wyf yn diolch iddi am hynny am fy mod wedi bod yn curo’r drwm dros y cynllun penodol hwnnw a allai fod yn bellgyrhaeddol yn hanes Cymru. Mae croeso cynnes bob amser i fuddsoddi ac mae croeso tanbaid i’r £55 miliwn. Fodd bynnag, ein pryder yw, os na all busnesau gael gafael arno tan 2012, y gallai fod yn rhy hwyr.

 

Bethan Jenkins: I would like to clarify whether your party is in favour of the Atlantic Array, because your colleague, Suzy Davies, said yesterday that she was against the development.

 

Bethan Jenkins: Hoffwn gael eglurhad a ydyw eich plaid o blaid yr Atlantic Array, oherwydd ddoe dywedodd eich cydweithwraig Suzy Davies ei bod yn erbyn y datblygiad.

 

Angela Burns: The strange thing about Conservatives, Bethan Jenkins, is that we are able to hold opinions and debate the issues. As far as I am concerned, as the Member for Carmarthen West and South Pembrokeshire, if we are going to be looking at an Atlantic Array, I would much rather the jobs and opportunities came to Wales and did not go to Devon. Therefore, if we have to have that Atlantic Array, we want all the benefit to come to Wales. Minister, I support you for looking at how we can get the most out of that. I am very appreciative of your response today, Minister. This has been a good debate. We all want to work together to improve the economy of Wales.

 

Angela Burns: Y peth rhyfedd am y Ceidwadwyr, Bethan Jenkins, yw ein bod yn gallu dal mwy nag un farn a thrafod materion. O’m safbwynt i, fel yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, os ydym yn mynd i fod yn edrych ar Atlantic Array, byddai’n llawer gwell gennyf pe deuai’r swyddi a’r cyfleoedd i Gymru na mynd i Ddyfnaint. Felly, os oes yn rhaid i ni gael yr Atlantic Array, yr ydym am i’r holl fudd i ddod i Gymru. Weinidog, yr wyf yn eich cefnogi am edrych ar sut y gallwn gael y gorau allan o hynny. Gwerthfawrogaf eich ymateb heddiw yn fawr, Weinidog. Mae hon wedi bod yn ddadl dda. Yr ydym i gyd yn awyddus i weithio ar y cyd i wella economi Cymru.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? I see that there is objection. Therefore, I will defer all voting on this item until voting time.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw cytuno ar y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf fod gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf yr holl bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.

 

Dadl Plaid Cymru
Plaid Cymru Debate

 

Newid yn yr Hinsawdd
Climate Change

 

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Peter Black a gwelliannau 2 a 3 yn enw William Graham. Os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

 

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendment 1 in the name of Peter Black and amendments 2 and 3 in the name of William Graham. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected.

 

Cynnig NDM4850 Jocelyn Davies

 

Motion NDM4850 Jocelyn Davies

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

1. Yn cadarnhau targedau ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ a ‘Strategaeth Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd’ ac yn croesawu’r cyfraniad nodedig at gyrraedd y targedau hyn gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn ei strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’; ac

 

1. Affirms the targets of ‘One Wales: One Planet’ and the ‘Climate Change Strategy for Wales’ and welcomes the notable contribution to meeting these targets of the Centre for Alternative Technology in its strategy for ‘Zero Carbon Britain 2030’; and

 

2. Yn galw ar Weinidogion Cymru i lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ar newid yn yr hinsawdd hyd at Gynhadledd Rio+20.

 

2. Calls on Welsh Ministers to launch a public information campaign on climate change up to the Rio+20 Conference.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Cynigiaf y cynnig.

 

Lord Elis-Thomas: I move the motion.

 

Cyfeiriodd y Gweinidog busnes at y ddadl wythnosol ar yr economi. Mae’n dda gennyf gyflwyno dadl ar bwnc sy’n cael ei drafod bron â bod yn wythnosol, sef materion amgylcheddol, cynaliadwyedd ac, yn arbennig, wynebu sefyllfa newid hinsawdd.

 

The Minister for business referred to the weekly debate on the economy. I am pleased to introduce a debate on a subject that is discussed almost every week, namely environmental issues, sustainability and, especially, facing up to climate change.

 

Mae’r cynnig sydd wedi ei osod gerbron wedi’i seilio ar y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru’n Un ac ar bwysigrwydd a strategaethau newid hinsawdd a datblygiad o’r fan honno. Fodd bynnag, yr wyf hefyd wedi tynnu sylw’r Cynulliad at yr ail adroddiad gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen—sydd bron â bod yn Nwyfor Meirionnydd—yn Nyffryn Dulas yn Maldwyn, yn etholaeth Russell George. Mae’r adroddiad yn gosod gerbron ddadansoddiad clir o’r hyn y gallai Prydain Fawr fel rhan o’r Deyrnas Unedig ei wneud i wynebu newid hinsawdd. Yn ogystal, mae’r cynnig yn cyfeirio at y cynadleddau rhyngwladol sy’n digwydd ar hyn o bryd yn y maes hwn. Yr ydym yn edrych ymlaen at yr her fawr a fydd yn wynebu Llywodraethau a gwladwriaethau yn fyd-eang yn Durban yn Ne Affrica yn nes ymlaen y mis hwn.

 

The motion before us is based on the work undertaken by the One Wales Government and the importance of climate change and the strategies and development therein. However, I have also drawn the Assembly’s attention to the second report published by the Centre for Alternative Technology, which is almost in Dwyfor Meirionnydd, in Dulas valley in Maldwyn, in Russell George’s constituency. The report puts before us a clear analysis of what Britain as part of the United Kingdom could do to tackle climate change. In addition, the motion refers to the international conferences that are currently happening in this particular area. We are looking forward to the huge challenge that will be facing Governments and states from across the world in Durban in South Africa later this month.

 

Mae’n arferol y dyddiau hyn i bobl wisgo rhywbeth ar ryw ddiwrnod arbennig ac mae cais wedi dod oddi wrth Lywodraeth Gweriniaeth De Affrica inni weithio gyda’n gilydd i achub yfory heddiw. Mae cais inni wisgo gwyrdd ar ddydd Gwener 18 Tachwedd. Yn sicr, fel y Dirprwy Lywydd, byddaf bob amser yn gwisgo gwyrdd ar ddydd Gwener, ond byddaf yn gwneud hynny gyda balchder arbennig ddydd Gwener nesaf. Mae gennych ddewis hefyd: gallwch wisgo crys-T neu grys tîm rygbi De Affrica efallai. Byddai hynny efallai’n mynd ychydig yn rhy bell. Dyna yw cais Llywodraeth De Affrica, a gobeithiaf y gallwn ymateb iddo.

 

It is usual these days for people to wear a particular thing on a particular day and a request has been made by the Government of the Republic of South Africa for us to work together to save tomorrow today. We have been asked to wear green on Friday 18 November. Certainly, like the Deputy Presiding Officer, I always wear green on a Friday, but I will do so with particular pride this Friday. You also have a choice: you can wear a T-shirt or perhaps a South Africa rugby shirt. That is perhaps going a little bit too far. That is the request made by the Government of South Africa, and I hope that we can respond to it.

 

Fel y gwyddoch, mae’r gynhadledd honno’n allweddol, gan ei bod yn dilyn y gynhadledd a gynhaliwyd ynglŷn â phrotocol Kyoto. Gobeithiaf y bydd y gynhadledd hon yn dod i gasgliad penderfynol a difrifol ynglŷn â’r gronfa a fydd yn wynebu’r addasiadau sydd angen eu gwneud ynglŷn â newid hinsawdd. Wrth edrych ar y gwelliannau sydd wedi’u gosod gerbron heddiw, yr oeddwn yn siomedig bod y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn awyddus i ddileu’r cyfeiriad at y gynhadledd a gynhelir yn Rio y flwyddyn nesaf. Mae’r gynhadledd honno’n gynhadledd ryngwladol allweddol arall yn y maes hwn, ar ddatblygu cynaliadwy a’r fframwaith cyfreithiol. Serch hynny, yr wyf yn fodlon derbyn y gwelliant, gan ei fod yn ychwanegu cyfeiriad penodol at gynlluniau i wynebu tlodi tanwydd. Hoffwn awgrymu bod y rhain o bosibl yn faterion y dylid eu trafod wrth drafod y gyllideb, sef y drafodaeth sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd, yn hytrach na’u trafod yn rhan o’r ddadl hon. Fodd bynnag, mewn ysbryd o gariad brawdol tuag at y Rhyddfrydwyr Democrataidd, yr wyf yn derbyn y gwelliant.

 

As you know, that conference is crucial because it follows on from the conference held on the Kyoto protocol. I hope that this conference will come to a determined and serious conclusion about the fund facing the adaptations required now to tackle climate change. In looking at the amendments that are before us today, I was disappointed that the Liberal Democrats are keen to delete the reference to the conference that is to be held in Rio next year. That is another of the crucial international conferences in this field, on sustainable development and the legal framework. Despite that, I am willing to accept the amendment because it adds a specific reference to schemes to tackle fuel poverty. I would like to suggest that those issues should be discussed as part of the budget negotiations, which may be currently ongoing, instead of during this debate. However, in the spirit of brotherly love towards the Liberal Democrats, I accept the amendment.

 

Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn peri anhawster imi. Nid wyf yn sicr am y cyfeiriad at ailystyried y ffigur o 2 y cant, sef ffigur sydd wedi ei argraffu ar ein meddyliau fel ffigur cwbl allweddol y byddai mynd y tu hwnt iddo yn achosi dinistr i ynysoedd ac i wledydd sydd ar lefel cyn ised â lefel y môr. A yw’r cyfeiriad hwn yn arwydd o bolisi’r Ceidwadwyr? Nid wyf yn golygu polisi’r Ceidwadwyr Cymreig yn y Siambr hon, ond polisi Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig. Clywsom eisoes yn y cyfryngau fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o bosibl o blaid gohirio dod i gytundeb yn 2011 yn Ne Affrica ac am geisio gohirio cytundeb deallus ar brotocol Kyoto o’r newydd—yr hyn a fydd yn cael ei alw’n brotocol Durban—tan 2020. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Ceidwadwyr Cymreig beth yw gwir ddiben eu gwelliant; ond, er fy mod wedi dweud fy mod am aros i glywed beth yw’r rheswm am y gwelliant hwnnw, ni fyddaf yn ei dderbyn beth bynnag.

 

I had some difficulty with the Conservatives’ amendment. I am not sure about the reference to reconsidering the figure of 2 per cent, which is the figure that has been stamped on our minds as a key figure that to go beyond it would cause the destruction of islands and countries that are at sea level. Is this reference a sign of Conservative policy? I am not talking about the Welsh Conservatives in this Chamber, but the Conservative Government of the UK. We have heard in the media that the UK Government may be in favour of deferring agreement in South Africa in 2011 and that it wants to try to defer a sensible agreement on the newly drafted Kyoto protocol, which will be known as the Durban protocol, until 2020. I look forward to hearing from the Welsh Conservatives exactly what the purpose of their amendment is; however, although I have said that I want to hear an explanation regarding that amendment, I will not be accepting it in any case.

 

Yr ogystal â’r cynadleddau pwysig yn Affrica, cynhaliwyd trafodaethau pwysig iawn yn Ewrop ac yng ngogledd y byd yn gyffredinol wrth inni wynebu newid hinsawdd. Cyfeiriaf at y drafodaeth a gynhaliwyd rhwng gwahanol rwydweithiau o gynghorau ymgynghorol ym maes yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy yn Wroclaw yng ngwlad Pwyl yn ddiweddar, a’r datganiad pwysig a wnaed yno ynglŷn â phwysigrwydd yr economi werdd, a hynny yn yr argyfwng presennol. Un o’r gwendidau ar draws y pleidiau, hyd yn oed yn y Siambr hon, yw’r ffaith nad ydym wedi sylweddoli bod swyddi gwyrdd yn werth mwy ar gyfer y dyfodol na swyddi nad ydynt yn rhai gwyrdd. Wrth sôn am ysgogiad economaidd mewn argyfwng economaidd, mae’n bwysig bod yr ysgogiad hwnnw’n gynaliadwy—hynny yw, bod y swyddi a grëir yn rhai na fyddant yn costio mwy inni yn y dyfodol oherwydd nad ydynt yn swyddi cynaliadwy. Wrth inni gynllunio o fewn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer sut i ymdopi ag argyfwng presennol economi Cymru, mae’n bwysig bod gennym ymrwymiad clir i’r economi werdd. I’r rhai ohonom yng Nghymru sydd wedi arloesi ym maes llywodraethiad cynaliadwyedd, mae’n ddiddorol iawn bod y thema o lywodraethiad cynaliadwyedd—a sut y dylid hyrwyddo cynaliadwyedd drwy weithgarwch Llywodraeth—yn un o themâu pwysig cynhadledd Rio.

 

As well as the important conferences in Africa, very important discussions have been held in Europe and in the northern hemisphere in general as we face up to climate change. I am referring to the discussion that was held between various networks of advisory councils in the field of environment and sustainable development in Wroclaw in Poland recently, and the important statement that was made about the importance of the green economy, especially given the current crisis. One of the weaknesses across the parties, even in this Chamber, is the fact that we have not yet realised that green jobs will be of greater value for the future than jobs that are not green. When talking of an economic stimulus in the current crisis, it is important that that stimulus is sustainable—that is, that the jobs created will not cost us more in the future because they are not sustainable. As we plan for how to deal with Wales’s current economic crisis within the UK and the EU, it is important that we have a clear commitment to the green economy. For those of us in Wales who have been so innovative in the area of sustainable governance, it is very interesting that the theme of sustainable governance—and how sustainability should be promoted through Government action—is one of the important themes of the Rio conference.

 

4.00 p.m.

 

 

Wrth inni wynebu’r sefyllfa honno, mae’n bwysig inni gydnabod hefyd gyfraniad ein Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau rhyngwladol. Rhaid dweud fy mod yn beirniadu yn y Siambr ddatganiad llefarydd y Ceidwadwyr pan aeth y Gweinidog i’n cynrychioli yn y rhwydwaith o ranbarthau dros ddatblygu cynaliadwy yn Québec yr hydref hwn. Beirniadodd llefarydd y Ceidwadwyr ei bresenoldeb yno, gan awgrymu na ddylai trethdalwyr Cymru dalu am y fath ymweliad. Hyd y gwelaf i, cafwyd cyfraniad nodedig gan y Gweinidog—a chaiff siarad drosto ef ei hun—yn y gynhadledd honno, lle’r oedd uwchgynhadledd ar ddatblygu cynaliadwy yn cynnwys y rhwydwaith yr ydym ni yng Nghymru yn rhan ohono drwy gynrychiolaeth y Llywodraeth.

 

As we face that situation, it is also important that we should recognise the contribution made by our Minister and the Welsh Government in the international negotiations. I have to say that I criticise in the Chamber a statement made by the Conservative spokesperson when the Minister went to represent us in the network of regions for sustainable development in Québec this autumn. The Conservative spokesperson criticised his attendance at that event, and suggested that Welsh taxpayers should not pay for such visits. As far as I can tell, the Minister’s contribution was notable—he can speak for himself—to that conference, where there was a summit on sustainable development that included the network on which we in Wales are represented by the Government.

 

Dyna pam yr wyf wedi cyfeirio yn y cynnig at baratoi ar gyfer cynhadledd Rio fis Mehefin nesaf, oherwydd mae dwy gynhadledd bwysig yn digwydd yno. Mae cynhadledd gyfreithiol a fydd yn ceisio’r gyfraith ryngwladol fwyaf effeithiol yn holl faes rheoli sefyllfa datblygu cynaliadwy a newid yn yr hinsawdd, ac mae hefyd gynhadledd ryngwladol a fydd yn rhoi cyfle i drafod themâu’r economi werdd, yn arbennig, a themâu llywodraethiant. Mae’n bwysig ein bod yn codi barn gyhoeddus yn y cyswllt hwn.

 

That is why I have made reference in the motion to preparing for the Rio conference next June, because two important conferences take place there. There is a legal conference that will seek the most effective international law in the whole area of managing sustainable development and climate change, but there is also an international conference that will provide an opportunity to discuss the themes of the green economy in particular and the themes of governance. It is important that we increase public awareness in this context.

 

Er fy mod yn canmol Llywodraeth Cymru am y gyfres o ddogfennau ar gynorthwyo Cymru i ymdopi â newid yn yr hinsawdd, yr wyf yn ofni nad ydym efallai yn ddigon parod i gydnabod mai’r hyn sy’n wynebu Cymru yw argyfwng rhyngwladol, a’n bod yn cyfrannu at hynny. Er fy mod yn cymeradwyo’r weledigaeth a’r naratif ar yr agweddau ar weithredu sydd i’w gweld yn y cynllun ar gyfer wynebu newid yn yr hinsawdd i fudiadau ac unigolion yn ein cymdeithas, credaf ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn gosod y darlun rhyngwladol clir gerbron. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn cadarnhau nad yw canolbwyntio ar y weledigaeth ac ar yr agweddau hynny ar newid yn yr hinsawdd ac ar weithredu i hyrwyddo’r ddealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd a’r gyfranogaeth tuag at wynebu newid yn yr hinsawdd yn golygu nad ydym hefyd yn talu sylw i’r dimensiwn rhyngwladol.

 

Although I praise the Welsh Government for the series of documents on assisting Wales in dealing with climate change, I fear that we are, perhaps, not willing enough to acknowledge that what faces Wales is an international crisis, to which we contribute. I praise the vision and the narrative on aspects of implementation seen in the climate change strategy for organisations and individuals within our society, but I believe that it is important that we also set out the clear international picture. I hope that the Minister will confirm that concentrating on the vision and those aspects of climate change and taking action in terms of promoting understanding of climate change and the participation in tackling climate change does not mean that we do not also pay attention to the international dimension.

 

I grynhoi, mae’n ymddangos i mi fod gennym yng Nghymru, o’r diwedd, agwedd gref iawn ar gyfer ein dinasyddion ifanc yn y maes hwn. Cyhoeddwyd a chyflwynwyd yn yr adeilad hwn yn gynharach yr wythnos hon gyfrol gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru, Casnewydd ar addysg dinasyddiaeth yng Nghymru, sy’n dadansoddi’r modd y mae’r Llywodraeth wedi paratoi’r agweddau hynny ar addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy ac addysg ryngwladol. Mae’r cwestiwn yr wyf am ei ofyn i’r Gweinidog yn un yr wyf wedi’i awgrymu iddo o’r blaen: a ydym yn fwy parod i addysgu dinasyddion ifanc ar gyfer gwir broblemau ac argyfyngau’r byd nag yr ydym i addysgu ein hoedolion?

 

To conclude, it seems to me that we in Wales, at last, have a strong attitude towards our young people in this area. Earlier this week in this building, a volume published by Bangor University and University of Wales, Newport on citizenship education was launched, analysing how the Government has prepared those aspects on sustainable development and global education. The question that I want to ask the Minister is one that I have raised before: are we more willing to educate our young citizens on the real problems and crises facing the world than we are to educate our adult population?

 

Gwelliant 1 Peter Black

 

Amendment 1 Peter Black

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Delete point 2 and replace with:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn camau rhagweithiol i leihau cyfraniad Cymru at y newid yn yr hinsawdd drwy fuddsoddi mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni a fydd hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd ledled Cymru.

 

Calls on the Welsh government to invest in pro-active steps to reduce Wales’ contribution towards Climate Change by investing in energy efficiency schemes that will also help reduce fuel poverty across Wales.

 

William Powell: I move amendment 1 in the name of Peter Black.

 

William Powell: Cynigiaf welliant 1 yn enw Peter Black.

 

The amendment calls on the Welsh Government to invest in proactive measures to reduce Wales’s contribution to climate change by investing in energy efficiency schemes that will also help to eradicate, practically, the scourge of fuel poverty, and I am grateful for the concession made on this point by the mover of the motion.

 

Mae’r gwelliant yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn mesurau rhagweithiol i leihau cyfraniad Cymru at newid yn yr hinsawdd drwy fuddsoddi mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni a fydd hefyd yn helpu i ddileu, yn ymarferol, pla tlodi tanwydd, ac yr wyf yn ddiolchgar am y consesiwn a wnaeth cynigydd y cynnig ar y pwynt hwn.

 

It is a pleasure again to be addressing this issue in the Chamber. However, I come to the motion with mixed feelings if some aspects of it were to be left unamended. We are happy to reaffirm our commitment to the ‘One Wales: One Planet’ and climate change strategy targets, which are much welcomed.

 

Mae’n bleser i ymdrin â’r mater hwn yn y Siambr unwaith eto. Fodd bynnag, yr wyf yn dod at y cynnig hwn gyda theimladau cymysg os byddai rhai agweddau ohono yn cael eu gadael heb eu diwygio. Yr ydym yn hapus i ailddatgan ein hymrwymiad i ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ a thargedau strategaeth newid yn yr hinsawdd, sydd i’w croesawu’n fawr.

 

I am glad to see that Plaid Cymru has taken the time to recognise the vital work that has been done for many years by the Centre for Alternative Technology near Machynlleth in my region. CAT has, for many decades, been a beacon for sustainable development and ethical living, and it has provided a base upon which the Welsh renewable industries can build. The value of this was demonstrated only a month ago, when the centre hosted a well-attended future for renewable energy conference. It was attended by politicians and academics but also by industry leaders from throughout Wales. It reiterated the essential role that renewable energy must play in the future of our nation.

 

Yr wyf yn falch o weld bod Plaid Cymru wedi cymryd yr amser i gydnabod y gwaith hanfodol y mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth yn fy rhanbarth i wedi ei wneud am flynyddoedd lawer. Mae’r ganolfan, am sawl degawd, wedi bod yn esiampl ar gyfer datblygu cynaliadwy a byw’n foesegol, ac y mae wedi darparu sail y gall diwydiannau adnewyddadwy Cymru adeiladu arni. Dangoswyd gwerth hyn ond mis yn ôl, pan gynhaliodd y ganolfan gynhadledd ar gyfer dyfodol ynni adnewyddadwy lle bu llawer yn bresennol. Yn bresennol yr oedd gwleidyddion ac academyddion ond hefyd arweinwyr y diwydiant o Gymru benbaladr. Bu’n ailadrodd y rhan hanfodol y mae’n rhaid i ynni adnewyddadwy ei chwarae yn nyfodol ein cenedl.

 

Since the event, I have spoken on a number of occasions about the precarious position of the renewable energy sector in Wales, especially when it comes to investor confidence. Overly complex and opaque planning regulations, coupled with sometimes unhelpful interventions from the Welsh Government and the Westminster Government, all play a part in this. The time for endless talk about the issue has long gone, and we now need to concentrate on proactive steps to invest in practical schemes that tackle this issue before we lose the supply base that enables those solutions to be developed on the ground.

 

Ers y digwyddiad, yr wyf wedi siarad ar sawl achlysur am sefyllfa fregus y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru, yn enwedig pan ddaw i hyder buddsoddwyr. Mae rheoliadau cynllunio rhy gymhleth ac aneglur, ynghyd ag ymyriadau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan sydd weithiau wedi bod yn ddi-fudd, i gyd yn chwarae rhan yn hyn. Mae’r amser i siarad yn ddi-baid am y mater wedi hen fynd, ac yn awr mae angen i ni ganolbwyntio ar gamau rhagweithiol i fuddsoddi mewn cynlluniau ymarferol sy’n mynd i’r afael â’r mater hwn cyn i ni golli’r sylfaen cyflenwi sy’n galluogi datblygu’r atebion hynny ar lawr gwlad.

 

That is why our amendment offers a practical and proactive option, which has the capacity to move us from simple words to getting things done. In moving this amendment, I am not claiming that information campaigns are without merit. As was inferred earlier by Lord Elis-Thomas, the eco-schools initiative and other initiatives in schools across Wales are of great value. Indeed, as my sons serve on the eco-committees of their respective schools, I know this at first hand. I am simply stating that, rather than funnelling much overstretched resource into further education campaigns, we should be doing something that is more tangible and has more immediate benefit.

 

Dyna pam y mae ein gwelliant yn cynnig dewis ymarferol a rhagweithiol, sydd â’r gallu i’n symud o eiriau syml i gyflawni pethau. Wrth gynnig y gwelliant hwn, nid wyf yn honni bod dim gwerth i ymgyrchoedd gwybodaeth. Fel y casglodd yr Arglwydd Elis-Thomas yn gynharach, mae gan y fenter eco-ysgolion a mentrau eraill mewn ysgolion ar draws Cymru werth mawr. Yn wir, gan fod fy meibion yn gwasanaethu ar eco-bwyllgorau eu hysgolion eu hunain, gwn hyn o lygad y ffynnon. Yr wyf, yn syml, yn datgan, yn hytrach na sianelu adnodd wedi ei orymestyn yn fawr tuag at ymgyrchoedd addysg pellach, dylem fod yn gwneud rhywbeth sydd yn fwy diriaethol ac sydd â mantais fwy uniongyrchol.

 

In doing so, we should acknowledge the steps taken by previous Welsh Governments and the current Welsh Government in this area. The projects that have been undertaken have enabled genuine progress to be made in this regard. However, I am sure that we would all agree that more needs to be done.

 

Wrth wneud hynny, dylem gydnabod y camau a gymerwyd gan Lywodraethau Cymru o’r blaen a Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn y maes hwn. Mae’r prosiectau sydd wedi cael eu gwneud wedi galluogi cynnydd gwirioneddol yn hyn o beth. Fodd bynnag, mae’n siŵr gennyf y byddem i gyd yn cytuno bod angen gwneud mwy.

 

The Welsh Liberal Democrats remain committed to supporting small-scale renewable energy schemes, although we also acknowledge the need for larger schemes in appropriate settings.

 

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach, er ein bod hefyd yn cydnabod yr angen ar gyfer cynlluniau mwy mewn lleoliadau priodol.

 

David Rees: You say that you are committed to small-scale renewable energy schemes, so why is your party in London getting rid of feed-in tariffs, thereby stopping those schemes from happening throughout Wales, putting people out of work?

 

David Rees: Yr ydych yn dweud eich bod wedi ymrwymo i gynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach, felly pam y mae eich plaid yn Llundain yn cael gwared ar dariffau cyflenwi trydan, a thrwy hynny yn atal y cynlluniau hynny rhag digwydd ledled Cymru, gan roi pobl allan o waith?

 

William Powell: I appreciate the intervention from the Member. I will come on to address that issue.

 

William Powell: Rwy’n gwerthfawrogi’r ymyriad gan yr Aelod. Byddaf yn ymdrin â’r mater hwnnw maes o law.

 

That is why we are calling for support from across the Chamber, the same call that I made yesterday during First Minister’s questions, for all parties here to write to the UK Government and to join me in taking part in the consultation, which has been prematurely undermined by the decision that has been taken. So, I take that point. However, I was grateful for the support not only of the First Minister but also of Lord Elis-Thomas in comments made yesterday in that regard. We need a united Welsh front on this issue. I urge you all to back that, but also to support the amendment in the name of Peter Black.

 

Dyna pam yr ydym yn galw am gefnogaeth o bob rhan o’r Siambr, yr un alwad a wneuthum ddoe yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog, i bob plaid yma i ysgrifennu at Lywodraeth y DU ac i ymuno â mi wrth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sydd wedi cael ei danseilio yn gynamserol gan y penderfyniad a gymerwyd. Felly, yr wyf yn cymryd y pwynt hwnnw. Fodd bynnag, yr oeddwn yn ddiolchgar am gefnogaeth nid yn unig y Prif Weinidog ond hefyd yr Arglwydd Elis-Thomas mewn sylwadau a wnaed ddoe ar hynny. Mae arnom angen ffrynt Cymreig unedig ar y mater hwn. Yr wyf yn eich annog i gyd i gefnogi hynny, ond hefyd i gefnogi’r gwelliant yn enw Peter Black.

 

Gwelliant 2 William Graham

 

Amendment 2 William Graham

 

Ym mhwynt 2, dileu ‘gwybodaeth’ a rhoi ‘ymgysylltu’ yn ei le.

 

In point 2 delete ‘information’ and replace with ‘engagement’.

 

Gwelliant 3 William Graham

 

Amendment 3 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

Calls on the Welsh Government to:

 

a) rhoi’r Strategaeth Ymgysylltu ar y Newid yn yr Hinsawdd ar waith yn gynt;

 

a) accelerate the implementation of the Climate Change Engagement Strategy;

 

b) gweithredu fel esiampl i eraill drwy ymrwymo i wneud rhagor o doriadau sylweddol i ôl troed carbon ystad y Llywodraeth a helpu i hybu lleihau allyriadau drwy’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r sector gwirfoddol ehangach yng Nghymru;

 

b) act as an exemplar by committing to making more significant cuts to the carbon footprint of the Government estate and help to encourage emission reductions throughout the wider public, business and voluntary sectors in Wales;

 

c) cefnogi busnesau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd economi carbon isel; a

 

c) support business in maximising the opportunities of a low carbon economy; and

 

d) ailedrych ar ei tharged i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% i weld a yw’n dal yn feincnod cenedlaethol priodol i geisio lliniaru’r cynnydd o 2°C yn yr hinsawdd fyd-eang.

 

d) re-examine its 3% greenhouse gas emissions reduction target to see if it is still an appropriate national benchmark in trying to mitigate the 2°C global climate rise.

 

Russell George: I move amendments 2 and 3 in the name of William Graham.

 

Russell George: Cynigiaf welliannau 2 a 3 yn enw William Graham.

 

I thank Plaid for bringing forward this important debate. It is well timed, given that we are just two weeks away from the Durban conference. I will not go into the challenges that climate change will bring, because, as politicians, we already know what those challenges are. We also know what steps we need to take to mitigate those challenges. What we have not been good at is showing determined leadership about how to get there and engage with the different sectors across society in relation to what part they need to play in achieving the wider policy objectives.

 

Diolchaf i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. Mae wedi ei hamseru’n dda, a ninnau ond pythefnos i ffwrdd oddi wrth y gynhadledd yn Durban. Nid af i mewn i’r heriau y bydd newid yn yr hinsawdd yn eu cyflwyno, oherwydd, fel gwleidyddion, yr ydym eisoes yn gwybod beth yw’r heriau hynny. Gwyddom hefyd pa gamau y mae angen i ni eu cymryd i’w lliniaru. Yr hyn nad ydym wedi bod yn dda yn ei wneud yw dangos arweinyddiaeth benderfynol am sut i gyrraedd yno ac ymgysylltu â’r gwahanol sectorau ar draws cymdeithas mewn perthynas â pha ran y mae angen iddynt ei chwarae wrth gyflawni’r amcanion polisi ehangach.

 

The Rio+20 conference will be crucial, as it must deliver a significant step change in how Governments set about tackling global climate change in this decade. However, one thing to consider regarding the Rio conference is that it is not just about climate change. That is, of course, the backdrop to the conference, but there are a range of important themes involved. The conference is primarily about governance for sustainable development, and about world leaders demonstrating good governance by making firm commitments and assessing progress towards those objective targets.

 

Bydd cynhadledd Rio+20 yn hanfodol, gan fod yn rhaid iddi gyflawni newid sylweddol swmpus yn y modd yr â Llywodraethau ati i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd fyd-eang yn y degawd hwn. Fodd bynnag, un peth i’w ystyried am gynhadledd Rio yw nad ymwneud â newid yn yr hinsawdd y mae. Dyna, wrth gwrs, gefndir y gynhadledd, ond mae amrywiaeth o themâu pwysig dan sylw. Mae’r gynhadledd yn ymwneud yn bennaf â llywodraethiant ar gyfer datblygu cynaliadwy, ac am arweinwyr y byd yn arddangos llywodraethiant da drwy wneud ymrwymiadau pendant ac asesu cynnydd tuag at y targedau amcan hynny.

 

It is also about the green economy, how we develop it as we move towards embedding sustainable development and how we use it as a tool to aid the end of global poverty. Wales has a part to play in this agenda and the Welsh Government has a duty to lead on it. The Government set its vision regarding where it wants to go in ‘One Wales: One Planet’ and in the climate change strategy for Wales. The general policy principles are sound; what the Government now needs to do is demonstrate good governance and get on with implementing them. I agree with the principle of this debate, and I agree that the Government needs to raise its game in relation to public engagement. However, I disagree with Plaid about how it should do that. A Government-led awareness campaign is not the best way of achieving that. It has tried that in the past—costs are high and the impact is minimal.

 

Mae hefyd yn ymwneud â’r economi werdd, sut yr ydym yn ei datblygu wrth i ni symud tuag at ymgorffori datblygu cynaliadwy a sut yr ydym yn ei defnyddio fel offeryn i gynorthwyo diwedd tlodi byd-eang. Mae gan Gymru ran i’w chwarae yn yr agenda hwn ac mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i arwain arno. Pennodd y Llywodraeth ei gweledigaeth o ran ble y mae eisiau mynd yn ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ ac yn y strategaeth newid yn yr hinsawdd ar gyfer Cymru. Mae’r egwyddorion polisi cyffredinol yn gadarn; yr hyn y mae angen i’r Llywodraeth ei wneud yw dangos llywodraethiant da a bwrw ymlaen gyda’u gweithredu. Cytunaf ag egwyddor y ddadl hon a chytunaf fod angen i’r Llywodraeth godi ei gêm mewn perthynas ag ymgysylltu cyhoeddus. Fodd bynnag, yr wyf yn anghytuno â Phlaid Cymru ynghylch sut y dylai wneud hynny. Nid ymgyrch ymwybyddiaeth a arweinir gan y Llywodraeth yw’r ffordd orau o gyflawni hynny. Mae wedi rhoi cynnig ar hynny yn y gorffennol—mae’r costau yn uchel a bach iawn yw’r effaith.

 

There should be a public engagement campaign linked to Rio next June, but it should be based around the implementation of the Government’s new climate change engagement strategy. The Minister states in that document that he wants to establish Wales as a leader in climate change. That is a bold vision. The Government must now pick up the pace of implementation and, most importantly, start to build capacity to deliver this within the institution in Wales.

 

Dylai fod ymgyrch ymgysylltu â’r cyhoedd yn gysylltiedig â Rio fis Mehefin nesaf, ond dylai fod yn seiliedig ar roi strategaeth ymgysylltu newid yn yr hinsawdd newydd y Llywodraeth ar waith. Yn y ddogfen honno, mae’r Gweinidog yn datgan ei fod am sefydlu Cymru fel arweinydd ar newid yn yr hinsawdd. Mae hynny’n weledigaeth feiddgar. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth yn awr weithredu yn gyflymach ac, yn bwysicaf oll, dechrau adeiladu’r gallu i gyflawni hyn o fewn y sefydliad yng Nghymru.

 

To add value in Rio, in simple terms, we need to focus on the elements outlined in amendment 3. The Welsh Government and the public sector must become exemplars to wider Welsh society, not just to point us in the right direction, but to lead and demonstrate good governance in respect of their operational practice. We have already said in the Chamber that sustainability must be firmly embedded at the heart of what the Government does and in the policies that it produces and delivers. We would like to see, as soon as possible, the Government’s thinking as to what might be in the sustainable development Bill and the specific functions of the independent monitoring of progress. The Government has been far too slow in developing indicator sets to benchmark and monitor progress, and this must be tackled. The Government must increase its support to businesses in maximising the opportunities of the low-carbon economy.

 

Er mwyn ychwanegu gwerth yn Rio, mewn termau syml, mae angen i ni ganolbwyntio ar yr elfennau a amlinellir yng ngwelliant 3. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ddod yn enghreifftiau i’r gymdeithas ehangach yng Nghymru, gan nid yn unig tynnu ein sylw at y cyfeiriad iawn, ond arwain a dangos llywodraethiant da mewn perthynas â’u harfer gweithredol. Yr ydym eisoes wedi dweud yn y Siambr bod yn rhaid i gynaliadwyedd gael ei ymgorffori’n gadarn wrth wraidd yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud ac yn y polisïau y mae’n eu cynhyrchu a’u cyflenwi. Byddem yn hoffi gweld, cyn gynted ag y bo modd, beth y mae’r Llywodraeth yn ei feddwl ynghylch yr hyn a allai fod yn y Bil datblygu cynaliadwy a swyddogaethau penodol monitro annibynnol cynnydd datblygu cynaliadwy. Mae’r Llywodraeth wedi bod yn llawer rhy araf wrth ddatblygu setiau o ddangosyddion i feincnodi a monitro cynnydd, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â hyn. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gynyddu ei chefnogaeth i fusnesau yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yr economi carbon isel.

 

David Rees: Do you not believe that it is hypocritical for the third point of your amendment 3 to be included by a party that is costing jobs because of the actions that it has taken with the feed-in tariffs in Westminster?

 

David Rees: Onid ydych yn credu ei bod yn rhagrithiol i drydydd pwynt eich gwelliant 3 gael ei gynnwys gan blaid sydd yn costio swyddi oherwydd y camau gweithredu y mae wedi eu cymryd gyda’r tariffau cyflenwi trydan yn San Steffan?

 

Russell George: I will come on to that, and my colleague Antoinette Sandbach will also speak on that. The UK’s low carbon and environmental goods and services sector is valued at £120 billion, accounting for almost 910,000 jobs. We need to take our share of that market and build capacity and expand that sector across the UK. I wholeheartedly admit that the UK Government’s handling of the feed-in tariffs has been very poor. I have been working with my colleague Glyn Davies on this to lobby UK Ministers to try to gain some tapered concessions. However, the Welsh Government has a role to play in creating and embedding an environment, for example, by using newly established enterprise zones to promote and encourage low-carbon businesses that operate in those sectors to come to Wales. It can work with the UK Government to remove regulatory uncertainty. Finally, I believe that our amendments, amendments 2 and 3, add to this debate and I hope that Members will support them.

 

Russell George: Byddaf yn dod at hynny, a bydd fy nghydweithwraig Antoinette Sandbach hefyd yn siarad am hynny. Mae sector carbon isel a nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol y Deyrnas Unedig yn werth £120 biliwn, sy’n cyfrif am bron i 910,000 o swyddi. Mae angen i ni gymryd ein cyfran o’r farchnad honno ac adeiladu capasiti ac ehangu’r sector ar draws y DU. Yr wyf yn llwyr gyfaddef bod Llywodraeth y DU wedi trin y tariffau cyflenwi trydan yn wael iawn. Yr wyf wedi bod yn gweithio gyda’m cydweithiwr Glyn Davies ar hyn i lobïo Gweinidogion y DU i geisio ennill rhai consesiynau lleihau’n raddol. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru rôl i’w chwarae wrth greu ac ymgorffori amgylchedd, er enghraifft, drwy ddefnyddio ardaloedd menter sydd newydd gael eu sefydlu i hybu ac annog busnesau carbon isel sy’n gweithredu yn y sectorau hynny i ddod i Gymru. Mae’n gallu gweithio gyda Llywodraeth y DU i gael gwared ar ansicrwydd rheoleiddiol. Yn olaf, credaf fod ein gwelliannau, gwelliannau 2 a 3, yn ychwanegu at y ddadl hon a gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn eu cefnogi.

 

4.15 p.m.

 

 

Simon Thomas: Yr wyf yn falch o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Mae’n rhaid imi anghytuno’n llwyr â Russell George. Yn anffodus, ni chredaf fod eu gwelliannau’n ychwanegu dim at y ddadl hon. Yn benodol, nid wyf yn meddwl bod gweithredoedd y Llywodraeth yn San Steffan yn ychwanegu dim at y ddadl hon. Fel yr ydym eisoes wedi clywed, mae’r ddadl ynglŷn â’r tariff cyflenwi trydan wedi bod yn arswydus o wael gan Lywodraeth San Steffan ac wedi niweidio’r diwydiant yng Nghymru, a fyddai’n gallu manteisio o allu datblygu economi gwyrdd. Heddiw, yr ydym wedi clywed bod Sharp yn mynd i gyfyngu ar ei gynlluniau i ehangu cynhyrchu paneli solar yn Llai yn Wrecsam, oherwydd y penderfyniad ynglŷn â’r tariff cyflenwi trydan. Yn syml, mae’r farchnad wedi crebachu dros nos ac nid oes gan gwmnïau y ffydd na’r hyder i ddatblygu.

 

Simon Thomas: I am pleased to have the opportunity to contribute to this debate. I have to disagree entirely with Russell George. Unfortunately, I do not think that their amendments add anything to this debate. In particular, I do not think that the actions of the Westminster Government add anything to this debate. As we have already heard, the debate from the Westminster Government about the feed-in tariff has been atrociously bad and has damaged the industry in Wales that could benefit from the ability to develop the green economy. Today, we have heard that Sharp is to restrict its plans to expand the production of solar panels in Llay in Wrexham, because of the decision on the feed-in tariff. Simply put, the market has shrunk overnight and companies do not have sufficient faith or confidence to develop.

 

Hoffwn atgoffa’r blaid gyferbyn, sydd newydd ddweud cymaint y mae o blaid y sector preifat yng Nghymru a chymaint y mae am weld y sector preifat yn datblygu, fod y sector carbon isel yn werth bron £5 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, ac y gallai greu, yn ystod y 10 mlynedd nesaf, 20,000 o swyddi ychwanegol, yn ôl adroddiad gan Sefydliad Bevan. Ni fydd hynny’n digwydd oni bai ein bod yn gwyro polisi’r Llywodraeth. Nid ydym yn gofyn am wariant newydd, ond am wyro polisïau a gwariant oddi wrth gefnogi’r hen ddiwydiannau sy’n seiliedig ar danwydd ffosil i gefnogi diwydiannau carbon isel newydd, a drwy hynny gynyddu economi Cymru yn y sector hwn o dros 40 y cant a chreu 20,000 o swyddi newydd.

 

I would like to remind the party opposite, which has just said how much it is in favour of the private sector in Wales and how much it wants to see the private sector develop, that the low-carbon sector is worth almost £5 billion a year to the Welsh economy, and could create, over the next 10 years, an additional 20,000 jobs, according to a report by the Bevan Foundation. That will only happen if we shift the Government’s policy. We are not asking for new expenditure, but to shift policies and expenditure away from support for old, fossil-fuel-based industries to support for new, low-carbon industries, and in that way boost the Welsh economy in this sector by over 40 per cent and create an additional 20,000 jobs.

 

Os ydych yn mynd dramor, yr ydych yn gweld hyn ar waith. Nid oes ond angen mynd i rywle fel Galicia, sydd yn ardal ddatganoledig o fewn Sbaen, sydd wedi datblygu melinau gwynt yn sylweddol. Ydyw, mae hynny’n golygu eich bod yn eu gweld ar y bryniau. Nid yw’n arswydus gweld ambell felin wynt ar ambell fryn yng Nghymru. Nid wyf yn meddwl bod hynny’n ddiwedd y byd inni. Mae modd sicrhau nad oes datblygiad lleol yn digwydd oni bai bod cwmnïau lleol yn gallu elwa o hynny, drwy osod trothwy. Ni chewch adeiladu melinau gwynt yn Galicia oni bai bod 65 y cant ohonynt yn cael eu cynhyrchu yn y rhanbarth hwnnw a bod 75 y cant o’r holl fudd economaidd yn cael ei wario tu fewn i’r rhanbarth hwnnw, gan ddefnyddio cwmnïau lleol i gyflenwi ar gyfer y safle, er enghraifft. Dyma enghraifft o’r hyn sydd yn cael ei wneud o fewn y Gymuned Ewropeaidd, o fewn ei rheolau presennol ar gefnogi diwydiant, i sicrhau bod pobl leol yn elwa. Maent yn elwa nid yn unig drwy gael swyddi yn lleol, ond drwy gael trydan yn rhatach yn lleol hefyd.

 

If you go abroad, you see this in practice. You need only go to somewhere like Galicia, which is a devolved area within Spain, which has developed wind turbines substantially. Yes, that means that you see turbines on the hills. It is not terrible to see the odd turbine on the occasional hill in Wales. I do not think that it is the end of the world for us. We can ensure that local development does not happen unless local companies can benefit from it, by setting a threshold. You cannot build wind turbines in Galicia unless 65 per cent of them are produced within the region and 75 per cent of the economic benefit is spent within that region, by using local companies to provide for the site, for example. That is an example of what is being done within the European Community, within the current rules on supporting industry, to ensure that local people benefit. They benefit not only from having jobs locally, but also from having cheaper, local electricity.

 

Os ydym ni yng Nghymru yn mynd i symud tuag at y dyfodol hwnnw, yr wyf yn cytuno ag un peth, ac mae’r misoedd diwethaf yn fy rhanbarth wedi dangos hyn yn glir, sef bod yn rhaid i bobl leol deimlo bod rhyw fudd iddynt hwy yn y fath ddatblygiad. Buddiannau posibl yw cyfleoedd i wella safon eu tai, ac i wresogi eu tai yn fwy cynaliadwy, o ran effeithlonrwydd ynni, ac efallai i gael tariff rhatach oherwydd bod datblygiad melinau gwynt neu ynni adnewyddadwy yn lleol.

 

If we in Wales are to move towards that future, I agree with one thing, and the past few months in my region have shown this clearly, and that is that local people must feel that there is some benefit for them from such developments. Possible benefits are opportunities to improve the standard of their homes, and to heat their homes more sustainably, in terms of energy efficiency, and perhaps to have a cheaper tariff because there is a local wind turbine or renewable energy development.

 

Yr ydym wedi ffocysu llawer yn y Siambr ar felinau gwynt ar y tir yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’n bryd inni ddechrau meddwl am yr ynni y gallwn ei gynhyrchu yng Nghymru o’r môr, o’r llanw ac o felinau gwynt oddi ar y tir mawr. Bydd hynny’n hanfodol bwysig i ddyfodol Cymru. Bydd hefyd yn rhoi cyfle inni weld buddsoddiad yn ein prifysgolion. Os edrychwn ar y beirianneg forol sydd yn digwydd yn Abertawe, gwelwn y cyfle sydd yno i greu arbenigedd yng Nghymru yn y prifysgolion, sydd wedyn yn cydweithio â gwneuthurwyr, gan arwain wedyn at ddatblygiad. Yr ydym wedi colli’r cwch, i raddau, o ran melinau gwynt, ac mae’r Alban wedi achub y blaen arnom cyn belled ag y mae datblygiadau felly yn y cwestiwn. Mae gennym gyfle yng Nghymru yn awr i fod ar y blaen o safbwynt datblygiadau morol, ac mae’r cynlluniau o Fôn i Fynwy, yn llythrennol, yn dangos y posibiliadau yn hynny o beth.

 

We have focused a great deal in the Chamber on onshore wind turbines over the past few months. It is time that we started to think about the energy that we can generate in Wales from the sea, from tides, and offshore turbines. That will be crucial to the future of Wales. It will also give us an opportunity to see investment in our universities. If we look at the marine engineering that is happening in Swansea, we see the opportunity there to create expertise in Wales in the universities, which then collaborate with manufacturers, and that then leads to development. We have missed the boat, to an extent, on wind turbines, and Scotland has pipped us to the post as far as such developments are concerned. We have an opportunity in Wales now to be at the forefront of developments in marine energy, and the schemes from Anglesey to Monmouth, literally, show the possibilities in that regard.

 

Mae’r ddadl hon yn hynod bwysig. Yr oeddwn yn falch o glywed bod llefarydd y Torïaid yn derbyn bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd. Nid ydym wastad yn clywed hynny gan y Torïaid. Nid oes amheuaeth gan Blaid Cymru nad yw newid yn yr hinsawdd yn digwydd, bod rhan dyn yn y broses hon yn allweddol o bwysig, a bod dyletswydd arnom fel Llywodraeth yn y byd modern i wneud y gorau a allwn i reoli ac i newid y ffordd yr ydym yn byw, er mwyn ymateb i’r her honno. Gobeithiaf y bydd pawb yn cefnogi ein cynnig heddiw.

 

This debate is very important. I was pleased to hear the Conservative spokesperson accept that climate change is happening. We do not always hear that from the Tories. Plaid Cymru does not doubt that climate change is happening, that the part played by man in this process is key, and that there is a duty on us as a Government in the modern world to do the best that we can to control and change the way that we live in order to respond to that challenge. I hope that everybody will support our motion today.

 

Julie James: I very much welcome this motion and its underlying message, and I very much agree with what Simon Thomas said at the end about welcoming the engagement of the party opposite in some of the climate change debate, although I am disappointed to see that, with some honourable exceptions, most of them are absent. There is a real crisis facing us in the world today, which has only become more acute in the time since the publication of ‘One Wales: One Planet’. This crisis is a combination of a number of things: accelerating climate change, ever-climbing energy and fuel demands and costs, and the credit and capital crisis fuelled by bankers, from which many people outside the rarified financial circles of multi-million pound incomes are increasingly alienated. I fear that, in these circumstances, we are headed towards another period of development at any cost, unless we are very careful indeed. The previous debate made me no happier about that prospect.

 

Julie James: Rwy’n croesawu’r cynnig hwn a’i neges greiddiol yn fawr, ac rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd Simon Thomas ar y diwedd am groesawu ymwneud y blaid gyferbyn yn rhywfaint o’r ddadl am newid yn yr hinsawdd, er fy mod wedi siomi gweld, ac eithrio rhai eithriadau anrhydeddus, bod y rhan fwyaf ohonynt yn absennol. Mae gwir argyfwng yn ein wynebu yn y byd heddiw, sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn yr adeg ers cyhoeddi ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’. Mae’r argyfwng yn gyfuniad o sawl peth: newid yn yr hinsawdd yn cyflymu, galwadau a chostau fwyfwy o ran ynni a thanwydd, a’r argyfwng credyd a chyfalaf a grëwyd gan fancwyr, sydd yn gynyddol ymddieithrio pobl y tu allan i gylchoedd ariannol dethol y rhai sydd ag incwm o filiynau. Ofnaf ein bod, yn yr amgylchiadau hyn, ar fin cychwyn cyfnod arall o ddatblygu am unrhyw bris, oni bai ein bod wir yn ofalus. Ni wnaeth y ddadl flaenorol fy ngwneud fymryn hapusach am y posibilrwydd hwnnw.

 

We need a new approach to counter this impending environmental and economic meltdown. I continue to believe that the approach set out in ‘One Wales: One Planet’ could make a serious difference to our ability to become a more sustainable country here in Wales. That means that we continue to need a sustained programme to invest in and utilise renewable energy technologies. I very much agree with Simon Thomas about the need to exploit marine and offshore technologies in that regard. However, we also need a social and political transformation programme with regard to our energy demands, our resource usage, and our economic strategies for change. I welcome the engagement with the climate change programme that we have had so far, but it needs to go further, and be continued beyond the end of this year, which I believe was its first milestone point.

 

Mae angen i ni feddu ar ddull newydd i atal y chwalfa amgylcheddol ac economaidd hon sydd ar ddod. Rwy’n dal i gredu y gallai’r dull a nodwyd yn ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ wneud gwahaniaeth mawr i’n gallu i ddod yn wlad fwy cynaliadwy yma yng Nghymru. Mae hynny’n golygu bod angen rhaglen barhaus arnom i fuddsoddi mewn technolegau ynni adnewyddadwy a’u defnyddio. Cytunaf yn llwyr â Simon Thomas bod angen manteisio ar dechnolegau morol ac ar y môr yn hynny o beth. Fodd bynnag, rydym hefyd angen meddu ar raglen o drawsnewid cymdeithasol a gwleidyddol o ran ein galwadau ar ynni, ein defnydd o adnoddau, a’n strategaethau economaidd er mwyn newid. Rwy’n croesawu’r ymwneud â’r rhaglen newid yn yr hinsawdd hyd yma, ond mae angen iddi fynd ymhellach, a’i pharhau y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn hon, sef ei charreg filltir gyntaf, rwy’n meddwl.

 

Those changes must include a radical reassessment of our obsession with disposable or semi-disposable consumer goods. We have to move towards sustainable development and away from the orthodoxy that we must all buy increasing numbers of newly produced goods and consume ever more of the world’s scarce resources to ensure continued growth. That is a fallacy, which we have to move away from, because we only have one planet, as the document nicely states.

 

Mae’n rhaid i’r newidiadau hynny gynnwys ailasesiad radical o’n hobsesiwn gyda nwyddau defnyddwyr untro neu bron untro. Rhaid inni symud at ddatblygu cynaliadwy ac oddi wrth yr uniongrededd bod yn rhaid i ni brynu mwy a mwy o nwyddau sydd newydd eu cynhyrchu a defnyddio mwy a mwy o adnoddau prin y byd i sicrhau twf parhaus. Camsyniad yw hynny, ac mae’n rhaid inni symud oddi wrtho, achos dim ond un blaned sydd gennym, fel y dywed y ddogfen yn ddestlus.

 

To achieve that, we must concentrate on growth in decent jobs, on a living wage, and on good, sustainable working conditions and products. By that, I mean continuing to develop a strategy for encouraging good companies that encourage training and skills acquisition and are committed to long-term investment in research and development for sustainable and renewable products, businesses and jobs. In a sustainable world, companies and Governments should be judged on their contribution to improved wellbeing, both social and environmental, as well as to economic growth—a point that is again being lost in the banker-induced panic of recent times. A more sustainable approach to a low-carbon economy is a decentralised, renewable approach that focuses on increased local production and reduced long-distance transmission of energy, travel and so on, and enhanced national energy security.

 

Er mwyn gwireddu hynny, rhaid i ni ganolbwyntio ar dwf mewn swyddi da, ar gyflog byw, ac ar amodau gwaith a chynnyrch da, cynaliadwy. Gan hynny, rwy’n golygu dal ati i ddatblygu strategaeth i annog cwmnïau da sy’n annog hyfforddiant a chaffael sgiliau ac sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y tymor hir mewn ymchwil a datblygu ar gyfer cynnyrch, busnesau a swyddi cynaliadwy ac adnewyddadwy. Mewn byd cynaliadwy, dylai cwmnïau a Llywodraeth gael eu barnu ar eu cyfraniad at les gwell, boed yn gymdeithasol neu’n amgylcheddol, yn ogystal ag at dwf economaidd—pwynt a gollwyd eto yn a panig diweddar a grëwyd gan fancwyr. Mae dull mwy cynaliadwy at economi carbon isel yn ddull datganoledig, adnewyddadwy sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu mwy yn lleol a lleihau trosglwyddo ynni a theithio dros bellter hir ac ati, a gwell diogelwch ynni cenedlaethol.

 

I am very sorry that so many of our Conservative colleagues are absent for this debate, because it was obvious from the last debate that some of them are headed rapidly towards development at any cost. However, I know that there are some honourable exceptions to that, and I welcome the remarks of Russell George in deploring some of what is going on with the feed-in tariff scheme. We have heard in committee how desperately important it is that we have certainty and the continuation of the feed-in tariff scheme in order to get the sustainability and renewability in our jobs market that we so desperately need. I was glad to hear him say that, and the party opposite also said the same thing. I hope that we will join with you in responding to that consultation, even though it seems futile, and in calling on our Government to deplore the removal of that scheme and for the devolution of those economic drivers to Wales so that we can catch up with Scotland in encouraging these sorts of projects in Wales.

 

Mae’n ddrwg iawn gennyf fod cymaint o’n cyd-Aelodau Ceidwadol yn absennol ar gyfer y ddadl hon, gan ei bod yn amlwg o’r ddadl ddiwethaf fod rhai ohonynt am weld datblygu am unrhyw bris, a hynny cyn bo hir. Fodd bynnag, gwn fod rhai eithriadau anrhydeddus i hynny, a chroesawaf sylwadau Russell George yn gresynu at rywfaint o’r hyn sy’n digwydd gyda’r cynllun tariff cyflenwi trydan. Clywsom yn y pwyllgor pa mor wirioneddol bwysig yw hi bod gennym sicrwydd ac y dylem barhau â’r tariff cyflenwi trydan er mwyn cael y swyddi cynaliadwy ac adnewyddadwy yr ydym dirfawr eu hangen. Roeddwn yn falch o’i glywed yn dweud hynny, a dywedodd y blaid gyferbyn yr un peth. Gobeithio y byddwn yn ymuno â chi o ran ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw, ac o ran galw ar ein Llywodraeth i resynu at ddiddymu’r cynllun hwnnw ac i ddatganoli’r sbardunau economaidd i Gymru fel ein bod yn gallu dal i fyny gyda’r Alban o ran annog y mathau hyn o brojectau yng Nghymru.

 

You will all know that I am like a broken record on the electrification of the railways, but I have a slightly different point today. We need electrification of the railways in order to move us away from our doomed love affair with cars. We also need the roll-out of our broadband strategy, which we very much welcomed just a few days ago in the Chamber, to assist companies and workers to stay local, enhance their quality of life and lower their carbon footprints. Let us continue and strengthen this work to ensure that the legacy that we leave for our children is both environmentally and economically good and sustainable.

 

Fe wyddoch nad oes taw arnaf pan ddaw i sôn am drydaneiddio’r rheilffyrdd, ond mae gennyf bwynt fymryn yn wahanol heddiw. Mae angen i ni drydaneiddio’r rheilffyrdd er mwyn ein symud oddi wrth ein carwriaeth ofer gyda cheir. Mae angen i ni hefyd weithredu ein strategaeth band eang, y gwnaethom ei chroesawu’n frwd ddiwrnod neu ddau yn ôl yn y Siambr, i helpu cwmnïau a gweithwyr i aros yn lleol, gwella eu hansawdd bywyd a lleihau eu hôl-troed carbon. Gadewch i ni ddal ati gyda’r gwaith hwn a’i gryfhau er mwyn sicrhau bod y dreftadaeth y byddwn yn ei gadael i’n plant yn un dda a chynaliadwy, yn amgylcheddol ac economaidd fel ei gilydd.

 

Leanne Wood: Yesterday, during the budget debate, a number of us made the case for a green New Deal for Wales. On this side of the Chamber, the arguments for new thinking on the economy have been made, I think, in every Plenary meeting held since the Welsh general election in May. On paper, there is cross-party support for greenhouse gas emission reductions and for this Government to stick to its previously agreed targets. However, in practice, of course, support for renewable energy projects can wane in the light of local opposition.

 

Leanne Wood: Ddoe, yn ystod y ddadl ar y gyllideb, bu nifer ohonom yn dadlau o blaid Bargen Newydd werdd i Gymru. Ar yr ochr hon i’r Siambr, mae’r dadleuon o blaid meddylfryd o’r newydd ar yr economi wedi cael eu gwneud, rwy’n credu, ym mhob Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ers yr etholiadau cyffredinol yng Nghymru ym mis Mai. Ar bapur, ceir cefnogaeth drawsbleidiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac i’r Llywodraeth gadw at y targedau y cytunodd arnynt yn flaenorol. Fodd bynnag, yn ymarferol, gall cefnogaeth i brojectau ynni adnewyddadwy wanhau yn sgil gwrthwynebiad lleol.

 

There is plenty of evidence to demonstrate that we need to move fast if we are to avoid climate chaos. However, we are not moving fast enough in Wales. Back in 2007, as part of the ‘One Wales’ negotiations, Plaid Cymru managed to secure the radical target of a 3 per cent per year reduction in greenhouse gas emissions. Since then, the reductions have kicked in, and the reduction achievable by the Welsh Government’s actions is lower than the 3 per cent initially agreed, which will inevitably mean even slower movement.

 

Mae digon o dystiolaeth i ddangos bod angen i ni symud yn gyflym os ydym am osgoi anhrefn hinsawdd. Fodd bynnag, nid ydym yn symud yn ddigon cyflym yng Nghymru. Yn ôl yn 2007, fel rhan o drafodaethau ‘Cymru’n Un’, llwyddodd Plaid Cymru i sicrhau targed radical o 3 y cant bob blwyddyn i ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr. Ers hynny, mae’r gostyngiadau wedi cychwyn, ac mae’r gostyngiad a gyflawnwyd gan gamau Llywodraeth Cymru yn is na’r 3 y cant y cytunwyd arno yn wreiddiol, sy’n golygu, yn anochel, y bydd y cynnydd yn arafach byth.

 

I have lost count of how many times I have heard frustration, even despair, expressed by those who understand the climate science, who feel that a radical rethink is needed to make the transition from an economy dependent on fossil fuels to one based on renewable energy. As a member of the Sustainability Committee of the previous Assembly and as Plaid Cymru’s former spokesperson, I have heard time and again the argument that housing is one of the policy areas where quick and relatively easy gains can be made.

 

Rwyf wedi colli cyfrif o faint o weithiau yr wyf wedi clywed rhwystredigaeth, hyd yn oed anobaith, yn cael ei fynegi gan y rhai sy’n deall y gwyddoniaeth hinsawdd, sy’n teimlo bod angen ailfeddwl yn radical i wneud y newid o economi sy’n ddibynnol ar danwyddau ffosil i un sy’n seiliedig ar ynni adnewyddadwy. Fel aelod o Bwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad blaenorol ac fel cyn lefarydd Plaid Cymru, clywais dro ar ôl tro mai tai yw un o’r meysydd polisi lle gellir gwneud enillion cyflym a chymharol hawdd.

 

A lot of focus has gone into low-carbon new builds, and, while the Arbed scheme has been able to demonstrate real success, it is not enough to do all of the things that need to be done. Energy used in the home is responsible for 43 per cent of all carbon dioxide emissions. A comprehensive programme of home insulation, as proposed in ‘A Greenprint for the Valleys’, which I published earlier this year, would tick more than the carbon reduction box. The fast-rising cost of energy is pushing more people into fuel poverty, and predictions of peak oil will exacerbate the problem further. Fuel poverty causes health problems and can even cause death. Therefore, there are many reasons to support a comprehensive home energy efficiency scheme.

 

Mae llawer o ffocws wedi mynd ar adeiladau newydd carbon isel, ac er bod cynllun Arbed wedi bod yn llwyddiant go iawn, nid yw’n ddigon i wneud pob un o’r pethau y mae angen eu gwneud. Mae ynni a ddefnyddir gartref yn gyfrifol am 43 y cant o’r holl allyriadau carbon deuocsid. Byddai rhaglen gynhwysfawr ar gyfer inswleiddio’r cartref, fel y cynigir yn ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’, y cyhoeddais yn gynharach eleni, yn ticio mwy na’r bocs lleihau carbon. Mae’r ffaith bod cost ynni yn cynyddu’n gyflym yn gwthio mwy o bobl i dlodi tanwydd, a bydd y proffwydoliaethau am olew brig yn gwaethygu’r broblem. Mae tlodi tanwydd yn creu problemau iechyd ac hyd yn oed yn achosi marwolaeth. Felly, mae sawl rheswm i gefnogi cynllun effeithlonrwydd ynni cartref cynhwysfawr.

 

In ‘A Greenprint for the Valleys’, the proposal is to make available low-cost loans for people to maximise their home energy efficiency. If those loans could be paid back from the savings in energy bills, then they could become very attractive to people. Such an initiative would require Government to bring together all potential investments to set up an investment fund similar to that which operates in Quebec, which I referred to in Plenary last week. If local small businesses and social enterprises could be organised, encouraged and supported to carry out the work, then that should also expand the availability of jobs. Friends of the Earth, in a report published earlier this year, estimated that 3,000 jobs could be created in the Heads of the Valleys alone by introducing a home energy efficiency programme in that area.

 

Y cynnig yn ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yw sicrhau bod benthyciadau rhad ar gael i bobl wneud y gorau o’u heffeithlonrwydd ynni cartref. Pe gellid talu’r benthyciadau hynny yn ôl o’r arbedion mewn biliau ynni, gallent fod yn ddeniadol iawn i bobl. Byddai menter o’r fath yn gofyn i’r Llywodraeth ddod â phob buddsoddiad posibl at ei gilydd i sefydlu cronfa fuddsoddi debyg i’r un sy’n gweithredu yn Quebec, y cyfeiriais ati yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf. Pe gellid trefnu, annog a chefnogi busnesau bach lleol a mentrau cymdeithasol i wneud y gwaith, yna dylai hynny hefyd ehangu faint o swyddi sydd ar gael. Amcangyfrifodd Cyfeillion y Ddaear, mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, y gellid creu 3,000 o swyddi dim ond ym Mlaenau’r Cymoedd drwy gyflwyno rhaglen effeithlonrwydd ynni cartref yn yr ardal honno.

 

We have a major opportunity for Wales to develop expertise in the green economy, to ensure that there are enough people with the right skills to deliver the changes that we need to see to ensure that the Welsh economy is resilient to the threats posed by climate change and peak oil. To get there, I urge the Government to demand the devolution of all powers over energy, to create a Build for Wales style investment fund to fund infrastructure, business start-ups and home improvement loans, to demand devolution of the regulatory and consumer powers to control the energy industry and to commit to creating a green economy and to preventing unsustainable development. Without these commitments, we will not see the change that we need to see.

 

Mae gennym gyfle gwirioneddol i Gymru ddatblygu arbenigedd yn yr economi werdd, i sicrhau bod digon o bobl â’r sgiliau cywir i gyflawni’r newidiadau yr ydym angen eu gweld i sicrhau bod economi Cymru yn gallu gwrthsefyll y bygythiadau a gaiff eu creu gan newid yn yr hinsawdd ac olew brig. I gyrraedd yno, rwy’n annog y Llywodraeth i fynnu datganoli yr holl bwerau dros ynni, i greu cronfa fuddsoddi debyg i Adeiladu dros Gymru i ariannu seilwaith, busnesau newydd a benthyciadau gwella cartrefi, i fynnu datganoli y pwerau rheoleiddio a defnyddwyr i reoli’r diwydiant ynni ac ymrwymo i greu economi werdd ac i atal datblygu anghynaliadwy. Heb yr ymrwymiadau hyn, ni welwn y newid yr ydym angen ei weld.

 

4.30 p.m.

 

Antoinette Sandbach: I am grateful to Plaid Cymru for instigating this debate. I echo William Powell’s comments that the time for talking has long passed. The original Rio conference happened back in 1992, and climate change has been on the agenda since that time. I want to indicate to the Minister, who is here, some simple steps that could have been taken to help achieve some of the targets that have been set. Why, for example, is installing solar panels on industrial buildings not permitted development? That has been the case in England, but not in Wales. It has created an additional barrier and cost to the installation of solar panels in Wales, which would help achieve those laudable climate change objectives. I see that Carl Sargeant is not here, but I was in his constituency visiting UPM at Shotton, which has a scheme to install solar panels on all its buildings. However, because it is not a permitted development, it was not able to install those panels before what was then thought to be the March cut-off point in terms of the feed-in tariff scheme.

 

Antoinette Sandbach: Rwyf yn ddiolchgar i Blaid Cymru am ddechrau’r ddadl hon. Rwy’n adleisio sylwadau William Powell bod yr amser i siarad wedi hen fynd. Cynhaliwyd y gynhadledd wreiddiol yn Rio yn ôl ym 1992, a bu newid yn yr hinsawdd ar yr agenda ers hynny. Rwyf eisiau sôn wrth y Gweinidog, sydd yma, am rai camau syml y gellid wedi eu cymryd i helpu i gyflawni rhai o’r targedau a osodwyd. Pam, er enghraifft, nad yw gosod paneli haul ar adeiladau diwydiannol yn ddatblygiad a ganiateir? Dyna fu’r achos yn Lloegr, ond nid yng Nghymru. Mae wedi creu rhwystr a chost ychwanegol o ran gosod paneli haul yng Nghymru, a fyddai’n helpu i gyflawni rhai o’r amcanion newid yn yr hinsawdd canmoladwy hynny. Gwelaf nad yw Carl Sargeant yma, ond yr oeddwn yn ei etholaeth yn ymweld ag UPM yn Shotton, sydd â chynllun i osod paneli haul ar bob un o’i adeiladau. Fodd bynnag, gan ei fod yn ddatblygiad na chaniateir, nid oedd yn gallu gosod y paneli hynny cyn yr hyn y tybiwyd yr adeg honno oedd y dyddiad cau ym mis Mawrth o ran y cynllun tariff cyflenwi trydan.

 

Perhaps this is an appropriate time to discuss the FITS issue. Again, I echo what has been said in this Chamber: I do not think that it has been handled appropriately, particularly while consultation has been ongoing. However, the scheme was not designed for large fields that were to be filled with solar panels, but for householders to encourage and support the kind of small-scale development to encourage low-level adoption of solar and other technologies. Effectively, those funds have now been used up, causing a review of the scheme. There is a consultation, and William Powell has already suggested that Members can respond to it.

 

Efallai fod hwn yn adeg briodol i drafod y mater FITS. Eto, adleisiaf beth a ddywedwyd yn y Siambr hon; nid wyf yn meddwl ei fod wedi cael ei drin yn briodol, yn enwedig tra bod ymgynghori wedi bod yn mynd ymlaen. Fodd bynnag, ni chafodd y cynllun ei gynllunio ar gyfer caeau mawr a oedd i’w llenwi gyda phaneli haul, ond er mwyn i ddeiliaid cartrefi annog a chefnogi’r math o ddatblygiad ar raddfa fach i annog technoleg haul a thechnolegau eraill i gael eu mabwysiadu ar raddfa fach. I bob pwrpas, mae’r arian hwnnw wedi cael ei ddefnyddio bellach, gan achosi adolygiad o’r cynllun. Mae yna ymgynghoriad, ac mae William Powell wedi awgrymu yn barod y gall Aelodau ymateb iddo.

 

I would like to see the Welsh Government encouraging the adoption of new technologies. I can think of a Welsh-grown technology. There is a developer in Wrexham who has developed an anaerobic digester. He has faced barrier after barrier in terms of bringing that technology forward. The technology is there to be adopted, and there are huge opportunities in relation to it. That is why I am so depressed to see the Climate Change Engagement Strategy dated November 2011, which talks about creating a website and

 

Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn annog mabwysiadu technolegau newydd. Gallaf feddwl am dechnoleg sy’n gynhenid i Gymru. Mae datblygwr yn Wrecsam wedi datblygu treuliwr anaerobig. Mae wedi dod ar draws rhwystrau di-rif o ran datblygu’r dechnoleg honno. Mae’r dechnoleg ar gael i’w mabwysiadu, ac mae cyfleoedd anferth yn gysylltiedig â hi. Dyna pam fy mod mor drist i weld y Strategaeth Ymgysylltu â Newid yn yr Hinsawdd, dyddiedig mis Tachwedd 2011, sy’n sôn am greu gwefan a

 

‘an easily recognisable set of images and words which will make sense of programmes and actions, and move the perception of the issues of climate change from the environmental sector’.

 

cyfres o ddelweddau a geiriau hawdd i’w hadnabod a fydd yn gwneud synnwyr o raglenni a chamau gweithredu, a symud y canfyddiad o faterion newid yn yr hinsawdd o’r sector amgylcheddol.

 

The wider public is aware of climate change, but make it easier for them. Have recycling collections where you can put all your rubbish into one bag and it gets sorted after it has been collected. Those are the types of schemes that can be adopted by local councils. That does not happen, certainly not in my council area in north Wales. I do not know whether it happens elsewhere, but I was surprised to see that those sorts of schemes are not there, particularly when there is a company up the road that can sort that rubbish. The technology is there; that company can recycle it, sell it on, and use the paper in their processes. However, not enough is being done by local councils to deal with that aspect. Bangor University’s Biocomposites Centre is leading the way in terms of encouraging the adoption of new technologies, and is an example of working with industry to achieve sustainable development and practical development in a way that works both for industry and for the individuals.

 

Mae’r cyhoedd yn ehangach yn gwybod am newid yn yr hinsawdd, ond dylech ei wneud yn haws iddynt. Dylech gael casgliadau ailgylchu lle gallwch roi eich holl sbwriel mewn un bag ac mae’n cael ei ddosbarthu wedi iddo gael ei gasglu. Dyna’r math o gynlluniau y gall cynghorau lleol eu mabwysiadu. Nid yw hynny’n digwydd, yn sicr yn ardal fy nghyngor i yn y gogledd. Wn i ddim os yw’n digwydd yn unman arall, ond roeddwn yn synnu gweld nad yw cynlluniau o’r fath yn bodoli, yn enwedig pan fo cwmni i fyny’r ffordd yn gallu dosbarthu’r sbwriel hwnnw. Mae’r dechnoleg yn bodoli; mi all y cwmni hwnnw ei ailgylchu, ei werthu ymlaen, a defnyddio’r papur yn eu prosesau. Fodd bynnag, nid oes digon yn cael ei wneud gan gynghorau lleol i ymdrin â’r agwedd honno. Mae’r Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor yn arwain y ffordd o ran annog mabwysiadu technolegau newydd, ac mae’n enghraifft o weithio gyda’r diwydiant i ddatblygu’n gynaliadwy a datblygu’n ymarferol mewn ffordd sy’n gweithio i’r diwydiant ac i unigolion.

 

The Deputy Presiding Officer: Will you conclude now, please?

 

Y Dirprwy Lywydd: A ddewch chi i ben yn awr, os gwelwch yn dda?

 

Antoinette Sandbach: Finally, I would ask the Government to think about ring-fencing the income which it will get from the TAN 8 areas into local communities to encourage sustainable development. Overall, I am grateful for this debate, and there is much that the Welsh Government can do to help achieve the objectives.

 

Antoinette Sandbach: Yn olaf, hoffwn ofyn i’r Llywodraeth ystyried neilltuo yr incwm y bydd yn ei gael o’r ardaloedd TAN 8 ar gyfer cymunedau lleol er mwyn annog datblygu cynaliadwy. Ar y cyfan, rwy’n ddiolchgar am y ddadl hon, ac mae yna lawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyflawni’r amcanion.

 

Llyr Huws Gruffydd: Yr wyf am geisio peidio ag ymateb yn ormodol i’r sylwadau sydd newydd gael eu gwneud. Serch hynny, credaf fod y sylw ynglŷn ag ailgylchu yn debyg braidd i’r ddadl honno dros daflu sbwriel ar lawr am ei fod yn creu swyddi, ond nid wyf am fynd ar ôl y sgwarnog honno’n ormodol.

 

Llyr Huws Gruffydd: I will try to not respond too much to the comments that have just been made. However, I think that the comment on recycling sounded a little like the argument for throwing litter on the floor because it creates jobs, but I don’t want to go after that particular issue now.

 

Cyfeiriwyd yn y drafodaeth hefyd at peak oil. Mae mwy nag un rheswm da dros dorri ein gorddibyniaeth ar danwydd ffosil. Mae angen ymateb integredig er mwyn sicrhau diogelwch hinsawdd, diogelwch ynni, diogelwch economaidd a diogelwch rhyngwladol. Yn ôl yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol, mae peak oil eisoes yn realiti.

 

Reference has been made in this afternoon’s debate to peak oil. There is more than one good reason for us to end our overdependence on fossil fuels. We need an integrated response in order to ensure security in terms of climate, energy and the economy, and international security. According to the International Energy Agency, peak oil is a reality already upon us.

 

Yng Nghymru, yr ydym yn orddibynnol ar danwydd ffosil. Mae rhai o’r sectorau economaidd yng Nghymru, megis y sector gweithgynhyrchu, yn ddefnyddwyr dwys iawn o ynni. Golyga hyn, felly, fod cynhyrchu cyfoeth yng Nghymru, ar hyn o bryd, yn llawer mwy dwys o safbwynt ynni nag ydyw mewn rhannau eraill o’r wlad. Felly, bydd effeithiau peak oil yn helaethach yng Nghymru mewn sawl ffordd na rhannau eraill o’r wlad hon ac Ewrop.

 

In Wales, we are overly dependent on fossil fuels. The energy consumption of some of our economic sectors, such as manufacturing, is intensive. This means, therefore, that the generation of wealth in Wales, at the moment, is far more energy intensive than it is in other parts of the UK. Therefore the effects of peak oil will be more keenly felt in Wales in a number of ways than they will be in other parts of the UK and Europe.

 

Ychwanegwch at hynny natur ddaearyddol Cymru, natur wasgaredig y boblogaeth a dwysedd isel y boblogaeth mewn rhannau helaeth o’r wlad, sy’n ein gwneud yn fwy dibynnol ar geir preifat. Mae canran lawer uwch o deithiau cymudo mewn ceir yng Nghymru o’i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, sy’n ein gwneud yn fwy dibynnol nag ardaloedd eraill ar olew a thanwydd ffosil.

 

Add to that the geographical nature of Wales and the fact that we have a dispersed and low-density population in many parts of the country, we become even more dependent on private vehicles. A far higher percentage of commuter travel takes place in cars in Wales than is the case in the rest of the United Kingdom, which again makes us more dependent than other regions on oil and fossil fuel.

 

Simon Thomas: Gobeithiaf fod yr Aelod yn cytuno bod yma hefyd bwynt ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol. Mae’r 20 y cant tlotaf o’n poblogaeth yn talu 3.4 y cant o’u hincwm ar danwydd ffosil i deithio fel hyn, tra bod yr 20 y cant mwyaf cyfoethog yn talu llai na hanner hynny. Mae dadleuon ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol, yn ogystal â dadleuon amgylcheddol, dros ddatrys y problemau hyn.

 

Simon Thomas: I hope that the Member agrees that social justice is also an issue in this respect. The poorest 20 per cent of our population pay 3.4 per cent of their income on fossil fuel in order to travel in this way, while the richest 20 per cent pay less than half that amount. Therefore, there is a social justice point as well as an environmental point in terms of tackling these problems.

 

Llyr Huws Gruffydd: Cytunaf 100 y cant. Mae tlodi trafnidiaeth yn faes nad yw wedi cael sylw haeddiannol, yn arbennig mewn cymunedau gwledig lle mae hyn yn realiti gwirioneddol. Mae’r sector trafnidiaeth yn gyffredinol yn cyfrif am dros chwarter allyriadau carbon y Deyrnas Unedig, gyda defnydd car personol yn unig yn cyfrannu hyd at 14 y cant o’r cyfanswm.

 

Llyr Huws Gruffydd: I agree with you entirely. Transport poverty is one area that perhaps has not been given the attention it deserves, particularly in rural communities, where this is very much a reality. The transport sector, generally speaking, accounts for more than a quarter of the United Kingdom’s carbon emissions, with personal car usage accounting for up to 14 per cent of that total.

 

Felly, os ydym am gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dorri ein hallyriadau 3 y cant bob blwyddyn, mae lleihau allyriadau carbon o’r sector trafnidiaeth yn hollbwysig. Mae’n rhaid inni newid ffynhonnell ynni trafnidiaeth gan symud i ffwrdd gymaint â phosibl o danwydd ffosil. Mae angen gwneud mwy i drydaneiddio ceir; mae trydaneiddio rheilffyrdd yn ddadl sy’n fyw ar hyn o bryd, ond mae’n realiti a fydd yn gorfod digwydd. Ni fydd yn ddewis yn y dyfodol ac felly mae’n rhaid inni edrych o ddifrif ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer y Cymoedd a’r gogledd yn ogystal â’r rhai a ystyrir eisoes.

 

Therefore, if we are to achieve the Welsh Government’s commitment to cut our carbon emissions by 3 per cent per annum, then reducing carbon emissions from the transport sector is of crucial importance. We must change the energy source for transport and move away as much as possible from the use of fossil fuels. We need to do more on the electrification of cars; the electrification of the railways is very much an ongoing issue, but it is a reality that will have to happen. It will not be an option in the future, therefore we must look in earnest at developing schemes for the Valleys and north Wales alongside those already being considered.

 

Mae angen hefyd sicrhau newid sylfaenol yn y dull o deithio o geir preifat i drafnidiaeth gyhoeddus a, lle bo hynny’n bosibl, annog mwy o gerdded a seiclo. Mae angen datrysiadau penodol o ran gwneud trafnidiaeth gynaliadwy yn haws i gymunedau gwledig yn arbennig. Mae’r Gynghrair Cefn Gwlad yn amcangyfrif bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn teithio 10,000 o filltiroedd y flwyddyn i gyrraedd gwasanaethau hanfodol, sydd 43 y cant yn fwy na’r pellter a deithir gan drigolion sy’n byw mewn trefi.

 

We also need to ensure a fundamental shift in the travel mode from the private car to public transport and, where possible, encourage more walking and cycling. We need specific solutions in terms of making sustainable transport more appropriate for rural communities in particular. The Countryside Alliance estimates that people who live in rural areas travel 10,000 miles a year in order to access essential services, which is 43 per cent greater than the distance travelled by people who live in towns and cities.

 

Mae nifer o enghreifftiau o sut y gallem fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn, gan gynnwys cynlluniau megis trafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw, a fyddai’n gwneud teithio ar fws yn fwy atyniadol ac ymarferol i bobl, yn enwedig y rhai sy’n byw yng nghefn gwlad. Mae gennym Fil arfaethedig ar lwybrau seiclo, ond yr wyf yn siŵr y gallem wneud llawer mwy o ran creu llwybrau di-draffig, mesurau tawelu traffig a therfynau cyflymder, a chreu llwybrau diogel sy’n atyniadol i bobl sydd am gerdded a seiclo. Mae hynny’n wir mewn ardaloedd gwledig hefyd. Dim ond rhyw filltir, neu ddwy neu dair o drefi gwledig y mae nifer o’n cymunedau llai, ac felly mae potensial yn y maes hwnnw.

 

There are several examples of how we can get to grips with some of these issues, including schemes such as demand-led transport, which would make bus travel more attractive and practical for people, particularly those living in rural areas. We have a Bill in the pipeline relating to the issue of cycle routes and paths, but I am sure that we could do far more in order to create traffic-free routes, to put traffic-calming measures and speed limits in place, and to create safe routes for people who want to walk and cycle. That is true of rural areas as well. Many of our smaller communities are only a mile or two from rural towns, therefore there is potential in that context.

 

Wrth gwrs, mae’n rhaid inni dderbyn mai car yw’r unig ateb mewn rhai achosion, ac mae clybiau ceir ac ati yn cynnig rhyw fath o ddatrysiad yn hynny o beth. Egwyddor bwysig arall yw lleihau’r angen i deithio yn y lle cyntaf. Yr wyf wedi sôn nifer o weithiau yma am yr angen i ddarparu band eang, signal ffonau symudol ac ati mewn cymunedau gwledig, fel y gall rhagor o bobl weithio gartref. Byddai hynny’n golygu na fyddai angen iddynt deithio i’r un graddau. I gloi, mae llawer y gallwn ni i gyd ei wneud i leihau ein hôl-troed carbon. Un enghraifft ac un sector yw trafnidiaeth, ond mae e’n un arwyddocaol iawn. Yr wyf yn siŵr y byddai pawb yn cefnogi’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y cynnig o safbwynt ymgyrch gan Weinidogion Cymru i wella gwybodaeth gyhoeddus. Serch hynny, wrth gwrs, gweithredu yw’r hyn sydd ei angen ar ddiwedd y dydd.

 

Of course, we must accept that, in some case, the car is the only solution, and car-share clubs and so on provide some sort of solution in that regard. Another important principle is to reduce the need to travel in the first place. On a number of occasions in this place, I have mentioned the need for broadband, mobile signals and so on to be made available in rural communities so that more people can work from home. In that way, they would not need to travel to such an extent. To conclude, there is a great deal that we can all do to reduce our carbon footprint. Transport is one example in one sector, but it is a very significant sector. I am sure that everyone would support what is included in the motion with regard to a campaign by Welsh Ministers to improve the information available to the public. However, at the end of the day, action is what is required.

 

Rebecca Evans: If there is not urgent action on a global scale to tackle climate change there will be far-reaching effects on the world’s environment. As we know, for some of the world’s regions, this will mean rising sea levels, flooding, food shortages, severe shortages of water for drinking and irrigation, disease, and a loss of biodiversity and ecosystems. However, these are not problems just for people in distant countries. We are global citizens and we have a responsibility to our neighbours not to increase their suffering by our actions or our inaction.

 

Rebecca Evans: Os nad oes camau brys yn cael eu cymryd ar raddfa fyd-eang i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd bydd effeithiau pellgyrhaeddol ar amgylchedd y byd. Fel y gwyddom, ar gyfer rhai o ranbarthau’r byd, bydd hyn yn golygu lefelau’r môr yn codi, llifogydd, prinder bwyd, prinder difrifol o ddŵr ar gyfer yfed a dyfrhau, afiechyd, a cholli bioamrywiaeth ac ecosystemau. Fodd bynnag, nid problemau yw’r rhain dim ond i bobl mewn gwledydd pell. Rydym yn ddinasyddion y byd ac mae gennym gyfrifoldeb i’n cymdogion i beidio â chynyddu eu dioddefaint drwy ein camau neu ddiffyg camau.

 

The Zero Carbon Britain report states that, because climate change is a global problem, it lends itself to the denial of personal power and the blaming of others. It is easy for individuals to argue that their individual impact is not as great as that of some other people and so it is not their job to take mitigating action. The report also shows that, although many profess to care about climate change—and increasingly a large proportion of people are undertaking some actions to reduce energy use—the vast majority are continuing with patterns of behaviour that make the problem worse. For many people, there is a large gap between their concern about the environment and their actions. The report also shows that the reasons for this are many and varied and that different approaches must be employed in order to cause behavioural change in different people. In the UK, the energy we use in our homes and for personal transport accounts for almost 43 per cent of the UK’s carbon emissions. If we are to meet and, I hope, exceed our targets in Wales, we need to engage more effectively with individuals.

 

Gan fod newid yn yr hinsawdd yn broblem fyd-eang, dywed adroddiad Zero Carbon Britain ei bod yn arwain at wadu pŵer personol a gweld bai ar eraill. Mae’n hawdd i unigolion ddadlau nad yw eu heffaith unigol mor fawr ag effaith ambell un arall ac felly nid eu lle hwy yw cymryd camau i liniaru hynny. Dengys yr adroddiad hefyd, er bod llawer yn honni eu bod yn poeni am newid yn yr hinsawdd—ac mae cyfran gynyddol o bobl yn cymryd rhywfaint o gamau i leihau eu defnydd o ynni—mae’r rhan fwyaf yn dal ati i ymddwyn mewn patrwm sy’n gwaethygu’r broblem. I nifer o bobl, mae cryn fwlch rhwng eu pryder am yr amgylchedd a’u gweithredoedd. Dengys yr adroddiad hefyd bod y rhesymau am hyn yn niferus ac amrywiol a bod angen defnyddio dulliau gwahanol er mwyn creu newid yn ymddygiad gwahanol bobl. Yn y Deyrnas Unedig, mae’r ynni a ddefnyddiwn yn ein cartrefi ac ar gyfer cludiant personol yn gyfrifol am bron i 43 y cant o allyriadau carbon y DU. Os ydym am gyrraedd ein targedau yng Nghymru, a, gobeithio, mynd y tu hwnt iddynt, mae angen i ni ymgysylltu yn fwy effeithiol ag unigolion.

 

I welcome the Government’s commitment to developing an approach to behaviour change through example, enabling, encouraging and engaging. We are leading by example by having the lowest ecological footprint of all UK nations and by establishing the first climate change commission in the UK. Welsh Government buildings have achieved the highest level Green Dragon award. We are enabling by providing an extra £90 million over the past three years to increase the amount of waste recycled. We are encouraging by introducing a carrier bag charge, which, in my experience, has been very warmly welcomed. The climate change strategy says that the third sector and initiatives such as Communities First must play a key role in engagement. I would be keen to hear from the Minister some clear examples of how Communities First projects are driving forward engagement in the climate change agenda and how the impact of engagement is being measured.

 

Rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygu dull i newid ymddygiad drwy esiampl, galluogi, annog ac ymgysylltu. Rydym yn arwain drwy enghraifft drwy feddu ar yr ôl troed ecolegol isaf o’r holl genhedloedd yn y DU a drwy sefydlu’r comisiwn newid yn yr hinsawdd cyntaf yn y DU. Mae adeiladau Llywodraeth Cymru wedi ennill y wobr Draig Werdd uchaf. Rydym yn galluogi drwy ddarparu £90 miliwn yn ychwanegol dros y dair blynedd ddiwethaf i gynyddu faint o wastraff a gaiff ei ailgylchu. Rydym yn annog drwy gyflwyno tâl am fagiau untro, sydd wedi cael croeso brwd iawn o’m profiad i. Dywed y strategaeth newid yn yr hinsawdd bod yn rhaid i’r trydydd sector a mentrau fel Cymunedau yn Gyntaf chwarae rhan allweddol o ran ymgysylltu. Byddwn yn awyddus i glywed gan y Gweinidog am rai enghreifftiau clir o sut mae projectau Cymunedau yn Gyntaf yn hyrwyddo ymgysylltiad â’r agenda newid yn yr hinsawdd a sut mae effaith yr ymgysylltu yn cael ei fesur.

 

I am also keen to hear his assessment of how the third sector is currently engaging with hard-to-reach groups on the climate change agenda and what further direction and support he thinks the third sector might need in this. I conclude by saying that I welcome today’s debate—I do not think that we can talk about climate change enough, provided it is backed up by action—and by welcoming the Government’s leadership on tackling climate change.

 

Rwyf hefyd yn awyddus i glywed ei asesiad o sut mae’r trydydd sector yn ymgysylltu ar hyn o bryd â grwpiau anodd i’w cyrraedd ar yr agenda newid yn yr hinsawdd a pha gyfarwyddyd a chymorth pellach y mae’n tybio y gallai fod ar y trydydd sector ei angen yn hyn o beth. Dof i ben drwy ddweud fy mod yn croesawu’r ddadl heddiw—nid wyf yn meddwl y gallwn siarad digon am newid yn yr hinsawdd, cyhyd â bod gweithredu yn sail iddo—ac yn croesawu arweinyddiaeth y Llywodraeth ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): I welcome very much today’s debate and the cross-party commitment to our climate change strategy and making necessary progress. Quite a number of points have been raised, and it is not possible to cover them all in the time available. However, in the round, they add up to a strong endorsement of the progress we have made in Wales and the strategy we have set for future direction.

 

Y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Rwy’n croesawu dadl heddiw yn fawr a’r ymrwymiad trawsbleidiol i’n strategaeth newid yn yr hinsawdd a gwneud cynnydd angenrheidiol. Mae cryn dipyn o bwyntiau wedi cael eu codi, ac nid yw’n bosibl eu cwmpasu i gyd yn yr amser sydd ar gael. Fodd bynnag, at ei gilydd, maent yn gyfystyr â chymeradwyaeth gref i’r cynnydd a wnaethom yng Nghymru a’r strategaeth yr ydym wedi ei phennu ar gyfer cyfeiriad yn y dyfodol.

 

Of course, our programme for government reaffirms the Welsh Government’s commitment to lead on tackling the causes, and indeed the consequences, of climate change. We are fully committed to measuring our progress, driving down emissions and ensuring that Wales remains well prepared to respond to the challenges of climate change. I reinforce our commitment to our target of reducing greenhouse gas emissions in areas of devolved competence by 3 per cent per year and our commitment to reducing all emissions in Wales by 40 per cent.

 

Wrth gwrs, mae ein rhaglen lywodraethu yn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i arwain ar y gwaith o fynd i’r afael ag achosion, ac yn wir, ganlyniadau newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i fesur ein cynnydd, lleihau allyriadau a sicrhau bod Cymru yn dal i fod mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd. Atgyfnerthaf ein hymrwymiad i’n targed i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy 3 y cant bob blwyddyn mewn meysydd lle mae gennym gymhwysedd wedi ei ddatganoli a’n hymrwymiad i leihau yr holl allyriadau yng Nghymru drwy 40 y cant.

 

4.45 p.m.

 

Members have mentioned our leadership role. The Welsh Government estate is very important in that. We need to lead by example. I am pleased to say that, last year, we committed to the 10:10 campaign, which meant reducing emissions from electricity, fossil fuel use and business travel by 10 per cent within a year. I am even more pleased to report that we reduced those emissions by 11 per cent. We achieved that through a significant reduction in staff travel, improvements in ICT efficiency and rationalisation of the buildings we use, as well as investment in carbon reduction projects. The challenge now for us is to build on this success and continue to drive down emissions through our internal carbon management strategy.

 

Mae Aelodau wedi crybwyll ein rôl arweinyddiaeth. Mae ystâd Llywodraeth Cymru yn bwysig iawn yn hynny o beth. Mae angen inni arwain drwy esiampl. Yr wyf yn falch o ddweud ein bod, y llynedd, wedi ymrwymo i ymgyrch 10:10, a oedd yn golygu lleihau allyriadau trydan, y defnydd o danwydd ffosil a theithio busnes drwy 10 y cant o fewn blwyddyn. Yr wyf hyd yn oed yn fwy balch o adrodd ein bod wedi lleihau’r allyriadau hynny 11 y cant. Yr ydym wedi cyflawni hynny drwy leihad arwyddocaol mewn teithiau gan staff, gwelliannau mewn effeithlonrwydd TGCh, a bod yn rhesymol o ran yr adeiladau yr ydym yn eu defnyddio, yn ogystal â buddsoddi mewn prosiectau lleihau carbon. Yr her yn awr i ni yw adeiladu ar y llwyddiant hwn a pharhau i leihau allyriadau drwy ein strategaeth rheoli carbon mewnol.

 

It is also good to hear tribute being paid to the Centre for Alternative Technology. I have been pleased to go to CAT a number of times over the years as a visitor, as an Assembly Member and as a Minister. CAT is a valued member of the Climate Change Commission for Wales and we will be responding to the centre’s report, ‘Zero Carbon Britain 2030’, when we publish our first progress report on delivery of the climate change strategy in March 2012.

 

Mae hefyd yn dda clywed teyrnged yn cael ei dalu i’r Ganolfan Dechnoleg Amgen. Yr wyf wedi bod yn falch cael ymweld â’r ganolfan nifer o weithiau dros y blynyddoedd, fel Aelod Cynulliad ac fel Gweinidog. Mae’r ganolfan yn aelod gwerthfawr o Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a byddwn yn ymateb i adroddiad y ganolfan, ‘Prydain Di-garbon 2030’, pan fyddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad cyntaf ar gyflawni’r strategaeth newid yn yr hinsawdd ym Mawrth 2012.

 

Many Members mentioned energy efficiency in the residential sector and I believe that we have made good progress in that regard. That has been recognised by the UK Committee on Climate Change. Arbed 1 was a big success, as was the home energy efficiency scheme. The boiler scrappage scheme also played a role. We will build on that with Arbed 2 and our new Nest scheme. Those schemes address sustainable development with its three strands—economic, social and environmental. When you get out and about and speak to people in homes that have had the work done, and when you meet people who have gained jobs through the schemes and hear from them what it has meant for them in practical terms, it makes you understand the value of that work.

 

Mae llawer o Aelodau wedi sôn am effeithlonrwydd ynni yn y sector preswyl a chredaf ein bod wedi gwneud cynnydd da yn hynny o beth. Mae hynny wedi cael ei gydnabod gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Yr oedd Arbed 1 yn llwyddiant mawr, fel yr oedd y cynllun effeithlonrwydd ynni cartref. Mae’r cynllun sgrapio boeleri hefyd wedi chwarae rôl. Byddwn yn adeiladu ar hynny gydag Arbed 2 ac ein cynllun Nyth newydd. Mae’r cynlluniau hynny yn mynd i’r afael â datblygu cynaliadwy gyda’i dri llinyn—yr economi, y gymdeithas a’r amgylchedd. Pan ewch o gwmpas a siarad â phobl mewn cartrefi sydd wedi cael y gwaith wedi ei wneud, a phan fyddwch yn cwrdd â phobl sydd wedi cael swyddi drwy’r cynlluniau ac yn clywed ganddynt beth y mae wedi ei olygu iddynt yn ymarferol, yr ydych yn deall gwerth y gwaith hwnnw.

 

A number of Members mentioned the feed-in tariffs and the decision to prematurely change the scheme before the consultation period has expired. I am pleased that there is cross-party support for the concern over that announcement and I am pleased that Lynne Neagle has taken the opportunity to air these issues in the short debate that I will be responding to later today. It is important that we get the key messages across around the fact that many housing associations, local authorities and registered social landlords in Wales that have been taking forward work that inevitably involves preliminary steps in terms of due diligence, engagement with tenants and doing some structural work before the actual work of installation can take place to benefit under the feed-in tariffs. It would be unfair if those organisations and others in Wales were disadvantaged, having taken forward that work under the scheme as is, and were to find the goalposts moved before the consultation period had even expired.

 

Mae nifer o Aelodau wedi crybwyll y tariffau cyflenwi trydan a’r penderfyniad i newid y cynllun yn rhy gynnar, cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Yr wyf yn falch bod cefnogaeth drawsbleidiol i’r pryder dros y cyhoeddiad hwnnw ac yr wyf yn falch bod Lynne Neagle wedi cymryd y cyfle i wyntyllu’r materion hyn yn y ddadl fer y byddaf yn ymateb iddi nes ymlaen heddiw. Mae’n bwysig ein bod yn hysbysebu’r negeseuon allweddol ynghylch y ffaith bod llawer o gymdeithasau tai, awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru wedi bod yn symud ymlaen â gwaith sydd yn anochel yn golygu camau rhagarweiniol o ran diwydrwydd dyladwy, ymgysylltu â thenantiaid a gwneud rhywfaint o waith strwythurol cyn bod y gwaith gwirioneddol o osod yn gallu digwydd i fanteisio ar y tariffau cyflenwi trydan. Byddai’n annheg pe bai’r sefydliadau hynny ac eraill yng Nghymru dan anfantais, ar ôl symud ymlaen y gwaith o dan y cynllun fel ag y mae, ac wedyn yn darganfod bod y nod wedi newid cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, hyd yn oed.

 

Andrew R.T. Davies: It is a fair observation, Minister, and I think that we all share the concern about what is proposed. However, given that the department has said that the £960 million has been allocated and spent because of the uptake of the scheme, how much more money do you believe should be made available to the scheme for it to continue?

 

Andrew R.T. Davies: Mae’n sylw teg, Weinidog, a chredaf ein bod i gyd yn rhannu’r pryder am yr hyn a gynigir. Fodd bynnag, o ystyried bod yr adran wedi dweud bod y £960 miliwn wedi cael ei ddyrannu a’i wario oherwydd y nifer sy’n manteisio ar y cynllun, faint mwy o arian ydych chi’n credu y dylai fod ar gael i’r cynllun er mwyn iddo barhau?

 

John Griffiths: We all understand that there have been changes in terms of the cost of installation coming down and the price of the electricity going up. We understand that, but I think it is so unfair to move the goalposts before the consultation period has even expired. It is important to understand the regressive nature of what is proposed. We have to understand the difference between solar panel fields, individuals in their homes and community organisations. I urge recognition of the situation of housing associations and registered social landlords, and some sort of appreciation of the particular factors that apply to them.

 

John Griffiths: Yr ydym i gyd yn deall bod newidiadau wedi bod o ran y gost o osod yn gostwng a phris trydan yn codi. Yr ydym yn deall hynny, ond credaf ei fod mor annheg i symud y targed cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, hyd yn oed. Mae’n bwysig deall natur atchweliadol yr hyn a gynigir. Mae’n rhaid inni ddeall y gwahaniaeth rhwng caeau paneli solar, unigolion yn eu cartrefi a sefydliadau cymunedol. Yr wyf yn annog cydnabyddiaeth o sefyllfa cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a rhywfath o ddealltwriaeth o’r ffactorau penodol sy’n berthnasol iddynt.

 

When it comes to engagement, Members rightly highlighted the importance of taking communities with us and reaching business and the third sector. We will take forward our public information and engagement campaign to ensure that we build awareness and recognition and to ensure that it feeds into action.

 

Pan ddaw i ymgysylltu, amlygodd Aelodau, yn gywir, y pwysigrwydd o gymryd cymunedau gyda ni a chyrraedd busnesau a’r trydydd sector. Byddwn yn datblygu ein hymgyrch wybodaeth gyhoeddus ac ymgysylltu i sicrhau ein bod yn adeiladu ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth ac i sicrhau ei bod yn bwydo i mewn i waith.

 

Members also mentioned transport, which is very important. We have to have better public transport in Wales and more investment. We have to take forward our work on our travel centres and on smart travel to ensure that people understand how easy it is to use public transport and the opportunities provided by that, as well as promoting walking and cycling. There are also important developments regarding eco-driving. Grant schemes are available for some of the important technology issues that have been mentioned in relation to renewable energy and marine energy in particular.

 

Soniodd Aelodau hefyd am drafnidiaeth, sydd yn bwysig iawn. Mae’n rhaid inni gael gwell trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a mwy o fuddsoddi. Mae’n rhaid inni symud ymlaen â’n gwaith ar ein canolfannau teithio ac ar deithio call er mwyn sicrhau bod pobl yn deall pa mor hawdd yw defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a’r cyfleoedd a ddarperir gan hynny, yn ogystal â hybu cerdded a beicio. Mae yna ddatblygiadau pwysig hefyd ynghylch eco-yrru. Mae cynlluniau grant ar gael ar gyfer rhai o’r materion technoleg pwysig sydd wedi cael eu crybwyll mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy ac ynni morol yn arbennig.

 

I will conclude by dealing with the international situation. We are very enthusiastic members of the Network of Regional Governments for Sustainable Development and we want to play a part in the international climate summit, whether in Durban or Rio. We will represent the interests of Wales at those events and ensure that the achievements of Wales and the work that is being taken forward are recognised and that we can show a good example and learn from what is going on elsewhere.

 

Yr wyf am gloi drwy ymdrin â’r sefyllfa ryngwladol. Yr ydym yn aelodau brwdfrydig iawn o Rwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy ac yr ydym eisiau chwarae rhan yn yr uwchgynhadledd hinsawdd rhyngwladol, boed yn Durban neu yn Rio. Byddwn yn cynrychioli buddiannau Cymru yn y digwyddiadau hynny ac yn sicrhau bod llwyddiannau Cymru a’r gwaith sy’n cael ei ddatblygu yn cael eu cydnabod, ac y gallwn ddangos esiampl dda a dysgu o’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill.

 

It has been stated many times that sub-national Governments are responsible for a lot of the delivery that can really impact on climate change and carbon emissions. Therefore, there is a very strong role for sub-national Governments, and the Climate Group and nrg4SD allow us to play a strong international role in raising awareness of that and ensuring that the necessary progress is made. We intend to continue to play our part on the international stage. Once again, I welcome the consensus across the Chamber for that involvement.

 

Y mae wedi cael ei ddatgan lawer gwaith bod Llywodraethau is-genedlaethol yn gyfrifol am lawer o’r cyflwyno a all gael effaith gwirioneddol ar newid yn yr hinsawdd ac allyriadau carbon. Felly, mae yna rôl gref iawn i Lywodraethau is-genedlaethol, ac mae’r Grŵp Hinsawdd ac nrg4SD yn ein galluogi i chwarae rhan ryngwladol gref o ran codi ymwybyddiaeth o hynny a sicrhau bod y cynnydd angenrheidiol yn cael ei wneud. Yr ydym yn bwriadu parhau i wneud ein rhan ar y llwyfan ryngwladol. Unwaith eto, yr wyf yn croesawu’r consensws ar draws y Siambr am hynny.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl, yn enwedig fy nghydweithwyr ar y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Mae wedi bod yn bleser pur hyd yn hyn—gwell i mi ddweud hynny rhag ofn bod trwbl ar y gorwel—cadeirio’r pwyllgor hwnnw a chael y fath gydweithrediad. Gwnaf awgrym cyn diwedd fy sylwadau ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud nesaf.

 

Lord Elis-Thomas: I wish to thank everyone who participated in the debate, in particular my colleagues on the Environment and Sustainability Committee. It has been a pleasure to date—I had better say that in case there is some trouble on the horizon—to chair that committee and to have such co-operation. I have a suggestion that I will make before the end of my contribution as to what we can do next.

 

Yr wyf yn diolch yn arbennig i William Powell a’r Gweinidog—a phawb arall a gyfeiriodd ato—am gyfeirio at Ganolfan y Dechnoleg Amgen. Mae’r ganolfan, sydd yng Ngheinws, ar bwys Esgairgeiliog, ddim yn bell o Fachynlleth, yn Nyffryn Dulas, wedi bod yn ysbrydoliaeth bersonol i mi a fy nheulu ers ei sefydlu. Efallai ei bod yn briodol i mi dalu teyrnged i’r diweddar John Beaumont, landlord gwreiddiol y chwarel. Yr wyf yn cofio iddo ddweud wrthyf,

 

I particularly want to thank William Powell and the Minister—and everyone else who referred to it—for referring to the Centre for Alternative Technology. The centre, which is in Ceinws, near Esgairgeiliog, not far from Machynlleth, in the Dulas valley, has been a personal inspiration to me and my family since its establishment. It may be appropriate for me to pay tribute to the late John Beaumont, the original landlord of the quarry. I remember him saying to me,

 

‘Dafydd, there are some hippy types who want to take over the lease of my quarry; what do you think I should do?’ ‘Go ahead, John’,

 

‘Dafydd, mae yna ryw hipis am gymryd drosodd prydles fy chwarel; beth ydych chi’n meddwl y dylwn i ei wneud?’ ‘Ewch amdani, John’,

 

meddwn i, ac, wrth gwrs, nid oes neb wedi edrych yn ôl ers hynny. Y ganolfan bellach, fel elusen, yw perchennog y chwarel ac mae wedi datblygu canolfan addysg uwch ar y safle hwnnw. Os oes unrhyw Aelod sydd heb fod yno, croeso ichi fynd mor gyflym ac mor fuan ag y gallwch. Cofiwch fynd ar y trên; mae gwasanaeth trên ardderchog i Fachynlleth ac mae bws hwylus o’r fan honno. Gobeithiaf hefyd y bydd modd i’r pwyllgor ymweld â’r ganolfan yn eithaf buan.

 

I said, and, of course, they have not looked back since. CAT, as a charity, now owns the quarry and it has developed a higher education centre on that site. If there is any Member who has not yet been there, you are encouraged to go as swiftly and as soon as you are able. Remember to take the train; there is an excellent train service to Machynlleth and there is a convenient bus from there. I also hope that it will be possible for the committee to visit CAT quite soon.

 

Er bod Russell George yn croesawu’r ddogfen ymgysylltu, dywedodd ei bod yn bwysig iawn ein bod bob amser yn gweithredu ac nid dim ond cyfathrebu. Derbyniaf y pwynt hwnnw. Mae llywodraethiad yn hanfodol yn y maes hwnnw.

 

Although Russell George welcomed the engagement document, he said that it is very important that we also take action and do not just communicate. I accept that point. Governance is essential in this field.

 

Yr wyf yn diolch i Simon Thomas am ei gyfeiriadau at swyddi, ynni cynaliadwy ac ynni gwyrdd. Gobeithiaf y bydd modd inni barhau â’r trafodaethau ar y gyllideb i’r cyfeiriad hwnnw.

 

I thank Simon Thomas for his references to jobs, sustainable energy and green energy. I hope that we will be able to continue the negotiations on the budget with a view to addressing that.

 

Mae Julie James yn radical fel cyfreithwraig amgylcheddol, ac mae hefyd yn deall yr anghenion. Gobeithiaf y bydd Julie yn parhau i’n harwain fel pwyllgor i’r cyfeiriad hwn ac i rybuddio yn erbyn datblygiad ar unrhyw gost. Yr ydym ni yng Nghymru, fel arloeswyr carbon byd-eang o fewn y Deyrnas Unedig, yn gwybod beth yw cost carbon i unigolion, i deuluoedd ac i’r byd. Felly, fel y mae adeilad y Pierhead yn ein hatgoffa bob dydd, fel y bu inni arwain y ffordd yn carboneiddio’r byd, gallwn arwain i ddad-garboneiddio’r byd. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau sy’n gyfrifol am drafnidiaeth yn gwneud ei gyfraniad yn y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol.

 

Julie James is a radical as an environmental solicitor, and she also understands the needs in this regard. I hope that Julie will continue to lead us as a committee in this direction and to warn against development at any cost. We, in Wales, as global carbon innovators within the UK, know of the cost of carbon to the individual, to families and to the world. Therefore, as the Pierhead building reminds us every day, as we led the way in the carbonisation of the world, we can lead the way to de-carbonise the world. I hope that the Minister for Local Government and Communities who is responsible for transport will make his contribution in the national transport plan.

 

Diolchaf i Leanne Wood am y pwyslais ar dai ac ar insiwleiddio, a’r angen i gysylltu tlodi tanwydd â’r holl gwestiwn o fynd i’r afael â’r amgylchedd. Diolchaf i Antoinette Sandbach am ei chyfeiriad at ddefnyddio systemau treulio anaerobig fel modd o weithredu. Yn sicr, bydd yn rhaid i’r pwyllgor edrych ymhellach ar y mater hwn fel rhan o’i ymchwiliad presennol. Diolchaf i Llyr Huws Gruffydd am roi pwyslais ar allyriadau trafnidiaeth. Mae hon yn her arall i’r Gweinidog. Diolchaf i Rebecca am gyfeirio at y sefyllfa fyd-eang o ran ynysoedd a bioamrywiaeth, a phwysigrwydd ymddwyn fel dinasyddion byd-eang. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog, fel arfer, am ei ymateb clir, a’i longyfarch am fynd 1 y cant yn well na’i fwriad o ran lleihau allyriadau carbon o fewn ei adran. Hoffwn ddiolch iddo hefyd am yr holl waith a wnaed i ymateb i’r sefyllfa hon, yn enwedig drwy ddarpariaeth Nest ac Arbed 2.

 

I thank Leanne Wood for the emphasis on housing and insulation, and the need to link fuel poverty with the whole issue of the environment. I thank Antoinette Sandbach for her reference to the use of anaerobic digesters as a way forward. Certainly, the committee will have to look further at that as part of its current inquiry. I thank Llyr Huws Gruffydd for emphasising transport emissions. This is another challenge for the Minister. I thank Rebecca for referring to the global position in terms of islands and biodiversity, and the importance of behaving as global citizens. I thank the Minister, as usual, for his clear response and congratulate him on going 1 per cent better than his target in terms of reducing carbon emissions in his department. I would also like to thank him for all the work that he has done to respond to this situation, especially with the provision of Nest and Arbed 2.

 

Nid wyf byth yn gwneud penderfyniadau ar fy nhraed fel Cadeirydd pwyllgor. Fodd bynnag, mae’n ymddangos i mi fod y cytuniad a gawsom heddiw yn her inni fel pwyllgor. Efallai y dylai’r pwyllgor ymateb yn swyddogol ac yn ffurfiol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â’r tariff cyflenwi trydan. Gan fod cymaint o gefnogaeth wedi’i ddangos, efallai ei bod yn hen bryd inni ddweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn swyddogol ar ran y Cynulliad, yr hyn yr ydym yn ei feddwl ohoni yn y maes hwn. Nid pwynt gwleidyddol neu bleidiol yw hwn. Pe byddem yn gwneud hyn ar draws y pleidiau, byddai’r neges gymaint â hynny’n gryfach.

 

I never make decisions while I am speaking as a committee Chair. However, it appears to me that the agreement that we have reached today is a challenge for us as a committee. Perhaps the committee should respond officially and formally to the UK Government on the feed-in tariffs. So much support has been demonstrated that it may be time for us to tell the UK Government, officially on behalf of the Assembly, what we think of it in this particular regard. This is not a political or party-political point. If we were to do that across the parties, the message would be so much stronger for it.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? I see that there are objections. Therefore, I will defer all voting on this item until voting time, which will now follow.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw cytuno ar y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf fod gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf yr holl bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio, a fydd yn dilyn nesaf.

 

It has been agreed that voting time will take place before the short debate. Before we proceed, are there three Members who wish the bell to be rung? I see that there are not, so we will proceed with voting time.

 

Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Cyn inni symud ymlaen, a oes tri Aelod sy’n dymuno i’r gloch gael ei chanu? Gwelaf nad oes, felly byddwn yn bwrw ymlaen â’r cyfnod pleidleisio.

 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.

 

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

 

Cynnig NDM4852: O blaid 40, Ymatal 0, Yn erbyn 13.
Motion NDM4852: For 40, Abstain 0, Against 13.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Antoniw, Mick
Asghar, Mohammad
Burns, Angela
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Andrew R.T
Davies, Byron
Davies, Keith
Davies, Paul
Davies, Suzy
Drakeford, Mark
Evans, Rebecca
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gething, Vaughan
Graham, William
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
Isherwood, Mark
James, Julie
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Ramsay, Nick
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sandbach, Antoinette
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Watson, Joyce

Black, Peter
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Gruffydd, Llyr Huws
Jones, Alun Ffred
Jenkins, Bethan
Parrott, Eluned
Powell, William
Roberts, Aled
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

 

 

Cynnig NDM4850: O blaid 36, Ymatal 12, Yn erbyn 5.
Motion NDM4850: For 36, Abstain 12, Against 5.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

 

Black, Peter
Parrott, Eluned
Powell, William
Roberts, Aled
Williams, Kirsty

 

Ymataliodd yr Aelodau canlynol:
The following Members abstained:

 

Asghar, Mohammad
Burns, Angela
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Ramsay, Nick
Sandbach, Antoinette

 

 

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

 

 

Dadl Fer
Short Debate

 

Tynnu’r Plwg—Effaith Torri’r Tariff Cyflenwi Trydan yng Nghymru
Pulling the Plug—The Impact in Wales of Slashing the Feed-In Tariff

 

The Deputy Presiding Officer: Could those Members who are now leaving the Chamber please do so quickly and quietly? We move now to the short debate, and I ask Lynne Neagle to introduce the subject that she has chosen.

 

Y Dirprwy Lywydd: A wnaiff yr Aelodau sydd yn awr yn gadael y Siambr wneud hynny’n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? Symudwn yn awr at y ddadl fer, a gofynnaf i Lynne Neagle gyflwyno’r pwnc a ddewiswyd ganddi.

 

Lynne Neagle: I am pleased to have this opportunity to raise this important and urgent issue today, and I welcome the fact that Joyce Watson, Keith Davies, Mike Hedges, William Powell, Vaughan Gething and Antoinette Sandbach have all asked to contribute, subject to there being time. The number of people who have asked to speak this evening in itself speaks volumes about the strength of feeling on this issue. We know that there is a growing chorus of voices opposing this change, but there are legal moves afoot from representatives of the solar industry, a number of housing associations and campaigners like Friends of the Earth.

 

Lynne Neagle: Yr wyf yn falch o gael y cyfle hwn i godi’r mater pwysig a brys hwn heddiw, ac yr wyf yn croesawu’r ffaith bod Joyce Watson, Keith Davies, Mike Hedges, William Powell, Vaughan Gething ac Antoinette Sandbach i gyd wedi gofyn am gael cyfrannu, os oes amser. Mae’r nifer o ran y bobl sydd wedi gofyn am gael siarad heno yn ei hun yn adrodd cyfrolau am gryfder y teimlad ar y mater hwn. Yr ydym yn gwybod bod yna gorws cynyddol o leisiau yn gwrthwynebu’r newid hwn, ond mae symudiadau cyfreithiol ar y gweill gan gynrychiolwyr o’r diwydiant solar, nifer o gymdeithasau tai ac ymgyrchwyr megis Cyfeillion y Ddaear.

 

5.00 p.m.

 

I want to highlight the impact that these cuts are having, not just in my Torfaen constituency, but far beyond, in households and communities in every corner of Wales. At the stroke of a pen in Whitehall, countless schemes to install solar photovoltaic panels have been put in jeopardy, damaging efforts to combat climate change and to tackle fuel poverty at the very time when rising fuel bills are hammering household budgets and when families on low incomes need all the help that they can get. It will also do irrevocable, potentially fatal, damage to a growing industry that has been one of the few recent success stories in an economy that is flatlining as a direct result of the policies of George Osborne and his colleagues in Government. What is more, it makes a complete mockery of the process of consultation that was already under way to bring down feed-in tariffs over the long term—a consultation that was not due to finish until the end of December, two weeks after the 12 December deadline that has now been set for the reduction in tariff.

 

Yr wyf am dynnu sylw at yr effaith y mae’r toriadau hyn yn ei gael, nid yn unig yn fy etholaeth yn Nhor-faen, ond ymhell y tu hwnt, mewn cartrefi a chymunedau ym mhob cwr o Gymru. Yn sgil trawiad ysgrifbin yn Whitehall, mae cynlluniau di-ri i osod paneli ffotofoltäig solar wedi cael eu peryglu, gan niweidio ymdrechion i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ar yr union adeg pan fo biliau tanwydd yn codi gan golbio cyllidebau cartrefi a phan fo angen yr holl help y gall teuluoedd ar incwm isel ei gael arnynt. Bydd hefyd yn gwneud difrod diwrthdro, a all fod yn angheuol, i ddiwydiant sy’n tyfu ac sydd wedi bod yn un o’r ychydig lwyddiannau diweddar mewn economi sy’n gwastatáu o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau George Osborne a’i gydweithwyr yn y Llywodraeth. Yn fwy na hynny, mae’n gwneud y broses ymgynghori a oedd eisoes ar droed i ostwng tariffau cyflenwi trydan dros yr hirdymor yn destun gwawd—ymgynghoriad nad oedd i fod i orffen tan ddiwedd Rhagfyr, bythefnos ar ôl y terfyn amser ar 12 Rhagfyr sydd bellach wedi cael ei osod ar gyfer y gostyngiad mewn tariff.

 

Continuing with that consultation process would have afforded individual households, housing associations and local authorities the time that they needed to ensure that schemes were completed. It would have given the solar industry some breathing space to allow it to prepare for a reduction in the tariff and helped to ensure the sustainability of the solar industry in Britain for the longer term. Whatever happened to ‘vote blue, go green’ or being ‘the greenest Government ever’? The reality today is just so far from that kind of rhetoric. I have heard this move aptly described as a kick in the teeth for those householders trying to do the right thing by going green to protect themselves from the massive rise in energy bills seen in recent years. However, it is also a crippling blow for housing associations and other social landlords in Wales; their ambitious plans have suddenly been put in jeopardy.

 

Byddai parhau â’r broses ymgynghori honno wedi rhoi’r amser yr oedd ar breswylwyr tai unigol, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol ei angen i sicrhau bod cynlluniau yn cael eu cwblhau. Byddai wedi rhoi rhywfaint o seibiant i’r diwydiant solar i’w alluogi i baratoi ar gyfer gostyngiad yn y tariff a helpu sicrhau cynaliadwyedd y diwydiant solar ym Mhrydain am y tymor hwy. Beth yn y byd a ddigwyddodd i ‘pleidleisiwch yn las a mynd yn wyrdd’ neu’r ‘Llywodraeth fwyaf gwyrdd erioed’? Mae realiti heddiw mor bell oddi wrth y fath rethreg. Yr wyf wedi clywed y cam hwn yn cael ei ddisgrifio’n addas ddigon fel tro brwnt yn erbyn y deiliaid tai hynny sy’n ceisio gwneud y peth iawn drwy gymryd camau gwyrdd i amddiffyn eu hunain rhag y cynnydd enfawr mewn biliau ynni a welwyd yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae hefyd yn ergyd andwyol i gymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru; mae eu cynlluniau uchelgeisiol yn sydyn wedi cael eu peryglu.

 

In Torfaen, Bron Afon Community Housing was in the process of rolling out a £26 million scheme to install solar PV panels at the homes of more than 3,600 of my constituents, many of whom, on low incomes and living in fuel poverty, could have saved an average of £150 a year on their fuel bills. That is a huge amount of extra money for a family struggling to get by in these hard times. Bron Afon has had to hurriedly scale back its plans and will now be installing just 1,600 panels, and only then after round-the-clock negotiations with contractors and a tremendous effort on the part of everyone involved in delivering the programme. It is not an isolated example, however, as this Tory-led Government has created a completely chaotic situation in which social landlords across Wales face exactly the same dilemma, and they are desperately pulling out all the stops to get as many panels as possible installed before the 12 December deadline.

 

Yn Nhor-faen, roedd Tai Cymunedol Bron Afon yn bwrw rhagddi yn cyflwyno cynllun £26 miliwn i osod paneli ffotofoltäig solar yng nghartrefi mwy na 3,600 o’m hetholwyr, gyda llawer ohonynt ar incwm isel ac yn byw mewn tlodi tanwydd a fyddai wedi gallu arbed cyfartaledd o £150 y flwyddyn ar eu biliau tanwydd. Mae hwnnw’n swm enfawr o arian ychwanegol ar gyfer teulu sy’n ei chael hi’n anodd dod i ben yn yr amseroedd caled hyn. Mae Bron Afon wedi gorfod lleihau ei gynlluniau yn frysiog a bydd yn awr ond yn gosod 1,600 o baneli, a hynny ond ar ôl trafodaethau di-baid gyda chontractwyr ac ymdrech aruthrol gan bawb sy’n ymwneud â chyflwyno’r rhaglen. Nid yw’n enghraifft brin, fodd bynnag, gan fod y Llywodraeth hon, dan arweiniad y Torïaid, wedi creu sefyllfa hollol anhrefnus lle mae landlordiaid cymdeithasol ar draws Cymru yn wynebu yn union yr un cyfyng gyngor, ac maent yn gwneud eu gorau glas i osod cymaint o baneli ag y bo modd cyn y dyddiad cau ar 12 Rhagfyr.

 

Community Housing Cymru has been collating data from its members across Wales over the last few days, and the picture is very bleak: Newydd Housing Association has been forced to try to salvage an £18 million project to install 2,300 panels in a scheme that would have provided 34 jobs for local people; Wales and West has had to scrap plans for its rent a roof scheme, meaning that 1,250 households set to benefit will all lose out; and United Welsh, which had already installed 550 of the 1,100 panels it had planned, now estimates that it will be able to install only another 200 or so before the deadline. These are just a few of the many social landlords, housing associations and local authorities similarly affected because of this completely wrong-headed and ill-timed move.

 

Mae Tai Cymunedol Cymru wedi bod yn casglu data gan ei aelodau ar draws Cymru dros y dyddiau diwethaf, ac mae’r darlun yn llwm iawn. Mae Cymdeithas Tai Newydd wedi cael ei orfodi i geisio achub prosiect £18 miliwn i osod 2,300 o baneli mewn cynllun a fyddai wedi darparu 34 o swyddi i bobl leol; mae Wales and West wedi gorfod rhoi’r gorau i’w gynllun rhentu to arfaethedig, sy’n golygu bod 1,250 o’r cartrefi a oedd yn mynd i elwa i gyd ar eu colled; ac mae United Welsh, sydd eisoes wedi gosod 550 o’r 1,100 paneli a oedd wedi eu cynllunio, yn awr yn amcangyfrif y bydd yn gallu gosod dim ond rhyw 200 arall cyn y dyddiad cau. Dim ond rhai yw’r rhain o blith y llu o landlordiaid cymdeithasol, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt yn yr un modd oherwydd y cam hollol gyfeiliornus hwn a amserwyd mor wael.

 

It almost goes without saying that this is having a devastating impact on the fledgling UK solar industry. The Solar Trade Association has estimated that as many as 11,000 jobs could be lost across the country—that is 42 per cent of the entire solar workforce put out of work because of this Tory-led Government’s policy, at a time when we are constantly being told that the private sector will fill the gap left by public sector job losses. Indeed, given that the UK Government’s own figures suggest that 39,000 people rely on solar PV for their employment, when supply chains are factored in, the true scale of the job losses could be far higher. As the CBI’s John Cridland put it:

 

Afraid dweud, bron, fod hyn yn cael effaith ddinistriol ar y diwydiant solar eginol yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Solar Trade Association wedi amcangyfrif y gallai cymaint ag 11,000 o swyddi gael eu colli ar draws y wlad—mae hynny’n 42 y cant o’r gweithlu solar cyfan allan o waith oherwydd polisi’r Llywodraeth hon, dan arweiniad y Torïaid, ar adeg pan ddywedir yn gyson wrthym y bydd y sector preifat yn llenwi’r bwlch a adawyd gan golli swyddi yn y sector cyhoeddus. Yn wir, o ystyried bod ffigurau Llywodraeth y DU ei hun yn awgrymu bod 39,000 o bobl yn dibynnu ar solar ffotofoltäig ar gyfer eu cyflogaeth, pan gaiff cadwyni cyflenwi eu hystyried, gallai gwir faint y colledion swyddi fod yn llawer uwch. Fel y dywedodd John Cridland o’r CBI:

 

‘Moving the goal posts doesn’t just destroy projects and jobs, it creates a mood of uncertainty that puts off investors’.

 

Nid yn unig y bydd newid y meini prawf yn dinistrio prosiectau a swyddi; mae’n creu naws ansicr sy’n peri i fuddsoddwyr deimlo’n annifyr.

 

He also said that some companies have invested heavily in solar PV systems and the supply chains needed to install them. That commitment has been undermined by the feed-in tariff decision, so industry trust and confidence in the Government has evaporated.

 

Dywedodd hefyd fod rhai cwmnïau wedi buddsoddi llawer mewn systemau solar ffotofoltäig a’r cadwyni cyflenwi y mae eu hangen i’w gosod. Mae’r ymrwymiad hwnnw wedi cael ei danseilio gan y penderfyniad am y tariff cyflenwi trydan, felly mae ymddiriedaeth a hyder y diwydiant yn y Llywodraeth wedi diflannu.

 

What is particularly sad, with youth unemployment at record levels and prospects for the future so bleak, is the fact that so many young apprentices are being laid off across Wales as a result of this move.

 

Yr hyn sy’n arbennig o drist, gyda diweithdra ymhlith pobl ifanc yn uwch nag erioed a rhagolygon ar gyfer y dyfodol mor llwm, yw’r ffaith bod cynifer o brentisiaid ifanc yn cael eu hanfon adref ar draws Cymru o ganlyniad i’r cam hwn.

 

We have all heard the terrible news today about Sharp UK in north Wales, but my team has spoken to a number of important players in the Welsh solar industry in preparation for this debate, and I hear the same story again and again. Take Gibsons Specialist Technical Services, Wales’s largest supplier of solar PV panels, based in the First Minister’s Bridgend constituency, and one of the contractors that has been working hard with Bron Afon Community Housing to try to salvage its scheme. It told me that it will now have to lay off eight apprentices that it was hoping to train as fully fledged solar installers in the next few months; quite frankly, it is nothing short of a tragedy. As it said to me, it is a responsible local business that feels that the Government has destroyed its business plan, made its investment in new jobs and retraining meaningless and removed the future job security of the majority of its workforce—and all this just before Christmas. Indeed, it is the worst possible Christmas present for those apprentices who have had their hopes for a better future dashed in this way.

 

Yr ydym i gyd wedi clywed y newyddion ofnadwy heddiw am Sharp UK yn y gogledd, ond mae fy nhîm wedi siarad â nifer o bobl bwysig yn y diwydiant solar Cymreig wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, ac yr wyf yn clywed yr un stori dro ar ôl tro. Cymerwch Gibsons Specialist Technical Services, cyflenwr mwyaf Cymru o baneli solar ffotofoltäig, sydd wedi’i leoli yn etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr y Prif Weinidog, ac yn un o’r contractwyr sydd wedi bod yn gweithio’n galed gyda Tai Cymunedol Bron Afon i geisio achub ei gynllun. Dywed wrthyf y bydd yn rhaid iddo yn awr anfon adref wyth o brentisiaid yr oedd wedi gobeithio eu hyfforddi fel gosodwyr solar cyflawn yn ystod y misoedd nesaf; a dweud y gwir, nid yw’n ddim llai na thrasiedi. Fel y dywedodd wrthyf, mae’n fusnes lleol cyfrifol sy’n teimlo bod y Llywodraeth wedi dinistrio ei gynllun busnes, wedi troi ei fuddsoddiad mewn swyddi newydd ac ailhyfforddi yn ddiystyr a dileu diogelwch swyddi y mwyafrif o’i weithlu yn y dyfodol—a hyn i gyd ar drothwy’r Nadolig. Yn wir, dyma’r anrheg Nadolig gwaethaf posibl i brentisiaid: dryllio eu gobeithion ar gyfer dyfodol gwell.

 

Similarly, Andrew Padmore, chief executive of Egnida Green Energy, based in my patch, told me that its plans to create 50 new local jobs, including apprenticeships for young people, have also had to be scrapped.

 

Yn yr un modd, dywedodd Andrew Padmore, prif weithredwr Ynni Gwyrdd Egnida, sydd wedi ei leoli yn fy ardal i, wrthyf fod ei gynlluniau i greu 50 o swyddi newydd yn lleol, gan gynnwys prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc, hefyd wedi gorfod cael eu dileu.

 

On that note, I draw Members’ attention to the presence of an important visitor watching us from the public gallery. She is called Gemma Gytch. It is the first time that Gemma has visited the Assembly, but she was determined to be here tonight because she is so angry about the way that she is being affected by the decisions of this awful Government in Westminster. She is a hardworking single mum who wants to do the best for her family, but time and again she is being attacked by this Tory Government’s policies. In April this year, she was forced to leave her job because of cuts to tax credits, but after six months of unemployment she was feeling positive about the future, and had recently been employed by Bron Afon Community Housing to liaise with tenants who were having solar panels installed. Gemma is a Bron Afon Community Housing tenant herself, and was in line to have a solar panel installed on the property in which she lives in Cwmbran. Not only will she not now benefit from lower fuel bills for her and her family, but she is also looking down the barrel at unemployment; she is effectively being hammered twice by the cut in the feed-in tariffs. I know that the Welsh Government is currently finalising its response to the consultation that never was on feed-in tariffs, and I hope that it bears the plight of people like Gemma in mind.

 

Ar y nodyn hwnnw, tynnaf sylw’r Aelodau at bresenoldeb ymwelydd pwysig sy’n ein gwylio o’r oriel gyhoeddus. Ei henw yw Gemma Gytch. Dyma’r tro cyntaf i Gemma ymweld â’r Cynulliad, ond yr oedd hi’n benderfynol o fod yma heno oherwydd ei bod mor ddig am y ffordd y mae penderfyniadau’r Llywodraeth ofnadwy hon yn San Steffan wedi effeithio arni. Mae hi’n fam sengl sy’n gweithio’n galed ac am wneud y gorau dros ei theulu, ond dro ar ôl tro mae polisïau’r Llywodraeth Dorïaidd hon yn ymosod arni. Ym mis Ebrill eleni, cafodd ei gorfodi i adael ei swydd oherwydd toriadau i gredydau treth, ond ar ôl chwe mis o ddiweithdra yr oedd hi’n teimlo’n gadarnhaol am y dyfodol, ac wedi cael ei chyflogi yn ddiweddar gan Dai Cymunedol Bron Afon i gysylltu â thenantiaid a oedd yn cael paneli solar wedi eu gosod. Mae Gemma yn denant Tai Cymunedol Bron Afon ei hun, ac yr oedd ar fin cael panel solar wedi ei osod ar yr eiddo y mae’n byw ynddo yng Nghwmbrân. Nid yn unig y bydd hi’n awr yn methu elwa ar filiau tanwydd is iddi hi a’i theulu, ond y mae hi hefyd yn wynebu diweithdra; i bob pwrpas, mae hi’n cael ei cholbio ddwywaith gan y toriad yn y tariffau cyflenwi trydan. Gwn fod Llywodraeth Cymru wrthi’n cwblhau ei hymateb i’r ymgynghoriad bondigrybwyll ar dariffau cyflenwi trydan, a gobeithiaf y bydd yn ystyried helyntion pobl fel Gemma.

 

I believe that we should call on the UK Government to reverse its decision in the strongest possible terms, to think again and to give industry, social landlords and householders up and down the country time to adapt to a properly managed reduction to the feed-in tariff.

 

Credaf y dylem alw ar Lywodraeth y DU yn y modd cryfaf bosibl i newid ei phenderfyniad, i feddwl eto a rhoi amser i’r diwydiant, landlordiaid cymdeithasol a deiliaid tai ledled y wlad i addasu i ostyngiad wedi ei reoli’n briodol i’r tariff cyflenwi trydan.

 

Joyce Watson: I thank Lynne for tabling this debate, and I support fully what she said. It is a totally unthinking decision. The way in which the UK Government has pulled the rug from under local authorities and businesses is staggering. It has destabilised a growth industry that will have a cost to Wales in terms of future investment and jobs.

 

Joyce Watson: Yr wyf yn diolch i Lynne am gyflwyno’r ddadl hon, ac yr wyf yn llwyr gefnogi’r hyn a ddywedodd. Mae’n benderfyniad hollol ddifeddwl. Mae’r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi torri’r tir o dan draed awdurdodau lleol a busnesau yn syfrdanol. Mae wedi ansefydlogi diwydiant sy’n tyfu a bydd yn costio i Gymru o ran buddsoddiad a swyddi yn y dyfodol.

 

Last week, the Enterprise and Business Committee held discussions with Narberth Chamber of Trade and Pembrokeshire County Council. One of the businesses that we spoke to was a renewable energy installation company. I have also had recent talks with Dulas, based in Machynlleth. Among many other products, it designs PV-powered fridges that enable transportation of vaccines in developing countries. I am angry that good jobs in good companies such as those have been put at risk by what can only be described as a reckless decision. Minister, will you update the Chamber on whether any Welsh companies or organisations are involved in the legal action that has been initiated against the UK Government?

 

Wythnos diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes drafodaethau gyda Siambr Fasnach Arberth a Chyngor Sir Penfro. Yr oedd un o’r busnesau y buom yn siarad â nhw yn gwmni gosod ynni adnewyddadwy. Yr wyf hefyd wedi cael trafodaethau diweddar gyda Dulas, ym Machynlleth. Ymhlith llawer o gynnyrch eraill, mae’n dylunio oergelloedd wedi eu pweru yn ffotofoltäig sy’n galluogi cludo brechlynnau mewn gwledydd sy’n datblygu. Yr wyf yn ddig bod swyddi da mewn cwmnïau da fel y rheiny wedi cael eu peryglu gan yr hyn y gellir ond ei ddisgrifio fel penderfyniad di-hid. Weinidog, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr ynghylch a oes unrhyw gwmnïau neu sefydliadau o Gymru yn cymryd rhan yn y camau cyfreithiol sydd wedi eu cychwyn yn erbyn Llywodraeth y DU?

 

Keith Davies: Yr wyf yn diolch i Lynne Neagle am roi amser i mi gyfrannu at ddadl ar bwnc mor amserol a phwysig. Cytunaf yn llwyr â’r pwyntiau y soniodd amdanynt, sef bod y broses ymgynghori wedi cael ei hanwybyddu’n llwyr, a’r effaith a gafwyd ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a thlodi tanwydd. Hoffwn sôn am yr effaith ar swyddi yn y diwydiant, yn genedlaethol ac yn y gorllewin. Cyflogwyd 25,000 o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ynni solar yn y Deyrnas Unedig. Cynyddodd nifer y busnesau yn y maes o 450 yn 2010 i dros 3,000 erbyn heddiw. Mae cwmni yn fy etholaeth, Filsol Solar, sydd wedi’i leoli ym Mhont-henri, wedi dweud wrthyf ei fod wedi ehangu ar sail y ddeddfwriaeth a ddywedodd na fyddai newidiadau tan Ebrill 2012. Ychwanegodd y perchennog fod y Llywodraeth wedi dweud bod y cynllun yn rhy ddrud. Dim ond arbed ychydig bunnoedd y flwyddyn ar filiau trydan y bydd y newid hwn, ond bydd busnesau yn mynd i’r wal a bydd miloedd allan o waith, gan arwain at gost uwch i’r trethdalwyr.

 

Keith Davies: I thank Lynne Neagle for giving me time to contribute to this debate on such a timely and important subject. I agree entirely with the points that she mentioned, namely that the consultation process has been completely ignored, and the effect on tackling climate change and fuel poverty. I would like to talk about the impact on jobs in the industry, nationally and in west Wales. Some 25,000 professional staff were employed in the solar energy industry in the United Kingdom. The number of businesses in this area rose from 450 in 2010 to over 3,000 today. A company in my constituency, Filsol Solar, which is based in Pont-henri, has told me that it expanded on the basis that the legislation stated that changes would not be introduced until April 2012. The proprietor added that the Government has said that the scheme is too costly. This change will save only a few pounds a year on electricity bills, yet businesses will go to the wall and thousands will be out of work, which will lead to a greater cost to the taxpayer.

 

Fel y dywedodd Joyce Watson, yr oeddwn yn Arberth yr wythnos diwethaf lle cwrddais â pherchennog cwmni arall. Cyn y datganiad, yr oedd ganddo 140 contract, ond yn dilyn y datganiad dim ond 60 fydd yn cael eu cyflawni mewn pryd cyn mis Rhagfyr, sy’n gadael 80 heb eu gweithredu. Pryder y perchennog oedd y byddai arbenigedd ymysg staff yn cael ei wastraffu ac ofnai y byddai’n creu diweithdra, yn enwedig ymysg y gweithlu ifanc a gyflogwyd yn ddiweddar. Mae hyn yn ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Lynne Neagle am Gibson yn gorfod gadael wyth crwtyn ifanc i fynd.

 

As Joyce Watson said, I was in Narberth last week, where I met the proprietor of another company. He had 140 contracts before the announcement, but only 60 will be fulfilled in time before December, which leaves 80 that will not have been carried out. The proprietor’s concern was that staff expertise would be wasted and he feared that unemployment would be created, especially among the recently employed younger workforce. This adds to what Lynne Neagle said about Gibson having to let eight youngsters go.

 

Ar y newyddion heddiw, dangoswyd bod diweithdra ymysg pobl ifanc 16 i 24 wedi cyrraedd y mwyaf erioed—dros 1 miliwn o bobl ifanc. Mae diweithdra ymysg oedolion wedi cynyddu 109,000 o fewn yr un amser. Gan ystyried y cefndir cyfredol, ni allwn fforddio, yn awr yn fwy nag erioed, colli rhagor o swyddi mewn diwydiant a oedd, cyn hyn, yn tyfu ac yn llewyrchus.

 

On the news today, we see that unemployment among 16 to 24-year-olds has reached its highest level ever—over 1 million young people. Adult unemployment has increased by 109,000 in the same period. Considering the current background, we cannot afford, now more than ever, to lose more jobs in an industry that was, until now, one of growth and success.

 

Mike Hedges: We talk about energy a lot. Every method of energy production that gets mentioned—wind, nuclear, coal, oil and gas—has a number of people who oppose it. We have found a method of energy production that is green and everybody likes. That is a tremendous achievement. Like everybody else in the Chamber, I received several hundred e-mails from people living in Montgomeryshire who did not like the idea of wind turbines covering the area. I have had e-mails from a whole range of other people relating to other forms of energy production, but not one person has ever told me that they do not like the idea of using solar panels. In fact, everyone that I hear from seems to speak with great enthusiasm about them. If the Government has to make a change, and if it has spent all the money that it had, perhaps it should look at the other things that it is subsidising. Wind power has been around for a very long time, it is an industry that should now be considered to be mature. If the Government has to take money from something, I would prefer to see it taken from wind power than from solar power—something that everybody likes.

 

Mike Hedges: Yr ydym yn sôn am ynni yn aml. Mae gan bob dull o gynhyrchu ynni sy’n cael ei grybwyll—gwynt, niwclear, glo, olew a nwy—nifer o bobl sy’n ei wrthwynebu. Yr ydym wedi dod o hyd i ddull o gynhyrchu ynni sydd yn wyrdd ac y mae pawb yn ei hoffi. Mae honno’n gamp aruthrol. Fel pawb arall yn y Siambr, cefais nifer o gannoedd o negeseuon e-bost oddi wrth bobl sy’n byw yn sir Drefaldwyn nad oeddent yn hoffi’r syniad o dyrbinau gwynt ar draws yr ardal. Yr wyf wedi cael negeseuon e-bost oddi wrth ystod eang o bobl eraill yn ymwneud â mathau eraill o gynhyrchu ynni, ond nid oes yr un person erioed wedi dweud wrthyf nad ydynt yn hoffi’r syniad o ddefnyddio paneli solar. Yn wir, mae’n ymddangos bod pawb yr wyf yn clywed wrthynt yn siarad gyda brwdfrydedd mawr amdanynt. Os yw’r Llywodraeth yn gorfod gwneud newid, ac os yw wedi gwario’r holl arian a oedd ganddi, efallai y dylai edrych ar y pethau eraill y mae’n rhoi cymhorthdal iddynt. Mae ynni gwynt wedi bod o gwmpas ers amser hir iawn, mae’n ddiwydiant y dylid ei ystyried yn awr fel un aeddfed. Os yw’r Llywodraeth yn gorfod cymryd arian oddi wrth rywbeth, byddai’n well gennyf ei weld yn ei gymryd o ynni gwynt nag o ynni solar—rhywbeth y mae pawb yn ei hoffi.

 

William Powell: I thank Lynne Neagle for bringing forward this important debate today. It is difficult to find anything original to say about the matter. It was an error, in my judgment, and should not have been handled in this way. In a letter to the Secretary of State for climate change on this issue, I said that I recognised that the feed-in tariff scheme had been a victim of its own success, with nearly three times as many applications received as anticipated. That made the initial rate unsustainable in the medium to long-term. However, by making a premature announcement while the consultation on reform is still under way, the UK Government is risking our long-term renewable energy requirements for short-term savings. I regret the influence of the tabloid newspapers on this issue, as it has been distorted in one or two of the most popular newspapers. That may have had some bearing on the way in which this has been brought forward prematurely. In recent discussions with Nick Bennett and Ceri Williams, I confirmed all the issues regarding the housing sector and the threats that apply there.

 

William Powell: Diolch i Lynne Neagle am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Mae’n anodd dod o hyd i unrhyw beth gwreiddiol i’w ddweud am y mater. Yr oedd yn gamgymeriad, yn fy marn i, ac ni ddylai fod wedi cael ei drin yn y modd hwn. Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros newid yn yr hinsawdd ar y mater hwn, dywedais fy mod yn cydnabod bod y cynllun tariff cyflenwi trydan wedi dioddef oherwydd ei lwyddiant ei hun, gyda bron i dair gwaith cymaint o geisiadau a dderbyniwyd nag y rhagwelwyd. Gwnaeth hynny’r gyfradd gychwynnol yn anghynaladwy yn y tymor canolig i’r hirdymor. Fodd bynnag, drwy wneud cyhoeddiad cyn pryd tra bod yr ymgynghoriad ar ddiwygio yn dal i fod ar y gweill, mae Llywodraeth y DU yn peryglu ein gofynion ynni adnewyddadwy yn yr hirdymor ar gyfer arbedion tymor byr. Gresynaf ddylanwad y papurau newydd tabloid ar y mater hwn, gan ei fod wedi cael ei ystumio mewn un neu ddau o’r papurau newydd mwyaf poblogaidd. Gallai hynny fod wedi cael rhywfaint o effaith ar y ffordd y cafodd hyn ei ddwyn ymlaen cyn pryd. Mewn trafodaethau diweddar gyda Nick Bennett a Ceri Williams, cadarnheais yr holl faterion ynglŷn â’r sector tai a’r bygythiadau sy’n berthnasol yno.

 

5.15 p.m.

 

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): I congratulate Lynne Neagle for bringing forward this timely and important debate. Some of the issues were mentioned and rehearsed in the earlier debate on climate change, which, again, shows the importance that Members rightly attach to the moving of the goalposts for the UK Government’s feed-in tariff scheme. Therefore, I welcome this debate. I welcome the contributions of all Members. It is quite clear that there is strong cross-party agreement on the need for the UK Government to think again and to revisit its decision to summarily change the system before the consultation period has even expired.

 

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Llongyfarchaf Lynne Neagle am gyflwyno’r ddadl amserol a phwysig hon. Cafodd rhai o’r materion eu crybwyll a’u hailadrodd yn y ddadl gynharach ar newid yn yr hinsawdd, sydd, unwaith eto, yn dangos y pwysigrwydd y mae Aelodau’n ei roi i newid y meini prawf ar gyfer cynllun tariff cyflenwi trydan Llywodraeth y DU, sy’n iawn. Felly, croesawaf y ddadl hon. Croesawaf gyfraniadau pob Aelod. Mae’n eithaf clir bod cytundeb trawsbleidiol cryf ar yr angen i Lywodraeth y DU feddwl eto ac i ailystyried ei phenderfyniad i newid y system yn ddiannod cyn bod y cyfnod ymgynghori hyd yn oed wedi dod i ben.

 

I know that our First Minister has written to the UK Government highlighting the Welsh Government’s concerns about aspects of the consultation and I know that we will make a full response as a Welsh Government to the consultation in due course. In doing so, we will very much want to draw on evidence from organisations right across Wales. Therefore, it has been interesting to hear Members cite the companies, developments and community organisations that are so badly affected by what is proposed. I would very much like Members to feed in details to us of all those impacts, so that we can include them in our consultation response.

 

Gwn fod ein Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i amlygu pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch agweddau ar yr ymgynghoriad, a gwn y byddwn yn gwneud ymateb llawn fel Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad maes o law. Wrth wneud hynny, byddwn eisiau defnyddio tystiolaeth o sefydliadau ledled Cymru’n fawr iawn. Felly, mae wedi bod yn ddiddorol clywed Aelodau’n enwi’r cwmnïau, datblygiadau a sefydliadau cymunedol yr effeithir arnynt mor wael gan yr hyn a gynigir. Hoffwn yn fawr iawn i Aelodau fwydo manylion inni o’r holl effeithiau hynny, fel y gellir eu cynnwys yn ein hymateb i’r ymgynghoriad.

 

Vaughan Gething: On that point, about the consultation response, it is important to think about how poorer communities have been affected and the significant unfairness of the move. Those who have already taken advantage of the largest and best rates for the feed-in tariffs are people such as us, who are wealthier and have money or the ability to borrow it, whereas people who live in community groups or in social housing are more likely to have had to undergo a significant tendering exercise before their schemes could be delivered. Those larger schemes are more likely to be the ones that cannot now go ahead because of the changes. I hope that that point will be made in the consultation response of the Government.

 

Vaughan Gething: Ar y pwynt hwnnw, am yr ymateb i’r ymgynghoriad, mae’n bwysig meddwl am sut yr effeithir ar gymunedau tlotach ac annhegwch sylweddol y symud. Pobl fel ni yw’r bobl sydd eisoes wedi manteisio ar y cyfraddau gorau a mwyaf ar gyfer y tariff cyflenwi trydan, sy’n gyfoethocach ac â mwy o arian neu’r gallu i fenthyca, tra bod pobl sydd yn byw mewn grwpiau cymunedol neu mewn tai cymdeithasol yn fwy tebygol o orfod dioddef ymarfer tendro sylweddol cyn y gellid darparu eu cynlluniau. Mae’n debygol mai’r cynlluniau mwy hynny yw’r rhai na all gario ymlaen bellach oherwydd y newidiadau. Gobeithiaf y gwneir y pwynt hwnnw yn ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad.

 

John Griffiths: Absolutely. I accept those points. The proposed change is regressive. We have not seen community organisations—

 

John Griffiths: Yn hollol. Derbyniaf y pwyntiau hynny. Mae’r newid arfaethedig yn atchweliadol. Nid ydym wedi gweld sefydliadau cymunedol—

 

Antoinette Sandbach: Will you take a further intervention on that point?

 

Antoinette Sandbach: A wnewch dderbyn ymyriad pellach ar y pwynt hwnnw?

 

The Deputy Presiding Officer: Order. The Minister is just replying to this intervention. You are at liberty to seek to intervene later.

 

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Mae’r Gweinidog dim ond yn ymateb i’r ymyriad hwn. Yr ydych yn rhydd i geisio ymyrryd yn ddiweddarach.

 

John Griffiths: I accept your guidance, Dirprwy Lywydd. We have not seen much community development to date for the very reasons that Vaughan Gething gave, namely that there are longer lead-up times for schemes by registered social landlords, for example. Engaging with tenants and working up projects necessarily takes some time, and that should be recognised. Everybody who pays an electricity bill is contributing to the cost of the scheme, but tenants of registered social landlords are not benefiting and they will not benefit as they should if this change is made. I will give way to Antoinette Sandbach.

 

John Griffiths: Derbyniaf eich arweiniad, Ddirprwy Lywydd. Nid ydym wedi gweld llawer o ddatblygiadau cymunedol hyd yma am yr union resymau a roddodd Vaughan Gething, sef y ceir amseroedd arweiniol hwy ar gyfer cynlluniau gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, er enghraifft. Mae ymgysylltu â thenantiaid a gweithio ar brosiectau o reidrwydd yn cymryd peth amser, a dylid cydnabod hynny. Mae pawb sy’n talu bil trydan yn cyfrannu at gost y cynllun, ond nid yw tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn elwa ac ni fyddant yn elwa fel y dylent os gwneir y newid hwn. Fe wnaf ildio i Antoinette Sandbach.

 

Antoinette Sandbach: I am grateful to the Minister for taking my intervention. The feed-in tariff is not being abolished; it is being reduced, and for two reasons. The first reason is because it was not designed for large, £26 million schemes. If there have been delays in Wales, they have been because it was not permitted development, certainly not for social landlords, and required planning permission. However, the feed-in tariff was not designed for huge, £26 million schemes or for fields full of PV solar panels; it was designed to help small-scale schemes. There will still be a feed-in tariff. The debate is being presented as if there will not be a feed-in tariff. The proposed new tariff reflects the fact that installation costs have fallen since the scheme was first set up. I am grateful to the Minister for taking my intervention.

 

Antoinette Sandbach: Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am gymryd fy ymyriad. Nid yw’r tariff cyflenwi trydan yn cael ei ddileu; mae’n cael ei ostwng, ac am ddau reswm. Y rheswm cyntaf yw am nad oedd wedi’i greu ar gyfer cynlluniau mawr, £26 miliwn. Os bu oedi yng Nghymru, mae hynny oherwydd ni chaniateir datblygiad, yn sicr nid ar gyfer landlordiaid cymdeithasol, ac roedd angen caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, ni chrëwyd y tariff cyflenwi trydan ar gyfer cynlluniau mawr, £26 miliwn, neu gaeau llawn paneli solar PV; fe’i crëwyd i helpu cynlluniau ar raddfa fach. Bydd y tariff cyflenwi trydan yn dal i fodoli. Cyflwynir y ddadl fel pe na bai tariff cyflenwi trydan. Mae’r tariff newydd arfaethedig yn adlewyrchu’r ffaith bod costau gosod wedi gostwng ers i’r cynllun gael ei sefydlu. Yr wyf yn ddiolchgar i’r Gweinidog am gymryd fy ymyriad.

 

John Griffiths: The point is that community organisations and registered social landlords are in a different position from developers of fields full of solar panels. There may still be a feed-in tariff scheme, but it will be of considerably lesser value as a result of the proposed changes. Housing associations in Wales have taken forward a lot of work and made considerable investment on the basis of the scheme as it currently exists. To summarily change the scheme before the consultation period has even expired is hugely unfair to those organisations and their tenants.

 

John Griffiths: Y pwynt yw bod sefydliadau cymunedol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn sefyllfa wahanol i ddatblygwyr caeau llawn paneli solar. Efallai y bydd cynllun tariff cyflenwi trydan yn dal i fodoli, ond byddai’n sylweddol llai o werth o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig. Mae cymdeithasau tai yng Nghymru wedi cymryd ymlaen llawer o waith ac wedi gwneud buddsoddiad sylweddol ar sail y cynllun fel y mae’n bodoli ar hyn o bryd. Mae newid y cynllun yn ddiannod cyn i’r cyfnod ymgynghori hyd yn oed ddod i ben yn hynod annheg i’r sefydliadau hynny a’u tenantiaid.

 

To continue, I state that the clear position of the Welsh Government is to take account of the views expressed by Members in this short debate, and of the clear consensus that exists across the Chamber, notwithstanding one or two of the views that we have heard. We will act on that concern by inviting a lot more information from affected organisations across Wales, including on the job and training impacts, and on impacts on the supply chain and SMEs, which we have also heard mentioned. We will put forward the strongest possible case for those concerns to be not just acknowledged, but to be acted upon. I look forward to a continuing engagement with Members before the Welsh Government makes its response to the consultation, so that we can understand the developing impacts here in Wales, and protect the lower-income families who would very much benefit from the scheme as it stands, but who would be grossly and unfairly disadvantaged if the proposed change takes place, as it is set to under the UK Government’s current proposals.

 

I barhau, yr wyf yn datgan mai safbwynt clir Llywodraeth Cymru yw ystyried safbwyntiau a fynegwyd gan Aelodau yn y ddadl fer hon, a’r consensws clir sy’n bodoli ar draws y Siambr, er gwaethaf un neu ddau o’r sylwadau yr ydym wedi’u clywed. Byddwn yn gweithredu ar y pryder hwnnw drwy wahodd llawer mwy o wybodaeth gan y sefydliadau yr effeithir arnynt ledled Cymru, gan gynnwys yr effeithiau ar y swydd a hyfforddiant, ac ar effeithiau ar y gadwyn gyflenwi a busnesau bach a chanolig, yr ydym hefyd wedi clywed yn cael eu crybwyll. Byddwn yn cyflwyno’r achos cryfaf posibl i’r pryderon hynny nid yn unig gael eu cydnabod, ond i gael eu gweithredu arnynt. Edrychaf ymlaen at ymgysylltu parhaus ag Aelodau cyn i Lywodraeth Cymru ymateb i’r ymgynghoriad, fel y gallwn ddeall yr effeithiau sy’n datblygu yma yng Nghymru, ac amddiffyn teuluoedd incwm is a fyddai’n elwa llawer o’r cynllun fel y mae’n sefyll, ond a fyddai dan anfantais afresymol ac annheg os bydd y newid arfaethedig yn digwydd, fel y mae disgwyl iddo wneud o dan gynigion presennol Llywodraeth y DU.

 

Y Dirprwy Lywydd: Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw.

 

The Deputy Presiding Officer: That concludes our proceedings for today.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.21 p.m.
The meeting ended at 5.21 p.m.

 

Aelodau a’u Pleidiau
Members and their Parties

 

Andrews, Leighton (Llafur – Labour)
Antoniw, Mick (Llafur – Labour)
Asghar, Mohammad (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Butler, Rosemary (Llafur – Labour)
Chapman, Christine (Llafur – Labour)
Cuthbert, Jeff (Llafur – Labour)
Davies, Alun (Llafur – Labour)
Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Byron (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Jocelyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Davies, Keith (Llafur – Labour)
Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Suzy (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Drakeford, Mark (Llafur – Labour)
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Evans, Rebecca (Llafur – Labour)
Finch-Saunders, Janet (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
George, Russell (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gething, Vaughan (Llafur – Labour)
Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gregory, Janice (Llafur – Labour)
Griffiths, John (Llafur – Labour)
Griffiths, Lesley (Llafur – Labour)
Gruffydd, Llyr Huws (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Hart, Edwina (Llafur – Labour)
Hedges, Mike (Llafur – Labour)
Hutt, Jane (Llafur – Labour)
Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
James, Julie (Llafur – Labour)
Jenkins, Bethan (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ann (Llafur – Labour)
Jones, Carwyn (Llafur – Labour)
Jones, Elin (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Lewis, Huw (Llafur – Labour)
Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Mewies, Sandy (Llafur – Labour)
Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Morgan, Julie (Llafur – Labour)
Neagle, Lynne (Llafur – Labour)
Parrott, Eluned (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)

Powell, William (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Price, Gwyn R. (Llafur – Labour)
Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Rathbone, Jenny (Llafur – Labour)
Rees, David (Llafur – Labour)
Roberts, Aled (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)

Sandbach, Antoinette (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Sargeant, Carl (Llafur – Labour)
Skates, Kenneth (Llafur – Labour)
Thomas, Gwenda (Llafur – Labour)
Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Thomas, Simon (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Watson, Joyce (Llafur – Labour)
Whittle, Lindsay (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Williams, Kirsty
(Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Wood, Leanne (Plaid Cymru – The Party of Wales)